Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Advertising
BUDD-GYMDEITHAS ADEILADU BANGOR A GOGLEDD OYMRU. SEFYDL WYD YN 1872. CYFRANAU, 10P. YR UN. TANYSGRIFIADAU MISOL 2s. 6c. Y GYFRAN. BLAENDAL, 6c. Y GYFRAN. YMDBIRIEDOLWYR Isfilwriad Vincent Williams, Bangor. John W. Hughes, Ysw., Cyfreithiwr, Bangor LLYVYBD Dr. Richards, Bangor. CYFARWYDDWYR Mr John Lloyd, Bronderw, Bangor. Mr John Parry, Draper, etto. Mr John Pritchard, Aiwerthwr, etto. MrThos. Pritchard, Town HallBuildings,Beaumaris Mr Zecharias Roberts, Thomas's Square, Bangor. Mr John Simon, Tanner, Bangor. Mr John Slater, Beaumaris. Mr James Southwell, Port Penrhyn. Mr. W. Francis Williams, Bangor. Mr Thomas Williams, Caederwen, Upper Bangor. Mr Hugh Williams, Green Bank, Garth. CYFARWYDDWR GWEITHIOL. Mr John Lloyd, leu., yr Hen Ariandy, Bangor. PRIF amcan ffurfiad y Gymdeithas hem oedd meithrin ai-ferion darbodol ymysg dosbarth- iadau llafur. Trwy nad yw y Tanysgrifiad Misol ond 2s 6c y Gyfran, dygir mantelsion y Gymdeithas i gyrhaedd pawb sydd yn dueddol i arbed. Mae y Gyfraa o lOp. yn cael ei chyflawn dalu i fyny mewn chwe blynedd-yr At-lod yn talu gp. a'r Gymdeithas yn ychwanegu lp. fel Llog am y cyfnod. Os bydd aelodau yn chwennych gorphen eu Cyfranau mewn tymmor llai, gallant wneud hyny trwy daliadau misol o 5s, 10s, neu 20s y Gyfran. Bydd y cyfranau felly yn cael eu cwbl dalu i fyny mewn 3 blwydd a chwarter, 20 mis, neu 10 mis, ac wedyn bydd ganddynt hawl i log yn ol op y cant, i'w dalu yn flynyddol. Yu ychwanegol at hyn, bydd dwy ran o dair o'r ennillion gael eu rhanu ar gyfer pob aelod fyddo wedi dal Cyfranau taledig neu danysgrifiol yn y Gymdeithas am dair blynedd,-y drydedd ran yn ngweddill i gael ei neillduo i'r ol-drysorfa. OS BYDDO AELODAU YN DEWIS TYNU YN OL, gallant wneud byny unrhyw adeg oud rhoddi 10 niwrnod o rybudd yn flaenorol i gyfarfod misol. Mae y Cyfarwyddwyr yn barod i roddi echwynion dan ddiogeliadau cymmeradwy ar delerau rhesymol, i'w had-dalu yn ddognau, hyd at dymmorau o 15 mlynedd. Cynnhelir y CYFARFODYD D MISOL yn Swyddfa y Gymdeithas, Rhif 1, Plasllwyd Terrace, Bangor, ar yr ail Ddydd Llun ymhob mis, o hanner awr wedi Chwech hyd Wyth o'r gloch yn yr Hwyr. Y Diwrnod nesaf i derbyn taliadau ac i ganiattau cyfranau fydd Ddydd Llun, Rhagfyr 14. 