Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
NEWYDDION CYMREIG.
NEWYDDION CYMREIG. BLAENAU FFESTINIOG. Cyitghei-dd.- Nos Fawrth, Tachwedd lOfed, yn yr Assembly Boom, cynnaliwyd cyngherdd mawreddog gan y Barlwyd brass band dan arweiniad eu hathraw medrus, Mr W. R. Jones. Llywyddwyd yn fedrus gan y Parch. Samuel Owen, jLanygrisiau. Cyfa?f'od Llenyddol Chicarel Mri. Hol- land.-Y mae yr uchod ar y rhiniog, ac y mae yna ddeuddeg o ymgeiswyr am y gadair. Y testyn ydyw rhiangerdd, heb fod tros 60 llinell.—Ymadawiad Bardd.— Drwg genyf hysbysu ein bod wedi gorfod ymadaw a, chyfaill ieuangc talentog, J. Griffiths (Ap Ceinwen). Aeth adref i Fon. -Gohebydd. BODEDERN, MON.—Ychydig o newydd- ion sydd yn cael eu cofnodi o'r lie uchod yn ngholofnau Llais y IV7ad, er fod yma gylchrediad mawr i'r papyr teilwng a chlodwiw hwnw. Os byddwch mor hy- naws a chaniattau i'r nodyn hwn ym- ddangos yn y rhifyn nesaf, bydd y wlad yn hysbys o ddau ddigwyddiad lied bwysig a gymmerasant le mewn cyssylltiad a Bodedern yn ystod yr ychydig ddyddiau diweddaf. Y cyntaf ydoedd dirwyo yr overseer i ddwy bunt a'r costau, mewn canlyniad i un o'r campau mwyaf baw- aidd (ag ydynt yn rhy iynych, ysywaeth, yn hynodi y blaid Radicalaidd) mewn cys- sylltiad a chofrestriad etholwyr y plwyf; ond teg ydyw crybwyll nad oedd y bai yn gorphwys ar yr overseer o gwbl, eithr ar benboethiaid ag sydd ar bob achlysur yn dangos mwy o sel ddalbleidiol nag o farn, doethineb, a phwyll. Yr ail ddigwyddiad ydoedd ymweliad yr aelod anrhydeddus dros sir Fon, sef Mr Richard Davies. Cynnaliwyd y cyfarfod mewn llofft ystabl, a chymmerwyd y gadair gan bregethwr Methoaistaidd, byrdwn can yr hwn ydoedd creu teimladau cas a dryllio y lingc fodd- haol sydd rhwng y tenantiaid a'r meistr- adoedd tir. Gwelwyd amser pan y llwyddasid i wneud hyn, ond y mae peth- au wedi newid erbyn heddyw. Gwyr y tenantiaid pwy yw eu cyfeillion, yn fcghyda'r rhwymedigaeth sydd arnynt i gydtfurfio a'u meistr tir yn eu barn yn nglyn a phyngciau politicaidd o leiaf, canys dall yw pob dyn na wel fod lies y uaill yn lies y Hall hefyd. Dyn helpo y llefarwr, gan hyny, oblegid nid oedd ei holl hyawdledd (?) yn y cyfeiriad hwnw amgen na chwipio hen geffyl marw. Siaradodd yr aelod anrhydeddus mewn ysbryd boneddigaidd, a thra gwahanol i'r dull a gymmerasai yn Lianerchymedd. Dichon mai yr achos o hyn ydoedd absen- noldeb Morgan Lloyd a'r Apostol Hedd- Wch, y rhai oeddynt yn cynnal ei freich- lau yn Llanerchymedd. Annerchwyd y cyfarfod hefyd gan Mr T. Lloyd, Llywen- an. Gwaith hwn ydoedd gorganmol Mr Richard Davies a darostwng Cadben l-<n Ilrc-1An /1- — ^arem Wybod gan Mr T. Lloyd pa beth ydoedd y campau drwg y cyfeir- lai attynt yn ei awgrymiadau, a pha awd- urdod sydd gan T. Lloyd i farnu buchedd neb, a pha gyssylltiad sydd rhwng hyny