Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
11 articles on this Page
BEDDARGRAFF MERCII IEUANGC,
BEDDARGRAFF MERCII IEUANGC, Yr hon a gladdwyd ar ddydd pennodedig ei phriodas. Yr adeg i'w phriodi,-oedd y dydd Y daeth i'w bedd difri' Diwmocl dechreuad arni, Yn ddiwedd oedd iddi hi. TREBOR MAI A'I CANT. o
PWRS Y CYBYDD.
PWRS Y CYBYDD. Pwrs hen, na cheir pres o hono-hyd drangc Wedi 'u rhoir hwy ynddo Ydyw hwn :—ei geidwad o Sy'n lleidr, a'i bres yn llwydo. Llandderfel. DEWI HAVHESP.
WRTH EDRYCH AR LONGDDRYLLIAD.
WRTH EDRYCH AR LONGDDRYLLIAD. 0 tan rwyg tonau'r eigion,—y Hong hardd Sy'n lleng J yBgyrion A cheir dig dieflig y don, Yn malu 'i gwan ymylon. T. T. P.
Y SEREN DDYDD.
Y SEREN DDYDD. Ar ol nos ar ael y nen-eirian ddaw'r Seren ddydd yn llawen Gloewa'r byd &'i disglaer ben, A'i thlysni t6'r faith iaanen. Llanwrtyd Wells. D. MATHIAS.
CREFYDD YN Y GOLWG.
CREFYDD YN Y GOLWG. Mae llawer o grefyddwyr llawn Yn rhodio'r uniawn lwybrau, Yn cario moesa buchedd goeth, Heb arfer aanoeth droiau Ond 0 I mae hefyd ger ein gwydd Rai mawr eu chwydd â'u tfoledd, A'u crefydd braidd yn cario n6d Y cysgod fwy na'r sylwedd. Mae'r rhai'n yn treulio llawer byd O'u bywyd a'u hymdrechion I actio'r grefydd loew, glir, Ddadbiygir mewn arwyddion; Maent yn y Capel mawr y Sul, Mewn helbul i'w ryfeddu, Yn rhuthro-weithiau o flaen yn ffol, Ac weithiau ar ol-wrth ganu. Mae ambell wr bonheddig doeth A'i chwaeth mor goeth, mor fanwl, Rhaid cau pob ffenestr, cau pob d6r, A'u hagor wrth ei feddwl Rhai ereill rodiant gyda rhwysg I mewn yn wysg eu trwynau Er inwyn amlygu gyda nerth Wick prydferth (?) eu hesgidiau. Ni ddeuant byth i le'n y byd 'Run pryd a phobl weddu8 'Rol dechreu'r maddion-glep a chlep Cewch wel'd eu gwep wageddus Gwell ganddynt warthus daflu dw'r Iwyneb gwr yr Arglwydd," Na bod ya ol na dydd na nos 0 ddangos eu hynfydrwydd. Mae'u holl feddylfryd ddydd a nos Am ddangos eu gogonianc, A dyna'u hamcan peua'n fyw, Tra'n Nheml Dduw cystadlant; Mae'u balchder crach-foneddig, sych, Eu chwydd, a'u clych ynfydrwydd, Yn halog fwrn yn nghyssegr trig Ein bendigedig Arglwydd. CYFFDY.
