Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
IOBLOGAETH Y BYD.
IOBLOGAETH Y BYD. Hwyrach mai nid annyddorol fydd yr ystadegau canlynol mewn perthynas a'r ddaear Rhaniad. Mill. ysgwar. Poblogaeth. ^uropo 3,787,4b9 301,600,OOo Asia 17,326,794 794,000,000 Atnerica 15,813,592 84,524,000 Afnca 11,556,298 192,520,000 Oceania (Australia, &c.) 3,425,156 4,365,000 Cyfanswm 1,377,000,000 Rhenir y boblogaeth mewn pwynt o grefydd fel hyn :— Cnstionogion Protestanaidd. 76,000,000 Egiwys lihufain 170,000,000 Greek Orthodox Church 89,000,000 Cyfanswm < 335,000,000 Iuddewon 5,000,000 Mahometaniaid 160,000,000 Paganiaid. 200,000,000 Buddhiaid Asiaidd. 600,000,000 Y mae trigolion y ddaear yn siarad 3,064 ieithoedd adnabyddus, ynmharaiymae droB 1,100 o gredoau neu grefyddau yn bregethedig. Cyfartalecld oedran einioes Ydyw 33-i o flynyddoedd. Y mae y bed- 2 Waredd ran o'r boblogaeth yn marw cyn cyrhaedd 7 mlwydd oed; a haner cyn cyrhaedd 17 mlwydd oedd. Allan o 100 o bersonau, 6 sydd yn cyrhaedd yr oedran o 60 ac uchod, tra nad oes ond 1 mewn 1000 yn cyrhaedd 100; allan o 500 nid oes 1 yn cyrhaedd 80 mlynedd. Allan o'r mil o fihynau o bersonau byw y mae 32,000,000 Yl1 marw bob blwyddyn, 91,000 bob dydd, ^>730 bob awr, 60 bob munud, ac o gan- ■tyniad un bob eiliad.
Advertising
lAC HAD 0 ANHWYLDERAU Y FREST AC ACHOS MAITH o ASTHMA, ANWYD WEDI E1 ESGEULUSO, DBWY WAFF- ENAU PULMON AIDD DR LOCOCK.—Oddiwrth Mr liobinson, j^fleriwr, Trinity-street, Hull.—" Y mae eich Wafi'renau u monaidd yn wir ragorol at holl anhwylderau y frest, e ewa achosion maith o Asthma, ac anwyd wedi ei ^geuluso, gweithredant fel cyfaredd, gan ryddhau y est yn ebrwydd o phlegm geuledig, a rhoddi i'r claf £ Sg adfywiol a pheraidd, heb ofni mygu. Yr wyf yn iob ^dyddiol dystiolaethau dirifedi o'u heffeith- ^ydd, wedi cwbl fethu o bob moddion arall, &c., (jr -^ewn Asthma, Darfodedigaeth, Peswch, Anwyd, rh^, cymalau, a phob anhwylder Hysteraidd a Gewynol De° esmwJtliad uniongyrchol. Y mae iddynt flas 4,rt werth gau\bob cyfferiwr ya ol Is. l^c., •» ac lis. y fclyohaid.
LLITH MR. PUNCH.
