Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

YNYS MON.

News
Cite
Share

YNYS MON. IV. Religion, if in heavenly truths attired, Needs only to be seen to be admired, But thine as dark as witcheries of night, Was formed to harden hearts and shock the sight; Thy Druids struck the vrell-hung harps they bore With fingers deeply dyed in human g"re, And while the victim slowly bled to death, Upon the rolling chords ruug out its dying breath. COWPEB. Tu ol i'r Plas Newydd saif dwy GROMLECH nodedig, yn nglyn a'u gilydd. Mae y brif gromlecb yn cynnwys bwrddfaen gogwydd- edig, yn mesur deuddeg troedfedd a saith 0 0 modfedd o hyd, deuddeg troedfedd o led, a phedair troedfedd o drwch, yn gorphwys ar chweeh o attegion, chwe troedfedd uwch gwyneb y maes, pedair colofn attegol o dan y pen gogledd-ddwyreiniol, a dwy o dnn y pen de-orllewinol; gorwedda dwy golofn o dan y prif-faen felly perthynai i'r gromlech gynt wyth o attegion cryfion. Mesura y gromlech leiaftua saith troedfedd o hyd wrth bump o led, a thair o drwcb, a gorphwysa ar bedwar o attegion, y pum- med wedi cwympo i'r llawr. These si ngular remains are overhung by branches of an immense large ash tree, whose spreading boughs and waving foliage, 0 bending towards the east, form an elegant canopy; another close by, leans the same way; and the group, including collateral shrubs, the house, the water, and the mountains visible through the back ground, form a most delightful picture." Cambrian Mirror, by R. Parry, p. 199. Nid neppell oddiwrth y cromlechau rhag-grybwylledig, ceir carnedcl neu domen ystafellog, a elwir y 0 ic CHAMBER MOUND," cyfran o'r hon a symmudwyd ymaith. Mesurai ar un adeg tua 142 o droedfeddi mewn amgylchedd, ac yr oedd yn gyfan- soddedig o grug anferth o feini o'r un maintioli a'u gilydd, yn gyd-gymmysg a phridd, er hyrwyddo twf coed a llysiau. Prin y gallesid ei gwahaniaethu oddiwrth ryw fryncyn cyffredin, gan y gorchuddid hi a mwsogl a glaswellt, a thyfai coed praff arni. Mewn anwybodaeth o'i natur, gor- chymynodd Syr Nicholas Bayley i'w weithwyr wastadhau y mounds, ond pan ddaethant ar draws esgyrn dynol, arch- odd iddynt ymattal. Felly gadawyd y garnedd yn 90 troedfedd o amgylchedd, a phedair troedfedd ar ddeg o uchder, gyda choeden yma ac accw. Oddifewn i'r gar- nedd caed cell, saith troedfedd o hyd wrth (lair o led ei hochrau wedi eu gWeithio a llechfeini teneuon, a dan faen fflat yn nentwd, y naill yn chwe troedfedd ysgwar a'r llall yn bedair. Ar uchaf y meini yr oedd dau dwll hanner-grwn, digonol i gynnwys gwddf dynol. Tybir y gallasai fod tyllau cyffelyb oddiarnynt, fel ag i ffurfio cydrhyngddynt fath o gyffion. Os felly, tybir mai yma y sicrheid yr anffod- usion hyny, a dynghedid ac a ddiofrydid gan yr offeiriaid Derwyddol i'w llosgi yn aberth i'r duwiau ar yr Allor gerllaw. Dywed Rowlands i bersonau yn ei amser ef, wrth gloddio ceryg calch allan o gar- nedd, yr hon sydcl yn Nghoed Plas New- ydd," ddarganfod ar un ochr iddi, yn lied agos i'w chopa, mewn tua llathen o geryg, esgyrn tri pliers on yn gorwedd yn agos i'w gilydd, ar ogwydd, a'u penau i waered. Tybia ein hawdwr mai hwynt- hwy oedd y rhai olaf a aberthwyd ar y fan, gan eu bod mor agos i'r wyneb, a darfod iddynt gael eu haberthu pan oedd gyfyngaf ar y Derwyddon, a'r Eryr Rhuf- einaidd eisoes yn hofran uwch eu llwyni a'u hallorau. Maentumia awdwr y 31ona Antiqua (yn groes i delysgeidiaeth ddi- weddarach) fod y Chamber Mound yn Mbarc Plas Newydd yn weddillion ryw- beth amgenach na gorweddle gwroniaid. yr hen oesau—tumulus, ys dywedir. Dywed y Parch. P. B. Williams, person Llanrug, o barth y Garnedd :—" Not far from the Cromlech is a large Carnedd, part of which has been removed within was discovered a cell, about seven feet long and three wide, covered at the top with two flat stones, and lined on the sides with others. On the top of the stones were two semicircular holes, of size suf- ficient to take in the human neck; it is conjectured that above might have been another, so that both together might per- form the office of a stocks.—It is indeed a conjecture, yet not an improbable one, that in this place were confined, the wretches destined for sacrifice, as it is well known that they performed those execrable rites, and often upon captives who had suffered long imprisonment, per- haps in cells similar to this, and the common Welsh proverb, Biorw caeth i Gythraul,' to offer a captive to the Devil, seems to confirm this opinion. "-Ilist. of Carnarvonshire, p. 59. 0 gloddfa Twr Celyn, gerlJaw Plas Newydd, y caed y calch-feini a ddefnydd- iwyd wrth adeiladu Castell Caernarfon.

[No title]

---. LLIT1I DAFYDD EPPYNT.

[No title]