Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

NEWYDDION CYMREIG.

News
Cite
Share

NEWYDDION CYMREIG. AMRIWION o BENMACHNO.-O hyn allan yr wyf wedi penderfynu anfon newyddion dyddorol i Lais y Wlad yn wythnosol, mor bell ac y caniatta allanolion i mi wneud. Am hyny, gwnaed pawb yr hyn sydd yn ei allu i fyw yn sobr a rhinweddol heb ab- senu a'i dafod, ac heb wneuthur drwg i'w gymmydog, onide ni byddaf yn arbed y fflangell, bydded hwy yn y sefyllfa y b'ont. Ond o'r ochr arall, os ymdrechant fywj felly, bydd genyf finau air da iddynt ar ddalenau y Llais. Yr wythnos ddi- Weddaf cwympodd dyn ieuangc trwy ffenestr ei ystafell wely yn y Machno Hotel. Yr oedd ei godwm yn mesur oddeutu wyth lath a haner. Derbyniodd niweidiau tost; ond y mae yn debyg y bydd hyn yn rybudd i bobl gysgu yn nes i'r ddaear yn y dyfodol.—Lleidr Beidd- gar.-Y mae yr wythnosau hyn yn cael eu gwisgo a braw a dychryn yn y gymmyd- ogaeth hon, a hyny am fod rhyw ddyhiryn wedi penderfynu llenwi ei logellau ag arian pobl ereill. Wythnos i nos Sul di- weddaf torodd i mewn i ddau dy, pan oedd pawb wedi myned i addoli, ond ni lwyddodd i gael ond ychydig o bres; ac yn nghorph yr wythnos aeth a thair punt, deuddeg swllt a chwech o dy ceidwad hel- wriaeth Arglwydd Penrhyn. Ond nos Wener diweddaf y mae yn ymddangos ei fod wedi cyflawni mesur ei anwiredd trwy dori i mewn i fasnachdy gweddw Mr Rees Hughes, Cloth Hall, a llatratta y swm o ddeg punt. Aeth i mewn trwy ffenestr fechan yn y cefn, ac ar ol cael mynedfa i mewn, dechreuodd ar ei waith o ddifrif, gan dori pob clo oedd o fewn y shop. Yr oedd Mrs Hughes yn urfer a chloi drws ei hystafell wely. Cynnygiodd agor hwnw, ond methodd a chasglu digon o wroldeb i wneud yr un peth i hwn ag a wnaeth i'r lleill. Cydymdeimlir yn fawr a Mrs Hughes genym oil, a'n dymuniad ydyw ar fod i'r cnaf diegwyddor gael ei ddal, a der- byn ei gyflog am ei waith, rbag iddo yn y dyfodol ymhyfau a gwneud rhywbeth a chanlyniadau mwy dychrynllyd iddo na lladratta,—Bhewl Llan.—Ardalwyr, ac yn enwedig, chwi wyr sydd yn trigo yn nghanol y ddinas, pa hyd y goddefwch y budreddi hwn ? Y mae yn gywilydd ei weled, heblaw ei fod yn afiach. Os na ddefnyddir mesur yn fuan tuag at ei lan- hau, y mae yn ofnus y bydd llyffantod yn heigio ynddo, fel yn. yr Aifft gynt. Ac er mwyn gochel y pethau hyn mynwn fwrdd iechyd.- Ysbryd Goodman. CAERNARFON.