LLITH MR. PUNCH. PONEDDIGION,-Mae yn ddrwg genym ein bod, oherwydd amgylchiadau ereill, yn analluog i anfon ond ychydig o ne- wyddion i chwi yr wythnos hon. A dyma hi yn awr yn dri o'r gloch prydnawn ddydd Llun cyn i mi ond yn unig afael yn yr ysgrifbin ac am hyny disgwyliwn gael ein hesgusodi am anfon llith mor ddiflas am dro, gan addaw anfon un well y tro nesaf. Neivyddion Pwysig I-Eu dau neu dri o'r bodau peryglus hyny, y rhai ydynt bob amser yn barchus iawn o'r llythyren V," ac yn barod i alltudio pob llythyren arall o fodolaeth, gyda chyfraith pen- pastwn," yn ymosod arnom yn ddidru- garedd yr wythnos ddiweddaf, a hyny oherwydd ein bod yn meiddio anfon llith- oedd i Lais y Wlad heb ymgynghori a hwy a'u ffasiwn Bygythient ein hyrddio oddiar chwareufwrdd amser i'r byd an- weledig, os na roddwn i fyny ein hyfdra o anfon ein barn am bethau a phersonau i Lais yWlad. Wel, pa beth a wnawn ? Ai ufuddhau i'r gweilch hunanol hyn, ai ynte canlyn yn mlaen ? Appeliwn at y darllenwyr am attebiad. Y mae rhyddid y wasg yn dra gwerthfawr yn ngolwg pob dyn gonest; ond y mae bywyd pob dyn yn fwy gwerthfawr ganddo nag hyd yn nod rhyddid ei hunan. Mae bachgen ieuangc, dibriod, yr hwn sy'n gweithio yn ddigoll ar y London and North Western Railway yn methu hebgor arian i brynu het i gadw ei ben yn ddi- ddos; ac wrth fod ei hen, "hen het," wedi myned mor garpiog a budr, y mae yn dymuno rhoddi ei achos o flaen y wlad er mwyn cael casgliad tuag at brynu het newydd yn ei lie—y casgliadau i'w cyfeirio i Compli?iients.Pregethwr gyda'r Hen Gorph, pan yn ymddiddan ag un o'r chwarelwyr o gymmydogaeth Waenfawr —Y pregethwr: "A ydyw Thomas acco ynawr?" Y chwarelwr "Ydyw, syr." Ho, he !—hym—m—m ie, sure! felly'n wir!" "Pa bryd dowch chi i fyny acw, syr?" "W e1, mi ddoi fyni acco'n bir fian i 'mweld a chwi." Tan- ciw, syr." Dof, sure-le ie ho he hym—m—m! Wel, didd da i chwi nawr, John." Dydd da i chi, syr," ebai "John," ac ymaith ag ef mor falch a chrynedig a phe buasai wedi bod yn ym- ddiddan a Gabriel ei hun. Rhyfedd y fath deyrnged o barch a delir i ryw wags o bregethwyr fel hyn yn yr oes ddiwygiadol hon, a hyny pan nad ydynt, lawer o hon- ynt, yn haeddu dim mwy o'r peth hwnw na rhyw beddlars ereill. Yn wir, bu agos i mi a methu dal fy nghynnwysiad wrth wrando ar y ddau a nodwyd yn sebon- eiddio eu gilydd, er mwyn edrych o honynt yn llyfnion ar faes Caernarfon y dydd o'r blaen. Dywedir fod y cig mor brin a drudfawr yn Llanberis fel ag y lladrattaodd rhyw adyn ddarn o drwyn ei gymmydog er mwyn porthi ei flys am gig. A ddylai yr awdur- dodau ei orfodi i dalu yn ddrud i'r dyn am ei drwyn, oblegid bydd yn golled fawr iddo ar ei ol ? Rhyfedd y fath fariaeth sydd yn poeni rhai creaduriaid yn y byd yma Mae yr hen bysgodyn mawr a fu yn poeni pobl tua Bontnewydd wedi ei "gladdu" am byth er dydd Sadwrn di- weddaf. Costiodd ei gynhebrwng 34s i'r undertaker; ac efe a gafodd gladdedigaeth respectable, oblegid yr oedd yno lords ac ysweiniaid lawer yn y gladdedigaeth. Heddwch i'w lwch." GWAS MR PUNCH.
[No title]
RHYFEDDODAU WY IAR.-Dywedyr enwog Sturii-" Pan eistedda iar i ddeori, bydd yr wy, cyn pen deuddeng awr, yn cym- meryd llinelliad o ffurf pen a chorff cyw. Diwedd yr ail ddydd gellir gweled y galon yn curo, ond ni welir y gwaed, a bydd y corph ar luii pedol ceffyl. Yn mhen deu- ddydd gellir canfod dau lestr gwaed, a'r curiad. Yn mhen 70 o oriau canfyddir esgyll, a gwelir dwy chwysigen ar y pen, i'r ymenydd, ac un i'r pig, a dwy i'r rhan flaen a'r rhan ol o'r pen. Oddeutu'r pumed dydd ymddangosa'r afu yn mhen saith awr wedyn ymddangosa yr ysgyf- aint a'r ystumog, ac yn mhen pedair awr ar ol hyny bydd y perfedd, y lwynau, a'r en uchaf yn weledig. Yn y seithfed dydd bydd yr ymenydd yn ffurfio yn sylweddol a chryno. Yn mhen 290 o oriau er de- chreuad y deoriad, agora y pig, ac ym- ddangosa cnawd ar y frest. Yn mhen pedair awr ychwaneg gwelir asgwrn y fynwes; chwe' awr ar ol hyny ymddang- osa'r asenau, yn ffurfio o'r cefn. Yn mhen 264 o oriau ymddangosa'r llygaid. Diwedd 355 o oriau bydd y pig yn cau ac yn agor, ac ar ddiwedd y 18fed dydd bydd yn canu gyntaf. Wedyn cryfha a thyfa yn barhaus, nes dryllio'r plisg am ryddid o'i garchar.