PENNILLION
PENNILLION Er coffadwriaeth am Ellen, anwyl wraig Mr William Jones, grocer, 1, Victoria Terrace, Upper Bangor, yr hon a fu farw, wedi cystudd maith, yr hwn a ddioddefodd mewn amynedd Cristionogol, Tach. 29ain, 1873, yn 62 mlwydd oed. 0 mae genyf destyn anwyl Dyma'r goreu i mi roed Cyfansoddi ber alargan Am un o'r duwiola' 'rioed: Nid oes arnaf ofn dywedyd Alai un dduwiol odiaeth oedd, Perarogledd ei rhinweddau Ydoedd trwy y wlad ar g'oedd. Un o ferched Salem ydoedd Ellen Jones ar hyd ei hoes Ac anwylyd pena'i henaid Oedd y Gwr fu ar y Groes Cafodd ynddo Ef ei bywyd, lachawdwriaeth a fydd byth Ymddiriedodd ynddo'n hollol Am ddedwyddwch pur dilyth. Pan y bwriodd hi ei choelbren Gyda 'chydig iawn o saint, Yn hen gapel anwyl Horeb, Teimlodd hyny yn fawr fraint Daliodd atti hyd y diwedd, Ysbaid deugain mlynedd faith Dyma oedd ei clian hi beunydd, Mae fy enaid yn y gwaith." Bu Rhagluniaeth arni'n gwenu, Ac yn gweithio gyda hi Ond yr oedd yn coiio'n wastad Mae'r tylodion gyda chwi Hwy oedd ei chyfeillion penaf Trwy ei bywyd yn y byd Braint oedd ganddi ro'i elusen I'w hanwyliaid hoff o hyd. Dioddefodd gystudd dirfawr, Broch oedd yr Iorddonen ddofn, Ond hi ga'dd y lie yn Beulah I fyn'd trwy y glyn heb ofn 'Roedd ei chrèfydd fawr yn gloawi Wrth ddynesu at y lie, A'i thystiolaeth yn hy cadarn Am ei hawl i deyrnas N e. Yn y dyffryn du ofnadwy, Y n yr hen fynedf a ddoln, Anhawdd iawn yw bod yn dawel, Anhawdd peidio teimlo ofn Ond ni frysia'r neb a gredo, Disgwyl am yr awr mae ef Porth marwolaeth a wneir iddo Yn borth prydferth teml y Nef. Cafodd hithau'r lie yn oleu, Chwalwyd erchyll niwl y glyn, Lamp Efengyl oedd yn crogi I oleuo'r fan fel hyn Ei thystiolaeth oedd yn eglur Am ei hawl i'r Nefol wlad Gwyddai na ch'ai byth ei daranio, Yn ol llw'r cyfamod rhad. Hi gaiff adgyfodiad dedwydd Pan y gwawria'r Jubili Boreu gogoneddus odiaeth A fydd hwnw iddi hi Daw o'r bedd yn anllygredig, I wisgo dillad Sul y Net, Ac i ganu yn ddiddiwedd Anthem cariad iddo Ef. Geill ei gweddw ymdawelu, Gwyr ei bod hi yn y Net; Hithau yno sydd yn disgwyl Y caiff etto 'i weled ei Clychau Eglwys anfarwoldeb Alwant ar y ddau yn nghyd Lie y cant dros dragwyddoIdeb Orfoleddu ar ei hyd. EGWISYN.
BWRDD YSGOL CAERNARFON.
BWRDD YSGOL CAERNARFON. Cynnaliwyd cyfarfod o'r bwrdd ysgol ddydd Llun diweddaf, pryd yr oedd yr oil a'r aelodau yn bresennol. Yn ol eglurhad a roddwyd, ymddengys mai nid y Parch. Herber Evans, ond y Parch. Evan Evans, ydoedd wedi rhoddi y rhybudd o'i fwriad i gynnyg ar fod i dreth gael ei chodi er cynnal yr Ysgol Frytanaidd. Wrth wneud yr eglurhad, cymmerodd y gwr parchedig o Salem ofal i hysbysu pris Llais y Wlad. Wedi myned drwy oruchwyliaeth yr ym- olchiad dwylaw ar ran y boneddwr o lafarwr, cododd y Parch. Evan Evans, gweinidog Wesleyaidd, i gynnyg y pen- derfyniad a safai yn ei enw, a dywedai fod pawb a bleidleisiasent drosto ef yn credu ar y pryd y codid treth ysgol.