Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
DYDITFABUR SHON EPPYNT.
DYDITFABUR SHON EPPYNT. DYDD f:>J, Dim gweithio heddyw yn Ty'reppynt; gwedi peri i'r forwyn barot- toi dwir dros y Sabboth y nos o'r blaen, canys peth ansyber yw hel dwfr ar y Sab- both. Gwisgo yn drwsiadus, gan barchu y Sabboth, hyd yn nod mewn dillad; myned i'r eglwys gorganu y Psalmau; y bobl yn cyd-atteb, neu yn porthi yr offei-riad yn dda bywyd yn y gwasan- aeth rhai yn sefyll fei pyst llidiard, yn gwibiog, llygad-gamu, yn pwl-delff. Bod yn bayvdd gwybod wrth agwedd dyn yn yr •iddoliad pa un ai capelwr neu Eglwyswr ydyw, neu lie y cafodd ei ddwyn i fyny. bregeth fer a phwrpasol. Man offeiriaid yn distrywio yrj addoliad gyda eu pre- n Z7, .vethau hirion y gwasanaeth Eglwysig .a bar fa. fras ar lan dwr gloew las araf cyffes, crecl, a phader, mawl a gweddi yn adenydd Dwyfol ddawn afonydd tir- ;,m, gloew, meusydd kawddgar, blodeuog. Methodisten yw y forwyn, Baptist yw y ;-was, a'r gweithiwr syddarglwyddddiacon yn Mynydd yr Olewydd. Y forwyn yn achwyn fod treth y capel yn drom-focl bryd y mamau a'r man-grolesi wedimyn'd ar ymbinceo cynffon pob un o honynt yn fath o siop Pedlar. Yn lie dillad da Cymreig, bydd pob un yn pincien a'i chyfoeth oil ar ei ehefn-crach ddillad ar grug o dlodi. Pan ydoedd yr hen do ur y maes," ebe y forwyn, delid sylw ar wisgoedd, gan beri gweddeidd-dra a phob un i wisgo yn ol ei radd yn awr tri gras y sydd, y Chinon, y Grecian Bend, a'r Bvffle," ebe hi. Ie," ebwn inan, ar bob ffolog penchwiban; canys bawdd gwybod gwahaniaeth rhwng y respectable S'r shabby genteel wrth liwiau eu gwisg- cedd,-y cyntaf yn syml a gweddaidd, yr olaf aml-liwiog, ranting-fast." Y giveithiivr yn galw yn yr hwyr gwedi bod yn yr Olewydd," y Parch. Job Job, o'r North yn pregethu. Yn adrodd y testyn a darn- au o'r bregeth. Y testyn oedd Noah, yn adeiladu yr arch." "Hen fachgen nobl, ffamws, oedd Noah," ebe y pre- gethwr, mae yn host mawr yn y Beibl trwy yr oesoedd.' Fe gariodd ei fasged a'i offer ar ei gefn am fiynyddoedd lawer i wneuthur arch. Yr ydwyf fel pe bawn yn ei weled a'i beccyn bara a chaws, a'i gostrel o siongcen gwlad 0 gyda'r wawr bob boreu. Yr oedd pobl o'r 0 byd yn dyfod heibio-rhai yn chwerthin ar ei ben, ereill yn ei ffwlio, gan ei demtio. Un yn dywedyd wrtho, Tyred gyda mi, Noe bach, i Arwydd y Plough i gael siar o gwart,' ond cnoco yr oedd Noah y llall yn dywedyd, Tyred gyda ni i fynydd yr Olewydd i hela cadno,' ond cnoco yr oedd Noah y llall yn gwaeddi, 'Tyred gyda ni i'r ffair ocsiwn,' ond