Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
: Y DEHEUDIR.
Y DEHEUDIR. (ODDIWRTH EIN GOHEBYDD.) Yn mis Medi diweddaf, cymmerwyd gwraig briod o'r enw Ford yn glaf yn Abercaniad. Yr oedd y teulu yn dlawd, a rhocldodd y meddyg orchymyn iddi gael bwyd maethlon, a rhoddodd ei gwr yr order i'r relieving-officer, ond ni welodcl y swyddog hwn fod yn dda i dalu un sylw i'r matter, a bu y fenyw farw ac yn ol y dystiolaeth feddygol, hyrwyddwyd ei marwolaeth trwy esgeulusdra. Con- demniodd y rheithwyr ar y cwest ym- ddygiad y swyddog. Cyffrodd hyn ddig- ofaint Mr G. T. Clarke, Dowlais, y cadeir- ydd, a Mr Rhys, penswyddog, ac un o aelodau y bwrdd. Esgusododd y relieving- officer ei hun trwy ddywedyd ei fod yn sal. Dywedodd y ddau foneddwr uchod fod hyn yn hollol foddhaol, a gwnaethant ymosodiad cas ar y crwner a'r rheithwyr. Anfonodd Mr Overton, y crwner, lythyr at y Local Board, ac anfonodd yr olaf lythyr at ysgrifenydd y bwrdd, yr hwn oedd yn cynnwys CQrydd llym ar y swyddog, ac wrth gwrs ar y bwrdd, canys darfu iddynt gymmeradwyo yr hyn a wnaeth eu swyddog. Cofiwch mai Rhyddfrydwyr yw y Meistri Clarke a Rhys, a'r rhan fwyaf o aelodau y bwrdd. Edrychwn ar bictiwr arall. Bwrdd Undeb Casnewydd cadeirydd, Arglwydd Tredegar. Menyw barchus o flaen y bwrdd yn gofyn am help oherwydd fod ei gwr wedi ei gadael. Nid oedd y gyfraith yn caniattau dim iddi. Dywedodd, pe buasai ganddi fodd i fyned yn ol i Loegr, na fuasai iddi ofyn am ddim. Nid oedd dim i'w wneud ond iddi fyned i'r gweith- dy. Y Cadeirydd Anrhydeddus Tru- enus i'r fenyw fyned i'r gweithdy. Os yw y gyfraith yn nacau help iddi, nis gall gau fy mhoced i. Dyna dair punt i chwi i fyned adref." Dyna Dori i chwi. Y mae y mis hwn yn hynod am gawod- ydd goruchionllyd, ac y mae eleni wedi bod yn gyfoethog o gawodydd areithyddol seneddwyr. Dydd Llun yr oedd gweinid- ogion y Llywodraeth yn y Mansion House, a disgynodd haid o betrysod seneddol nos Iau yn Mryste, ar yr achlysur o wledd flynyddol Colston. Siaradodd Mr Stans- feld yn daranllyd yn erbyd Act y Clefyd- au Heintus. Yr oedd yn siarad yn union fel pe buasai y Toriaid yn attebol am dani; ond methodd Mr Goschen gael tes- tyn i siarad. Yr oedd ef yn meddwl y buasai i Mr Disraeli ollwng y gath o'r cwd ddydd Llun. Gwrthododd y Prif- Weinidog gerdded i fewn i barlwr y pryf copyn. Yr araeth nos Lun oedd un o'r rhai goreu a draddododd Mr Disraeli ers llawer dydd. Y mae y sibrwd a daenwyd fod Mr Disraeli ac Ardalydd Salisbury wedi cweryla wedi troi allan fel stori y "fran ddu." Ceisiodd y Mr (Philanthro- pist) Morley berswadio ei wrandawyr yn Colston Hall, na fydd i Syr Stafford Northcote fod yn