— Cefnogwyd y cynnygiad gan Mr John Da- vies (Gwyneddon), yr hwn a gredai y bu- I asai yn well i'r blaid wrthwynebol ei basio mewn distawrwydd. Yr oeddynt hwy yn eynnrychioli mwyafrif o'r trethdalwyr, pa rai oeddynt am dreth, ac yr oedd pawb yn disgwyl am dani. Yr oeddynt wedi dyweud yn yr etholiad os gallai eu gwrth- wynebwyr wneud heb dreth, y gallent hwythau, yr hyn oedd yr un a dywedyd— ni fyddai waeth i chwi geisio neidio i'r lleuad." Pe dysgasid Calfinistiaeth yn yr Ysgol Frytanaidd, yna dywedasai ef, ar bob cyfrif boed i'r Methodistiaid Calfin- aidd dalu am hyny ond yr oedd yn ysgol ansectarol. Yr oedd Mr Humphreys wedi dyweud ei bod yn ysgol annghrefyddol; ond dymunai ddyweud fod hyny yn gam- enw arni, ac mai yr enw iawn ydoedd ysgol secularaidd." Dymunai ef eilio y cynnygiad.—Cododd Mr Humphreys i gynnyg gwelliant i'r perwyl fod i appeliad gael ei wneud at yr Ymneillduwyr am roddion gwirfoddol er cynnal eu hysgol eu hunain. Dywedai, gan i'r Ymneillduwyr adeiladu yr ysgoldai hyn, y dylesynt eu cynnal eu hunain, yn hytrach na'u taflu yn faich ar Eglwys- wyr. Yr oedd eu trethi yn ddigon trym- ion eisoes, ac nid oedd angen am eu beichio yn mhellach. Yr oedd y dref yn cael ei chyflenwi ag addysg ragorol o'r blaen, ac nid oedd pethau yn gwella mymryn o dan gyfundrefn y dreth. Yr oedd yn hyfryd ganddo ef bob amser gyf- ranu at yr Ysgol Frytanaidd a'r rhai Gwladwriaethol pan ofynid ei gynnorthwy, ond yr oedd yn galed ei orfodi i dalu swm annheriynol tuag at ysgol oedd yn cael ei chario yn mlaen ar egwyddorion nad oedd ef yn eu cymmeradwyo. Dywedai mai yr hyn a ystyriai wrth annghre- fyddol oedd nad eglurid y Beibl yn yr ysgol Frytanaidd, na ddysgid esiamplau Beiblaidd, ac o dan gyfundrefn y dreth yr oedd tuedd i gau allan y Beibl.—Mr Newton, wrth eilio y cynnygiad, a ddy- wedai eu bod hwy, fel y blaid wrthwyn- ebol i'r dreth, mewn sefyllfa anfanteisiol ar y bwrdd, ar gyfrif eu bod yn y lleiafrif ond er eu bod yn y lleiafrif yn yr etholiad, etto yr oeddynt yn cyn- nrychioli y teimlad poblogaidd yn y dref yn erbyn treth ysgol. Y gwir bwngc ger, bron y dref ydoedd y gyfundrefn wirfodd- 01 yn erbyn cyfundrefn y dreth, ond gwnelid pob ymdrech i daflu llwch i lygaid y trethdalwyr, Yr oedd dau weini- dog yr efengyl wedi eu gosod ar y bwrdd gan eu cynnulleidfaoedd, yr hyn a ddang- osai yn eglur pa fodd yr oedd yr elfen grefyddol yn ymwthio i mewn, ac etto ceisid myntumio ei fod yn berffaith an- sectarol a secularaidd. Nid oedd dadl na fyddai yn ysgafnhad i arweinwyr y sym- mudiad hwn allu bwrw baich addysg oddi- ar ysgwyddau y cyfoethog i ysgwyddau y tlodion. Pa beth oedd plaid y dreth, pa rai oeddynt yn y mwyafrif ar y bwrdd, wedi ei wneud ? Yr oeddynt wedi taflu yr ysgol Frytanaidd ar y trethi, yr oeddynt yn benderfynol o fynu treth, yr oeddynt am wneud i Eglwyswyr dalu trethi tuag at yr ysgol Frytanaidd. Yr oeddynt hwy, y lleiafrif, yn gwbl ddiallu, ond yr oedd yr ysgolion Gwladwriaethol yn