cnoco yr oedd Noah; ac wrth fynych a hir gnoco. wrth roi cnoc, a chnoc, a ehnoc, fe gnocodd yr arch i ben. (Y bobl yn cilwenu ar eu gilydd.) Ac felly nin- nau," ebe y pregethwr, mewn gwaedd uchel, .ddyrchafedig, mae yn rhaid para i'w chnoco hi hyd nes cael y gelyn olaf dan draed, ac ni gawn ninnau ar lan yr afon ein erocio gan angeu -ond diolch, haleliwia, ar foreu dydd a ddaw, rhoiff y Cristion g-n-c i angeu yn ei dalcen o, a bydd swn ei ergyd yn C o uffern hyd y nefoedd." Hwyl fawr, y biaenoriaid yn y set fawr yn 43jawffian yn uchel. Dyna ddigon o ffwlbri, Jim bach," ebvrii J, a rhyw olchion fel hyn sydd yn cyfansoddi yr hyn a elwir pregethu poblogaidd llawer .ardal. Peri i'r forwyn roddi peintyn i Jim, hefyd siwgaid rhwng y gwas a'r for- wyn. Jim yn dywedyd fod pregeth y Parch. Job Job yn cael ei chodi i'r cypiø mylau gan wyr yr Olewydd, "canys yr oedd yuddi ailirawiaetli," ebe Betti Syia- wyr Wan, a'r bye y cyttunai Neli y Goes- Mr. Ma eisiea ffoagor o'r fath bregeth- au ymsi," ychwanegai Gatti y Bais Goch ddywedyd dan ei dft#»s4dE, gan ddodi pwyslaisttl." yr "yma" fel ifiIÇ1th o snap i'r'gweinidog cartrefol, pregetka# YJ hwn jn mryd y Baas Goch ydoedd yn a?n#i- fad o'r athrawiaetholac y mae yrj athrawiaethol" yn air mawr, trwm, rlocfeoraidd, yn ngeiriaii gw^icli ac araetli I pob g«r o gapelwr. DYDD LLUN.—Myned i lawr i'r -gmnrnt; saiw yn shop y gof, grwgnach uckel a, bygyihiol aiii tireth heiol; yn uwch nag yn nghof neb yn iyv, crogbns am helaetku heiol ffctdd yr elycii i ir-abad. Yn profi y ddiareb .Hael Shon bwis y wlad." Clywed ga.n fjJ" gof fod cert 'fec/idan Iiews3711 y Cadachwr gwedi myned yn scynd yn y mwd ar y fl'ordd i Biil^h, gogyler & Dol- ?gaeirf—ysgi'am dychrynlly^i i achub by-vvyu mul rhag boddi. Pob clyfrfos a chwter sn arllwys eu cynnwysiad i'r hwl? cyll- nhwrf mawr uchel, erchi pedwar g,?x'wyii, o ddiod i'r hobl am achub y geH s ysgidiau rhag myned gyda y liif, sef gwneud hyny ar y plwyf, canys gan iod y plwyf yn Migo# oyfoethog a digon .7 medcbtl i gymmerydci ferchogaeth gan drethi, trether ef i'r asgwi^. DYDD MA.VVIITK.—Ymdclangogiad Ymryd. iDafydd Brydytid Byr yn dyfod i a'i anadl yn ei wddf—yn dywedyd ddarfo^ 1 yspryd ymddangcs, nad amgen yspryd TTwmi (Jrytld Bach, }'n gwladycku pan yn TTwmi (Jrytld Daeh, yn gwladycku pan yn ^cnawd yn ardal L.lanai'o.nfawr yn Muallt, ac i wr a elwir Ned y Saer, Llanwrth-y-I rhyd, yr ymdclangasodcl, pan oedd Ned yn dychwelyd oddiwrth ei waith o'r gorwyd, a phan yn croesi por-t ar Irfon. Ymddengys fod y gwr hwn o grydd