a pholitics ? Condemniai ef Cadben Bulkeley hefyd yn ofnadwy am nad all siarad Cymraeg. Ai tybed y buasem yn dyweud newydd wrth Mr T. Lloyd pe yr hysbysem ef na fedr ef ei hun ddim siaraA na Chymraeg na Saesneg yn ddealladwy ? Adroddodd pregethwr y Bedyddwyr ryw stori lied wirion yn y cyfarfod, ond iris gwyddom yn ein byw pa gyssylltiad sydd rhyngddi a'r achlysur. Cyn terfynu, gofynaf pa le, yn enw pob rheswm, y gallai fod cyssondeb yr aelod dros Fon, yr hwn yn Llanerchy- medd a gondemniai yr offeiriaid a gym- merasant ran yn yr etholiad diweddaf, ond na weinyddai gymmaint ag un gair o gerydd ar y pentwr man bregethwyr oedd- ynt yn ymryson am gael dyweud rhyw- beth er mwyn clywed eu llais eu hunain yn nghyfarfod Bodedern ?--Ecleynt. CAEIRNARFON.-Nos Lun diweddaf cyn- naliwyd cyngherdd mawreddog yn y Guild Hall, Caernarfon. Y boneddigion o dan nawdd pa rai yroeddy cyngherdd oeddynt Lewis Lewis, Ysw., Maer, a Cadben Verney. Hefyd ar yr esgynlawr yr oedd James Rees, Ysw., y cyn-faer. Yr oedd hysbysleni mawrion wedi eu lledaenu trwy y dref ac enwau y rhai canlynol arno i wasanaethu :—Llew Llwyfo, Mr Sauvage, Miss Jones (Ruthyn), Eos Eryri, Miss Roberts (Lerpwl), Mr Roberts (organydd, Bethesda), Mr Howell Williams (violin), Mr J. Williams (harmonium), Mr Walter Davies (cornet), yn nghyd a chor Engedi, yr hwn a fu yn fuddugoliaethus yn Eis- teddfod Bangor. Yr oedd y neuadd yn orlawn cyn pen chwarter awr wedi iddi gael ei hagor. Yr oedd Llew yn cwyno ei fod wedi cael anwyd trwm, ond er hyny dangosodd mai efe oedd y cadben. Canodd Mr Sauvage yn ardderchog, a chawsom ddeuawdiau gan Llew a Sauvage dair gwaith, a cbawsant encor bob tro. Ar gais bloeddiadau y dorf canasant Betti Wynn," yr hon a dderbyniwyd mor frwd-I frydig yn Eisteddfod Bangor. Canodd Misses Boberts a Jones, ac Eos Eryri yn swynol iawn, ac hefyd yr un modd y chwareuodd Mri. Williams a Davies ar eu hofferynau. Chwareuodd Mr Roberts, Bethesda, y Grand March," yr hon a gyfansodclodd gogyfer a'r cyngherdd hwn, a chafodd dderbyniad gwresog. Cawsom ein siomi yn ddirfawr yn nghor Engedi; canu yn farwaidd iawn a ddarfu iddynt, yn enwedigyn y darn "When His loud Voice," ond am Seren Unig," Isalaw, darfu iddynt dori i lawr ar ei chanol, ac wedyn ail ddechreu. Traddododd Alavon ddau englyn campus i'r Llew a Sauvage. Terfynwyd y cyngherdd trwy i Cadben Vorney gynnyg pleidlais o ddiolchgarwch i'r cadeirydd, ac eilwyd hyn gan Mr Rees, y cyn-faer.—Gwrandaivr. CAPEL CURIG.—-Llaivenydd Priodasol.- Bu yn yr ardal hon nid ychydig o lawen- ydd a rhialtwch dydd lau, y 12fed cyfisol, ar yr achlysur o uniad Mr W. E. Parry, managex y Capel Curig Slate and Slab Company, a Miss Davies, Bryntyrch Hotel, yn nglan ystad priodas. Dathlwyd dydd eu priodas yn deilwng, a dyrnai y mag- nelau drwy'r dydd. Gwelid banerau yn chwyfio yn yr awel mewn amrywiol fanau, ac ymrysonai gweithwyr llech-chwarel y Rhos mewn dangos parch i'w manager teilwng a haeddbarch. Dymunwji hir oes a phob dedwyddwch i'r par ieuangc hwn.