bnnan- /rvnnaliol. ac hob fod ar v dreth. Oal- -7 _v. 1/ Costiai cynnaliaeth yr ysgol Frytanaidd lawer mwy, heb son am ganlyniadau costus bwrdd ysgol. Pa beth oeddynt hwy, y lleiafrif, wedi ei wneud ? Yr oedd- ynt wedi bod yn gymdeithion ewyllysgar i daflu yr ysgol Frytanaidd ar y bwrdd, yr oeddynt wedi dyfal ysgoi teimladau anngharedig tuagat yr ysgol Frytanaidd; ni wnelent ddim a dueddai i attal addysg yn y dref, cynnorthwyent mewn gorfodi y plant i fynychu yr ysgol, ac i gyflawn ddadblygu yr ysgol Frytanaidd, ond an- nghyttunent gyda golwg ar y moddion drwy ba rai yr oedd i gael ei gyflawni. Yr oeddynt am roddion gwirfoddol, ac yr oedd y mwyafrif am dreth. 0 dan yr amgylchiadau hyn yr oedd yn rhaid idd- ynt ymostwng, ac nis gallent ond gwneud gwrthdystiad. Pa beth fyddai y canlyn- iad i'r gyfundrefn wirfoddol ? Byddai i'r penderfyniad annelu dyrnod ati, ac os bwriai hi i'r llawr, yna byddai yr holl addysg cyn hir yn cael ei daflu ar y dref. Bwrier fod yr holl ysgolion yn ennili grant o lOOQp., a byddai yn ofynol i'r dref gyfar- fod hyny a threth leol o looop., neu ni chaniatteid y swm gan y Llywodraeth, oblegid yr oedd yn ofynol i swm y grant gael ei gyferbynu a swm cyfartal yn lleol, neu byddai i'r Llywodraeth godi dirwy cyfartal i'r swm a fyddai yn fyr. Cych- wynent gyda threth o dair ceiniog, yr hyn oedd yn gyfrifiad annghywir am yflwyddyn hon, a byddai iddynt derfynu gyda deg ceiniog yn y bunt. Nis gallai pobl syl- weddoli hyn yn awr, ond byddai iddo raddol ymddadblygu, a byddai i'r dref ganfod eu bod hwy yn eu lie wrth wrth- wynebu cychwyniad bychan. Nid oedd ef yn sicr nad oedd y manteision addysg yn waeth y foment bresennol nag oeddynt cyn meddwl am y dreth. Yr oedd yn sefyllfa anymunol i'r boneddwyr gyferbyn gael eu hunain wedi eu dynodi a chychwyniad treth ysgol nad oedd angen am dani. Dymunai ef eilio y gwelliant.—Y Parch. Mr Evans (Salem), a ddywedai, mewn perthynas i'r ymadrodd annghrefyddol a ddefnyddid gan Mr Humphreys, ei fod ef wedi galw gydag athrawon yr Ysgol Frytanaidd, a chael fod yr ysgol yn cael ei hagor drwy ddarlleniad pennod a gweddi, ac mewn canlyniad nid oedd yr ysgolion yn "an- nghrefyddol." Ni fuasai waeth iddynt alw eu capelau yn annghrefyddol." Yr oeddynt wedi gwario cannoedd o bunau ar eu capelau, ac yr oedd rheswm da am danynt hwy a'r Ysgol Frytanaidd, oblegid cadwent addysg grefyddol yr Ysgol Wlad- wriaethol yn rhywle yn agos i'r marc. Credai ef pe buasai etholiad arall y buasent hwy ar ben yr ethol restr o gan- noedd. Gyda golwg ar fod yr ysgolion yn llai, yr oedd cant yn ychwaneg yn yr Ysgol Frytanaidd yn barod. Drachefn gyda golwg ar ymresymiadau Mr Newton, dylasai awyro ei hyawdledd cyn yr ethol- iad. Dygai yn mlaen statistics, ond gellid profi unrhyw beth allan o statistics. Yr oedd Ymneillduwyr yn cyfranu tuag at yr Ysgolion Gwladwriaethol. (Mr Newton a annghyttunai a hyn)—Mr Evans: Gallaf ei broii.