gwedi myned ar goll ers mis o amser, ac ni wyddai neb beth ddaeth ohono. Ar rhyw noswrith aeth yn eisieu Ac nis gwelwyd byth mor gwr, Nac uwcb gelltydd, nac ar fvnydd, Nac mewn dolydd min y dwr. Rhai yn tybied iddo fyned i Patagonia; ereill ddarfod iddo suddo yn llaid hewl Dolgaer ereill mai at y tylwyth teg yr aeth ar ymdaith; ereill ddarfod iddo pan yn poachian syrthio a boddi yn Irfon cadarnheid y dybiaeth olaf oblegid ddarfod i Dafydd y Crydd weled canwyll gorph yn nofio ar yr afon. Ar y noswaith ragrybwylledig, pan oedd y gwr o Saer ucbod ar ganol pont ar Irfon, dychrynwyd ef yn ddirfawr, gan beri i ias oer angeu i ymsaethu drosto o'i ben i'w sawdl, gan beri i'w wallt sefyll. Yn mhen arall y bont gwelai yspryd Twmi y Crydd Bach yn ei amdo a'i wyneb yr un lliw a'r pridd, ac yn dwyn trem alaethus ddychrynadwy, gan ddwyn bwndel o bapyrau, misolion, &c., dan ei gesail chwitb. Twmi," gwaeddai Ned, paham yr aflonyddi arn- af? Pa beth sydd yn dy flino ?" "Rhaid i ti ddyfod gyda mi," ebe y drycbiolaetb, dewis is awyr neu uwch awyr." Ar hyny teimlodd Ned fod ei gorpws yn ymadael a'r ddaear. Is awyr gwaeddai Ned, heb ystyried y canlyniad, canys cariwyd ef gyda chyflymdra annirnadwy a'i gorpws yn cael ei rwygo yn erbyn simneuau, drysni, drain, prysglwyni; hefyd yn ddig- wyddiadol tarawodd yn erbyn y Bardd Tal o'r Derwydd ar Dulas, nes y'i gwnaeth- pwyd yn fyrach o'i ben, er dyehryn a cholled i'r gymmydogaeth. Daethant uwch ben bwtbyn sitrachog, lie yr arferai y gwr o grydd fyw pan yn y corph, a disgynasant yn chwim iddo trwy gorn y simne. "Dod dy law i mewn yn y twli yma sydd yn y mur, Ned," ebe yr ysbryd a dododd Ned ei law yn y twll a thynodd allan swm o fan ddeiliach, a sylwodd fod yr olwg arnynt yn peri i'r marw ringcian dannedd a gwallgofi. Gwedi i'r ysbryd ddyfod atto ei hun- Dal sylw, Ned," ebe fe mewn oernad annaearol, a'i lygaid yn mhentyd ar y gwrthwyneb; "y papyrau rhain, wele bills ydynt, ac heb eu talu, am y Diivyg- iwr, am y Tyst, am y Faner Fach, ac am y Dyivysogaeth. Buais fyw mewn spun- gian ac anonestrwydd llenyddol. Clyw, Ned; ni bydd i mi esmwythdra, ac ni bydd i ti lonyddwcb na dydd na nos, canys tithau, dyn euog ydwyt; ni bydd i ti esmwythdra hyd oni pheri i'r biliau yma gael eu talu yn llawn." Yna deisyfodd Ned i'r ysbryd ei ddwyn yn ol mewn ffordd uwch awyr, a bu Ned bron sythu i farwolaeth yn yr uchelderau gan oerder yr hin, fel pan ddododd yr ysbryd Ned i lawr yn Llan-wrth-yr-hyd, yr ydoedd arno biccil ddychrynllyd, ei gorpws a'i ddillad yn garbibion yflion, a'r