-B. COLWYN.—Olierwydd annghydwelediad rhwng offeiriad y plwyf a'r YmneullduwY11, codwyd yma ysgol Frytanaidd ychydig flynyddau yn ol. Cafwyd addewidion rif y gwlith at ei chario yn mlaen ond erbyn hyn gondns yw cofnodi fod y baich o'i chario yn mlaen yn gorphwys ar bedair ysgwydd ac nid annaturiol ydyw y drych- feddwl sydd wedi meddiannu y sawl sydd dan y baich o daflu yr ysgol ar y dreth. Er mwyn cael gwybod meddwl y treth- dalwyr ar y matter yma cynnaliwyd cyfar- arfod nos Wener, y 13eg cyfisol. Yn absennoldeb y Parch. J. D. Jones, ethol- wyd Mr Frost, o Minydon, i'r gadair lyw- yddol, yr hwn a'i llanwodd yn anrhyd- eddus. Cafwyd araeth gall gan Mr Jeff- reys, yr hwn oedd ddigon pleidiol i fyned dan y bwrdd ysgol os gallai y blaid wrth- wynebol ei ddarbwyllo fod hyny yn angen- rheidiol, ac na fedrid gwneuthur ydiffyg i lyny gyda'r gyfundrefn wirfoddol. Dad- leuai Mr Boberts, Ship Hotel, yn wresog nad oedd angen am fwrdd ysgol, ac yr oedd yn hyderus y gellid gwneuthur pob diffyg i fyny heb dreth. Siaradwyd hefyd gan Mr R. Evans, Church Walks, a Mr Owen Williams, Shop. Gallwn gasglu oddiwrth un o'r areithiau mai Colwyn ydyw y lie mwyaf anwybodus, budr, a meddw, yn yr holl Dywysogaeth. Yn mha le yr oedd gwroldeb y Colwyniaid pan ddywedid hynyna am danynt ? Onid oedd yna gymmaint ag un a'r gwroldeb angen- rheidiol i ofyn i'r llefarwr brofi ei bwngc ? Pleidleisiodd 24 yn erbyn bwrdd ysgo,, a 4 o blaid.- Un oedd yno. COLWYN BAY.—Nos Fawrth, y 10fed cyhsol, cynnaliwyd cyfarfod yn Mission Chapel y lie uchod, i'r dyben o gael gwy- bod ai dymunol i drigolion Lilandrillo fyddai ymuno ag Eirias neu Colwyn er mwyn ifurflo un dosbarth bwrdd ysgol. Cymmerwyd y gadair gan y Parch. Ven- ables Williams, fic-sr y plwyf, ac y mae yn ddiamheu fod yr oil oedd yn bresennol yn falch o'i weled yn edrych mor dda ar ol ei gystudd. Bu tippyn o ddadl rhwng y cadeirydd a Mr Roberts, Ship Hotel, ond bu raid i'r olaf dewi oherwydd nad oedd ganddo ddim tir i sefyll arno, ac hefyd yr oedd yn amlwg fod y Parch. V. Williams yn analluog i gario ysgol ymlaen oher- wydd y fath wrfchwynebiad, ac wedi pen- derfynu cael bwrdd ysgol i'r plwyf, ac wedyn dyna ben. Cafwyd araeth hir- wyntog (ond feallai mai byrwyntog ddylai fod oherwydd ei mynych intervals-lor "appla/use," mae yn debyg), gan Mr Jeffrey Thomas, prif amcan yr hwn ydoedd seboneiddio y cadeirydd. Ar ol llawer o siarad hollol ddibwynt, rhanwyd y ty, a chafwyd yr oil o'r trethdalwyr, yn bersoniaid a ffarmwyr, yn bleidiol i un- iad, oddiethr Mr Matthew, y Groes, a Mr Roberts, Ship Hotel, yr hwn sydd yn wrthwynebwr cadarn i'r bwrdd ysgol. Ychydig flynydclau yn ol bu yma helynt chwerw, a safodd y Parch. J. D. Jones y pryd hyny fel cawr yn erbyn y bwrdd, ond wele ef yn awr yn mysg ei ddifenwyr gynt. Consistency, frodyr ond rhydd i bawb ei farn, a rhydd i minnau lefaru; felly cewch glywed oddiwrthyf etto.