alluog i dafoli y cyllid a'r draul yn mis Ebrill. Pwngc mawr y Rhyddfrydwyr yr wyth- nos yma yw cyhoeddiad pamphled Mr Gladstone ar deyrngarwch aelodau Eg- lwys Rhufain. Torodd Mr Gladstone ei blaid ei hun, ac y mae yn ceisio tori Eg- lwys Rhufain i fyny. Y mae y Pabyddion yn ddigllon ofnadwy, o'r hen Bio Nono i lawr. Dywedodd y Pab, mewn natur ddrwg, i Mr Gladstone ddyfod allan yn sydyn fel gwiber i ruthro ar long St. Pedr. Dywedodd yn ei erthygl ar Eifcualyddiaeth nad yw yn bossibl i dclyn droi yn Babydd heb werthu ic ei ryddid moe&ol a meddyliol, a gosod ei deyrngarwch dinasol i gadw i un arall. Y mae hyn wedi poethi gwaed Pat i J ever heat; ac y mae cyfeillion Mr Gladstone wedi ysgrifenu atto i ymresymu ag ef, ac y mae yntau yn gwneud yr un peth. Cyfeiria at orchymyn a ddaeth allan o'r Vatican fod yn rhaid i bob Pabydd gredu yn anffaeledigrwydd ei Sancteiddrwydd o Rufain, a bod gan y Pab awdurdod i orfodi pobl i ufuddhau iddo ef yn hytrach nac ufuddhau i'r awdurdodau gwladol, dan ba rai maent yn byw. Y mae yn syndod i feddwl fod dynion goleuedig fel y mae miloedd o Babyddion, yn credu yn y fath ffiloreg blentynaidd ag anffaeledigrwydd dyn meidrol; ond beth dal siarad, nis gellir rhoddi cyfrif am wendidau pobl. Y diwrnod o'r blaen ymddangosodd hanes perindod i Ffraingc. Dywed y Pab fod Mr Gladstone wedi dottio ar lwyddiant Bismark; ac y mae ef am i Loegr wneud yr un peth ac nad yw y cyhuddiad ddim ond cabldraeth noethlymyn. Haera Syr George Bowyer, udgorn pres y Pab yn Lloegr ei fod ef mor deyrngarol ag un Protestant. Y mae yn syndod na fuasai i Mr Gladstone ddyfod i'r maes yn erbyn trawshoniad Eglwys Rufain pan oedd ef yn Brif AVeinidog. Yr oedd ef yn gyfeill- gar ag Eglwys Rufain yn 1870, dinystriodd Eglwys yr Iwerddon er eu boddloni, a rhodclodd yr Ymneillduwyr help Haw iddo. Yr oedd y Pabydd a'r Protestant Ymneill- duedig fel Herod a Philat yn sefyll ysgwydd wrth ysgwydd, a phob un a'i fwsged yn saethu at Eglwys Brotestanaidd yr Iwerddon. Pwy ymddiried a ellir roddi mewn dyn sydd yn gallu chwythu oer a brwd ar yr un anadl? Y mae y cyfryw ymddygiad yn peru i ni amheu ei egwydd- orion politicaidd, pa un a ydynt yn ddi- ffuant ai peidio. Y farn gyffredin yw mai ei amcan yw palmantu y ffordd yn ol i Heol Downing, ond nid yw yn debyg o lwyddo am dro o leiaf. Dygwyd dyn ieuangc o'r enw Thomas Henry Carstairs Boyle o flaen ynadon y Gelli, i atteb y cyhuddiad o ysbeilio dillad o fonachlog y Tad Ignatius yn Llanthoni. Twyllwr i'r pen yw y llangc. Nid oedd ei stori am greulondeb y Tad tuag atto, ddim ond anwiredd. Anfonwyd ef i'r felin draed am chwech wythnos. Caiff y bar- bwr ei arbed rhag tori ei wallt gwnawd hyny pan dderbyniwyd ef i'r frawdoliaeth. EISTEDDFODAU, EISTEDDFODAU.