rhan uchaf yn giog o eira pilonwy, fel nad oedd ei gym- mydogion nesaf yn ei adnabod, a rbedai ei wiaig ei hun rkagddo, gan feddwl mai ellyll ydoedd. Mae yr amgylchiad sobr wedi gwneud cyffro mawr yn y gantref hon, a chofnodir y peth yn y dyddiadur hwn fel y cymmero dynolryw rybudd oddiwrth dynged ddychrynllyd y gwr hwn o grydd, fel pa beth bynag fyddo ar ol, gan dalii boed iddynt dala am eu misolion a'u newyddiaduron, canys paham yr aflon- yddir arnynt gwedi marw ? Gan gofio, cofier stori Twmi y Crydd a Ned y Saer. DYDD MERCHER.—Yn clywed heddyw fod eisteddfod gapelog etto i gael ei chynnal yn Llaiiwrtyd, 'Eisteddfod gwedi myned yn furgyn rhwng eikn a brain, yn ful i gario yr "acbos mawr" mewn capel, neu i'r crach-dafarnwr rhag i'w frecci sychu. Eisteddfod gapelog dydd Nadolig,—dyfalu yn barod pwy sydd i ennill; fod gwobr lOp. yn cael ei gynnyg i'r cor a gano oreu Yr Haf," ond ei fod yn debyg na bydd un }T)) teilyngu y wobr. Mwy o yspryd drwg yit ngjyn a chrach eisteddfodau capel- og a thafarnoi nfl, dim arall. o DYDD IAU .Breuddwydio neithiwr fod Daniel Silvan Evans gwedi cael ei benodi 1 fywoliaeth Llanddyrnog. Pe gwir y breuddwy^l buasai yn blyfyn yn ngha p yr Esgob liewydd na angholid am qes neu ddwy. life ydyw y prif lenyddwr Cymreig o neb sydd )yw y dydd heddyjy. 'Clywed fod cofiant yr hen dad anwyl o JD'io.ed- rhyw-dalar yn cael ei barottoi i'r wasg, gan ei olynydd, Mr Griffith. Nid oes neb fn teilyngu gwell cofiant, ac nis gallasai y.g9ly?)jwyi syrthio i well dwylaw. Ond :ni foddk-nir ar gofiant moel, ond rkaid wrtk ddetJ^o^py o'i bregethau; canys yr oedd yn cwrdd yn y gatriarck atkrylitk a dawn gwr mewn caiirif ydoedd o. DYDD :0WE^E^.—Dafydd y Cnwck yn galw; pibellaid adau wydriad Ind. Son iod Dai Bach y Baledwr yn canu gaiargan: 1. 1. ,an ar yr aclilysur galarus o foddi y gyvx o grydd, hetyd ymddangosiad ei yspryd, 0 Khoddir y gan etto. Scram am y Llais. Yr heddgeidwaid yn trywenu, &c. DYDD S,DWRN.-Myned i'r orsedd; yspryd y eloehdy yn darllen llythyr cyfreithiwr -am libel parth Mallgorn Llan- ddewi-brefi oddiwrth Richard Higgins, alias Dick Lwprell, gwr o Sais a brynodd yn lladradaidd y cyfryw gorn.—Yr orsedd yn peri ar y Dyn a'r Baich Drain yn y lleuad i amddiffyn yr achos yn rboddi cyfarwyddyd i'r perwvl hyny i Dick Lwprell. Erchi i Dick i wneud cledrffordd i'r lleuad er mwyn gohebu a solicitor yr orsedd. Bod yr lrvon Coal Company yn foddlon ymgymmeryd a'r cyfryw specula- tion. Chwerthin mawr, iachus, trydan- llyd o gwr i gwr yr orsedd. SION EPPYNT. I
YNYS MON.