—Cystadleuaeth Gorawl Lerpwl. Derbyniodd Mr W. Parry, arweinydd enwog y Caernarfon Philhar- monic Choral Society Certificate of Merit, wedi eMiftddurno yn y modd prydferthaf, gan y prif feirniaid, Macfarren, Hatton, a Bichards, yr wythnos ddiweddaf. Gall nad yw pawb o'ch darllenwyr yn gwybod mai pum wythnos a gafodd y gymdeithas hon i ddysgu ac i ymberffeithio mewn pump o ddarnau classurol ac anhawdd fel y darnau dewisedig yn y gystadleuaeth fawr hono. Pan ystyrir hynyna mewn ysbryd teg, deuir ar unwaith i'r penderfyn- iad eu bod wedi gwneud gorchestwaith, Cafwyd y certificate yn ychwanegol at yr 20p. a'r llyfrau a dderbyniwyd ar ddydd y gystadleuaeth. Bydd hyn, ni a obeith- iwn, yn symbyliad cryf i'r gymdeithas a'i harweinydd parchus i ddringo bryn serth enwogrwydd yn lied uchel etto yn y dyfodol.-Un o'r Gogledd. FFE STINIOG.-CyjarfodLlenyddolC hwarel y Mri. Holland.—Cynnaliwyd cyfarfodydd llenyddol perthynol i'r chwarel hon nos Lun a nos Fawrth, wythnos i'r diweddaf. Llywyddwyd y cyfarfod nos Lun gan Mr Rees Roberts, y prif oruchwyliwr, ac ar- weiniwyd yn rhagorol gan I. D. Ffraid. Y beirniad cerddorol ydoedd eich eyd-drefwr galluog Isalaw, datganiadau a beirniad- aethau yr hwn a fawr ganmolid. Yn mysg y beirniaid ar y gwahanol destynau yr oedd enw Mr Morgan Lloyd, Parch. T. J. Wheldon, Gutyn Ebrill, Mr E. Evans (Viewfield House), Mr Rees Boberts, Gwil- ym Ychain, Mr H. Jones (Lord Street), a Mr T. Williams (Fron, Dolyddelen). Y noson gyntaf gwobrwywyd ypersonau can- lynol: W. Price Jones,TyCapel, amyllaw- ysgrifen oreu; a rhanwy d gwobr yn gyfartal rhwng J. Lewis Jones, Ysgoldy a J. M. Richards, Trawsfynydd. Am y datganiad goreu o'r unawd Cymru Anwylaf," ennillwyd y wobr gyntaf gan Crych Elen a gwobrwywyd hefyd W. VYilliams, Glan- rhiw 0, H. Owen, a D. M. Roberts. Am yr attebion goreu i holiadau, gwobrwywyd, 1, E.Jones 2, Thomas Griffith, Bhiw; 3, W. Edwards, Tanygrisiau; 4, 0. Ed- wards, Penrhyn. Ennillwyd y wobr gynt- af am adroddiad o ddernyn pennodedig gan W. Edwards, Taftygnslau.; a'r ail wobr gan W. Williams, Glanrhiw. Yna cafwyd datganiad effeithiol o'r Mynach Du" gan Isalaw, yr hwn mewn ufudd-dod i encor byddärol a ganodd "Breuddwyd y Frenhines gyda chyffelyb effaIth. Wedi hyn aethpwyd at y brif wobr gerddorol o bum gini am y dadganiad goreu o Let the Hills resound." Ymgystadlodd dau. gpx, sef eiddo Cryck Elen a Mr D. M. Bo-J | berts, ac ennillwyd y llawryf gan yr olaf. Y nesaf ydoedd beirniadaeth ar ebysgrif- iaeth, a gwobrwywyd,W.Edwards, Tany- grisiau 2, J. M. Richards, Trawsfynydd; a W. Williams, Glanrhiw. Yna cafwyd can gan Isalaw, a'r gynnulleidfa yn uno yn y cydgan. Am yr hollti llechi rhanwyd y wobr gyntaf rhwng John Glynn, ac R. 0. Williams, Ysgoldy. Bhoddwyd yr ail wobr i -J. R. Lewis, Tanygrisiau a'r drydedd i W. Parry, Penrhyn. Am y traethawc1 goreu ar Segurdod corph a segurdod meddwl" y cyntaf oedd W. Williams, Glanrhiw; a'r ail R. J. Thomas, Glandon. Yna cafwyd ail ddatganiad o Let the Hills resound," dan arweiniad meistrolgar Isalaw, ar ol yr hyn y dygwyd y cyfarfod i derfyniad gyda'r diolchiadau