10 SWYDDFA AGER-ARGRAFFU Y NORTH WALES CHRONICLE." Y BRODYR DOUGLAS, ARGRAFFWYR, LITHOGRAPH, COPPERPLATE, A LETTERPRESS, MANUFACTURING STATIONERS A LLYFR-RWYMWYR, REOL FAvVR, BANGOR. POB MATH 0 ARGRAFFU I Arianwyr, Brokers, Cwmniau Yswiriol, Cyfreithwyr Arwerthwyr, &c., A'r cwbl yn cael ei orphen gyda'r buauder ar prydlon- deb mwyaf. Rhagleni Cwmniau Cardiau Coffadwriaethol Trefnleni Cyfarfodydd LIen- yddol irwyddau Cylchlythyrau Hysbysleni Eisteddfodol Tocynau Cyfarfodydd Invoices Billheads Llyfrau o bob math Derbynir Hysbysiadau i'w cyhoedd yn holl babyrau Llundain a'r wlad. Anfonir Estimates am amryw waith gyda throad y poet. SEFYDLWYD YN 1807. THE NORTH WALES CHRONICLE AND ADVERTISER FOR THE PRINCIPALITY. Newyddiadur Teuluaidd o'r dosbarth blaenaf. Cyheeddir ef bob bore Sadwrn. Pris Dwy Geiniog. Efe yw y Papyr Hynaf yn Ngogledd Cymru, ac ymledaena. yn helaeth bob bore Sadwrn drwy y Chwe' Sir Ogleddol, sef Mon, Caernarfon, Meirionydd, Tre- faldwyn, Dinbych, a Fflint yn Ngheredigion, ac ymysg y Cymry yu Lloegr, Iwerddon, ac Ysgotland; y cyfrwng goreu i roddi cyhoeddusrwydd i Hysbysiadau. Telerau i Dd rbynwyr :—AR GOEL-6s 6d yr han. ner blwyddyne; 13s y flwyddyn. Os TELIR YMLAEN LL AW- 5s 6d yr hanner blwyddyn lis y flwyddyn. Archebion, Hysbysiadau, a phob taliadau i'w hanfon i'rCyhoeddwr, KENMUIR WHITWORTH DOUGLAS, North Wales Chronicle Office, Bangor, Carnarvonshire. SEFYDLWYD YN 1854. THE ORIGINAL LLANDUDNO DIRECTORY, A Rhestr o'r Ymwelwyr yn Llandudno, Colwyn, Bettwsycoed, Penmaenmawr, Llan- fairfechan, Bangor, a Beaumaris. Cynnwysa Wyth Tudalen, gyda rbestr gyflawn a chywir o'r Ymwelwyr yn yr holl leoeddd ftasiynol a phoblogaidd uchod, yughydag amrywiaeth o Wybodaeth LEOL ac ARBENIG, a chrynnodeb ragorol o Newydd- ion yr Wythnos.- PRIS DWY GEINIOG. Gellir cael y DIRECTORY yn Llandudno yn y Brif Swyddfa, St. George's Hall, Mostyn Street. Cyfrwng rhagorol i Hysbysiadau am Dai ar Werth neu ar Osod, Llettyau i Foneddigion, Gwestotai, &c. Anfoner Hysbysiadau a Thaliadau i'r Cyhoeddwr, St. George's Hall, Mostyn Street, Llandudn. SEFYDLWYD YN 1874. LLAIS Y WLAD NEWYDDIADUR RHAD AT WASANAETH Y GWEITHIWR CYMREIG Yn cynnwys Wyth Tudalen, wedi ei argraffu mewn llythyrenau eglur ar bapyr da. Erthyglau A rweiniol ar Byngciau y Dydd. Hanes y Marchnadoedd, crybwyll- ion amaethyddol, a holl Newyddion yr Wythnos. PRIS UN DDI MAI. Y cyfrwng goreu yn Nghymru i Hysbysiadau, canys argreffir DENG MIL 0 GOPIAU BOB WYTHNOS yn barod, ac y mae ei gylchrediad yn cynnyddu yn barhaus ymysg boneddig a gwreng. Dyrna yr unig newyddiadur Cymraeg sydd yn cael ei ddarlien gan BOB DOSBARTH 0 GYMDEITHAS. Pob archebion a thaliadau