Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

- , -11 -f. 'Y DEHEUDIR. ,.

News
Cite
Share

-11 -f. Y DEHEUDIR. (ODDIWRTH EIN GOHEBYDD.) J \r) Nid wyf yn gwybod dim o banes y Lleithfaen at yr hwn y cyfeiriai Cwmbrefi, yn mhellach na bod darn o gareg lwydlas yn meddiant gwraig Mr Charles James, saer, Pentre Richard, gynt. Careg lwyd- las oedd. Ar ol ei marwolaeth, yr oedd yn nghadw gan un o'i pherthynasau tua Chaio neu Gwrt-y-cadno. Nid wyf yn credu fod dim mwy o rinwedd ynddi i wella y clefyd alaethus hwn nag un o geryg Cwmbrefi. Y mae y gred ynddi yr un fath a chwppan Nanteos. Dywed- ir i hon gael ei gwneud o ddarn o groes ein Hiachawdwr. Ystyrier fod yfed gwin o honi yn attal y gwaedlif yn ddioed. Y mae y gred ynddi heddyw yn parhau. Tua phum mlynedd yn ol yr oeddym yn digwydd bod yn Nanteos, pryd y daeth menyw a'r gwppan yn ol. Y mae y gred- iniaeth yn yr hen greiriau hyn yn ddigon i wella l'hai dynion.-Byddaf yn ddiolch- gar os bydd i Cwmbrefianfon ei address yn gyfrinachol i ni trwy eich swyddfa. Y mae yn ymddanges fod hi yn dylawd ar yr Apostol Heddwch fod yn rhaid iddo chwipio hen geffyl marw yn Llanerch- ymedd. Yr oeddwn yn meddwl i ni glywed yr olaf am yr hunllef dychmygol hwnw-y Merthyron Cymreig, o goffad- wriaeth fendigedig. Mor bell ag oedd a fyno a siroedd Caerfyrddin ac Aberteifi, trodd allan a fflachiodd fel cwd y mwg, mewn mwg a niwl. Methwyd profi dim o'r haeriadau, hyd yn nod Davies y pre- gethwr a'i got ddu heb un llawes. Rhoddodd y symmudiad hwnw gyfleusdra anwyl i Mr Richards a'i gynffon i luchio Uaid at ffenestri y tirfeddianwyr Cymreig. Yr oedd y Parch. Evan Harries o Ferthyr yn arfer dyweud fod teimladau drwg yn meddiannu llawer dyn ar doriad ei fogail. Braidd na ddywedwn yr un peth am Apostol Heddwch. Y mae ef yn elyn milain i'r tirfeddianwyr Cymreig, y rhai a ddesgrifia fel hanner gwallgofiaid difenydd a dilafar. Byddai yn well i Radicaliaid Mon beidio cyfrif eu cywion cyn iddynt ddeor. Cyhoeddodd Mr Richards fwy na deng waith nad oedd dim perygl i Dori byth ddangos ei big yn siroedd Aberteifi a Chaerfyrddin wedi cael y balot. Pa le mae ein Evan Mathew Richards ni a'n Sartoris Bach ni heddyw ? Y maent yn y lie y dylasent gael ei hanfon yn 1868, yn lie myned i'r Senedd. Y mae yr ethol- wyr yn y siroedd hyn wedi ciccio dros y tresi, ac heb honi fy mod yn feddiannol ar allu i brophwyclo, mi fentraf goron yn mhen ceiniog na welir un ohonynt yn ael- odau seneddol dros y siroedd hyn etto. Taflodd y local board James Hughes, assistant-overseer, Llechryd, o'i swydd am y busnes bawlyd hwnw o ffugio llyfrau treth y tylodion er i'r Rads ennill lecsiwn y bwrdd ysgol yn Llangoedmove. Os oedd James Hughes yn haeddu cael y cwd, dy- lasai ereill blaenllaw gael y cwd mewn safleoedd uwch, canys yr oedd yn beth hollol annghyfreithlon ac anadddas. Yr oedd trie Llechryd yn un o'r triciau etholiadol iselaf a glywyd son am dano erB hir amser. Y mae hi yn ymladdfa wyllt yn mhob tref fwrdeisiol heddyw, am gynnrychiol- aeth y bwrdeisdrefi yn y cynghor trefol, pob un a'i ochr yw hi heddyw. YnNghaer- dydd Radicaliaeth sydd am fyned yn ben, ac i ladd dylanwadau castell Caerdydd. Pwy gododd Caerdydd i'w sefyllfa bres- ennol ond Ardalydd Bute ? Dyn rhyfedd ofnadwy ywyTad Ignatius yna. Y mae