—Mr Newton Gallaf fi brofi i'r gwrthwyneb. Nid wyf yngwybod am ondun a danysgrifia bum' swllt. Ni ddylech ei haeru os nad ydych yn alluog i'w brofi.- Mr Evans a appeliai at y Cadeirydd am attal yr aflonyddiad, ac yna aeth yn mlaen i ddyweud mai y coleg yn Nghaernarfon ydoedd y flynhonell o ba un y deuai ysgol- feistriaid yr ysgolion Eglwysig. Yr oedd yn caru gwrthwynebiad a chystadliad, a pha beth a ddeuai o honynt yn Nghaer- narfon hebddynt ?-Mr Humphreys a ddywedai nad ydoedd ef yn ystyried darllen pennod ac adrodd gweddi mewn ysgol yn cyfansoddi addysg grefyddol. Mr Newton a attebodd fod y cynnydd yn yr Ysgol Frytanaidd i'w briodoli i'r ffaith fod dwy ysgol wedi eu cau. Dywedai fod Mr Humphreys yn hollol yn ei le, nad oedd darllen y Beibl yn addysg grefyddol. Yr oedd yn angen- rheidiol egluro y meddwl mewnol. Yr oedd y fath addysg yn nacaol yn hytrach na chadarnhaol. 0 barthed y statistics, yr oeddynt yn berffaith gywir. Os nad oeddynt i gyfrif oddiwrth statistics, o ba le yr oeddynt i gael eu gwybodaeth am ffeithiau ? Os oeddynt yn gywir, yr oedd yn berffaith ddiogel ymresymu oddiwrth- ynt. Yna aeth Mr Newton yn mlaen i brofi ei haeriadau oddiwrth ganlyniadau yr arholiad, a phrofai fod swm y grant am y flwyddyn ddiweddaf yn cyrhaedd y cyfanswm o 750p; ac ond caniattau y cynnydd ar gyfrif rhoddi yr adran orfodol mewn grym, deuai y grant o'r diwedd yn 1,000p. Nid oedd y dreth o dair ceiniog yn sylfaenedig ar gyfrifiad cywir am y flwyddon hon, a dylai fod mewn gwirion- edd yn bedair ceiniog, ac erbyn diwedd y flwyddyn gallai fod yn bum' ceiniog y bunt. Wrth gwrs, byddai i'r bwrdd orchymyn treth o dair ceiniog, a byddent mewn dyled i'r bangc o gan' punt, a dichon lawer ychwaneg cyn terfyn y fiwyddyn.- Dywedai y Cadeirydd fod yn rhaid iddynt gario allan y ddeddf, oblegid os oedd yr Ysgolion Gwladwriaethol yn eu cael drwy grants, byddai yr un peth a thrwy dreth.-Mr Humphreys a sylwai y talai y dref yn lleol fwy drwy dreth, gan fod grants yn dyfod oddiwrth yr boll r,lad.-Y Cadeirydd a ddywedai y byddai iddo roddi y penderfyniadau i'r cyfarfod. —Dros y gwelliant, yn erbyn treth-Mr Owen Thomas, Mr Humphreys, a Mr Thomas Newton.—Dros y penderfyniad gwreiddiol, o blaid treth-Mr John Da- vies, y Parchn. H. Evans ac E. Evans a'r cadeirydd (Mr Pugh). Yna cyhoedd- odd y Cadeirydd fod y penderfyniad dros godi treth ysgol wedi ei basio, a phender- fyniad ar fod gorchyniyn am y swm o 200p yr hwn swm a godir o'r dreth fwr- deisiol. Wedi trafod ychydig fatterion dibwys yn mhellach, terfynwyd gweithred- iadau y cyfarfod.
[No title]
Hysbysid yn ddiweddar fod y Pab yn wael ei iechyd, ond erbyn hyn gwedir yr adroddiad yn swyddogol. Y mae adeiladwyr llongau a pheirian- wyr Clyde wedi penderfynu gostwng cyf- logau eu gweithwyr. Cynnaliodd gwasanaethyddion cwmniau y pum' rheilffordd sydd yn rhedeg i Man- chester gyfarfod, yn mha un y penderfyn- wyd deisebu y cwmniau i ganiattau ych- wanegiad yn y cyflogau ar gyfrif llafur y Sabboth.