i'w hanfon at Mr K. W. DOUGLAS, Bangor, yr hwn sydd hefyd yn barod i roddi telerau manteisiol i DDOSBARTHWYR YN MHOB ARDAL. TAN NAWDD DUW A'I DANGNEF." Y GWIR YN ERBYN Y A O IESU NA'D GAM- BYD. 11\ WAITH. v ISTEDDFOD FREINIOL GENEDL- AETHOL PWLLHELI, 1875. RHODDIR 5p. 5s. Oc. yn wobr am y GEIRIAU (Libretto) goreu i Cantata, testyn- Gorlifiacl Cantre'r Gwaelod." Y cyfansoddiadau i'w hanfon i'r beirniad, y Parch. John Roberts (Ieuan Gwyllt), Fron, Caernarfon, ar neu cyn Rhagfyr 30ain, 1874. Ni fynychir yr hysbysiad hwn. Ymddengys rhestr o'r testynau yr wythnos nesaf. G. T. PICTON JONES, Cadeirydd. 148 J. T. EVANS, Ysgrifenydd. AUCTION WIR BWYSIG AR GOED GWERTHFAWR. TEILWNG 0 SYLW ADEILADWYR TAI, LLONG- AU, PERCHENOGION MWN GLODD1AU, &c. POED hysbys i Mr J. JONES, (TyCanol,) gael ei appwyntio gan H. Pritchard, Ysw., Tres- gawen, Llangwyllog, Mon, IWERTHU AR AUCTION, ar y Ite, ar ddydd Mawrth, y 24ain o Dachwedd, 1874, Gasgliad Mawr lawn o GOED TRA GWERTHFAWR, yn cynnwys y rhywogaeth oreu o Onen (Ash), Llwyfen (Elm), Larfwydden (Larch-tree), &c., yr oil o ba rai a werthir yn fan lotiau cyfleus i'r prynwyr, heb yr attal- iad lleiaf (without the slightest reserve). Dechreuir am un o'r gloch y prydaawn yn brydlon. 149 0 bWYS I BOB CYMRO A CHYMRAES. Yr unig Lyfr Cymraeg sydd yn traethu ar y fath nifer lluosog o Bynciau Ymarferol (500 owahanol fateriou). —Newydd ei gyhoeddi, pris Is. 6c., yn rhad drwy y post, mewn limp cloth. LLYFR Y CYFARWYDDIADAU, sef t J casgliadau o Gynghorion Meddygol Teuluaidd, Puysigwriaeth Anifeiiiaid, eglurhad ar bwyutiau ymar- ferol o'r Gyfraith, ynghyda lliaws o gyfarwyddebau profedig mewn Ciefit a Cbelfyddyd, y cyfan wedi eu dethol yn ofalus a'u trefnu yn symlgan John C. Roose (Chemicus), Amlwch. I'w cael gan Humphreys a Parry, Bookseller, Bangor, neu oddiwrth y Cyhoeddwr, D. Jones, Bookseller and Stationer, Amlwch. "Hanes Sir Fon," gyda Map Newydd, pris Is trwy y post, ond anfon at y cyhoeddwr—D. Joues, Amlwch. 137 FOR NOVEMBER, PRICE ONE PENNY. DOUGLAS'S RAILWAY TIME TABLE COACHING AND STEAM PACKET Guide for North Wales CONTAINING ALSO A LIST OF FAIRS AND CALENDAR FOR THE MONTH, with a MAP OF NORTH WALES, SPECIALLY ENGRAVED ECU THIS GUIDE. The Guide may be obtained from most Booksellers and at the Railway Bookstalls. On receipt of Eighteen Penny Stamps, the Publisher will forward the Guide for twelvemonths to any address. If booked to order the charge will be Two Shillings.
-___-._-"-AT EIN GOHEBWYA.