-Sion Owan Jack. HENDU, PONTARDULAIS. Mae Budd Gymdeithas Adeiladu Barhaol Pont- ardulais, newydd gynnal ei chyfarfod cyffredinol biynyddol yn yr Ysgoldy Cenedlaethol uchod. Nid oedd yr aelodau wedi dyfod yn nghyd mor lluosog ag y disgwylid, er fod cynnulliad lied dda yn bresennol, ac yn eu plith ddau o gynnrych- iolwyr y wa&g, nid amgen—gohebydd y Llanelly Guardian, a gohebydd y bytvys- ogaeth, yr hwn hefyd oedd yn cynnrychioli eich newyddiadur chwi, Mri. Gol. Cym- merwyd y gadair gan B. J. Letcher, Ysw., manager gwaith Alcan yr Hendu, yr hwn a draddododd araeth alluog ar sefyllfa lewyrchus y gymdeithas, a'r budd sy'n deilliaw oddiwrth ymuno a hi, fel y gallo pob un ddyfod yn berchen ar ei dy ei hun. Darllenodd Mr D. Rewbridge, yr ysgrif- enydd, gyfrifon y gymdeithas, a derbyn- iodd yr aelodau y mynegiad yn Ilawen, wrth weled fod sefyllfa mor lewyrchus ar y gymdeithas. Yn ystod y flwyddyn ddi- "veddaf bu cynnydd o 155 yn y cyfranau; rhoddwyd y swm o 1,0050p, yn echwynion ar dai; a gosodwyd 7 t y cant o log 2 gyferbyn a'r cyfranddalwyr. Ail-etholwyd y pedwar cyfanvycldwr oedd yn myned allan o swydd; ac etholwyd Mr D. Evans, O. M., Gorslas, a M. D. Jones, C.M., Hendu, yn gyfrif-ymchwilwyr am y flwyddyn ddyfodol. Mae y manteision a rydd y gymdeithas hon i bersonau sydd yn awyddus am berchenogi tai, neu dderbyn Hog da am eu harian, yn awr yn eglur, a gobeithio y gwna pawb yn gyffredinol werthfawrogi y cyfleusdra hwn, trwy vmuno a hi. LLANDECWYN. — Mae yn meddiant Mr William Owen, Maes-y-llan, Llandecwyn, ddwy iar, y rhai a gyd-ddeorasant, un ar bump a'r llall ar saith o gywion, a phan welodd yr hon oedd a phump fod gan y llall saith, fe aeth yn ymladdfa cydrhyng- ddynt yn y fan, yr hon a barhaodd nes gorfod i'r hon oedd a saith roddi un i'r llall, nes oedd ganddynt chwech bob un. Maent yn awr tua chwech wythnos oed, ac yn dyfod yn mlaen yn rhagorol. Mae yr hanesyn bychan yma yn hollol wir oherwydd yr wyf yn eu gweled bob dydd.- Gohebydd. LLANRUG.- Y Seindorf Bi-es.-Gall-ti fod lluaws yn medJwl fod y seindorf uchod wedi rhoddi eu telynau ar yr helyg (fel y byddys yn arfer dyweud), ond y mae yn dda genyf hysbysu eu bod hwy etto wedi ailymaflyd yn eu hofferynau. Yr achos o'r distawrwydd ydoedd fod y foneddiges hynaws a charedig, Mrs Duff, o Glan y Bala, wedi bod yn wael am amser maith, a bod yr ystafell lie byddai y seindorf yn ymarfer yn agos i'w phalas. Ond yn awr, mae Mrs Duff wedi ein gadael, ac wedi myned i ffordd yr holl ddaear, a'i lie nid edwyn ddim o hcni