YNYS MON. v. >. K Behold yon oak, How stern he frowns, and with his broad brown arms Chills the pale plain beneath him Mark yon Altar, The dark stream brawling round its rugged base, These Cliffs, these yawning Caverns, this wide Circus, Skirted with unhewn stones.— These mighty piles of magic planted rock, Thus ranged in mystic order mark the place, Where, bat at times of holiest festival, The Druid leads his train. There dwells the Seer In yonder shaggy Cave, on which the moon Now sheds a siue-long gleam. His brotherhood Possess the neighbouring cliffs.- Mine eye descries a distant range of caves Delved in the ridges of the craggy steep And this way still another. On the left Reside the Sages skilled in Nature's lore: The changeful universe, its numbers, powers, Studious they measure, save when meditation Gives place to holy Rites then in the Grove Each has his rank and function. Yonder Grots Are tenanted by Bards, who nightly thence, Rob'd in their flowing vests of innocent white, Descend with Harps, that gletter to the moon, Hymning immortal strains. -Mason's Cwactacus. Prin y gellir dywedyd i Natur wastraffu ei cheinion ar Ynys Mon. Yr ychydig olyg- feydd ceindlos a fedd yr Ynys, y maent wedi eu crynhoi a'u cydgyssylltu yn un gadwyn hardd i addurno minion Menai. Gogoniant goror Mon yn yr hen amser ydoedd ei Ljwyni a'i Hallorau, a'i gogon- iant arbenig mewn amserau diweddar, ei pbalasau ami a'i Heglwysydd lluosog. Teccaf man ar ororau Menai yn ddios yw y LLWYN MOEL. Ar y naill bwynt i'r 'Llwyn' dyma borthfa enwog Moel-don, ac mewn cilfach dawel, is cysgod y deri, wele, ar y pwynt arall, angorfa glyd Pwll-fanoc, lie yr arllwysa y Braint gyfran o'i deifr llonydd i'r weilgi. Cydgyssylltir y porthfeydd hyn gan curve o galchfaen, y mor yn golchi godreu'r clogwyni, a'r goedwig dewfrigog yn gwisgo eu copaau a. gogoniant ac a harddwch. Yn nghanol y drofa naturiol hon saif y Plas Newydd, ac ymklitkra y lawnt werdd- las i fin yr heli. Mor dangnefeddus hedd- yw ydyw gwedd y fangre a fu'n drigfl1 trawsder a galanas. Trwy'r fro oedd mor gynhyrfus, Ar fryn a phlant a rhos, Teyrnasa, yn bruddglwyfus, Dawelwch haner nos."— Hecld o gwr-bwygilydd, a themlau Ion, yn tryfritbio'r fan. Wele Gapel teuluaidd prydferth yn ffurfio rhan o'r Palas t.ywys- ogol. Yn nghanol adfeilionDerwyddiaeth, saif LLANEDWEN, — a'i thwr pinaclog yn ymgodi goruwch y derw talgryf o'i hamgylcb. Tybir i St. Edwen seilio ei chell, cloister- -ymo,, tua'r fiwyddyn 640 0,0. Edwen ydoedd ferch neu nith Edwin, brenhin Northumbria, a meithrinwyd hi yn Llys Cadfan, brenhin Gwynedd, yn Nghaer Sciont—-begontimn. Os cywir yr Achau, yna yr oedd Edwen yn chwaer i'r enwog Hilda, a fu yn ymddad- leu yn dyn a'r Esgob Wilfrid o barth cad- wraeth y Pa sc. Cedwid ei dyddgwyl, Tach- wedd 6. Gorphwysa niferi o fonedd ac enwogion y fro yn mhriddell gyssegredig Llanedwen. Yma y claddwyd Henry Rowlands, awdwr y Mona Antiqua, a Daf- ydd