[No title]
Deallwn fod loan Glan Menai wedi en- nill cymmaint o ymddiriedaeth cwmni ys- wiriol y Prudential, mewn byr amser, ag i gael ei ddyrchafu yn brif oruchwyliwr dros ddosbarth Meirionydd, a bydd yn sefydledig yn Harlech.
--------'IHYN A'R LLALL, YMA…
HYN A'R LLALL, YMA AC ACW. MEISTRI GLYGWRS,—Os ydach chi'n cofio, gefis fy nisturbio ar ganol sgyfenu fy llythyr rwsnos dyweutha trw dderbyn telegrapht oddiwrth Mr Gladstone i ofyn nawn i fynd i ydrach am dano fo (wydd- och chi fod dynion mawr bob amsar yn derbyn llawar iawn o delegraphts), ac wrth gwrs fasa fo ddim yn bolite i mi wrtliod. Felly todd dim i neud ond cau'r llythyr i fyny fel y rodd o, a mynd off yn chwap, ys dywad y Southwalians, a dyna fel y gwneis i, a throi blaun y nhrwyn tua Penarlag. Ac miawn amsar fe gyrhaedd- is Gastell Hawarden, ac mi dynis yn llinin y gloch nerth braich ac ysgwydd, a churo y rapper nes dodd o'n spedan. Wyddoch chi, os byddwch chi'n wr go fawr bod yn anganreidiol gneud y ddau, rhag ofn i'ch traed chi oeri wrth ddisgwl i rywun ddwad i attab, a ddyliwn i mi gyflawni'r gwaith yn bur effeithiol, her- wydd cin i'r gloch orphan tincio dyna'r drws yn agor, a rhyw chap a chadach gwyn am i wddw fo, a golwg fel ryw hanar prist arno fo, yn gofyn-" Did you ring the bell, sir ?" "I should think I did," meddwn ina; "don't you think so?" Ond cin iddo fo gaul amsar i attab (wath ma'r chaps cydacha gwynion ma yn rhai cheeky ofnadwy lie bynag bo nhw, prun ai ar y stage fel ballad-singers, yn y pul- pud, ne yn flunkies-dim odds), dyma fi yn gofyn-" Is Mr Gladstone in ?" No, sir," medda Mr Flunkey, "but he is some- where about the park." 0, well, just send a word to him that Mr Sponc is here," meddwn ina. Duwch anwyl, dyma'r boy yn dechra bowio, scrapio, a chwm- anu, nes basach chi'n meddwl ma india- rubbar odd pob cymal ac asgwrn yn i gorpws o! 0, I beg your pardon, sir," medda fo, a'i drwyn miawn dwy fodfadd a hannar i'r llawr "Mr Gladstone has left commands, that if Mr Sponc called, he should be immediately sent for. Will you please to walk this way, sir ?" I miawn a fi, ac ar ol y boy i'r library. "Perhaps, sir," medda fo, you will find something to interest you here until Mr Gladstone arrives." 0 yes," meddwn ina, gan sticio'r gwydyr crwn yn nghongol fy llygad chwith, make yourself easy I am in no particular hurry." Off a fo, gan gau'r drws, a fina, er mwy pasio'r amsar, yn cymryd stoc o'r room; a'r hyn dynodd fy sylw i fwya odd llun ryw ddwsin ne ddau o fan seintia pyrthynol i Eglws Rhufan, a ryw groes ne ddwy wedi hanar i cuddio yn y corneli. Ond beth bynag i chi, dyma Mr Gladstone i fiawn, gan dynu i lewis i lawr, ac estyn i law yn eitha croesawus, gan ddeud—"How do you do, Mr Sponc ? I am exceedingly pleased to see you, We have not met since last summer, when you honoured me with a call in town; pray take a seat, and make yourself as comfortable as you can." 0, thank you, Mr Gladstone," meddwn ina, I shall make myself quite at home." Wel, yn awr, Meistri Glygwrs, dyma ni wedi dwad at yn gilydd-rwan am sgwrs. Er ma yn Sasnag roddan ni yn siarad, hwrach bydda well i mi roi o yn Gymraig yma, rhag ofn fod rhai o'ch dyrllenwrs yn medru Cymraig yn well na Sasnag, a fina wedi dangos bellach y medra i dipin o'r