Skip to main content
Hide Articles List

6 articles on this Page

ARGLWYDD PENRHYN.

News
Cite
Share

ARGLWYDD PENRHYN. FONEDDIGION,-Wrth ddarllen yn ddi- weddar mewn mwy nag un newyddiadur "Cymreig rai sylwadau tra annheilwng o J berthynas i haelioni y pendefig uchod, tueddir fi i ysgrifenu yr ychydig linellau hyn er dangos fod gwedd fwy eang a rhyddfrydig i haelioni ac elusengarwch ei arglwyddiaeth nag y myn golygydd y Goleuad ac ereill i ni gredu. Oddeutu tair blynedd yn ol, aethum at Arglwydd Pen- rhyn i'w dy yn Llundain i ofyn am gyn- northwy arianol tuag aty gangen Gymreig o'r genhadaeth ddinesig, ac ar ol i'w arglwyddiaeth ddeall fod gwir angen am y fath sefydliad rboddodd ddeg punt tuag atti. Yu mhen blwyddyn ar ol hyriy, wedi gwybod mwy am weithrediadau'r gym- deithas, rhoddodd hanner can' punt, ac yn mhen blwyddyn arall tanysgnfiodd manner can' punt drachefn. Hefyd, tra yn Llundain y mae yn barod bob amser i wrando ar gwyn yr anghënus ac i estyn ymwared i'r cyfryw. Dywedwyd wrtho unwaith am Gymro tlawd wedi colli ei iechyd, ac yn analluog i ddilyn ei alwed- igaeth. Anfonodd gymmorth arianol iddo yn y fan, a thrwy ymdrech a dylanwad Arglwyddes Penrhyn, cafwyd un o blant y tlawd a'r trallodus hwn i Y sgol Elusengar Gymreig Llundain (London Welsh Charity School). Pryd arall gwnaed tlodi a gofid vC!ymraes weddw ag oedd newydd golli ei snab yn hysbys iddo; cynnorthwyodd hon tto yn ddioed, a thalodd holl gosfcaur -claddu. Dro arall aeth Cymraes atto 1 w ,dy i ddyweud ei bod hi a'i theulu mewn "Alodi mawr oherwydd i'w phnod goili ei ■ddwy goes trwy ddamwain, ychydig lisoead yn flaenorol. Ar ol deall fod hyn a ddy- wedai yn wirionedd, galluogodd y gwr i brynu dwy goes gorcyn, heblaw estyn cyn- northwy arianol i'r teulu yn eu hadfyd. Galluogir llawer ganddo hefyd o Gymry tlawd ac afiach i ddyfod o Gymru i wahUnol ysbyttai Llundain i geisio iachad o dro i dro, a-chymmer ef a'i briod an- rhydeddus y dyddordeb xnwyaf yn y rhai hyn tra y byddant yma, trwy ymweled a hwy yn gysson a pharhaus a phan yn gadael Llundain, rhoddant eu gofal mewn modd arbenig i'r cenhadwr Cymreig. Synwyd fi yn fawrheddyw wrth ymweled ag un o'r Cymry hyn yn ysbytty St. George's, wrth glywed fod eli. arglwydd-! iaeth wedi ymweled ag efl|^y waith yn vstod ei ymweliad byr a Llundain yr wythnos hon. Er mai galw i weled y iOymxo Of wnaqth y pendefig, etto nis gallai Jai, na thostuiao wrtli y Sais ag oedd yn iglaf yn y gwely nes.af. Dywedai wrth hwnw < aim anfon atto ef pa bryd bynag y .ai aVpo eieiw cymmorth. Argy- hoeddw^d fiheddyw n,ad ydyw prysurdeb y :;strike y:a ChW.,tLrol.,y. Penrhyu, a'r holl ysgrifenu eas sydd wedi bod/yn ddiweddar ittas; argli^yddiaethrddiaa wedi aru ( ei ao haelionus. Y mae yin v un o'r ysbyttai yma- yn awr forwr Cym- reig, a fuasai, yn ol ei dystiolaeth ei hun, ya eitfeddeyn hyn oni buasai'r dyddordeb aigý mae ei arglwyddiaeth a'i briod wedi ei gymmeryd ynddo yn ystod y flwyddyn bon. Ersdros flwyddyn bellaefe crybwyll- wyd wrth ei arglwyddiaeth gan y cnhadwr am y dymunoldeb o sefydlu cymdeithas elu&engar er cynnorthwyo Cymry tlodion y brif ddinas. Addawodd yn y fan wneud yr oil a allai er hyrwyddo sefydliad y fath gymdeithas rhoddodd ei bresennoldeb yn y pwyllgorau rhagbarotoawl, a chydsyn- iodd gyda'r parodrwydd mwyaf i fod yn llywydd y gymdeithas, yr hon erbyn hyn sydd wedi ei sefydlu, ac sydd eisoes wedi gwneud daioni dirfawr yn mhlith ein cyd-; genedl. Nid ydyw y ffeithiau hyn ond ychydig o lawer a allesid eu dwyn yn mlaen er dangos nad cul a chyfyng yw haelioni y pendefig uchod yn Llundain, modd bynag. Pa beth bynag a ddywedir neu a ysgrifenir yn anffafriol am Arglwydd Penrhyn yn Nghymru y dyddiau hyn, gallwn ni yma oddiar dair blynedd o ad- nabyddiaeth bersonol ag ef, dystio na, chyfarfyddasom erioed a neb yn fwy parod i-gyfranu at wahanol achosion da, ac i gydymdeimlo a'r tlawd, o ba enwad crefyddol bynag; a'n gweddi yw ar i'w ysbryd haelfrydig ddisgyn ar ei blant yn -v gystal ag ar lawer rhagor o foneddigion ein gwlad. 1 DAVID THOMAS, •.77i! Cenhadwr Cymreig, 188, East India Road, Llundain. Hydief31, 1874.

GHvVARELWYR FFESTINIOG A'U…

EISTEDDFODAU LLANIDLOES.

YSGRIFENYDDION EIN EISTEDDFODAU.

TAN DYCHRYNLLYD.

[No title]