Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

NEWYDDION CYMREIG.

News
Cite
Share

NEWYDDION CYMREIG. ABERERCH.—Ar y 12fed cyfisol, cynnal- iwyd yn eglwys henafol St. Cawrdaf (Abererch), gyfarfodydd i ddiolch i Dad y trugareddau am ffrwythau toreithiog a gwerthfawr y flwyddyn hon. Y boreu darllenwyd y gwasanaeth gan y Parch. E. Jones, curad Llanrug, a phregethodd yr Hybarch Archddiacon Evans yn syl- weddol ac ymarferol i gynnulleidfa liosog o wrandawyr astud, y rhai oeddynt yn teimlo hyfrydwch mawr gael clywed Mr Evans yn traethu Gair y bywyd" yn ei hlwyf enedigol. Yn y prydnawn darlien- wyd y gwasanaeth gan y Parch. D. Pugh, ficer y plwyf, a phregethwyd yn effeithiol gan y Parch. E. Jones, curad Llanrug. Yn Penrhos darllenwyd y gwasanaeth gan y Parch. T. Jones, curad Llangwyfan, a phregethwyd yn ddylanwadol iawn gan y Parch. H. Williams, curad Pwllheli. Yn ysgoldy Fourcrosses, darllenwyd y gwas- anaeth gan y Parch. H. Williams, curad Pwllheli, a phregethwyd yn rhagorol gan y Parch,, M. W. Jones, curad Llangybi, Anyeiniwyd y canu gan Mr T. Prichard, Morfa, Gwilym Erch, a Mr J. Williams, yr Ysgol Genedlaethol. Mae clod mawr yn ddyledus i'r rhai hyn am addysgu ieu- enctyd y plwyf yn y gelfyddyd werthfawr o ganu. BETHESDA A'r HELYNTIO-T.-Hysbysir y bydd yr oil o gwynion y chwarelwyr wedi eu chwilio allan cyn y daw y Llais i ddwy- law y darllenwyr yr wythnos hon. Yr wyf yn mawr obeitbio y deuir i gyd-ddealltwriaeth ebrwydd, oblegid y mae sefyll allan am dri mis yn sicr o fod wedi effeithio yn drwm ar y gweithwyr, ac i raddau ar y wlad, heblaw fod erbyn hyn amryw o'n cydweithwyr wedi eu coll- edu gan rai o'r clybiau adeiladu sydd yn ardal boblogaidd Bethesda. Mae yn ofid- us meddwl am lawer o drigolion ein har- dal wedi eu colledu o'u cyfoeth wedi iddynt fod yn casglu erbyn adeg o galedi. A rdalwr. BRYNCROES. Cynnaliwyd cyfarfod o ddiolchgarwch am y cynhauaf yn hen eglwys y plwyf hwn ar y 6ed cyfisol, pryd y gweinyddwyd gan y Parchn. T. Jones, Llangwnadl; J. Rowlands, Bottwnog; H. G. Williams, curad Pwllheli; ac E. Davies, Llanllyfni. Er gerwined oedd yr hin ar y pryd, pregethwyd yn rymus a dylanwadol i gynnulleidfaoedd lliosog. Gwnaed casgliad ar ddiwedd y gwahanol oedfaon tuag at y Gymdeithas Genhadol Eglwysig.-T. TV. 0. CAERWYS.—Cynnaliwyd cyfarfod diolch- fod diolchgarwch am y cynhauaf yn eg- lwys y plwyf uchod nos Fawrth, Hydref 25ain. Darllenwyd y gwasanaeth gan y parchedig rector, W. Hughes, a phregethodd y Parch. J. A. Jack- son, Llanelwy, yn hynod effeithiol i gyn- nulleidfa hynod o fawr. Yr oedd yr hen eglwys wedi ei gorlenwi. Y mae cor yr eglwys hon yn haeddu canmoliaeth yn mhell uwchlaw y cyffredin. Gwnaethant eu rhan yn gampus y tro hwn etto. Chwareuid ar yr harmonium yn fedrus gan Miss Hughes, Rectory, yr hon sydd yn haeddu clod am ei medrusrwydd a'i pharodrwydd i hyrwyddo y cor a phob gwaith da arall. CLYNNOG.