Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
13 articles on this Page
CYFARCHIAD BARDDONOL,
CYFARCHIAD BARDDONOL, I'r brawd Rhuddlanydd, ar ei undeb priodasol gyda Miss Margaret Williams, Upper Bangor. Ystad o raa Duw ydyw,-yn Eden Priodas a banyw; Yn mynwes gynes menyw, Dyna y fan i'r dyn fyw. Am wn i, mae'r peth mwya'n awr-o goedd Ddigwyddion ein gorawr, Yw Rhuddlanydd, urdd lenawr, Wedi myn'd i'r gwynfyd mawr! Rhuddlanydd, os hardd Eilonwy-a. gest I gyd fyw'n gynnorthwy, Cest garchariad ofnadwy,— Dim merched ond Margred mwy Ei "Iiw ei hun o'r diwedd,- oreu fardd, Gel ar fyd y gwagedd, Ei loes bob yn ail a'i hedd— Ei dd'ioni, a'i gilddanedd Heb feddyg, byw a fyddocb,—byw yn hir, Heb nab a'i lach attocb, H eb goegni beili tra b'och, Na thwrna, bendith arnoch Heb ddimai'n fyr—heb ddim aa foes—y b'och, Hyd ben pella'r fer-oes I. A chryd llawn hyd nawn einioes, Diliau ar hyd cydol 'r oes TREBOR MAI A'I CANT.
- ■ ■ 1 . ENGLYNION, "1"
■ ■ 1 ENGLYNION, 1" Ar briodas Mr Ellis Lloyd Jones (Rhuddlanydd), Bangor, & Miss M. Williams, Upper Bangor. Dedwyddwch 'r hen dad Adda—yn Eden Ydoedd ei wraig Efa t Ac i ddyn y mae gwraig dda Yn goron o'r bawddgara'. (medda nhw.) Rhuddlanydd a'i wraig ddyddan,—allweddau Llwyddiant fo'n eu cyfran Yn ddiball o hyn allan Heb un croes bir oes fo'u rhan. Llanrvrsb. HENRY GWYNEDD HUGHES.
NID YDWYF Fl FY HUN.
NID YDWYF Fl FY HUN. Nid ydwyf fi fy hun,—mae'r gwynt Yu chwareu'i delyn yn y coed Ni ohwynaf am yr amser gvnt— 4 Ni chwynais i am ddim erioed. Pe ymddieithrai pawb ac oil, Pe ai cyfeillion bob yr un,- 0 anian nid ai di ar goll, • Ac 0 nid ydwyf fi fy bun. Y m fir, ymdeimlol o fy rhan, Eneinia'm pen &'i ddagrau hallt; Yr wyf fel pe heb orphwya fan, Gofalon dwys ariania'm gwailt. Bu un yn fyd-yn bobpeth im'- Mae hono'n mhell, ddieithrol fun, Ond tra yn nghwmni'th donau chwim, 0 For nid ydwyf fi fy hua 0 gesail dydd daw'r lleuad dlos, A'i mherched heirdd yn fyrdd o ser, I wenu arnafyn y nos- Naturiol iaith fy Nuw, fy Ner Eneidio'r gwyll wna'r eos fwyn, Gan fiwsigeiddio cwsg a hftn, Ac er yn unig yn y llwyo, Yn wir nid ydwyf fi fy hun. FFERYLLFARDD.
COF GOLOFN TALIESIN.
COF GOLOFN TALIESIN. Eogljoion a fwriadwyd anfon i gystadleuaeth Arwest Farddonol Glan Geirionydd, 1874. Hudol lys hen Daliesin-argelir Trwy'r golofn a'i chyfrin A chwi, feirdd, cusenwch fin A llwch daear lle'ch dewin. ii Eofn mae y golofn mwyach-mewn grym Yn awgrymu'n bellach Hynaf lys henafol Ach Y fro bon a'i chyfrinach. Man tlws er mwyn TalieBin,—yw'r llanerch I'r lienor, a chyfrin Fro anwyl barddol frenin,- Ewch i lawr, a phlygwch lin OOWENYDD.
HIR A THODDAID.