arferol. Dygwyd gweithrediadau y cyfarfod nos Fawrth yn mlaen o dan arweiniad Gutyn Ebrill, a chafwyd cyfarfod hwyliog. Yn mysg y buddugwyr ar y prif destynau yr oedd y rhai caiilynol E. J. Thomas, Glanydon; a W. Roberts. Cynnygid cad- air am y rhiangerdd oreu, ac ennillwyd y gamp gan S. Jones, Penmachno. Ennill- wyd yr oil o'r gwobrau cerddorol gan gor Crych Elen. Cafwyd amryw ganeuon swynol yn ystod y cyfarfod gan Isalaw, Eos Prysor, ac Eos Teigil, a dywedir fod y eyfarfodydd drwyddynt wedi troi allan yn llwyddianus yn mhob modd.— Gohebydd. LLAN, DAROWEN.—Man ag sydd wedi cyfnewid yn neillduol yn ystod y deng mlynedd diweddaf ydyw y lie uchod. Yr oedd y tai wedi myned mor adfeiliedig nes oeddynt bron yn rhy ddrwg i fyw yn- ddynt, a'r hen eglwys hefyd wedi myned yn ddolur calon i bob gwir Eglwyswr, wrth ei gweled yn crymu i'r llawr gan henaint, a'r mur sydd o amgylch y fyn- went wedi myned mor ddiaddurn a phe buasai glawdd cyffredin. Ond erbyn hyn, y mae cyfnewidiad wedi cymmeryd lie er gwell; yr hen fythynod wedi cael eu had- gyweirio a'u gwneud yn gysurus i'r trigol- ion i fyw ynddynt, a'r hen eglwys wedi ei thynu i lawr er rhoddi ei lie i'r un bresennol, a hyny trwy lafur ein diweddar rector, y Parch. D. Parry, Llanwnog; ac yn awr, mae mur y fynwent wedi ei or- phen a'i wnend i fyny yn ddestlus a hardd, a hyny ar gost gweddill arianol cyfarfod- ydd llenyddol a gynnaliwyd yn y lie. Ond dylwn grybwyll am haelfrydedd dau fon- eddwr, sef Mr Morgans, Penrhosmawr, a Dr. Griffiths, Aberhinieth, tuag at addurno yr hen fan cyssegredig, lie mae llawer sydd hoff ganddynt yn gorwedd yn ddigon tawel yn mhriddellau y glyn ond etto, nid addurno oddiallan yn unig ydyw y gwaith sydd yn myned yn mlaen yma, ond y mae gweithgarwch ac yni yn cael ei arddangos gyda'r plant. Mae ganddynt gyfarfod bob wythnos er eu hegwyddori mewn pyngciau Eglwysig, a'r peth a blenir ynddynt yn ieuangc, pan yr hen- eiddiant ni ymadawant ag ef.-Glan- fyrnwy. LLANERCHYMEDD. Marwolaeth Llan- erchydd.Yn 65 mlwydd oed, bu farw yr hen fardd awenber Llanerchydd, ddydd Mercher, yr lleg cyfisol, wedi bod yn graddol lesghau ac yn wdel ei iechyd am gryn amser. Yr oedd yr ymadawedig yn Geidwadwr trwyadl, ac wedi bod o gyn- northwy mawr i'r achos fel aelod gweith- gar o Gymdeithas Geidwadol Mon, a theimlir colled a chwithdod mawr ar ei ol, gan y perchid ef yn fawr gan bawb a'i hadnabyddai. Fel bardd a llenor yr oedd yn feddianol ar dalentau disglaer, ac ychydig a lwyddasant i ennill mwy o wobrau pwysig a thlysau yn ein heistedd- fodau. Yr oedd yn frawd i'r cadeirfardd enwog Gwalchmai, a diau mai ganddynt hwy eill dau yr oedd mwyaf o dlysau o holl feirdd Cymru. Fel cyfaill, yr oedd yn serchog a didwyll; ac yn ei angeu collodd Llanerchymedd drefwr pwysig, a Chymru dalent ddisglaer. LLANGRISTIOLUS.