-Nos Fawrth, Hydref 20fed, oedd y noson a bennodwyd yn yr Eglwys uchod i gynnal gwasanaeth o ddiolch- garwch am y cynhauaf toreithiog a gwerth- fawr i Roddwr pob daioni. Darllenwyd y gwasanaeth gan y Parch. James Pryse, ficer y plwyf, a phregethwyd gydag yni, hyawdledd, ac effeithioldeb neillduol, gan y Parch. H. T. Edwards, ficer Caernarfon, bregeth pwrpasol a chyfaddas iawn f'r amgylchiad. Yr oedd y cynnulliad yn bur liosog, a gwnaed casgliad ar ddiwedd y bregeth tuag at y gymdeithas er Lled- aenu yr Efengyl mewn gwledydd tramor. -R,ichar(I Evans. DAROWEN.—Y 19eg a'r 20fed o'r mis hwn, yn yr Eglwys St. Tudur y lie uchod, cynnaliwyd gwyl o ddiolchgarwch i'r Holl-' alluog Dduw am ei drugareddau ffrwyth- lon ac haelionus y flwyddyn hon etto, pryd y cafwyd gwasanaeth y boneddigion canlynol:—Hwyr y dydd cyntaf darllen- odd y Parch. Mr. Roberts, Uwchygareg, a PIn-egethodd y Parch. Mr. Williams, Tref- eglwys. Boreu drannoeth darllenodd y Parch. Mr. Williams, Trefeglwys, a phre- gethodd y Parch. Mr. Morgans, curad Llanbrynmair. Yn y prydnawn darllen- wyd gan y Parch. Mr. Roberts, Uwchy- gareg, a phregethodd y Parch. Mr. Ri- chards, Cemmaes. Yn yr hwyr dechreu- Wyd gan y Parch. Mr Richards, Cemmaes, ac yna pregethodd y Parch. Canon Grif- fiths, Machynlleth. Yr oedd y cyfarfod yn wir dda drwyddo oil, y pregethau yn rymus ac i'r pwrpas, a gobeithio fod yr had da gafodd ei hau yn ystod y cyrddau wedi cael dyfnder daear yn nghalonau y gwrandawyr, fel y byddont yn dwyn ffrwyth buchedd dda, wrth ymborthi ar gynnyrchion toreithiog y flwyddyn hon. Dylem grybwyll hefyd fod clod yn ddy- ledus i Mr. E. Davies, Tanyllan, am ei lafur gyda cherddoriaeth eglwysig y lie. i •Yr oedd wedi dirywio i raddau helaeth y folynyddau hasiodd, ond ,mae yn cyflym J oj. adenill ei safle gynto,f. Yr oedd yr eg-' lwys wedi ei haddurno yn dlws gan Miss Jones a Miss Davies, a gwnaed casgliad ar ddiwedd pob cyfarfod at wasanaeth yr eglwys.—Glanfyrnivy. GLYN CEIRIOG.