mwy; ac y mae yn golled fawr i'r seindorf ar ei hoi, gan y byddai yn rhoddi arian lawer at eu haddysgu. Hefyd byddai yn rhoddi an- rhegion iddynt, fel y mae gan bob un o honynt rhywbeth yn gyssegredig i gofio am Mrs Duff; ac ar wyliau y Nadolig ers pan oedd hi yn Glan y Bala byddai yn rhoddi swper blynyddol iddynt. Ac nid i'r band yn unig y byddai yn cyfranu, ond i lawer o blant amddifaid a gwragedd gweddwon o Lanberis a'r cyffiniau. Hefyd yn yr hospital y mae y golled yn anadfer- adwy braidd ar ei hoi. Heddwch i'w llwch hyd ganiad yr udgorn diweddaf.— Oliver.
DAMWAIN ANGEUOL I GYMRO YN…
DAMWAIN ANGEUOL I GYMRO YN AMERICA. Dywed y TVasg Americanaidd am y 31ain cynfisol :-Oddeutu naw o'r gloch nos Lun diweddaf, tra yr oedd Mr Sem Hughes, merchant tailor, 1046, Penn Avenue, Pittsburgh, yn ceisio croesi rheil- ffordd Penntsylfania, yn ngorsaf ailanol y ddinas hon, i fyned i'w gartref yn Roup's Station, tarawyd ef i lawr gan y peiriant a dynai freif ht train, ac aeth y cerbydau drosto, a thorwyd ymaith ei ddwy goes, a dryliiwyd un fraich yn erchyll. Cod- wyd ef i fyny a chariwyd ef i Roup's Station. Gwasanaethwyd arno gan Dr. Hamilton, ond bu y truan anffodus farw dri o'r gloch boreu ddydd Mercher di- weddaf. Gwnaeth ei ewyllys, tra yn ym- wybodol nad oedd iddo ond ychydig o oriau i fyw ar y ddaear. Yr oedd Mr Hughes yn adnabyddus i liaws yn Amer- ica, a hoffid ef yn fawr fel dyn caredig, siriol, tawel, a chymmwynasgar. Go- beithiwn y bydd i Dad yr amddifaid a Barnwr y gweddwon fod yn ffynonell cysur a nawdd dan yr ergyd dorcalonus a ddisgynodd ar y teulu. ZD
[No title]
Llosgodd geneth fach bedair blwycld oed, merch i Elias Jones, Ty Capel, Llan- efydd, i farwolaeth ddydd lau. Cymmerodd Mr Puleston, A.S., ei eisteddle yn nghyfarfod cyffredinol pwyllgor y Gymdeithas Feiblaidd Brydeinig a Thramor, fel cynnrychiolydd Cymru. TRYBINI PRIODASOL CRYDD a LEYN.- Nid oedd gan y crydd ar ddydd ei briodas ond 2s o arian, a'r darpar gwraig 26s tuag at draul y briodas a dechreu byw. Ben- thycodd yr eneth fodrwy ei meistres, a benthycodd y crydd 26s arian ei gariad. Gwedi talu am giniaw y briodas, yr hyn oedd 7s., a thalu i'r swyddog am eu priodi, wrth gwrs rhaid oedd myned i Aberys- twyth hefo'r tren am dro. "Wel," ebe'r gwr, "nid oes genym foddion i fyned oil hefo'r arian mewn Haw. Y mae yn rhaid i'r forwyn briodas aros ar ol (yr oedd y forwyn briodas yn berthynas i'r wraig!) ac mi geiSf y gwas fyned gyda ni," (yr oedd y gwas yn perthyn i'r gwr!) Felly fu: ac wedi i'r tri gyrhaedd pen eu taith, dywedodd y gwr yn y man fod y pres wedi darfod, ac nad oedd possibl myned yn ol, am nad oedd ganddynt returns. Wel," meddai'r wraig, be nawn ni ?" Wel, dim ond edrych am waith bellach, am wythnos." Ac felly fu: gweithio am wythnos er cael pres i'w cludo gartref!