HIR A THODDAID. A gyfansodàwyd wedi cael golwg ar yspienddrych cyhydeddol Dr. Evans (Tudur), Llanerchymedd. i 0 ucbel bentan ei ecbyl bwyntia 1 faes y niwloedd, ei fys annela Pellteroedd asur eang fesura, Drwy fawr uchelion draw fe archwilia, 0 ddu eigion fe ddyga-ser i gyd Draw o eigonfyd awyrog wynfa Bryngwyn Bach. JOANEN.
.!CANTREF Y GWAELOD.
CANTREF Y GWAELOD. Cydfuddugol yn Eisteddfod Enlli, 1873. Ow trwy fir, mae'r Cantref heb,—i'w nodi Un adail na chofeb Aeth trwy win a glythineb, I Dan wely oer y don wleb. lOAN GLAN MENAI.
Y DYN A'R LANTAR, "'■'NEU…
Y DYN A'R LANTAR, NEU WELEDIGAETHAU Y BARFWR. R PENNOD XX. Yn mha un y mae'r Barfwr yn dychwel aclref, ac y mae'r awdivr yn dyiveud far- wel. Tyred," ebs'r Dyn a'r Lantar, gan afael yn ysgwydd y Barfwr. Yn y fan clywai y Barfwr swn dirfawr, a gwelai fod yr holl ddrysau ag oedd yn gauedig gynt yn awr wedi eu hagor. Tyred," ebe'r Dyn a'r Lantar drachefn, ac allan a hwy trwy y drws agosaf iddynt, gan adael y drych gwyrthiol a'i boll ryfec dodau o'u hoi. Oddiallan yr oedd y mwl caddugol eto yn ymdreiglo o amgyich y Ho. Agor- wyd y lantar, ac yn mlaen a hwy gyda chyflymdra gwibseren. Yn mlaen, ne;i yn hytrach yn ol, yn ol a hwy nes o r di- wedd ar eiliad dyma'r Dyn a'r Lantar yn aros, a phan gasglodd y Barfwr druan ei synwyrau gwasgaredig yn nghyd, caioaa ei hun yn eistedd yn y gadair eillio yn ei siop ei hun, a'r Dyn a'r Lantar yn sefyll o'i flaen. "Dymt fi. wedi cyflawm fy addewid," ebe'r Dyn a'r Lantar, ac yn awr, 0 Farfwr, ffarwel." Gyda'r geiriau hyn dechreuodd ddiflannu yn arafaidd, fel pe yn toddi i ffwrdd o'r golwg. Aros, aros ebe'r Barfwr, ni chefais biller digon o wybodaeth eto." "Felly y dy- wed pob dyn gwybodus," ebe'r Dyn a'r Lantar, oherwydd po fwyaf ,gwybodaetb dyn, mwyaf yn y byd y teimla oddiwrth ei anwybodaetb. Ffarwel, ffarwel, 0! Farfwr; fe ddeuaf yn fy ol eto os, Os beth," gofynai y Barfwr mewn pry- der. "Os," ebe yntau, os bydd a diflanodd. Gruddfanodd y Barfwr. If Yr oedd hi'n foreu. Yr oedd hi yn bur foreu yn ninas y Penbwliaid, oherwydd nid oedd neb etto wedi cyfodi o'i wely, nac yn wir wedi ymwneud dim tuag at y gorchwyl pwysig hwnw heblaw breu- ddwydio am wneud. Creaduriaid diog ydoedd y dinasyddion Penbwlaidd oil. Oddifewn i'r tai yr oedd pob peth yn ddis- taw, oddigerth y clywid svvn chwyrnu mewn ambell i dy, ac yr oedd y lleni etto yn cuddio y ffenestri. O'r tu allan parhai y niwl dudew i ffurfio caddug uwchben, ac i ymdreiglo o amgylch y conglau ac i lawr yr heolydd yn ei ddull trymaidd a distaw arferol. Ond tua dwy filldir o'r ddinas, gwelid, yn hytrach gallesid gweled pe buasai dyn yno ar y pryd, wr dieithr yn ymdeithio yn brysur trwy y niwl tua'r dref. Yn nes, yn nes y daeth, nes o'r diwedd y cyrhaeddodd y ddinas, a dechreu- odd gerdded i fynu y brif heol. Tra'n myned yn mlaen, gwelai oleuni yn ym- ddangos trwy y niwl, a phrsurodd tuag ato. Beth ydoedd y goleuni hwn ? Goleuni o siop yBarfwr. Neshaodd y dieithr ddyn at y fan a gwelodd mai dyna ydoedd, a chan fod drws y siop yn agored, aeth i mewn. Mewn cadair yn y siop gwelai y Barfwr yn eistedd a'i lygaid yn gauedia a gerllaw iddo ar y llawr yr ydoedd rasal finiog, ac ar y llawr yr ochr arall yr oedd y lledr hogi yn gorwedd yn y llwch. Cy- fododd y dyn dieithr ei law a tharawodd