CYDYMDEIMLAD A GWEITHWx*I…
CYDYMDEIMLAD A GWEITHWx* I PORTH Y PENRHYN YN YSTOP 1 SEFYLL ALLAN YN Y CHWABEJ* FONEDDIGION, Cynnaliwyd cyfario wythnos i'r Sadwrn diweddaf gan weiw1 wyr Porth y Penrhyn, pryd yr erfyn1^' arnaf fynegu, trwy gyfrwng eich newyaa" iadur, eu bod yn diolch yn y A10** gwresocaf i drigolion Bangor a'r amgP0^ !j oedd am y cydymdeimlad a'r haelioni !| gyffelyb a ddangosasant attynt pan yn e Ii oyfyngder oblegid y sefyll allan yn J Ii chwarel. Casglwyd y swm 0 152p 18S 6c. Cyfranwyd o'r swm uchod hyd y dydd. | enwyd, sef y Sadwrn wythnos i'r diweCl af, y swm o 150p Is 6c. Y gweddill J llaw y trysorydd yw 2p 17s; ac y j genyf yr hyfrydwch o hysbysu fod y sWUl yn cynnyddu yn barhaus. RICHARD ROWLANPS* d Thomas's Buildings, Bangor, Tachwect 12, 1874. I
Advertising
As a safe, permanent, and warranted cure fox I Scrofula, Scurvy, Bad Legs, Skin and Blood Dhreane8 J Sores of all kinds, we can with confidence M CLARKE'S WORLD-FAMED BLOOD MIXTURE. Sjid by Chemists everywhere. WONDERFUL EFFICACY OF MB CONGREVE'S RE^ JLR FOR CONSUMPTION.—See the new edition (116th) 9 '0{ George Thomas CoDgreve's book "On Consumpt^ the Lungs," or Decline, and the only Successful 1 j# ment," showing that formidable disease to be cU1ueg. in all its stages, with additional cases of cure, and <1 j. tions for patients consulting the author by letter. I; free from the author, Coombe Lodge, PeokhaBi, don, for five stamps. ot j Loss OF Six LIVES, AND PARTIAL DESTRUCTION THE LUNATIC ASYLUM AT AISNE, THROUGH THE 1 TION OF AN ORDINARY LUCIFER MATCH.—A 'j choly catastrophe has just taken place at Aisne, resu in the destruction of a great part of the Asylum, and the loss of six lives. It occured 9 jl one of the inmates setting fire to his bed by ligbtiDg ordinary match.' This is another striking insta11 the value of those Matches (Bryant and May'0) light only (when so desired) on the box. WHY SUFFERJ? RELIEF IS CERTAIN.—COUGHS, AsT bY DIFFICULTY OF BREATHING, are speedily cured Keating's Cough Lozenges, (recognised and reC. go mended by the Medical Faculty.) No remedy 1 effective. One Lozenge alone gives relief. They tain no opium, morphia, nor any violent drug, 3,11 be taken by the most delicate. One or two at bed ensures rest when troubled by the throat. Tbe rg prietor receives constantly the most gratifying ,^eis from those who have obtained great benefit froUJ use. Keating's Cough Lozenges, prepared by ThOwep Keating, St. Paul's Charchyard, are sold by lj mists, in boxes, Is 1 d and 2s 9d each. few FLORILINE !-FOR THE TEETH AND BREATH.- t drops of the liquid Floriline sprinkled on a wet t brush produces a pleasant lather, which thoro^j, cleanses the teeth from all parasites or impurities. 11 the ens the gums, prevent tarter, stops decay, gives t° teeth, a peculiar pearly whiteness, and a delightful ( rance to the breath. It removes all unpleasant risiDg from decayed teeth or tobacco smoke, Dgy Fragrant Floriline," being composed in part of and sweet herbs, is delicious to the taste, and ^e1?ttid» est toilet discovery of the age- Price 2s 6d for the hi. and Is per jar for the Floriline "Powder," f Chemists and Perfumers. Prepared by HENRY C. GAJJ 493, Oxford-street, London THROAT AFFECTIONS AND HOARSE ;Ess.-All-suffel"og Chemists and Perfumers. Prepared by HENRY C. GAJJ 493, Oxford-street, London THROAT AFFECTIONS AND HOARSENESS.—All-sufie^. from irritation of the throat and hoarseness will be ably surprised at the almpst immediate relief afforded^ the use of "Brown's Bronchial Troches." These "lozenges" are now sold by most respectable cheDii0ts this country at Is qd per box. People troubled wl;oBS) "hacking cough," a 2 "slight cold," or bronchial aífeot¡ed cannot try them too soon, as similar troubles, if ajc to progress, result in serious Pulmonary and AsthHfo affections. See that the words Brown's -^roflC'u^C) Troches" are on the Government Stamp around the --Manufaef,ured by JOHN 1. BROWN AND SONS, BOB" United States. Depot, 49*5 Oxford-street. Lendoo A ADVICE TO MOTHERS !-Are you broken in ."r by a sick child suffering with the pain of cutting t\VI!I' Go at once to a chemist and get a bottle of MHS. 1 ret SLOW'S SOOTHING SYRUP. immediately. It is perfectly harmless and pleasant to tabild it produces natural, quiet sleep, by relieving the c from pain, and the little cherub awakes as brig^^ a button." It soothes the child, it softens the & allays all pain, relieves wind, regulates the bowelS)^ is the best known remedy for dysentery and dw,Il bÍrs whether arising from teething or other causes, wj Winslow's Soothing Syrup is sold by Medicine everywhere at Is l|d per bottle. Manufactured i11 York, and at 493 Oxford-street, London. bait 1 VALUABLE DISCOVERY FOR THE HAIR.—If your is turning grey or white, or falling off, use The Mese Hail' Renewer," for it will positively restore in ever^e.iv Grey or White hair to its original colour, without 1 ingthe disagreeable smell of most Restorers." I)5111 the hair charmingly beautiful, as well as proniotinS artJ growth of the iiairVn bald spots, where the gland** ry not decayed. Certificate from Dr. Versmann on ,? ':CøJl bottle, with full particulars. Ask your Chemist for O. MEXICAN HAIR RENEWER," prepared by GALLUP, 493 Oxford-street, London, and sold by Ch9lIfl and Perfumers verywhere, at 3s 6d per Bottle.