Llwyd o'r Henblas, bardd a llenor enwog yn ei ddydd. Capeliaeth dan Llan- idan yw Llanedwen. Arwynebedd y plwyf yw 19.39 o erwau, a'r boblogaeth yn 1851 yn 327, ac yn 1861 yn 273. Y mae yma rai cloddfeydd ceryg, ond plwyf amaeth- yddol yw ar y ,cyj:an. Bron yn nghysgod muriau Pare Pla:8 Newydd, a than aden Pont Britannia, ar "Fin ti w'r y F,nai dag, saif LLANF AIR- PWLL- GWYNGYLL, neu Llanfair Pwll Gwyn Gell, medd rhai, Eglwys blwyfol ddestlus iawn, a spire byckan del yn perthyn iddi. Prisiwyd degymmau plwyf Llanfairpwllgwyngyll a Chftpeliaetk Llandysilio, yn amser Harri VIII. i 7p- 6s. 8c.) ac yn amser ei ferck EJizabeth, .6p. los. Difwywywd'" Grifiltk, -vir pff&irlaQl Pwll Gi ua yrnlynu o hono wrjbh ackos ONvain Q-l&ndwl'; 1406 n '-tl- tib O.C. Yll1.42B, eawn pnGriffitk ab Kin-, ion ab Gwilym yn offeiriad yin. Yn 16855, Henry Rowlands, awdwr y Mon a Antpqua, y mae yn clcbygol. Yr oedd yn yr ken Eglwys, y tu cefn i'r allor, fath o kaner- gyick yn y mur—apsis—He yr eisteddai yr iqffeiriaå a'i deulu. Y mae golygfeydd iiaturiol y plwyf byekan hwn yn amrywiol a tkarawi&dol. Gerliaw yr Eglwys ar lethr cidym.nnol; ^aif Plas Llanfair, sedd Arglwydd Clarence Arwynebedd y plwyf yw tua 952 erw, a'r boklogaetk yn 1861 yn 695. Gwerth y fywoliaeth yw tua' 250p., ac y mae yn nawdd Esgob Bangor. Ceir amryw gloddfeydd ceryg yn y plwyf, ac ar faes ger y Ty Mawr, gwelir "gwedd- illion Cromlech o gryn faintioli wedi llithro oddiar ei phegynau." Cawn farnau gwahanol o barth ystyr yr enw hwn-Llan- fair Pwll Gu-yngyll. Olrheinia rhai dardd- iad yr enw i Llanfair Pwll Gwyn Gyll- Ilte Church of the Pool of White Hazel; ereill, gyda mwy o briodoldeb efallai, i Pwll (pool), Gwing (to wriggle), a Hyll (hideous)-the hideous wriggling pool, sef, PWLL CERIS, yr hwn sydd ar yr oror hon, ac yn cyfatteb yn. hollol i'r desgrifiad uchod, neu yr eiddo, Pwll, Gwyn (rage), gwyll (dark), the gloomy raging pool. Am Bwll Ceris-Cawr- rhys neu Gyr-rhus, the mighty rushing, y ryferthwy gref-dywed un hen brydydd parodol:— Pwll Ceris, pwll dyiusl:drud,-pwll yw hwn Sy'n gofyn cyfrwyddyd; Pwll anfwyu yw, pwll ynfyd, Pwll o'i go' o'r pyllau i gyd." t." i
..í LLEITHFAEN.
í LLEITHFAEN. FONEDDIGION,Caniattewcb i mi, trwy gyfrwng y Llais, gyflwyno fy niolchgarwch gwresocaf i'ch gohebydd galluog, Dafydd Eppynt, am ei sylwadau ar y Lleithfaen. Yr hyn a achlysurodd i mi ychydig wyth- nosau yn ol ysgrifenu nodiad ar Lithfaen ydoedd, ddarfod i mi yn ystod yr haf a basiodd gael lletya o dan gronglwyd hen langc o gwmpas ei 80ain mlwydd oed. Yr adeg hono yr oedd cryn son mewn parthau o Geredigion am y clefyd a elwir y gyn- ddaredd, ac amryw anifeiliaid yn dioddef dano. Testyn fy ymddiddan i a'r hen langc y noswaith hono fu y clefyd alaetbus a enwyd, yn nghyda'r meddyginaethau at ei wellhau. Nid fy ngorchwyl yn bresen- nol ydyw hysbysu darllenwyr Ltaisy 1flad o'r gwahanol foddion a hysbysodd fy nghyfaill tuag at wellhau y