y Barfwr ar ei gefn. Neidiodd y Barfwr i fynu wedi deffro. Mae arnaf eisieu fy eillio ebe'r gwr dieithr, gan eistedd yn y gadair. Edrychodd y Barfwr arno am fynud mewn syndod, ac yna trodd i estyn y sebon a'r brws yn ol ei hen arferiad, a dechreuodd seboni gen y dyn. Yna eill- iodd ef yn lan. Cyfododd y dyn dieithr i fynu, ymolchodd ac ymdrefnodd, yna estynodd geiniog i'r Barfwr, a chan ddyweud "boreuda," aeth allan. Edrych- odd y Barfwr ar ei ol, yna trodd ei olygon at y geiniog, a chan ysgwyd ei ben rhodd- odd hi yn ei boced. Yr ydoedd yn amlwg ei fod yn petruso yn nghylch rhywbeth. Ar eiliad dyna ddrycbfeddwl i'w ben, a throdd i edrych yn y drych oedd uwchben y pentan. Nid oedd un ddadl ar y pwngc, yr oedd ei wallt wedi gwynu. Estynodd ei het oddiar yr hoelen ar ba un yr ym- bongiai, a cheisiodd ei gosod ar ei ben. b Yr oedd yr het yn rhy fechan iddo Ai tybed mai breuddwydio wnes i ? ebe efe wrtho ei hun. Os felly, sut y mae fy ngwallt mor wyn, a'm het mor fechan i mi ? Ond ar yr ochr arall, os oeddwn yn effro, sut y darfu i'r dyn dieithr yna ddyfod i mewn i'r siop heb i mi ei glywed?" Ysgydwodd y Barfwr ei ben drachefn. Yr oedd y cwestiwn tu draw i'w allu i'w benderfynu, ao oberwydd hyny cymmerais fy het a dychwelais adref. Y diwedd. I
[No title]
Dywedir fod mewn bwriad gan gwmni y London and North Western wneud gos- tyngiad pwysig yn mhris y cludiad gyda cherbydresi yr ail ddosftarth. TREHERBERT, DYFFRYN RHONDDA.- Pryd- nawn dydd Mercher a dydd Iau, yr 21ain a'r 22ain o'r mis hwn, cynnaliwyd cyfar- fodydd o ddiolchgarwch am y cynhauaf yn y lie uchod. Am saith nos Fercher, darllenwyd y gwasanaeth gan y Parch. Evan Davies, B.A., curad y lle, a phre- gethwyd gan y Parch. T. Jones, curad Glyncorrwg, a'r Parch. J. Cunnick, ys- grifenydd y Gymdeithas Fugeiliol Eg- lwysig. Nos Iau, darllenwyd y gwasan- aeth yn Seisneg gan y Parch. Wm. Lewis, ficer y plwyf, a phregetbwyd hefyd yn Seisneg gan y Parch. J. Cunnick. Yr oedd y cynnulliadau yn dra lliosog, a'r pregethau yn dda ac yn cael gwrandaw- iad a stud. Y mae clod yn ddyledus i'r boneddigesau canlynol am eu hymdrech a'u diwydrwydd diflino i addurno yr Eg- lwys mor dlws, sef, Mrs J. Wilson Evans, Pentre; Mrs Evans, Brynfedwen; Mrs Price, ac ereili. Yn mhlith yr offeiriaid yr oedd yn bresennol y Parchedigion J. Wilson Evans, Pentre; E. T.Davies, B.A., Bettws; W. Jones, Treorci; a William Davies, curad Treorci. Yr oedd y casgl- iadau yn hael tuag at y Gymdeithas Fu- geiliol Eglwysig, i ba un y mae y plwyf eang hwn yn bur ddyledus. ENGREIFFTIAU YCHWANEGOL 0 IACHAD O'R ASTHMA, DAHWDKDIGAETH, A PHESWCH DlWY WAFFBENAU PUXMOJSAIDD DR. LOCOCK.—Oddiwrth Mr C. Reinhardt, ffervllydd, Briggate, Leeds.—"Ami a rhyfeddol ydyw y tystiolaethau i'r esmwythad a hyiforddir mewn achos- ion cadarnhaol o asthma a darfodedigaeth a pheswch maitb, a rhydd foddhad i mi gyfeirio at gynnifer o bersonaii parchus pa rai ydynt yn wir awyddus i wneud yn hysbys y lleshad mawr a dderbyniasant drwy y feddygiuiaeth ainserol hon. Mewn asthma, darfod- edigaeth, bronchitis, peswcb, auwyd, crydcymalau, a phob aahwylder hysteraidd a gewyuol, rhoddir esmwythad unioDgyrchol drwy Waffrenau Pulmonaidcl Dr. Locock, i ba rai y mae archwaeth, peraidd. Ar erth gan bob cyfierydd am le, I I c. 2
GAXR 0 LANAU MENAI.