AT EIN GOHEBWYA. RHYSTYD.—Nid yw y cyrch yn gywir, heblaw nad oes nemawr newydd-deb yn yr englyn. GWYLLT WALIA.—Ymdrechwn gael eich englynion rhagorol i mewn yr wythnos nesaf. ROWLAND E. ROBERTS.—Nid ydym yn hoffi y bastarddair furnisfiio yn y llinell olaf. Ymdrechwch ei newid. OWAIN ARFON.—Yn eu tro. GOHEBYDD 0 BENTEBERW.—Dienw—i'r fasged. J. G. DINORWIG.—Ceisiwn wneud defnydd o un o honynt. DIEJSW DIE.Nw.-Nid oes gynghanedd yn yr englynion. Ap ARTHUR.—Y gynghanedd yn wallus. D. MATHIAs.-Gwuawu ddefuydd o'r pennillion un o'r wythnosau ntsaf. SILBNUS.—Ni chawsom etto hamdden i edrych dros- tynt. MEWN LLAW.—Hywel Jones, Peredur, Hen Deithiwr, R. S. M., Darilenwr Cysson, Wil y Gof, Ned y Sais, Gohebydd, Un oedd yno, Viator, Gwr o Ferwyn, &c. Cofied ein Gohebwyr ysgrifenu ar un tu i'r ddalen yn unig, a bod genym hawl i dalfyru eu hysgrifau. Cy- belled ag y gallwn, bwriadwn gau alian newyddiun lleol dibwys, er mwyn gwneud y "LlaÜ," ymhob ystyr yn NEWYDDIADUR CYFFREDIlsOL A CHENEDLAETHOL. Pob gohebiaetbau i'w hanfon erbyn bore M awrth, neu os gellir yn gynt, a'u cyfeirio —The Editors, LLAIS Y WLAD.
TELERAU GWERTHIAD " LLAIS…
TELERAU GWERTHIAD LLAIS Y WLAD." Pris pob copi unigol yw Un Ddimai, neu un Geiniog gyda'r post. Os bydd rhai o'n derbynwyr yn dewis ei gael trwy y llythyray yn rheolaidd, anfonir ef iddynt bob nos Iau am Is 3c y chwarter, os telir ymtaen Haw. Anfonir sypynau i Ddosbarthwyr am bedair cein- iogadimaiy dwsin gyda'r tren,a phumceiniog gyda'r post Pob taiiadau, archebion, &c., i'w cyieirio at Mr K. W. DOUGLAS, LLAIS Y WLAD Office, Bangor.
DOSBARTHWYR YN EISIEU.
DOSBARTHWYR YN EISIEU. Carem glywed gyda throad y post oddiwrth y rhai a ddymunent gael eu pennodi yu ddosbarthwyr LLAIS Y WLAV. Caut yr elw arferol, a chan ein bod wedi DYBLU MAiNTlOLl Y I'Al'Yii, y llii18 hyuy, ynghyda'r pris isel yn sicihau CYLCHREDIAD ARUTHROL. Anfoner yn ddioed at y Parchenog, Mr K. \V DOUGLAS, Bangor.