clefyd hwn; ond dywedaf mai yr unig feddyginiaetk a welodd (yn ol ei dystiolaeth ei hun) a dim llwyddiant arni oedd Llithfaen, ac enwodd luaws o engreifftiau i'r perwyl. Dywedai ei fod yn cofio i dri dyn gael eu brathu unwaith gan gi cynddeiriog-dau o honynt a gymmerasant ychydig o Lith- faen wedi ei falu yn feddyginiaeth, ond y trydydd, yr hwn oedd fab i foneddwr a nacaodd ei gymmeryd, a'i dad a'i han- fonodd at feddyg medrus i Lundain, yr hwn a roddes iddo feddyginiaeth rhag y clefyd. Cyn pen dwy flynedd cymmerwyd y dyn yn glaf, ac ymddangosai arwyddion amiwg o'r gynddaredd arno, ac er gwaeth- af meddygon goreu Llundain bu farw; ond y ddau ereill a fuont fyw dros ugain mlynedd wedi hyn, ac ni welwyd unrhyw arwyddion o'r clefyd arnynt, Enwodd fy nghyfaill engreifftiau ereill cyffelyb, pa rai, meddai, oedd yn barod i brofi eu gwirionedd. Cyn y noswaith hon, nid wyf yn cofio fod y gair Llethfaen neu Llithfan, wedi swnio yn fy nghlustiau. Teimlai yr hen langc yn bur awyddus am gael gwybod gyda sicrwydd o ba le y caf- wyd y maen gyntaf, a cheisiodd genyf ysgrifenu pwt o lythyr ar y pwngc i ryw newyddia,dwr, ac appelio at ryyv hynafiaethwr galluog am eglurhad ar y gair. Ysgrifenais y nodyn yn y fan, a than ei gyfarwyddy.d rhoddais ï lawr un neu "ddwy o'r tybiau oedd efe wedi glywed am dano, Gyda gplwg ar rhinwedd meddygol y maen, gadawaf i'r darllenydd farnu; ond yr wyf yn deall erbyn hyn ei bod yn feddyginiaeth gyfi'rediiiol rhag y gyn.- ddariedd yn y parth kwn o'r wlad. Yr wytknos diweddaf, bum yn ymholi yn nghylch y persona,u a fratkwyd gan gwn cynddeiriog yr kaf diy/eddaf, 'a pkefais fy kysbysu mai Llithfaen oedd y feddygih.- iaeth. Dichon, os caf hamdden, y by.dd genyf air i'w ddyweud am y Mallgorn 9 Llanddewibrefi yn un o rhifynau nesaf Llais y Wlad. CWMBBEFI.
[No title]
GOLYGFA RYFEDD MEWN CAPEL.—Gwel- wyd golygfa gywilyddus yn nghapel Zion, Nottingham, nos Sul wythnos i'r diwedd- af. Yr oedd appwyntiad rhyw Mr Lank- ford fel gweinidog yn cael ei wrfchwynebu gap. ran o'r gynnulleidfa ac mewn cyfar- fod, ychydig ddyddiau yn ol, cymmerodd golygfa annhrefnus iawn le. Boreu Sul diweddaf aeth Mr Lankford i'r pwlpud er holl ymdrech y blaid wrthwynebol i'w rwystro, ac fe ddygodd y gwasanaeth yn mlaen, ond yn yr hwyr cafodd y blaid arall feddiant o hono. Cafodd Mr Lank- ford ei stopio ar risiau'r pwlpud, ond oddiyno rhoddodd hymn allan, a chanodd rhan o'r gynnulleidfa. Rhoddodd y blaid wrthwynebol ar yr-un adeg hymn arall allan, gan ackosi anngliydgordiad mawr. Dechreuodd "Mr Lankford bregethu, a declireuodd dewis-ddyii y blaid wrthwyn- ebqJ ,dclrllen Salm. 'raddododd' Mr Lankford ei bregetli, pan yr oedd y rhah arall yn canu ac yn cael -eu o gan yr harmonium. Yr oedd rhai hedd- geidwaid yn bresennol, ond ni chymmer- odd dim le yn galw am eu gwasanaeth. Sylwodd un o'r pwyllgor eu bod yn gwrth- wynebu Mr Lankford trwy gyngor cyf- re.itkipl ac i kcyrwyddo achos Crist.— Standard.