Y PRIF FARCHNADOEDD CYlVInEIG.…
Y PRIF FARCHNADOEDD CYlVInEIG. 6 ABERGELE, Tach. 14.-Gwenith, o las 0c i J4S, yr hob haidd, 12s Oci 14s 0c yr hob; ceirch, 8s Oc 1 QC 0c yr hob; ffa, 00s 0c i 00s 0c yr hob; blawd ceircb, 3°* i 39s 0c y 240 pwys. ABERYSTWYTH, Tach. 10.—Gwenith, 6s 9c i 7'Jt I y mesur; haidd, 5s 9c i 6s Oc ceirch, 3s 3c i 4s |: mesur ymenyn ffres, 18c i 20c y pwys; ymeny0 16c i _17c y pwys; ednod, 3s 0c i 4s 0c y cwpl; PJ7 t Os Oe i Os Oc y mesur. t1 i BANGOR, Tach.13 .—Gwenith, 41s 0c i ^3fCQe', chwarter; haidd, 30s Oc i 33s Oc; ceirch, 23s 00 126sffres I blawd ceirch, 37s Oc i 38s Oc y 240 pwys; ymenyo cig i o 21c i 22c y pwys cig eidion, o 8c i JOc y pwys, defaid, o 8c i 9c y pwys; cig lloi, o 7c i 9c y pwy8, j CAERNARFON, Tach. 14.—Gwenith, o 42s °c 43s 6c y chwarter haidd, 30s 0c i 33s 0c y chwat, o ceirch, o 22s 6c i 24s 0c y chwarter; blawd cetfc 36s 0c i 38s 0c y 240 pwys. f DINBYCH, Tach. 11.—Gwenith, 14s 60 i 16s ii hob; haidd, 14s Oc i 15s Oc yr hob ceircb, o Is g j 8s 6c yr hob; ymenyn ffres, Is 8c i Is 9c y f tybiau bychain, Is 5d i is 6c y pwys. 4 DC LLANERCHYMEDD, Tach. 11.—Gwenith, 42s 0c i 0 y chwarter haidd, 30s 0c i 33s 0c y chwarter; 'oc +' 22s Oci 23s 0c y chwarter blawd ceirch, 23a i$8; y 240 pwys; pytatws, o 2s 6c i 3s 0c y 100 pv^ j ymenyn ffres, Is 6c i Os Oc y pwys; cig eidion, 0 Oc y pwys cig defaid, 9c i Oc y pwys hams cat goreu, o Is i Oc y pwys. Q0 LLANRWST, Tach. 12.—Gwenith, 16s Oc i ^Qei yr hob haidd, 13s 0c i 14s 0c yr hob; ceircb, o 8s 9s 0c yr hob blawd ceirch, 20s 00 i 21s Os yr oc pytatws, 5s 0c i 5s 0c yr hob ymenyn ffres, 0 Jj 0 1 2s 0c y pwys; cig eidion, 7c i 8c y pwys cig j 8c 110c y pwys. Q 1 LLANGEFNI, Tach. 12.—Gweaith, 40s 00 i IRCB chwarter; haidd, 29s Oc i 32s 0c y chwarter i 22s 0c i 23s 0c y chwarter blawd ceircb, 36s 37s 0c y 240 pwys pytatws, 4s 0c y 100 pwys f ffres, Is 7c i Is 7c y pwys; cig eidion, o 0c pwys cig dafad, o Oc i O'c y pwys. < tjl% I Argraffwyd a Chyhoeddwyd gan y Perchenog, Wtf WHITWORTH DOUGLAS, Argraffydd, &c., IIeo I Bangor, dydd Gwener, Tachwedd 20, 1874.