ef yn awr yn codi mynachlog a'r lan Honddu, lie bu hen fonachlog en- wog Llanthony gynt. Nid oes un eglwys yn ei arddel, edrycha uchel acisel Eglwys- wyr arno gyda dirmyg, a'r pabydd a'r ymneullduwyr yr un fath ond gweithia ei ffordd, ac mae yr yd yn dyfod i'r felin yn barhaus. Areithiwr campus ydyw y mae yn berwi o hyawdledd, ac y mae ei hyamlledd yn swyno ei wrandawyr i ddad- fottymu eu poccedau. Pregethodd yn ddi- weddar yn Llangynydr o blaid yr ysgolion enwadol. Ymosododd yn llym ar addysg fydol. Y mae yn amlwg nad yw y gallu sydd gan y bwrdd ysgol yn gweithio yn rhwydd; y maent yn gorfod gwysio yr un rhai dros- odd a throsodd. Pa fodd y maent yn dis- gwyl i blant ddysgu &'u boliau yn weigion a'u cefnau yn Uwm ? Y* mae yn ddigon hawdd i ddynion sydd ar ben eu digon siarad. Cyn gellir cael plant amddifaid tylodion i'r ysgol, byddant yn rhwym o'u bwyd a'u dillad. Y mae rhai o'r byrddau hyn fel cwn yn y preseb, ac y mae ereill. fel bwrdd Caerfyrddin yn erlyn pobl, ac ar yr un pryd yn gwrthod talu am eu dysgu, ond yn ysgolion y bwrdd. Yr wythnos ddiweddaf claddwyd Mr Thomas Williams, y Glog, Llanwynno, sir Forganwg. Bu fyw nes oedd ef yn 90 mlwydd oed., Yr oedd ef, fel yr hen bobl, yn heliwr mawr trwy ei oes, ac i'w ymar- feriadaucorphorol-y mae ei Lirhoedledd i'w briodoli. Y mae dynion yn rhy swell syber i hela llwynogod yn awr, a difyrweh ar y meus- ydd fel yr oedd yr hen bubl ITi-i arfer gwneud, Cymmerodd ffrae ddychrynllyd le yn Casnewydd rhwng y personau oedd yn dwyn cyssylltiad a'r eisteddfod gerddorol. Cymmerodd un o'r personau yr holl arian bangc, ac y mae y lleill yn eu hawlio. Bu- ont bron ag ymladd. Caiff gwyr y cwils waith i benderfynu y matter. Y mae ysgol waddoledig Gelligaer, yn yr hon oedd plant y tylodion yn cael eu haddysgu, ar gael ei throi yn middle class school i blant y canoliaid. Gadawodd y cymmunroddwr hi at roddi addysggrefydd- o 1; ond nid oes dimcrefyddi fod ynomwy- ach. Dyna gamddefnyddio arian y cym- munroddwr with a vengeance. Achwynir fod dynion ieuaingc mewn trefydd a lleoedd poblogaidd yn mynychu y casinos a'r dancing saloons, o herwydd fod cymmeriadau drwg yn mynychu y lle- oedd hyny. Nis gellir eu hattal i fyned i gael difyrweh ac os ydyw pobl am gadw yr ieuengctyd o leoedd o'r fath, dylent barottoi lleoedd addas iddynt i ddifyru ei hunain. Yn y fath leoedd poblogaidd ag Abertawe a Chaerdydd, nid oes ganddynt ddim un lie i fyned i rodiana ond ar hyd yr heolydd y rhai sydd ynllawno demtas- iynau. Y mae Cynghor Trefol Caerdydd yn myned i'r Senedd i gael act i helaethu terfynau y fwrdeisdref a chael pare at wasanaethycyhoedd, acy mae Mr Thomas o'r Lan wedi llwyddo i gael tir i wneud pare i'r bobl rhwng Treforis ac Abertawe. Addawodd Mr Llewelyn, Penllirgaer, y tir. Y mae clod yn ddyledus i'r olaf am ei haelioni. Y mae y tafarnwyr mewn lleoedd bych- ain yn gwingo yn erbyn y gyfraith newydd sydd yn eu gorfodi i gau am ddeg yn lie un-ar-ddeg o'r nos. Cyfnewidiad rhagorol yw hwn. Cymmerodd yspeiliad haerllug ofnadwy le yn ddiweddar yn Cwm Bach. Lladrat- tawyd sachau cyfain o flawd a chasgeni o fenyn o ystorfa y Co-operative stores. Cafwyd yr eiddo yn meddiant dau gychwr ar y gamlas, ac y maentmewn dalfa. CRAIG Y FOELALLT.

Y GOHEBYDD GWIBIOL.

LLOFFION O'R DEHEUDIR.