-Wedi dioddef o honom gyfnod lied faith heb rwgnach yn erbyn yr afreoleidd-dra yn nanfoniad Llais y Wlad i'r gymmydogaeth hon, y mae'n bryd i ni bellach anesmwytho, ac ym- drechu cael allan yr achos o hyn. Fel rheol, y mae ddiwrnod ar ol ei amser, ac yn fynych iawn dri diwrnod; a drwg genyf orfod eich hysbysu mai heddyw y 27ain y daeth y Llais am y 23ain cyfisol i'r ardal. Beth yw eich barn am hyn, Mri. Gol.? A ydych yn wybodol fod cylchrediad y Llais yn Nyffryn prydferth, a rhwng bryniau rhamantus Ceiriog, fwy na dwywaith nifer unrhyw newyddiadur arall ? Pan y meddylir am y gefnogaeth a ga yn yr ardal hon, ac fel y bu yn foddion i gwttogi dylanwad newyddiadur arall o duedd eithafol a chwyddedig, disgwyliwn fwy o reoleidd-dra a chysson- deb yn ei anfoniad. Na thramgwydder wrtbym, oblegid y rhyddid uchod a gym- merasom. Gwyddom yn dda, eich bod dros ryddid, ond ei gael o f&wn cylch deddfau. Yn mhellach, goddefer i ni longyfarch eich gohebwyr galluog am ein anrhegu yn wythnosol ag ysgrifau mor ddyddorus. Y mae eiddo Dafydd Eppynt, Craig y Foelallt, Gwas Mr. Punch, Y March, a Mr. Robin Sponc, a "myn'd" da arnynt yn y farchnad. Gresyn fod Mr. Sponc yn cloffi wrth ddynesu at Glawdd Offa. Dywedir pan yn dyfod o Langollen i'r Glyn, wedi i'r nos daenu ei mantell y byddai Ysbryd Gallt y Badau, Yn pwtian Sion y Potiau." Gofa-led Mr. Sponc am ddyfod drosodd i'r Glyn mewn amser, ac nid allan o amser, neu nid oes fawr ymddiried nad yr un dynged a'i cyferfydd yntau ag a gyf- arfyddai yr hen brydydd ers talwm.— Ceiriogivyson.— [Yr ydym yn anfcn Llais y Wlad yn brydlon bob wythnos fel y dylai fod yn nwylaw ein holl ddarllenwyr yn gynnar foreu Gwener. Gwnawn ym- chwiliad i'r afreoleidd-dra yn eich cym- mydogaeth chwi, ac os cawn fod y bai yn gorphwys ar yr awdurdodau, gwnawn esiampl o hoiiynt.-Gol.-I LLANFIHANGEL Y CREUDDYN.- Cynnal- iwyd cyfarfodydd i ddiolch am y cynhauaf yn Eglwys Llanfihangel-y-Creuddyn ar y 19eg, 20fed, a'r 21ain o Hydref. Dechreu- wyd nos Lun am saith drwy gynnal cyf- arfod gweddi yn yr Ysgoldy Genedlaethol, dyben pa un oedd i ddiolch i'r Arglwydd am ei drugareddau, ac i ofyn ei fendith ar y cyfarfod blynyddol hwn. Nos Fawrth am. saith yn yr Eglwys, intoniwydy gwas- anaeth gan y Parch. John Jenkins, curad Glanogwen, darllenwyd y llithiau gan y Parch. B. Edwards, ficer Ysbytty Cynfyn, a phregethodd y Parch. D. Lewis, ficer Llancynfelin, a'r Parch. Titus Lewis, ficer Towyn. Dydd Mercher am ddeg, intoniwyd y gwasanaeth gan y Parch. Titus Lewis, darllenwyd y llithiau gan y Parch. John Jenkins, curad Lledrod, a phregethodd y Parch. John Rees, ficer Capel Bangor. Ar ol y bregeth gwein- yddwyd y Cymmun Sanctaidd gan y Parch. J. D. Jones, ficer, a'r Parch. Titus Lewis. Am dri intoniwyd y Litani gan y Parch John Jenkins, Glanogwen, a phre- gethodd y Parch. John Jenkins, Lledrod, a'r Parch. G. Davies, curad Goginau. Am chwech intoniwyd y gwasanaeth gan y Parch. John Jenkins, Lledrod, a darllen- wyd y llithiau gan