ddwy (fel y County Member for Anglesey). Mr Gladstone: « MycLdeuwch i mi, Mr Sponc, am dele- graphtio attoch chi; y roeddwn i'n dyheu am y'ch gwelad chi er mwyn caul tipin o sgwrs am betha y nol yr olwg sy arny nhw rwan." Mr Sponc "vV eI, syr, ella ina returnio'r compliment; fydda ina'n falch o gaul y fantas o dderbyn ne roi cynghor, a deud y meddwl yn gydwy- bodol, fel bo amgylchiada'n galw. Ond sut ma'r gwaith tori coed ma yn y'ch siwtio chi, syr, a phrun ydi'r howsa caul y rhein i lawr ynta'r Upas tree yn y Werddon?" Mr Gladstone: "Wel, Mr Sponc, ma raid i mi gyfadda ma job galad gas odd ton hyd y nod ddwy gangan o'r Upas, ond fe brofodd y drydydd yn mhell tuhwnt i fy nerth a fy mynadd i, ac ma 'n bwngc mwy gin i, pe cawswn i fy amsar i fynd trosodd ytto, a faswn i 'n myrath efo un o'r cynghena." Mr Sponc Wei, syr, ma 'n gwestiwn mawr gin ina hyfyd a nath y job ryw ddioni i chi, i'r Werddon, ne i'r dernas yn gyffredinol. Os ydach chi 'n cofio, chi gododd y row, todd dim agitation yn y Werddon am ddadgysylltiad, &c.; chi gododd y cry yn lecsiwn 1868, ac wrth gwrs fe neidiodd y pybyddion at y bait yn union, heb iddy nhw ddychmygu rioed feiddio gofyn am ffasiwn beth, ac fe neuthon i gora yn Lloegar, Scotland, a'r Werddon i'ch codi chi i awdurdod ac fel ma gwaetha modd, fe joiniodd Ymneullduwrs Cymru yr un- holy alliance, ac a gerddasant mraich yn mraich efo'r pybyddion i'r polling booths —prygethwrs mawr y Corph yn law-law efo Father O'Shea a Murphy, a diacon- iaid ac aeloda duwiol-frydig y cypelydd efo Pat Mullingen a Judy O'Connor, a'r cylyniad fu i chi fynd ar ben y faingc yn Downing Street, a chi godasoch ysbryd- ion rhy ddiawledig ac uwchlaw ych gallu i gystwng nhw, a bu raid i chi, o'ch bodd nech, anfodd, ysbeilio eglwysi protestan- aidd a dal cynyrch y lladrad fel tamad blasus o flaun danadd y cwn gwancus hyn er caul i support nhw, i'ch dal chi miawn pwer. Ac y roeddach chi a'ch plaid yn dadla, ond robio ych cyd-brotestaniaid, y bydda tywelwch mawr; ond, attolwg, Mr Gladstone, ar be ma'ch wholesale robbery chi wedi esgor ? Ai nid ar- Moes mwy ? Ai nid cynlyniad policy y dadgysylltiad ydi 'r Home Rule move- ment, ne miawn geiria erill dragio 'r dernas yn bedwar aelod a phen ? Ac i bwy yr ydan ni i ddiolch am hyn, tybad ? A ydi 'ch cydwybod chi 'n dawel; os ydi, attebweh ?" Mr Gladstone: "Wir, Mr Sponc, ydw i 'n meddwl y boch chi yn o dost wrtha i. Ddeudis i wrthoch chi o'r blaun tawn i 'n cael run amsar i fynd trosodd ytto y baswn i 'n meddwl cryn dipin cin myrath a'r busnts, a ma'n debig bod chi wedi gweld fel rydw i yn pitchio i'r Babaeth rwan-traethawd mawr yn y Contemporary Review, a pbamphlet ar ol hyny." Mr Sponc: Ydw, syr, ydw i wedi gweld y ddau." Mr Gladstone "W el, be ydi'r fern gyffred- inol am dany nhw yn Nghymru?" Mr Sponc: Wel, syr, rydw i'n ofni fod y llwch ydach chi wedi godi i radda wedi dallu rhai, a bod y bait wedi cymryd gyda'r Liberationists a rhyw gymint o'r Nonconformists." Mr Gladstone "Be ydi'ch barn chi, Mr Sponc, herwydd dyn- ion fel y chi raid leadio'r wlad wedi'r cwbwl, a gyddefwch i mi yn y fan yma dalu ryw fath o gompliment i chi. Rhaid i mi gyfadda, yn ol rbyn y welis i o hon- och chi ac y glywis am danoch chi, y deudwch chi be ydach chi'n