DYDD GWENER, TACHWEDD 20,…
DYDD GWENER, TACHWEDD 20, 1874. ARAETH MR. DISRAELI. Dicbon mai un o'r dyddiau pwysicaf yn Llundain ydyw y nawfed o Dachwedd, pryd, yn unol &g hen arferiad, y gwa- hoddir gweinidogion ei Mawrhydi ac urdd- asolion ereill i wiedd flynyddol gan Ar- glwydd Faer y brifddinas; ac un o am- gylchiadau mwyaf dyddorol y dydd ydyw araeth y Prif-Weinidog. Ar achlysur mor 0 bwysig disgwylir i'r araeth flynyddol hon gynnwys dadleniacl o gynlluniciu politic- aidd y senedd-dymmor dyfodol; ond yn y cyfeiriad hwn cyferfydd y wlad a siom- iant dieithriad braidd, ac yn y wledd ddi- weddaf ni ryngwyd bodd i Mr Disraeli I droseddu y rheol, gan y dewisai ohirio y' cyfryw gynlluniau i'w hadolygu flwyddyn i'r dydd hwnw. Modd bynag, yn absen- noldeb dadleniadau politicaidd,. nid ydoedd araeth ddiweddar y Prif-Weinidog ar un cyfrif yn amddifad o ddyddordeb, gan ei bod yn ddangoseg deg o sefyllfa bresennoPyn ein gwlad, a'n perthynasau tramor. Dywedai fod chwe' blynedd wedi myned heibio ers pan gafodd y gyffelyb anrhydedd o ddychwelyd diolchgarwch ar ran gweinidogion ei Mawrhydi, ac yn y cyfwng hwnw yr oedd eyfnewidiaëlau pwysig wedi cymmeryd lie, pwysicach efallai nag H, ddigwyddasant mewn tymmor mor fyr ar ddalen hanesiaeth ddiweddar. Yn y cyfwng hwn yr oedd ymherodraeth- au wedi eu diddymu ac ereill wedi eu dwyn i fodolaeth; gweriniaethau wedi eu cyhoeddi ar ein eyftmiau, a breniniaethau wedi diflanu fel breuddwyd—ond drwy gydol yr holl chwyldroad hwn, yr oedd Prydain wedi bod mewn tawelwch a bodd- lonrwydd. Rhaid ydoedd fod rhyw reswm arbenig am y cadernid hwn, a chyda phriodoldeb y priodolai Mr Disraeli sefyll- fa foddhaol y wlad i effeithiau y mesur haelfrydig a wnaed yn ddeddf chwe' blyn- edd yn ol gan y Ceidwadwyr, drwy ddar- pariaethau pa un yr eangwyd terfynau y cyfansoddiad Prydeinig yn estyniad yr etholfrainfc i'r dosbarth gweithiol. Yr oedd estyniad yr etholfraint yn y cyfeir- iad hwn yn beth y bu y wlad yn pryderus ymawyddu am ei sicrhau, ac wedi ei gael nodweddid y deyrnas gan gyflwr o fodd- lonrwydd. Un o ganlyniadau pwysicaf y cyfnewidiad hwn ydoedd galwad y blaid Geidwadol i awdurdod; ond yr oedd y Prif-Weinidog wedi ei frawychu drwy ddeall o ffynhonell Radicalaidd bwysig yn ddiweddar nas gallai Llywodraeth Geid- wadol fodoli yn hir, oherwydd eu bod fel aelodau wedi eu dychwelyd gan weithwyr Ceidwadol, a bod gweithiwr Ceidwadol yn fod anhymig am nad oedd ganddo ddim i'w gadw, am na feddai na thir na chyf- alaf. Ond yn ei farn ef yr oedd pethau i'w cadw ag 'oeddynt yn llawer gwerth- fawrocach na thir na chyfoeth, ac heb pa rai nid oedd tir na chyfoeth o ne- mawr werth. Gofynai ef pa beth oedd tir heb ryddid, a chyfoeth heb gyfiawnder ? Yr oedd gweithwyr y wlad hon yn perchenogi corph mawr o hawlion a breintiau personol nad ydoedd pendefig- ion cenedloedd ereill etto wedi eu medd- ianu. Yr oeddynt yn gwybod fod gwein- yddiaeth y wlad hon yn bur, heb gydnabod gwahaniaeth rhwng personau na dosbarth- au gwyddent yn eithaf da fod llafurwaith yn ddilyffethair, ac y gallent yn unol a chyfreithiau y wlad hon ymuno er dyogelu breintiau llafur; gwyddent hefyd, er fod rhyddid i bawb wasanaethu eu Mawrhydi ar dir a mor, na lusgid neb yn erbyn ei ewyllys yn ol deddfau y wlad hon i gyflawni gwasanaeth milwrol. A