y Parch. John Jenkins, Glanogwen, yr hwn hefyd a bregethodd, a chanlynwyd ef gan y Parch. Titus Lewis. Chwareuwyd yr harmonium yn hynod fedrus a meistrolaidd gan Mr Wil- liams, yr ysgolfeistr. Casglwyd yn y cyf- arfodydd dydd Mercher tuag at y 11 Gym- deithas er Taenu Gwybodaeth Gristion- ogol." Cafodd yr Eglwys ei haddurno yn hardd a destlus gogyfer a'r achlysur a gwenith, haidd, ceirch, a phethau ereill, gan Miss Jones, Ficerdy; Miss Davies, Cynon Fawr Mr Williams, yr ysgolfeistr; Mr W. R. Edwards, a Mrs Edwards, Pen- dre; Miss Mary Morgans, Village a Miss Jane Stedman, Ty'n-y-bedw. Gwnaeth y cor canu, a'r gynnulleidfa yn gyffredinoi, eu rhan yn dda yn ystod y gwahanol gyf- arfodydd. Yr anthemau a ganwyd oedd- ynt "0 deuwch i'r dyfroedd," "Molwch yr Arglwydd," a Teilwng yw'r Oen." Daeth cynnulleidfaoedd lliosog yn nghyd, a chafwyd pregethau da, a gwrandawiad as- tud.-Denis. LLANGURIG.-Gosbei-Nos Wener, yr 22ain cyfisol, cynnaliodd Eglwyswyr y plwyf hwn eu cyfarfod o ddiolchgarwch am y cynhauaf ffrwythlawn a gawsom eleni. Pregethwyd yn neillduol o bwr- pasol ar yr achlysur gan ficer galluog a pharchus Ysbytty, Ceredigion. Yr oedd y gynnulleidfa y fath na welwyd ei bath yn Eglwys St. Curig yn. nghdf yr hynaf. —Curig. LLANIDLOES.-Gwyl y Cynhauaf.—Dydd Mercher, y 14eg cyfisol, cynnaliodd Eg- lwyswyr y dref hon eu gwyl flynyddol o ddiolchgarwch am a cynhauaf toreithiog a,, gwerthfawr a gawsom y flwyddyn hon ty- gan Roddwr pob rhoddiad ddaionus a phob rhodd werthfawr. Yn y boreu pre- gethodd y Parch. G. Cuthbert, B.A., per- iglor Aberhafesb, yn dda; ac yn hwyr y dydd, pregethodd y Parch. L. Laugharn, ficer Rhaiadrgwy, yn neillduol a phwrpas- ol. Yr oedd y cynnulliadau yn bur liosog, yn neillduol yn yr hwyr, ac hefyd yr oedd hen Eglwys St. Idloes wedi ei haddurno a blodau, yn nghyda grawn y maesydd, megys haidd, ceirch, a gwenitli.-Yinivel- iadait.-Prydnawn dydd Mawrth, yr 2 Ofed cynsol, talodd y Parchn. Samuel Roberts, A.C., (S.R.,) Conwy, (gynt Llanbrynmair,) a T. T. Davies (Tirionydd), Hebron, Dow- lais, diweddar Talywern, ymweliad a'r lie hwn. Yn hwyr y dydd pregethodd S. R. yn nghapel yr Annibynwyr, a Tirionydd yn addoldy y Bedyddwyr, sef yr enwadau yr oeddynt yn perthyn iddynt i gynnull- iadau niferog yn mhob un o'r lleoedd; ac yr oedd y ddwy bregeth yn rhai grymus. Idloesyn. LLANIESTYN, GER PWLLHELI.