—Y mae un "Goronwy" yn y Western Mail yn actio fel fflangellwr ar y man eisteddfod- au; ac y mae yn dywedyd llawer o wir- ionedd am danynt. Y maent yn anfri ar enw y sefydliad hynafol. Ni fu cymmaint o ganu erioed ag sydd yn awr. Canu oedd yn Aberhonddu ac yn Hwlffordd ar ben y glwyd. Pa les a all holl wobrau y canu yma ? Nid yn ami yr ym yn cael y fath dy- wydd braf yr amser yma o'r flwyddyn. Y mae egin y gwenith yn edrych yn rha- gorol. Cafodd Mr Phillip Williams, maer Aberystwyth, ei ail ethol am flwyddyn arall. Cymmerodd ychydig o eiriau croes- ion le ar ei ail etholiad. Yr oedd Mr Williams yn y flwyddyn 1869 yn groes i un maer lanw y swydd am fwy o amser na blwyddyn. Pasiodd Bwrdd Undeb y Tlodion, Tre- garon, bleidlais o gydymdeimlad a Daniel J. Evans, Ysw., Garth-, y cadeirydd, ar farwolaeth Mrs. Evans. Y mae y Local Government Board wedi anfon gorchymyn i adeiladu Gweithdai i'r Undeb yn Nhregaron a Llanbedr. Y maent wedi ymrwbio heb yr un er pan ffurfiwyd y byrddau hyn. Y mae yn arferiad yn Aberystwyth i fenywod i werthu afalau a fferlias," ieir, hwyaid, cenm,5 tatws, a wynwyn, &c. Y mae hyn yn annghyfleus, a cheisiodd y Cynghor Trefol eu symmud, ond nid yw hyn yn gyfreithlon. Y mae yr arferiad yn hen cyn cof gan neb. CRAIG Y FOELALLT.
Y GOHEBYDD GWIBIOL.
Y GOHEBYDD GWIBIOL. PONTFAEN.-Iolo Morganwg.—Ganwyd y dyn rhyfedd hwn yn ardal Pontfaen, yn Nhrefleming, Flimstone. Mab i saermaen o'r plwyf uchod oedd Edward Williams, a'i fam oedd ysgolfeistres. Bwriadodd ei dad ei ddwyn i fynu yn yr un grefft ag ef. Yr oedd yn hoff o ddadleu o'i fabandod, a phan yn myned at ei waith, yr oedd yn arfer cario ei gwdyn llyfrau ar ei gefn. Yr oedd ei dad ac amryw weithwyr ereill yn adgyweirio persondy yn y gymmydog- aeth, un diwrnod, ac ar amser ciniaw aethant oil i dafarn, a gadawyd Nedi i warchod y ty; ond mor fuan ag y troesant eu cefnau, aeth Ned at ei ivallet. Pan ddychwelasant yr oedd hi yn draed moch yn y ty,—moch, hwyaid, gwyddau, ac asyn mewn meddiant o'r drawing-room, a Ned mewn dwys fyfyrdod yn yr ardd. Aeth ei dad i dymher ddrwg, a chododd Ned ei bac a ffwrdd ag ef i Lundain, a chollwyd golwg arno am gyfnod. Daeth yn ddyn mawr dan anfanteision. Cyfaneddai yn Mhontfaen, lie yr oedd yn cadw siop. Yr oedd yn elyn mileinig i gaethfasnach, ac ar y sign uwcbben ei siop, yr oedd y geiriau canlynol Sugar sold here not stained with human gore." Gadawodd perthynasau swm o arian iddo a en- ilillasant mewn caethfasnach, ond gwrth- ododd eu derbyn. Yr oedd yn arfer cerdded i Fryste o'r Bontfaen. Yr oedd yn