gydwybodol gredu sy'n i le, yn annibynol ar unrhyw blaid boliticadd." Mr Sponc: 0 thanci, syr dyna ydw i'n dreio neud, ac ydw i'n ddiolchgar i chi am addef hyn, ac am fod yn ddigon byneddigadd i ymddwyn yn gyfeillgar tuag attaf pan yn y'ch gwrthnebu; a chin bod chi wedi gofyn am fy marn i, mi cewch hi yn ddidderbyn- wynab. I mi, syr, ma'r pamphlet yn ymddangos fel ryw bid am popularity." Mr Gladstone Sut felly, Mr Sponc, herwydd ddaru chi ddeud y mynyd ma, ma trucklio i'r Pabyddion roeddwn i, ond dyma fi rwan yn pitchio iddy nhw'n iawn?" Mr Spone "Eitha gwir, syr; ond peth od iawn na fasa chi wedi gweld y Babaeth yn yr un gola ddwy ne dair blynadd yn ol. Rodd y decrees y run am- sar hono yn union ac ydy nhw rwan. Pan roeddach chi yn caul y'ch dal miawn anrhydadd gin y Pybyddion, rodd y de- crees hyn yn hollol ddiniwad yn y'ch golwg chi; ond wedi i Mr Disraeli gaul i ddewis a'i godi i awdurdod gin fwyafrif mawr y lecsiwn ddyweutha, a hyny ar strength y Protestant ticket, dyma chitha rwan yn taflu dros y bwrdd y'ch hen ffryndia, ac yn mynd i'r un line, a threio dwyn i ffryndia fo oddiarno fo. Wyddoch chi o'r gora, a'ch plaid hyfyd, ma ticket Mr Disraeli ers blynyddodd odd yn dal i fyny a nerthu hen syfydliada Protestanadd ein gwlad yn erbyn ymosodiada dichell- ddrwg a pheryglus y Babaeth, a chitha a'ch plaid yn pw-pwio'r peth amsar hono; ond rwan, dyma chi yn troi round ac yn dwad i'r un fan. Ma hyn yn ymddangos i mi yn very suspicious, yn enwedig os cofiwn ni fod Mr Disraeli wedi caul digon a faiority yn annibynol ar yr Irish Home- Rule members—ne miawn geiria erill, tools Cardinal Cullen. Hwrach fod chitha'n meddwl rwan ma'r Protestant ticket ydi'r tybyca i'ch cario i awdurdod yn ol. Ma'r Ymneillduwrs, ddyliwn, yn credu y bod chi wedi dychwelyd i'r gorlan, ac yn foddlon i'ch derbyn ytto yn leader iddynt. Ma'n ddiama fod cymodi'r adran yma o'r Great Liberal Party yn y'ch meddwl chi pan yn sgyfenu'r pam- phlet, a diau y gwnewch yn fuan upas tree o'r Church of England, os na fydd cariad at y syfydliad wedi gwreiddio yn rhy ddwfwn yn ein gwlad, fel nas gall uchel- gais ychydig o boliticians, na Hid na chyfigan Nonconformists tangnefeddus beri niwad iddo. Gwell, yn fy meddwl i, Mr Gladstone, fasa i chi sefyll i fyny dros Brotestaniath pan oeddach chi miawn awdurdod, a pheidio trucklio i'r Babaeth, na threio gneud stwr fawr rwan pan rydach chi'n meddwl y troith hyny yn trump card i chi. Tasa chi wedi bod dipin mwy ffirm amsar hono, a pheidio rhoddi tools Cardinal Cullen yn mhob position o bwys yn y Werddon, ma'n debig na fasa pretensions y Babath yn blino cimin ar- nach chi rwan, a fasa dim anganrheid- rwydd i chi sgyfenu y'ch expostulation- fasa'r gydwybod yn dawal heb hyny." Mr Gladstone Ddeuda i ddim byd i gondemnio fy hun, Mr Sponc ond na i gyfadda boch chi yn gweld yn o bell." Mr Sponc Os ydw i'n gneud cam a chi, myddeuwch i mi." Mr Gladslone All right, Mr Sponc; rydach chi wedi deudy ch barn, ac ma gin i barch i chi am hyny a chan fod rhaid i chi fynd, pa bryd ca i y'ch gweld chi ytto ?" Mr Sponc Gyrwch air, syr ac os na bydd rwbeth garw, byddaf yn wastad at y'ch gwasanath. Nos dawch, Mr Gladstone." Nos dawd1, Mr Sponc; diolch i chi am ddwad, er boch chi wedi bod no chwerw." Robin SPOKC.