-Cynnal- iodd y cyfeillion ieuaingc yma eu cyfar- fod adloniadol cyntaf nos Wener di- weddaf, yn yr ysgoldy genedlaethol. Yr oedd y cynulliad yn hynod daclus a'r elw yn dda. Cymmerwyd y gadair am saith o'r gloch, gan Master J. Ellis, Glasfryn, ac aed trwy waith y program yn drefnus. Y prif gantorion oeddynt-Mr W. H. Jones, Master J. Thos. Davies, a Mr R. Evans. Cafwyd hefyd annerchiadau i'r pwrpas gan Mr 0. J. Thomas (ysgolfeistr), Mas- ter J. Thos. Davies, a Mr W. H. Jones. Yn ol wyf yn ddeall, bwriedir cynnal y cyrddau hyn yn fisol, a llwyddiant idd- ynt yw dymuniad-Tudo)- Owen. LLITHFAEN. Cynnaliwyd cyfarfod o ddiolchgarwch yn eglwys sefydledig Llith- faen nos Iau diweddaf. Pregethwyd yn hynod dda gan y Parch. Mr Williams, Edeyrn; opd yr oedd yn ddrwg genym ganfod cymmaint o ddiffyg synwyr yn rhai o'r gwrandawyr. Yr oeddynt yn warthus mewn ysgafnder; ond erbyn i mi holi, pwy oeddynt ond rhai o aelodau eg- Iwysig gydag enwad arall yn y lie. Cyng- horwn y cyfryw rai, yn feibion a merched, i ymddwyn yn well mewn moddion gras rhaglla w .-Gohebydd. LITHFAEN A PISTYLL.—Cynnaliwyd cyfarfodydd diolchgarwch am y cynhauaf yn yr Eglwysi uchod, ar yr 22ain a'r 23ain o Hydref. Nos Iau, darllenwyd y gwasanaeth dwyfol gan y Parch. T. Edwards, curad Penmaenmawr a Dwygy- fylchi, yn Llithfaen, a phregethodd y Parch. Eleazer Williams, periglor Edern yn ddoniol ac effeithiol i gynnulleidfa liosog. Cafwyd canu da rhagorol, a chwareuwyd ar yr harmonium gan Mr Robert Jones, yr ysgolfeistr. Dydd Gwener, am ddau o'r gloch y prydnawn, darllenwyd y Litani yn Eglwys Pistyll, gan y Parch. E. Edwards, curad y lie, a phregethodd y Parch. Canon Johnson, Llaniestyn, bregeth gynnwysfawr, effethiol a dylanwadol. Am chwech yn yr hwyr darllenwyd y gwasanaeth dwyfol gan y Parch. Canon Johnson, Llaniestyn, y llithoedd gan y Parch. Mr Jones, curad Nefyn, a phregethwyd yn hyawdl a grymus gan y Parch. T. Edwards, curad Penmaenmawr a Dwygyfylchi. Trwy yr holl gyfarfodydd cafwyd Cynnulliadau lliosog, ac yr oedd effeithiau a dylanwad yr Ysbryd Glan i'w ganfod yn eglur ar y cynnulleidfaoedd. PENMACHNO. Nos Sadwrn diweddaf, cynnaliwyd cyfarfod cyhoeddus gan Deml- wyr Da y lie uchod yn nghapel Bethania. Yr oedd brodyr a chwiorydd o gyfrinfa Rhiw Fachno yn bresennol. Llywyddwyd yn fedrus gan Mr R. Ellis, Rhenryw Isaf, T.B.D.a chymmerwyd rhan yn y gweith- rediadau gan y brodyr—L. Lewis, Rhosy- mawn; Robert W. Roberts, Glanaber E. Williams, Tynrhos; a John B. Bellis. Cafwyd annerchiad gan y llywydd ar sefyllfa yr urdd yn y wlad. Pennodwyd fod cyfarfod etto i fod yn nghapel Tyny- porth, pryd y y bydd cynnifer o fechgyn ieuaingc yn adrodd prawf John Heidden. Yna cafwyd ton gan Mr L. Jones, Plas, Byw fo Temlyddiaeth Dda," a chano,ld yn dda anarferol. Yr oedd yn un o'r cyfarfodydd dirwestol goreuybuom ynddo erioed-arelthiau rhagorol ac adeiladol, heb ddim o'r ysgafnder sydd wedi bod yn nodweddu y cyfarfodydd hyn yr amser a aeth heibio, a gobeithiwn y bydd y rhai hyn yn symbyliad i'r achos temlyddol yn y cylchoedd yma, ac yr ennillir liiaws etto i fyw yn sobr a rhinweddol.f. Parry. PENTRAETH.