digwydd bod yno pan daflwyd mesur yr anfarwol Wilberforce allan, a chanwyd clych y ddinas o lawenydd. Ffromodd lolo yn ddychrynllyd, ac adref ag ef heb wneud ei fusnes, ac heb fwytta dim. Yr oedd yn ddyn cymmedrol iawn nid yfai ddim ond te, ac yr oedd yn hoff o'r ddeilen sydd yn lloni dyn heb ei feddwi. Yfodd un gwppanaid-ar-bymtheg yn y Dun- raven, cyn codi unwaith. Drwg dybiwyd lolo o fod yn Jacobiniad. Gosododd lyfr yn y ffenestr a'r geiriau hyn arno, Holl iawnderau dyn." Medd- yliodd un ag oedd yn ei wylied ei fod wedi bachu Iolo, ac aeth i fewn, a gofynodd am y llyfr # The Whole Eights of Man," ac wedi iddo ei brynu, gwelodd mai Bibl oedd, a dywedodd, Yr oeddwn yn medd- wl mai iawnderau dyn oedd." Pa le y cewch iawnderau dyn mor gyflawn ag y ceir hwynt yn y Bib 1 ?" gofynai Iolo, ac aeth y dyn allan yn ddigon dillas ei big. Nid oes hanes iddo farchogaeth ar gefn ceffyl ddim ond unwaith yn ei oes, pan oedd ei dad ar ei wely angeu. Yr oedd yn cadw ceffyl i gludo ei. nwyddau, ac arferai ei ganlyn fel ci i Gaerdydd. Talai y turnpike, a phrynai dorth chwech i'r ceffyl. Tra byddai lolo yn cymmeryd lluniaeth yn nhy Mr Vachell, yn Nghaer- dydd, arosai y ceffyl o'r tu allan. Dy- wedodd y diweddar Dr. Vachell wrthyf ei fod yn cofio am lolo, ac am ei afiechyd olaf-hen wr tal, teneu, cot las a bot- tymau gloewon, a'i wallt yn hirllaes. Yr [ oedd yn ferthyr i'r asthma, ac ni fu mewn gwely am flynyddoedd meithion. Yr oedd yn arfer cario ffon, yr hon oedd yr un uwchder a'i glust. Yr oedd i'w weled yn teithio o fan i fan a'i gwd llyfrau ar ei gefn. Yr oedd ef naill ai yn darllen neu ysgrifenu. Yr oedd yn adnabyddus a phob cwm a nant, eglwysi, castelli, &c. Casgl- odd beth anferth o hanesyddiaeth, cy- hoeddodd y Salmau ar gan, bugeilgerddi yn Saesneg,ac y mae < £ Iolo's Manuscripts" a gyhoeddwyd gan Mr Rees, Llanymddyfri, yn gyfrol werthfawr. Y mae ei law ys- grifau yn awr yn Llanofer. Yr oedd yn cael derbyniad caredig yn y palas a'r bwthyn. Un tro yr oedd ef yn aros yn mhalas Aber- gwily, ac ni wyddai neb ei fod yno ond yr Esgob. Cysgodd yn y gadair yn y llyfr- gell, a rhyw amser yn y nos dychrynwyd y gwasanaeth-ddynion wrth glywed dyn yn cerdded o gwmpas. Pan welodd un ohonynt ef a chap nos am ei ben, galw- odd yr holl dy i fyny. Yr oedd yn arfer codi o'i gadair ar ol cysgu ei hun allan. Yr oedd Southey, Pope, ac enwogion ereill yn gyfeillion mawr iddo. Cyhoeddodd Elijah Waring ei adgofion am Iolo, The good old lola," fel yr oedd Southey yn ei alw. Dylasai cenedl y Cymry godi cof- adail i Iolo Morganwg am ei wasanaeth cenedlaethol; ond cenedl ddifater ym ni. Cludwyd corph mab lolo Fardd Glas mewn trol o Bontfaen i fynwent y Coity. Iolo Fardd Glas oedd awdwr y gan bert i fro Morganwg-" The Vale of Glamorgan, the Garden of Wales." YSTRAD OWEN.