LLOFFION O'R DEHEUDIR.
ol y dystiolaeth feddygol, yr achos o'i marwolaeth ydoedd clefyd y galon. Dych- welwyd rheithfarn yn unol a'r dystiolaeth. ABERDAR.-Tua naw o'r gloch nos lau cyn y diweddaf, cyfarfyddodd dyn o'r enw Lewis Morris a damwain arswydus. Yr oedd yn ngwasanaeth y Mri. Davies ac Evans, masnachwyr mewn gwair, yn Lewis-street, ac ar yr adeg a nodwyd yr oedd yn tori chaff. Gweithid y peiriant gan ager. Ehywfodd yn anffodus i'r dyn druan, aeth ei law aswy i'r cyllyll, a dir- wynwyd ei fraich i mewn, nes iddi gael ei thori bob yn hanner modfedd o flaen ei fysedd hyd yn agos i fon ei fraich, ac oni buasai fod dyn arall yn y fan a'r lie ar y pryd, yr hwn a drodd y peiriant yn y gwrthol, buasai ei holl gorph, yn ol pob ymddangosiad, yn cael ei ddirwyn i mewn yn yr un modd arswydus. Yr oedd ei ysgrechiadau yn arswydus. Daeth medd- yg i'r fan yn mhen ychydig oriau a gwein- yddodd arno, a da genym ddeall fod go- baith am ei wellhad. Y mae oddeutu tri- ugain mlwydd oed. PENYCLAWDD.—Dydd Sadwrn cyn y di- weddaf, cynnaliwyd trengholiad yn y Ship and Castle Inn, yn y lie hwn, o flaen Mr Jackson, ar gorph un Thomas Jones, pilot. Yr oedd y trangcedig yn 63 mlwydd oed. Cwympodd i lawr yn farw ar y traeth prydnawn y diwrnod blaenorol. Ym- ddengys ei fod gyda dau ereill, wedi myned i lan y mor, pan yr oedd y llanw yn cilio, er mwyn casglu pysgod allan o'u rhwydau. Gwelwyd ef yn cwympo i lawr, a rhedodd ei gymdeithion atto yn y fan, a mawr oedd eu syndod pan ganfyddasant ei fod ef wedi marw. Dygasant ei gorph *'r lan mewn cwch, a chyrchwyd meddyg atto, yr hwn a ddywedodd ei fod wedi tttarw o glefyd y galon. Ymddengys fod y truan, ers ychydig amser yn ol wedi de- chreu cwyno oherwydd poen a deimlai yn ei frest. Dychwelwyd dedfryd yn unol a'r ffeithiau hyn. CAERDYDD.-Dydd Gwener diweddaf, ceisiodd dyn o'r enw William Llywelyn, 48 mlwydd oed, roddi terfyn ar ei fywyd, trwy dori ei wddf ag ellyn ar yr heol yn y dref hon. Wedi gwneuthur toriad mawr yn ei wddf, ceisiodd ddiangc i dy ei berth- yuas, Detective Sergeant Newman, ond aethpwyd ag ef ar unwaith i'r Ysbytty. Tybiwyd ar y cyntaf na fuasai yn bossibl achub ei fywyd, oherwydd ei fod wedi colli cymmaint o waed, ond ymddengys ei fod allan 0 berygl yn bresennol. Nid ydyw etto wedi gwneuthur adroddiad o'r achos- ion a barodd iddo geisio lladd ei hun. PONTARDULAIs.-Cymmerodd damwain le yn y lie uchod dydd Iau cyn y diweddaf, pryd y torodd tren llwythog o 16 i lawr yn agos i siding Gravesend, mewn canlyniad ir hyn yr attaliwyd trafnidiaeth y reil- ffordd am amser maith; ond y mae yn dda genym hysbysu na chollwyd bywyd neb, a gwell na hyny na chafodd neb eu niweidio. IEVAN AWST.