ydoedd yn rhyfedd fod y genedl a feddianai yr hawliau a'r breintiau hyn yn awyddus am eu cadw, ac os felly a oedd yn rhyfedd fod y dosbarth gweithiol yn Geidwadol? Ymddengys i ni fod rhesymeg y Prif Weinidog yn anwrthwynebol, ac nid oes amheuaeth nad i ystyriaeth o gyssegredig- rwydd a gwerthfawredd ein hawlion a'n breintiau cenedlaethol y rhaid priodoli Ceidwadaeth y gweithiwr Prydeinig. Cadarnheir hyn yn yr ymlyniad a amlyga y gweithwyr wrth egwyddorion y blaid Geidwadol, er gwaethaf dylanwad llithiol addewidion teg a llwgrwobrwyon politicaidd y Radicaliaid. Wrth gyfeirio at gyflwr masnachol y deyrnas yn gyffredinol, llongyfarchai ei wrandawyr yn ngwyneb y ffaith fod mas- nach y wlad yn arddangos y fath gadernid ag nad oedd prophwydi y blaid wrthwyneb- ol wedi anturio ei ddyfalu. Pe na buasai ond lies y wlad mewn golwg, gallesid disgwyl i bawb hyderu yn llwyddiant y gyllideb; ond y mae nifer o wleidyddwyr eithafol a aberthent hyd yn nod lesiant cyffredinol ar allor pleidiaeth. Un o'r dosbarth hwn ydyw Mr Morgan Lloyd, y crwtyn newyddanedig yn y byd politicaidd, yr hwn y dydd o'r blaen a ymffrostiai yn ei ddatganiad cynamserol y glaniai y flwyddyn gyntaf y Llywodraeth mewn penbleth gyllidol. Os gall y Radicaliaid adseinio dymuniad carnfradwr gwleid- yddol, ystyriwn hwy yn wrthddrychau tosturi yn hytrach na cherydd. Cyd- nabyddai Mr Lloyd nad oedd ond megis yn teimlo ei ffordd-yn cropian-yn y byd politicaidd, a chredwn wedi y darlleno araeth y Prif Weinidog y diolcha i ni am awgrymu nad ydyw etto yn bryd iddo gael ei dywys drwy oruchwyliaeth y dyddyfniad politicaidd. Rhaid i ni gyd- nabod nas gallwn ganfod unrbyw achlysur o orfoledd yn yr anffawd i gyfrifiad cyllid- 01 droi yn fethiant, oblegid ni byddai yn ddim amgen na thrymhau trethiad eyff- redinol deiliaid ei Mawrhydi; ac etto y gorfoledd cynamserol hwn sydd yn ffurfio y gwelltyn olaf am ba un yr ymreibia Mr Lloyd a'i blaid wrth deimlo eu hachos yn suddo i eigion aflwyddiant. Mewn gair, oherwydd eu bod yn suddo eu hun- ain, carent i'r deyrnas gyfunol suddo gyda hwynt. Y neb a gredo yn yr athrawiaeth hon, bydded Radical. Ond pa beth a ddywed Mr Disraeli, yr awdurdod uchaf, ar y pwngc ? Cawn ef fel pe yn teimlo ei draed ar graig sefydlogrwydd, ac yn dat- gan ei farn yn ddigryn y bydd i gyflwr y gyllideb ragori ar amcangyfrifon y Llyw- odraeth. Dewised y Monwysion rhwng barn y Prif Weinidog ac eiddo eu cyn- nrychiolydd bwrdeisiol wyth mis oed. Yr olPa allwn wneud ydyw llongyfarch y wlad ar ddatganiad Mr Disraeli, y bydd y gyllideb yn fwy ffafriol i'r trethdalwr nag yr arfaethwyd iddi fod. Gyda golwg ar ddatganiadau y Prif Weinidog o barthed gwledydd tramor, hyfryd genym ddeall eu bod yn cael y der- byniad gwresocaf yn mhob cyfeiriad, a chredwn fod ysbryd teg end annibynol y Llywodraeth Geidwadol yn cynnyrchu parchedig ofn yn mysg cenedloedd rhyfel- gar y byd, tra y gwneJai llwfrdra ac amry- fysedd y Radicaliaid ni yn wrthddrych gwawd a dirmyg teyrnasoedd y ddaiar. Heb godi y lien oddiar gynlluniau politicaidd, yr hyn a fuasai yn annghyson a'r arferiad ar y cyfryw achlysuron, prin y gallasem ddisgwyl araetb gyflawnach o ddyddordeb oddiwrth hyd yn nod Mr Disraeli, ac nis gallwn lai na llawenychu oherwydd iddi gael derbyniad mor frwd- frydig yn gartrefol a thramorol.