-Peiatref bach pert yw hwn, tair milltir o Bontfaen, lie y cyfan- neddai Owen ab Cyllin, tywysog Morgan- wg, a nodir y fan gan dwmpath o bridd, gerllaw y fynwent. Y mae y lie hwn yn enwog mewn hanesyddiaeth Gymreig. Cynnelid eisteddfod flynyddol yma, dan nawdd teulu Hensol. Cynnaliwyd yr eis- teddfod ddiweddaf yma y 28ain o Fai, 1720. LLANDOCHA (WY), PONTFAEN.-Perialor y plwyf hwn un amser oedd John Walters, yr hwn a fu farw yn 1797, awdwr y Geir- iadur Saesneg a Ohymraeg. Gwr enwog am ei ddysg a'i athrylith, ac awdwr am- ryw weithiau ereill a phregethau, oedd ef. Llanwodd y swydd bwysig o brif athraw ysgol Pontfaen. Yr oedd hen deuluoedd Morganwg yn bleidwyr selog i'r sefydl- iadau Cymreig. Yn y fiwyddyn 1681, cynnaliwyd yr orsedd olaf yn Nghastell Bewper, Beaupre, Maes Essyllt, dan nawdd Syr Richard Basset, un o olafiaid Syr Phylipp Basset, St. Hilary, Pril Earnwr y Deyrnas yn amser y Brenin loan.. Yr oedd Bewper yn gastell ardder- chog, yn neillduol y cerfiadau, gwaith Haw brodor o'r enw Risiart Twrch. Yr oedd y teulu hwn yn byw ar lan yr afon Ogwr am oesau. Chwarelwyr oeddynt wrth eu galwedigaeth, ac yr oedd gan- ddynt chwarel free-stones yn Aberogwr. Yr oedd y ohwarel yn nbeyrnasiad lor- werth VI. ac Elizabeth yncael ei gweithio gan ddau frawd, Eisiart a William. Cwympodd y ddau mewn cariad a'r un ferch, yr hyn a achosoddlawer o gwerylon ac eiddigedd. O'r diwedd, addunedasant na fyddai i'r naill siarad a'r Hall. Ei hyny, yr oeddynt yn parhau i gydweithio, ac yr oedd y gwaith, os byddai angen am help, yn cael ei gario yn mlaen trwy am- neidio. Pan wybu y ferch hyn, gwnaeth hithau lw na siaradai ag un ohonynt. Aeth Risiart yn bruddglwyfus, a gadaw- odd y wlad, ac ni chlywyd dim o'i hanes am ugain neu ddeng mlynedd ar hugain. Arhosodd yn ystod yr amser yma yn Llundain, Paris, Itali, a gwledydd traws- forol ereill; a gweithiai ei grefft fel nadd- wr ceryg. Astudiodd archadeiladaeth a cherfiadaeth yn eu holl ganghenau, a daeth yn feistr ar ei waith. Pan ddych- welodd, cafodd yr hen chwarel yn segur, a'i frawd yn gweithio chwarel newydd yn Mhenybont. Agorodd Risiart yr hen chwarel. Tynodd ei waith sylw neillduol boneddigion Morganwg, a rhoddodd Syr Richard Basset iddo y gwaith i gerfio y free-stones at adeiladu y castell. Y mae gorwychder y castell wedi myned, ac y mae ers amser wedi cael ei droi yn fferm- dy. Dylwn nodi mai Risiart Twrch oedd y cyntaf a ddysgodd adeiliaeth Groegaidd i'r wlad hon. GOHEBYDD GWIBIOL.
LLOFFION O'R DEHEUDIR.