MACHYNLLETH.
MACHYNLLETH. FONEDDIGION,-Caniatewch i mi ychy- dig o'ch gofod i wneud sylwadau ar lytbyr a ymddangosodd yn eicb newyddiadur clodwiw am y 13eg cyfisol, mewn perth- ynas i'r cyfarfod cystadleuol Eglwysig a fwriedir gynnal yma nos ddydd Calan nesaf. Mae un a gyfenwa ei hun yn Lleygwr Eglwysig yn beio mewn dull gwatwarus ar bwyllgor, ysgrifenydd, a thrysorydd cyfarfod cystadleuol Eglwysig cylchynol Machynlleth am y sarhad a'r dibrisiad a ddangosir ganddynt o dalent a gwybodaeth llenorion Eglwysig y rhan hon o'r wlad." Prif aehos ei fflangell yw bychandra y gwobrwyon, ac yn neillduol i'r beirdd—a chymmerir hyn fel testyn i wawdio y cyfarfod cystadleuol. Dywed hefyd nad oes dim rheswm dros roddi testyn traethawd yn yr iaith Saesneg. Mae yn hollol amhvg nad yw "LI. E." yn feddiannol ar adnabyddiaeth eang o'r ardaloedd hyn, fel y proffesa. Nid yw, efallai, yn wybyddus o'r ffaith fod mwy o gyfansoddiadau Saesneg na Chymraeg yn dyfod yn flynyddol i'r gystadleuaeth ar y traethodau. Y flwyddyn ddiweddaf, ar y testyn godidog hwnw, Rhagoriaethau y Llyfr Gweddi Gyffredin "-testyia ag y gallesid disgwyl lleygwyr a llenorion Eg- lwysig i ysgrifenu a chystadlu arno, ond gresyn yw cyfaddef na ddaeth ond un cyfansoddiad Cymraeg i'r gystadleuaeth, pan y derbyniwyd tri neu bedwar o gyfan- soddiadau ar destynau yn yr iaith Saes- neg. Gwel eich darllenwyr diduedd a di- ragfarn fod rheswm digonol gan y pwyll- gor dros benodi testynau Saesneg. Sonia Li. E. mai dirmygu talent yw cynnyg 10s o wobr i'r beirdd. Addefaf yn rhwydd fod achos gan y beirdd i achwyn, ond yr wyf yn barnu fod rheswm gan y pwyllgor dros eu hymddygiad. Cynnyg- iwyd yn y flwyddyn 1872 wobrwyon ar ddau destyn barddonol rhagorol, sef Ty Marchnad Newydd Machynlleth," a dau englyn ar Glwyf y traed a'r genau." Nid oedd ond un cystadleuwr, a hwnw yn Ymneillduwr, ac o ganlyniad allan o gylch y gystadleuaeth. Penderfynwyd y flwyddyn ddyfodol wneud y farddoniaeth yn agored, er mwyn cael eystadleuaeth, a'r canlyniad a fu—derbyniwyd peth wm- breth o farddoniaeth, ac Ymneillduwyr dderbyniodd bob un o'r gwobrwyon. Dyma achos i Ll. E. a holl feirdd a lleyg- wyr Eglwysig y plwyfydd cylchynol wrido a chywilyddio. Dywed Ll. E. mewn iaith wawdus ac anfoesgar, fod capelau Ymneillduol yn rhoddi cymmaint am ddatganu ton ag a rydd y