GAXR 0 LANAU MENAI. Ychydig a fyddaf yn weled o newydd yn Llais y Wlad o lanau prydferth y Fenai, ac feallai y byddai gair neu ddau y tro hwn am y Felinheli a'r amgylchoedd yn dderbyniol gan eich darllenwyr. Yr wyf yn deall fod y Llais yn cael ei ddarllen yn yr ardal hon, er mai Radicaliaeth sydd yn lied uchel ei ben yn y fro. Fe newidiwyd enw yr ardal o fod yn Felinheli i Port Dinorwic, am fod y Porthladd yn derbyn yr holl lechau o chwarel fawr Dinorwig, perthynol i Mr Assheton Smith, o'r FaenoL Mae rhwng chwech a saith mil o dunnelli o lechau yn cael eu der- byn yn fisol yn y porthladd, y rhai a dros- glwyddir i bob rhan o'r deyrnas mewn llongau a chyda y rheilffordd. Dibyna masnach y lie a bywoliaeth y trigolion yn hollol ac yn gyfangwbl ar y porthladd a'r faenach a wneir mewn llechau, ac fel y mae yn hysbys i'r wlad mae chwarel ar- dderchog Dinorwig yn bresennol mewn llawn gwaith, y chwarelwyr diwyd fel yn ymadnewyddu i dynu ailan y trysorau sydd yn guddiedig ers oesoedd dirifedi o fewn henJynyddoecltl Arfon, a hyderwn y parha y, uii ysbryd heddychol rhwng y boneddwr caredig o'r Faenol a'i weithwyr, ac na ddaw gelynion heddwch a thangnef- edd byth i wahanu rhyngddynt. Mae breintiau erefyddol yr ardal yn dra uchel. Mae gan bob enwad crefyddol eu lie o addoliad, a gwelir minteioedd yn cyrchu i cly yr Arglwydd yn mhob cyf- eiriad ar y Sab both, ac ar fin yr hwyr ddydd gwaitb. Gorwedd y pentref mewn tri o blwyfi, sef Bangor, Llan- ddeiniolen, a Llanfairisgaer. Cefais y fraint o fod yn bresennol yn ail-agoriad ben eglwys Llanfairisgaer ddydd Mercher, Hydref 21ain. Saif yr hen eglwys ar lan- erch dawrel ac unig ar lan y Fenai, hanner y ffordd rhwng Caernarfon a'r Felinheli, ac y mae yr hen fynwent dawel, yr hon sydd yn gorwedd yn swn tonau afon Menai yn llawn o feddau y rhai hyny sydd i gyd wedi bod yn swn hen afon yr Iorddonen, ac wedi teimlo grym ei dyfr- oedd oerion. Mae yr eglwys wedi ei had- gyweirio, ac yn edrych yn bur hardd, er nad ydyw ei maintioli ond bychan. Caw- som ein siomi yn absennoldeb Esgob Bangor, ond cawsom adeiladaeth yn y gwasanaeth yn yr iaith Saesneg. Yr oedd y gweinidogion canlynol yn cymmeryd eu rhan :—Y Parch. W. Griffith, gynt ficer y' plwyf, yn awr o Llangadwaladr, Mon Parch. T. C. Edwards, ficer Caernarfon; a'r Parch. H. Parry, ficer y plwyf ac ereill. Cafwyd pregeth darawiadol ac i'r pwrpas gan yr Archddiacon Evans o Fan- gor. Troisom ein cerddediad yn y pryd- nawn tua'r eglwys newy-dd sydd yn sefyll arlanerch prydferth