—Ysgoldy Henblas.- Cefais y pleser o fwynhau cyngherdd yn y lIe uchod nos Fercher, y 18fed cyfisol. Y cadeirydd oedd Dr Jones (Fron gynt), Park Glas, yr hwn a fu yn hynod ddoeth trwy fod yn fyr ac yn felus yn ei annerch- iad agoriadol. Prif arwr y cyfarfod ydoedd Mynyddog, a gwyr pawb ei fod yn Rhyw- un. Digon yw dyweud ei fod fel arferol fel ei hunan. Cynnorthwyid ef gan y personau canlynol:—Mr William Hughes, Tynewydd,—pur swynol; R. Evans, Fferam,—nid cystal ag arferol; D. Evans, Tyddynlleithig,—gweddol; R. Pritchard, Tyddyupydew,-gwir dda; H. Owen, ysgolfeistr, Bethel,- eithaf soniarus; Eos Patadwys, gweddol. Cafwyd annerchiad gan Ap Morrus yn ffraeth a digrifol. Hhwng pawb a phobpeth cafwyd cyngherdd gwir dda.—Nid y V. LLANIDLOES. E,isteddfoda?i,. Dylasai- hyn yma ymddangos fel y canlyn yn hanes yr eisteddfodau yn y Llais ychydig wythnosau yn ol, mewn cyssylltiad ag enw Mr Matthew Lewis (Esyllyn). Bu yn isolygydd yr Amserau am beth amser pan yn byw yn Lerpwl. Efe oedd awdwr y flughanes a ymddangosodd yn yr Am- seran, o dan y teitl Rhydderch Prydd- erch a'i Ddwy Lili,' a'r gyires pennodau byny o hanes 4 Gwyr leuaingc Llanllenor- ion,' a'r traethawd galluog hwnw, Y Fodrwy Briodasol,' a ymddangosodd yn y Traethodydd. Bu y dyn galluog hwn farw pan gyda'r fyddin, yn sergeant, yn China, rhywbryd yn 1860.Cyngherdd. —Nos Lun, yn Llysdy y Dref, cynnaliwyd cyngherdd poblogaidd iawn gan gor Wes- leyaidd y dref hon, o dan arweiniad Mr D. Lloyd Morgan, yn cael eu cynnorthwyo gan y Van Glee Party," Eos Morlais, ac amryw gantorion ereill; ond yr Eos oedd prif arwr y cyfarfod. Yr oedd y cynnull- iad yn un pur liosog, ac oil yn ymddangos fel wrth eu bodd. Yr oedd y cyllid deilliedig oddiwrth y ewrdd i fyned i drysorfa capel newydd Wesley aid y lie, yr hwn sydd yn awr ar ganol cael ei adeiladu. Bwriedir ei agor at wasanaeth dwyfol Chwefror 25ain, 1875, pryd y dis- gwylir y Parchedigion canlynol i wasan- aethu ar yr achlysur:—W. Powell, Llan- fyllin; 0. Owens, Aberdar J. Evans, Lerpwl (gynt Eglwysfach); ac H. Ho- berts, Llundain.- Idloesyn. LLANIESTYN, GER PWLLHELI.—Cynnal- iasom ein hail gyngherdd nos Wener, yr 20fed cyfisol, yn yr Ysgoldy Cenedlaethol. Yr oedd y cynnulliad yn un lliosog a pharchus, a'r cyfarfod trwyddo yn hynod weddaidd. Cymmerwyd y gadair am saith o'r gloch, yn absennoldeb Dr. Owen, gan Mr 0. J. Thomas (yr ysgolfeistr). Gwasanaethwyd ar yr harmonium gan Mr W. H. Jones, Caecanol, a Mr G. Williams, Llaniestyn. Digon, bellach, am y doniol Mr W. H. Jones yw dyweud ei fod fel arferol, yn dda. Yr oedd Mr R. Griffith (Eos Lleyn) y tro hwn mewn climate dip- pyn yn ddifrif ol, ond yn