LLOFFION O'R DEHEUDIR. LLANWENOG.—Dydd Gwener, y 7fed cy- fisol, oedd ddiwrnod a gofir am amsei maith gan drigolion y cymmydogaethau hyn, dydd a gerfiwyd yn ddwfn ar galonau llawer o wyr, gwragedd, a phlant. Cad- wyd ef yn wyl o lawenydd er anrhydeddu yr amgylchiad pwysig o'r undeb a wnaed mewn glan bnodas rhwng Mr James Evans, mason, Cwmsychbant, gyda Miss Eachel Davies, trydydd ferch Lewis a Hannah Davies, Dreiach Mill, ger y lie hwn, pryd y gweinyddwyd ar y achlysur gan y Parch. Evan Alban, y curad. Yn gynnar ynyprydnawn deuai tyrfaoedd, yn hen ac ieuangc i dy y briodasfereh, lie yr oedd parattoadau helaeth wedi eu gwneuthur ar eu cyfer gan Mr a Mrs Davies a'u teulu caredig, o dan gyfarwydd- yd Mr Evan Evans, Penpomfren. Wedi gwneuthur cyfiawnder a'r danteithion, aeth yr holl gynnulliad i ystafell arall, lie yr oedd cryn rialtwch yn cymmeryd lie, megis canu, areithio, &c. Yr oedd hen gloch y llan a'i llais peraidd yn adseinio trwy gydol y dydd. Yn yr hwyr rhoddwyd three cheers calonog i'r par ieuange nes oedd y creigiau o amgylch yn diaspedain, pryd y terfynwyd gwaith y dydd. Priodas dda, a llawer o hawddfyd iddynt. GWAEN CAE GYRWE, N.-Mushrooms vzaivi,- ion.-Ar y 3ydd o'r mis hwn deuwyd o hyd i ddwy o'r mushrooms brafiaf a welwyd erioed, yn mhwll No. 1, o'r lie hwn. Par- odd eu gweled beth syndod i'r gweithwyr, ac nid rhyfedd hyny ychwaith. Pwy byth fuasai yn meddwl cael mushrooms rhyw 200 o latheni yn nghrombil y ddaear, a lie nad yw pelydrau yr haul byth yn ym- ddangos ? MASNACH DEHEUDIR CYMEU.—Y mae yn awr yn berffaith sicr y bydd i'r un gos- tyniad ag sydd i gymmeryd lie yn nghyf- logau yr haiarnweithwyr yr wythnos nesaf, gael ei gymhwyso at gyflogau y mwnwyr hefyd. Attebiad un o'r pnf oruchwylwyr i ddirprwyaeth a anfonwyd atto, oedd fod yn rhaid iddynt barottoi gogyfer a derbyn y gostyniad, ac y dylent fod yn ddiolchgar am gael gwaith o gwbJ, wrth ystyried sefyllfa isel y fasnach mewn haiarn. TREGARON.—Diwedd y mis diweddaf cynnaliwyd gwyi o ddiolchgarwch am y cynhauaf yn yr Eglwys blwyfol hon, pryd y pregethwyd ar yr achlysur gan y gwemi- dogion canlynol:—Parchedigion W. Wil- liams, Garthelly Mr Pugh, Llanbadarn- fawr; a Mr Morgans, D. G. Llanddewi- aberarth. Yr oedd y cyfarfodydd yn lliosog o addolwyr difrifol. Ni chafwyd gwell pregethau erioed yn y lie hwn. Y mae y licer wedi penderfynu adgyweirio yr Eglwys yn fuan, yn enwedig oddi fewn, fel y gall gynnwys llawer ychwaneg o wrandawyr ar achlysuron o'r fath. ABERDAR.—Ty-doriad.—Ymddengys fod rhywun wedi tori i mewn i swyddfa y Gwladgarwr yn y dref hon, nos Iau cyn y diweddaf, ac wedi achosi niwed mawr i'r peiriant argraffu, ac y mae yn ddrwg genym hysbysu nad yw y troseddwr neu y troseddwyr ddim wedi eu dal hyd yn hyn, ond y mae yr heddgeidwaid ar eu goreu yn ceisio dyfod o hyd iddynt. ABERAMAN.