ar lechwedd y bryn, yn orllewinol i'r Felinheli. Dechreuwyd y gwasanaeth am hanner awr wedi dau, ac yr oedd yr eglwys brydferth yn llawn o wrandawyr. Gweinyddwyd y conffirmas- iwn gan Esgob Bangor, yr hwn oedd yn dioddef dan anwyd trwm, ond a annerch- odd, yn yr iaith Saesneg, y rhai hyny oedd yn myned i adnewyddu yr addun- edau oedd ereill wedi eu gwneuddrostyntyn eu bedydd, a hyny gyda nerth a theimlad cryf. Annerchodd Ficer Caernarfon yr un modd yn Gymraeg, a hyny yn hynod o darawiadol. Yr oedd yn hyfryd genym weled cymmaint o ieuengctyd yn dyfod yn mlaen yn gyhoeddus i adnewyddu yr addunedau a wnaed drostynt yn eu babandod, a hyderwn y byddant yn dyfod yr un mor gyhoeddus i dalu eu hadduned- au. Yr oedd y dydd yn ddiwrnod o ddiolch- garwch am y cynhauaf yn mhlwyf Llan- fair, ac yr oedd y ddwy eglwys wedi eu haddurno yn wir deilwng o'r achlysur. Am haner awr wedi chwech yn yr hwyr, cawsom wasanaeth Cymraeg, ac yr oedd yr eglwys etto yn llawn o wrandawyr, a phregeth ragorol a gafwyd gan y Parch. W. A. Jackson, Llanelwy. Yr oedd y gynnulleidfa wedi eu hoelio megys wrth ei wefusau am awr o amser, yn gwrando ar efengyl bur yn cael ei chyhoeddi iddynt. Yr oedd y testyn, sef— Oni lanhawyd y deg, ond pa le y mae y naw ?" yn un hynod o briodol ar yr achlysur. Dangos- odd yr achosion o anniolchgarwch dyn at ei Grewr a'i Gynnaliwr yn dra effeithiol a grymus. Hir oes i Mr Jackson i weithio yn Ngwinllan ei Arglwydd. Yr oedd golwg 0 a lewyrchus a chalonog i'w weled ar wasan- aeth y dydd, a'n dymuniad ydyw fod i'r achos lwyddo mewn cyssylltiad a'r Eglwys yn y plwyf a'r gymmydogaeth a bydded llwyddiant mawr i'w weled ar lafur a di- wydrwydd ficer a churad parchus y plwyf a'r pentref. IOAN DDU O WYNEDD.
[No title]
PELENAU HOLLOWAY.—Gofalwch am eich iechyd,-y mae unrhyw gyfnewidiad sydyn yn y tywydd yn wastadol ya achosi gweithrediad afreolaidd yn y corph dynol. Y mae yii bwngc o bwysigrwydd blaenaf i gywiro pob afreoleidd-dra heb oediad, yr hyn sydd yn ngallu pawb i'w wneud drwy gymmeryd Peleriati Holloway. Y Pelenau hyn ydynt yr attalfa oreu rhag diffyg treuliad, 'r feddyginiaeth ryddhaol oreu a barottowyd. Purant c oeraut y gwaed, a rheoleiddiant ei rediad drwy yr oil gyfansoddiad hyd yn nod i'r llesfcr manvlaf yn y oen. Gweithredaut yn rhagorol ar yr afu ar kidneys. wy yr effeithiau iachusol hyn ysgoir llawer o an- I ylderau, ac attelir afiechyd mwy difrifol. Lleaheir I sonau darostyngedig i'r bile, gwyrit, gymmalwst, dcymalau, &c., drwy y feddyginiaeth hop.