—Cynnaliwyd cyngherdd yn Ysgoldy Brytanaidd y lie uchod nos Iau, Hydref yr 22ain. Llywyddwyd yn dra medras gan Mr Thomas Jones, Bate House. Cymmerwyd rhan yn y cyng- y n herdd gan y cor dan arweiniad Mr Tho- mas Pritchard, White Horse, a chanasant yn hynod o swynol. Mae diolchgarwch yn ddyledus i'r gwr ieuangc hwn am ei ymdrech diflino gyda'r cor. Cafwyd gwasanaeth Miss Catherine Hughes, Bee Hive, a Miss Sarah Jones, Tynypwll, a chanasant yn dda odiaeth. Hefyd, can- wyd y deuawd poblogaidd, "Betti vVyn," gan Mr ErLiiianuel Wil- liams a Mr Jonathan L vans, a chawsant .r.¡- encor brwdfrydig. Chwareuwyd ar y berdoneg gan Mr Daniel Pritcbard (Daniel ap Cethin). Dyma un o'r cyfar- fodydd difyraf y bum ynddo erioed, a buan y caffom ei gyffelyb etto yw dymun- iad-Hyzvel. PENTREFOELAS.-Diolchgarwch am y Cynhauaf.—Cadwyd dydd Iau, Hydref yr 22ain, yn y plwyf hwn, yn ddydd o ddiolchgarwch am y cynhauaf. Cafwyd gwasanaeth boreuol yn yr Eglwys am hanner awr wedi deg. Darllenwyd y gweddiau gan y Parch. Jenkin Jones, Cerygydruidion, a'r llithoedd gan y Parch. E. Evans, Llanfihangel, yr hwn hefyd a bregethodd yn dra phriodol. Yn y pryd- nawn darllenwyd y Litani gan y Parch. Ellis Roberts, Llangwm, a phregethwyd yn hyawdl gan y Parch. W. Jones, Bylchau, oddiwrth y geiriau Och fi, fy meistr! cauys benthyg oedd." Yn yr hwyr darllenwyd y gweddiau yn bynod effeithiol gan y Parch. J. Prichard, Capel Garmon, a'r llithoedd gan y Parch. T. Jones, Llanddoget, a phregethwyd yn rymus, pwrpasol, a dylanwadol, gan y Parch. J. A. Jackson, Llanelwy, oddiwrth Luc xvii. 17. Yr oedd y cynnulleidfaoedd yn lliosog, astud, a defosiynol, ac yn ym- ddanos fel yn talu diolchgarwch o'r galon. Gwraaed casgliad dair gwaith tuag at y gwahanol gymdeithasau yn yr esgobaetb. Yr oedd yr Eglwys wedi ei haddurno yn wych a destlus dros ben gan Miss Ramson, a'r tair Misses Jones, Bron Eglwys. Yr oedd y chantio a'r canu yn dda, yn en- wedig yr anthem, yr hon oedd wedi ei chyfansoddi erbyn yr achlysur, gan y Parch. Owen Jones, ficer parchus y plwyf. TREFDRAETH.