dda, ac yn der- byn cymmeradwyaeth fawr. Gwnaeth Mr J. Thomas a Mr E. Williams eu rhan hefyd yn ganmoladwy a dylanwadol ar y gwrandawyr. Ni fu Master J. Thomas Davies y tro hwn ychwaith yn Uai nag ef ei liun. Ereill a gymmerasant ran yn y cyfarfod oeddynt Miss L. Jones, Miss J. Anne Lloyd, Miss A. Davies, Miss E. Williams, a Master W. Jones. Canodd plant yr ysgol hefyd ddarnau swynol dan arweiniad yr ysgolfeistr, a chawsant gym- meradwyaeth gynnes am eu trefnusrwydd a'u gweddeidd-dra yn y cyfarfod. Ennill- wyd y wobr am araeth y tro hwn gan Mr J. Williams, Ty'nyllan. Gwnaeth y llyw- ydd hefyd ei ran yntau mor lwyddiannus a'r gweddill o'r cyfeillion, a chafodd yr hyfrydwch o hysbysu fed yn mwriad Mrs Johnson (yr hon oedd bresennol) roddi te parti i'r rhai hyny sydd ac wedi bod mor ffyddlon gyda'r symmudiad. Llwyddiant i chwi oil fyned yn mlaen, a ddymuna- Tudor Owen. BADICALIAETH YN MRYNSIENCYN .-Mae Mr R. Davies, yr aelod anrhydeddus dros swydd Fon, erbyn hyn, efallai, wedi ewbl- hau y gorchwyl pwysig o annerch ei etholwyr. Ddydd Mercher, y 18fed cyfisol, ymwelodd a'r pentref uchod, a hysbysid y byddai iddo gyfarfod a'i etholwyr mewn llofft ystabl cyssylltiedig ag addoldy y Methodistiaid Calfinaidd, am bedwar o'r gloch yn y prydnawn. Cyrhaeddodd Mr Davies yma yn brydlon, a derbyniwyd ef yn swil neillduol gan ddau o'i etholwyr. Buasai y digwyddiad, o angenrheidrwydd, yn un nodedig o bruddaidd, pe na buasai i un o'r cefnogwyr droi allan i chwilota pob twll a chornel," ys dywed pobl Mon, am ryw un digon hunan-ymwadol i ym- gymmeryd a'r swydd o gadeirydd y cyfar- fod. Fel y sylwem ar y sefyllfa boenus yn mha un yr oedd y boneddwr an- rhydeddus wedi ei osod, methem a pheidio meddwl nad Dark, dark, dark, amid the blaze of noon, Irrecoverably dark, total eclipse without all hope of day" ydyw ar achos Radicaliaeth yma beth bynag. Yn raddol cynnyddodd cefnog- wyr Mr Davies i'r nifer anrhydeddus o bump; a dechreuodd yntau ar ei waith o'u hannerch. Credwch ni, Mri. Golyg- wyr, er cymmaint ein hymlyniad at egwyddorion Ceidwadol, methem yn lan ar Yrpryd a pheidio cydymdeimlo hyd yn noddr-adicatiaeth. Cynnwysai programme Mr Davles-yr ymgyrch Ashanteaidd, Addysg, Mesur y Trwyddedau, a Llais y Wiad. Bhwng cromfachau, foneddigion, peidiweh a dychrynu; nid oes i chwi ddim i'w ofni o'r cyfeiriad yma beth bynag. Siaradodd yn bur wanaidd, ond ar yr un pryd, yn dra boneddigaidd, am oddeutu ugain munud. Da oedd genym ei glywed yn crybwyll, mewn cyssylltiad a'r Llais am y casgliad anrhydeddus o wyth gant i fil o bunnau a wnaed yn Llangefni, i'r dyben o ddysgu manners i'r Hads. Nid ydym yn bur sicr a oedd ei ddwylaw yn peidio bod ychydig yn nes i gymmydog- aeth y god tra y sylwai ar hyn, nag