DAMWAIN ANGEUOL YN MHOBTH.AETHWY.
DAMWAIN ANGEUOL YN MHOBTH- AETHWY. Cynnaliwyd trengholiad ddydd Llun ar gorph Bichard Lewis, signalman, perthyn- ol i gwmni rheilffordd y London and North Western, yr hwn a, fu farw yn Nghlafdy Bangor ddydd Sadwrn. Ym- ddengys oddiwrth y tystiolaethau fod y trangcedig y dydd Mawrth blaenorol yn cynnorthwyo gydashuntio cerbydres nwyddau yn ngorsaf Porthaethwy, pryd y cafodd ei wasgu yn ddamweiniol rhwng y gwageni. Symmudwyd ef yn union- gyrchol i Glafdy Mon ac Arfon, lie y bu o dan driniaeth Dr. Richards. Dychwel- wyd rheithfarn o Farwolaeth ddamwein- iol." Yr oedd y trangcedig yn frodor o Gaergybi, yn 21 mlwydd oed, ac yn ddi- briod.
YSTORM YN CALCUTTA.
YSTORM YN CALCUTTA. Brysgenadwri o Calcutta a ddywed fod ffyrnigrwydd dinystriol yr hyrddwynt di- weddar wedi ei deimlo mor bell a Midna- pore. Gwnaed galanastra ofnadwy yn y pellder hwnw. Credir nad oes drwy yr holl ddosbarth ddim llai na dwy fil o dru- einiaid wedi colli eu bywydau.
Y PRIF FARCHNADOEDD CYMREIG.
ADDYSG YN MAENTWROG.—Yn fuan ar ol i Fil Addysg 1870 ddyfod yn gyfraitb, adeiladodd Mr Oakeley ysgoldy ardderch- og yn mhentref Maentwrog yn hollol ar ei draul ei hun, yr hwn a gostiodd iddo dros fil o bunnau, ac sydd yn ddigon eang i gynnwys holl blant y plwyf i gyd; ac y mae hefyd yn cynnal yr ysgol heb ddim cynnorthwy pellach na cheiniogau y plant a rhodd flynyddol y Llywodraeth. Ond gan fod pen uchaf y plwyf yn uchel ac agored i ystormydd, a'r trigolion yn wasgaredig, penderfynodd Inspector Ys- golion ei Mawrhydi y dylid cael ysgol i 60 o blant bychain yn y parth hwnw, a dan- fonwyd allan rybudd olaf i'r plwyfolion i ddarparu yr ysgoldy gofynol wrth Tynant. Ar yr 22ain cyfisol, cynnaliwyd festri gy- hoeddus i ystyried y pwngc, a phasiwyd yn unfrydol y penderfyniad canlynol:— Gan fod y Llywodraeth yn gofyn atteb terfynoloddiwrth y festri hon pa un a ellir adeiladit ysgol trwy roddion gwir- foddol wrth Tynant; a chan fod y plwyf- olion wedi llwyr fethu casglu y swm go- fynol o arian tuag at hyny, am fod Mr Morgan Lloyd, un o'r prif dirfeddiannwyr yn y plwyf, yn nacau cyfranu dim tuag atti, a chan y bydd cost bwrdd ysgol mor drwm os beichir y plwyf ag ef, pender- fynir fod y festri hon yn appelio at hael- frydedd pellach Mr Oakeley i adeiladu ys- goldy wrth Tynant, er yr oil a wnaeth efe yn barod dros addysg yn y plwyf hwn, ac ar yr un pryd yn ymrwymo i wneuthur yr oil a all i gynnorthwyo yr ysgol yno." Gan fod Mr Dunlop, pen-stiward ystad Tanybwlch, yn bresennol, efe a attebodd ar unwaith fod Mr Oakeley yn barod i adeiladu yr ysgoldy yn gwbl ar ei draul ei hun, heb ddim cynnorthwy oddiwrth y tirfeddiannwyr ereill, gan fod y plwyfolion yn dymuno