pwyllgor am yr holl destynau. Ymholwn a yw hyn yn ffaith:-Cawn fod Annibynwyr y dref oddiwrth y papyrau sydd ar y parwydydd, yn bwriadu cynnal cyfarfod cystadleuol dydd Nadolig nesaf -y gystadleuaeth yn agored i Machyn- lleth a'i hamgylcboedd-yr hyn a ym- ledaena. tiros n wjrth pa faint, wys, a gynnygir ganddynt mewn gwobrwyon? Diau dim ond 4p. 9s. 6c. Mae gan y Methodistiaid Calfinaidd yn y dref a'r gymmydogaeth eu cyfarfod cystadleuol yn Hynyddol ar ddydd Gwener y Groglith, a chyfanswm eu gwobrwyon am 1874 oedd 4p. 8s. Oc. Cynnalia Wesleyaid y gylch- daitli hon eu cyfarfod cystadleuol yn llynyddol ar ddydd Llun y Pasg, ac nid yw eu gwobrwyon hwythau ond oddeutu 4p. Hysbysir ni hefyd gan bapyrau, yn cynnwys rhestr y testynau, sydd yn ffenestri amryw shopau y dref, fod eistedd- fod i'w chynnal Ddydd Nadolig nesaf yn Abercegir, pentref tua phum' milldir o'r dref. Cyfanswm gwobrwyon yr eisteddfod hon ag sydd, cofier, yn agored i'r byd, ac nid yn gyfyngedig i'r ardaloedd amgylch- ynol, yw 4p. lis. A chanfyddwn mai un testyn barddonol yw, Can o glod i deulu Plas Machynlleth am eu caredigrwydd tuag at ysgolion y dref a'r cymmydog- aethau." Gwobr 5s. Gofynaf yn awr A ydyw yn wirionedd fod capelau Ymneill- duol yn rhoi cymmaint arall mewn gwobr- wyon? Attebaf: Nag yw. A dychymygaf glywed eich darllenwyr deallgar yn pen- derfynu yn unfrydol unfarn oddiwrth y ffeithau ucliod mai disail hollol yw'r achwyniad o daflu sarhad a dibrisdod ar dalent a gwybodaeth llenorion Eglwysig." Cyfeiria Ll. E. etto yn ei ol-ysgrif mewn gwawd, fod wyth o blwyfydd dan saith bunt o wobrwyon. Ai peth newydd yw hyn yn y byd Ilenyddol ? Attebaf yn ddi- betrusder, Nage. A chaiff Ll. E. ei argyhoeddi o wirionedd y peth ond iddo ddarllen colofn yr hysbysiadau yn Llais y Wlad am y 13eg cyfisol, sef yr un rhifyn ag yr ymddangosodd ei lythyr gwawdlyd. Caiff weled yno fod Deoniaetii Llifon, Mon, yr hon sydd gynnwysedig o bedwar- ar-ddeg o blwyfydd, ddim yn rhoddi mewn gwobrwyon ond 71). 12s. 6c., a phwyllgor cyfarfod Machynlleth yn rhoddi 6p. 18s. 6c.-dim ond 14s. o wahaniaeth rhwngwyth a phedwar-ar-ddeg o blwyfydd. Well done, Machynlleth, mead. CYSTADLWR EGLWYSIG O'R DREF.
[No title]
Deallwn fod testynau Eisteddfod Gwrec- sam eisoes yn y wasg, a disgwjlir ym- ddangosiad rhestr Pwllheli yn mhen ychydig ddyddiau.