—Yn Ilys yr heddgeidwaid, a gynnaliwyd yn Merthyr ddydd Sadwrn diweddaf, cyhuddwyd dan ddyn parchus yr olwg arnynt, o'r lie hwn, yn dwyn yr enwau David Pearce a William Taylor, o ladratta gwerth deg swllt o blwm, perth- ynol i Mr Arthur Jones, o'r un lie. Dy- wedai Mr Beddoe, amddiffynydd y carch- arorion, eu bod yn feddw ar y pryd, ond ystyriai y faingc eu bod yn gyfnfol am yr hyn a wnaethant, ac anfonwyd hwy i'r carchar am fis gyda llafur caled. TROEDYRHIW.—Prydnawn ddydd Sadwrn diweddaf, yn y lie hwn, cymmerodd dam- wain cldifrifol le yn ngorsaf rheilffordd y Taff Vale. Ymddengys fod dyn ieuangc o Ferthyr yn lied ddiweddar wedi dyfod i ddal y tren hanner awr wedi tri, gyda pha un yr oedd yn bwriadu teithio, a chafodd y llidiart wedi ei chloi, ac nis gallasai fyned ar y platfform. Yn ei ffwdan, ceisiodd fyned tros y glwyd, yr hon oedd wedi ei gorchuddio a spikes mawr, miniog, un o ba rai a aeth i'w droed pan oedd yn dis- gyn yr ochr arall i'r glwyd, mewn canlyn- iad i'r hyn y bu mewn cyflwr o anymwy- bodolrwydd, hyd nes y symmudwyd ef gan un o'r teithwyr i'r ivaiting-room, lie y gweinyddwyd arno gan Mr Knox, fferyll- ydd, yr hwn a ddigwyddasai fod yn bres- ennol ar y pryd. Yr oedd y spike wedi tori ei esgid, ac wedi ymwthio trwy ei droed yn annioddefol. MERTHYR.- Yn Ilys yr heddgeidwaid ddydd Sadwrn cyn y diweddaf, cyhuddwyd dyn o'r enw James Corfield, porthmon mewn anifeiliaid, gan y Superintendent Thomas o arfer creulondeb tuag at ddi- adell o ddefaid, trwy beidio rhoddi ym- borth a dwfr iddynt yn ystod yr amser maith o hanner cant o oriau. Dywedwyd fod y diffynydd wedi cael ei rybuddio, ond yn ofer, yn nghylch rhoddi dwfr i'r anifeil- iaid. Dywedodd Mr De Eutsen fod y cy- hoedd o dan rwymedigaeth neillduol i'r swyddog Thomas am ddwyn yr achos yn mlaen. Nis gallai ef gofio am engraifft fwy effeithiol i osod allan y creulondeb a arferir tuag at anifeiliaid gan rai dynion. Dirwywyd y cyhuddedig i bum' punt a'r costau. DOWLAIS. Cynnaliwyd trengholiad ddydd Mercher, y 4ydd cyfisol, yn yr Holly Bush, yn y lie hwn, ar gorph dynes o'r enw Elizabeth Morgan, 34 mlwydd oed, yn preswylio yn Ehif 30, Upper liow, Penywern. Y laf cyfisol, yr oedd y drangcedig yn myned ar hyd Upper Union Street i gapel Bryn Zion, gyda phlentyn ar ei braich i gael ei fedyddio a phan yn agos i'r Vulcan Inn, gwelwyd hi yn syrtn- io i'r llawr. Aed a hi ar unwaith i dy cyfagos, ond nid oedd y feddyginiaeth a roddwyd iddi yn effeithio arni yn y gradd lleiaf. Bu y ddynes anffodus mewn cyf- lwr o anymwybodolrwydd am oddeutu awr, yu mhen pa amser y bu farw. Yn