hyny. Ar ol pasio diolchgar- wch calonog i Mr Oakeley a Mr Dunlop, ymadawodd y trethdalwyr yn falch iawn o'u llwyddiant, aan ddatgan eu hedmyg- edd o haelioni Mr Oakeley, y Tori, mewn cyferbyniad i'r aelod Bhyddfrydig dros fwr- deisdrefi sir Fon, yr hwn a fagwyd gerllaw. Ni a longyfarchwn berson y plwyf yn nher- fyniad boddhaol yr achos hwn. Efe agafodd lawer o drafferth a phryder yn ei gylch o'r dechreu, ac iddo ef y mae y plwyfolion yn ddyledus am attebiad boddhaol Mr Dunlop; ond os cafodd draul a thrafferth, coronwyd ei ymdrechiadau a llwyddiant cyflawn. Y PRIF FARCHNADOEDD CYMREIG. ABERGELE, Hydref 21.-Gwenith, o 13s 6 c i 14s 60 yr bob; bpi(i(l, lis 6c i 14s 3cyt hob; ceirch, 8s Oc i 98 Oc yr hob; IYa, 158 Oc i 16s Oc yr hob; blawd ceircb, 38s 0c 40s Oc y 240 pwys. ABERYSTWSTH, Hydref 19.-Gwenith, 6s 9c i 7s 6d y mesur; haidd, 4s 9c i 5s Oc; ceireb, 3s 6c i 4s 00 Y mesur; ymenyn ffres, 19c i 20c y pwys; ymenyn balit" 16c i 17c y pwys.; ednod, 3s 6c i 4s 60 y cwpl; pytatws 48 Oc i Os. Oc y canpwys. BANGOR, Hydref 23.-Gwenith, 41s Go i 44s Oc y chwarter; haidd, 30s Oc i 33s Uc; ceirch, 22s 6c i 23s 6° > blawd ceirch, 35s Oc i 37s Oc y 240 pwys; ymenyn ffre9 o 20c i 2 le y pwys cig eidion, o 8c i JOe y pwys cig defaid, o 8c i 9c y pwys cig lloi, o 7c i 8c y pwys. CAERNARFON, Hydref J24.—Gwenith, o 42s 00 1 438 6c y chwarter haidd, 31s Oc i 34s Oe y chwarter; ceirch, o 22s 6c i 24s Oc y chwarter blawd ceircb, 0 37s Oc i 38s Oc y 240 pwys. DINBYCH, Hydref 21.-Gwenitb, 14s 6c i 15s 6e y bob; haidd, 13s Oc i 15s Oc yr bob ceircb, (J 8s Oc I 9s 00 yr hob; ymenyn ffres, Is 7c i Is 8c y pwys tybiau bychain, Is 4jd i is 5c y.pwys. LLANERCHYMEDD, Hydref 21.—Gwenith, 49s Oci 49s Oc y chwarter haidd, 36s Oc i 37s Oc y chwarter; ceirch, a 22s Oci 23s Oc y chwarter blawd ceircb, 36s i 37s oc y 240 pwys; pytatws, o 4s Dc i 0s 0c y 100 pwys > ymenyn ffres, Is 6c i Os 0c y pwys; cig eidioD, o 93 9c y pwys cig defaid, 10c i 0c y pwys hams cartre goreu, o Is 1 0c y pwys. LLANRWST, Hydref 20.—Gwenith, 16s 0c i 17s c. yr hob haidd, 13s Oc i 14s Oc yr hob; ceirch, o 8s Oc 9s Oc yr hob blawd ceirch, 22s Oc i 22s Oc yr bo pytatws, 5s Oc i 5s Oc yr hob; ymenyn ffres, 0 Is 7c i Is 8c y pwys; cig eidion, 7c i 8c y pwys cig dafad, 0 7c i 9c y pwys. LLVNGEFNI, Hydref 22.-Gwenith, 40s Oc i 428 0c Y chwarter; haidd, 29s 0c i 31s 0c y chwarter ceirch 21s 6c i 23s Oc y chwarter blawd ceirch, 34s Oc 36s Oc y 240 pwys pytatws, 4s. 0c y 100 pwys ymeny; ffres, Is 7c i Is 7c y pwys; cig eidion, o 9c i 9c pwys cig dafad,'o 10c i Oc y pwys. Argraffwyd a Chyhoeddwyd gan y Perchenog, K-EN31510 WHITWORTH DOUGLAS, Argraffydd, Z,c., Heol Ia Bangor, dydd Gwener, Hydref 30, 1874. <