Y GYFRAITH MEWN MWGWD.
Y GYFRAITH MEWN MWGWD. Un o sylwadau pwysicaf Mr Disraeli yn ngwledd Arglwydd Faer Llundain yr wythnos ddiweddaf ydoedd, na wnelid gwahaniaeth rhwng tlawd a chyfoèthog -gwreng a boneddig—yn ngweinydd- iaeth y gyfraith yn Mhrydain ond amlwg ydyw nad ymostyngodd y Prif Weinidog i ystyried pwysigrwydd deddfwrol ynadon Conwy. Y mae bwrdeisdref Conwy yn nodedig, nid yn unig ar gyfrif henafiaeth ei Chastell a'i muriau gwarcheidiol, ond hefyd ar gyfrif prangciau doniol y gwarch- eidwaid a ymgynnullant yn gyfnodol o fewn muriau ei thylotty.undebol; ac wrth ystyried yr enwogrwydd dyblyg hwn tueddir ni i geryddu Mr Disraeli amfeiddio o hono anturio y fath ddatganiad, heb yn gyntaf ymgynghori ag awdurdodau prif- ddinas cysgadrwydd. Arwyddair y bwrdd gwarcheidiol ydyw yn ngwyneb nos a llygad tywyllwch," acyrydymniyingorfod cyfaddef nas gallwn ganfod rhith o reswm dros omedd i'r faingc ynadol fenthyca dalen o'r un llyfr hynafol, a mabwysiadu yr un arwyddair. Nid oes un dosbarth o bobl yn rhwymedig i dderbyn unrhyw esboniad arbenig, hyd yn nod oddiwrth y Prif Weinidog, a phaham nas gall ynadon Conwy ddilyn eu mympwyon eu hunain o barthed i'w dehongliad o'r gyfraith a'i gweinyddu yn unol a'u argyhoeddiad ? YmgynnuIlodd yr ynadon i weinyddu cyfiawnder i'r cyhuddedigion yr wythnos ddiweddaf, pryd y dygwyd ger bron res- ymau paham na fuasid wedi dwyn yn ml aen bedwar o achosion oeddynt ar y rhestr bythefnos yn flaenorol; ond prin yr ystyriai y cadeirydd y cyfryw resymau yn foddhaol. Modd bynag, ymddangosodd dadleuydd y eyhuddedigion yn yr achosion dan sylw, a thrafodwyd hwynt yn ol eu rhif ar y rhestr yn hytrach nag am ol enw- au y troseddwyr. Mewn tri o'r pedwar achos cydnabyddai y dadleuydd euogrwydd y cyhuddedigion, ac yr oedd ganddo eu cyflawn ganiattad i ddatgan eu galar oher- wydd eu cyfleu yn y fath sefyllfa. Llefarai ef yn benaf ar ran eu teuluoedd. Os ydyw ein dyfaliad yn gywir, ac y mae yn syl- faenedig ar addefiad y dadleuydd yn y llys, yr oedd nifer o foneddigion nwyfus, llawn asbri, wedi bod yn ciniawa mewn gwestty parchus, ac ond odid wedi defnyddio y moddion i annghofio tylodi, neu yn bytrach foethusrwydd, ac wedi eu hys-