oeddynt yn flaenorol; braidd nad ydym yn tybied eu bod. Digrif iawn oedd ei glywed yn ymffrostio yn ei ymwybyddiaeth o anghenion yr amaethwyr, ac o'u hym- ddiried hwythau ynddo, tra nad oedd yn werth gan gymmaint ag un amaethwr ddyfod yn mlaen i wrando arno. Tippyn yn awgrymiadol oedd ymddygiad fel nyn ar ran yr amaethwyr, onide ? Gan iod ein adroddiadeisoes wedi myned yn lied faith, rhaid terfynu gyda dyweud dderbyn o'r aelod anrbydeddus ddiolchgarwch ac ymddiried (neu o leiaf fynegiad o hynyi bump etholwr; yr hyn a ddygQ^d J olygfa boenus i ben, ac ymwasgarodd ychydig wroniaid hyn (canys gwrol ] ddiau oeddynt) bawb i'w Ie, a swn trang Radicaliaeth eisoes yn eu clustiao*" Veritas. HOE WEN .—Eisteddfod Leoll.-yrydyl" yn deall fod trigolion dyfiryn Conwy anfon eu cynnyrchion i fewn yn brys at Eisteddfod Leol Boe Wen. Mae Lilee idon yn disgwyl 80 neu 100 o englyp-10.111 i fewn ar Yr Ysgolfeistr." 0 Gwalchmai. Testyn da. Cai, y byddp rhaid iddynt fod mewn llaw cyn y Bhagfyr. Yn awr am dani, chwi &&&$1 wyr.—Gohebydd. TREGARON.—Pan ar fy nhaith YN J edigion ychydig yn ol, bum mor chael treulio ychydig amser yn garon, yr hon dref sydd yn sefyU nghanol y sir, mewn pant cysgodol> afon Brenig yn rhedeg trwy ei chall yJ1 I Saif yr eglwys hithau ar fryn bychai1 y dref, a'i chlochdy hardd yn esgy5^ Gofynais i amryw o drigolion y dref y cyssegrwyd yr eglwys, a dywedodd j wrthyf mai i Sant Caron, yr hwn J esgob, a cholfeir ef Mawrth 5ed; 011 L | amser y bodolai, nid oes neb yn atteb. Eroill a ddywedant fod dydd 0^ y yn cael ei gadw yma yn yr hen amsej' mai oen oedd i fod yn wrthddrych iad ganddynt ar yr achlysur, a bod fawr yn dyfod ag ef o'r mynyddoedd") agos, a bod y cerbyd oedd ganddynt & gorchwyl o'i gario yn hynod addurne J a bod ganddynt ofal mawr am dano; mae yn debygol i'r car dori ar ei dra^ J y fan y saif yr eglwTys, ac i'r holl d1 waeddi allan gan wylo-" 0 y car ^Lj ac iddynt alw y lie yn Caroen. ev$ yn fawr pe gwnelai Giraldus neu Eppynt, neu rywun galluog arall, 0 gwybod trwy gyfrwng Llais y Wlad i Tte- a pha bryd y cyssegrwyd Eglwys garon. Yr oedd yn llawenydd & genyf weled ar y Sul yr eglwys lawn, a'r nos yn rhy fach i gynn^ gynnulleidfa ond y mae y ficer £ >^0 gar sydd yma yn penderfynu oortynau y babell y flwyddyn nesaf- ef wedi codi ysgoldy hardd yma ac y mae 145 o blant yn cael eu ynddo gan Mr John liees, yr ysgol^1^ Mae y dref ar ei chynnydd yn fawr & } adeiladu. Swn y morthTryl BY axe mhob ewr o'r dref. Mae yma farcli11^ ] hardd, bron ar ei ddibenu; rhodd s ydyw gan y Mil: Powell, Nanteos, P. ( sydd yn ddiarhebol am ei haelio111■ ■ amser. Ond cofier mai Tori Y ) Thoriaid yw y Tregaroniaid.—Osti] 'it' (

MABWOLAETH DDBWGDYBUS < ABNWB…

Y TRENGHOLIAD.

[No title]