—Nos Iau, yr 22ain cy- fisol, cynnaliwyd cyngherdd lleisiol ac offerynol yn ysgoldy y plwyf uchod. Y prif ddyn ar yr amgylchiad ydoedd Tany- marian. Yr oedd yr ystafell yn llawn erbyn chwarter i saith, ac am saith o'r gloch gwnaeth y pregethwr a'r cerddor enwog o Danymarian ei ymddangosiad yn nghanol banllefau a churo dwylaw gan yr holl dorf. Arweiniwyd y cyfarfod yn gy- fangwbl gan Tanymarian, yr hwn a gan- odd amryw ddarnau yn gampus. Yr oedd ei ddull tarawiadol, yn nghyda'i lais, yn dra chanmoladwy. Cymmerwyd rhan hefyd vn y cyfarfod gan y personau can- lynol :—Misses E. Williams, Llangaffo W. Evans, Fferam M. Owen, yr ysgol- dy Meistri J. Owen, W. Hughes, J. Prit- chard, ac Owens, yr ysgolfeistr. Yr oedd yr elw, yr hwn a gyrhaeddai y swn o 15p 3s 6c, yn myned at gyllidau yr ysgol. Buan y delo Tanymarian yma etto i gyn- nal cyngherdd medd-Ab Givilyiii. TREHERBERT.—Digwyddiad A ngeuol.- Dydd Iau, y 15fed o'r mis hwn, cyfarfydd- odd glowr o'r enw Morgan Lewis a'i ddi- wedd yn mbwll glo Ynysfeio. Tra yr oedd y gwr anffodus yn ddiwyd wrth ei waith, syrthiodd careg ar ei gefn, yr hon a'i hanafodd mor ddrwg fel y bu farw yn fuan. Symmudwyd ef adref gan ei gyd- weithwyr, ac anfonwyd am Dr. Rhys, ond yr oedd meddyginiaeth ddynol yn ofer. Gadawodd weddw a phlentyn i alaru ar ei ol. TYD-WEILIOG.-Nos Weiier, Hydref 23ain, yn Ysgoldy Gwladwriaethol y lie uchod, Rhoddodd Cadben W. Roberts, Penybont, Llangwnadl, giniaw rhagorol i'w liosog gwsmeriaid. Dealler mai masnachvdd eang mewn gwrtaith esgyrn (neu fel"y'i gelwir y ffordd yma, llweh esgyrn ") yw Cadben Roberts. Eisteddodd wrth" y bwrdd oddeutu hanner cant mewn nifer o ffermwyr a boneddigion mwyaf dylanwad- ol pen Lleyn. Yn mhlith ereill oeddynt yn bresennol,.sylwasom ar y rhai caiijyn- ol:-Y Parch. J. Hughes, ficer, Tydweil- iog Parch. Mr Roberts, Aberdaron; Meistri D. Jones, Cefnaniwlch; J. Ro- berts, Gwnhingar; R. Williams, Pwll- gwd; J. Park, 'Refail Newydd; Ffoulk Griffith, Tregarnedd; Richard Davies, Tymawr, &c. Wedi gwneud cyfiawnder a'r danteithion rhagorol a osodwyd o'u blaen, a symmud ymaith y llian, cynnyg- iodd y Parch. J. Hughes ar fod i J. Ro- berts, Ysw., Gwnhingar, gymmeryd y gadair, yr hwn a ufuddhaodd i'r alwad. Ar ol yfed y llwngcdestynau arferol, caf- wyd areithiau godidog ar amaethyddiaeth gan y ffermwyr profiadol canlynol:—Mri. Jones, Cefnamwlch; R. Roberts, Hirdre; G. Jones, Hirdre J. Park, R. Williams, Pwllgwd; R. Davies, Tymawr, a G. Ro- berts, Brynhyfryd. Daeth amryw fferm- wyr o gymmydogaethau Penllech, Edern, a Nefyn, a rwdins, moron, maip, a man- golds anferth o faint i'w dan go s fel en< reifftiau o ffrwyth ac effaith y llwch es- gyrn" rhagorol a werthir gan Cadben Roberts. Pwysai mangold o Hendre Edern, ddeunaw pwys. Wedi talu dioloh- garwch i roddwr y ciniaw am ei garedig- rwydd, ymwahanodd y gynnulleidfa. Ar- Iwywyd y wledd gan Mrs Ellen Williams, Ship Inn, Tydweiliog, ac y mae pawb yn unfrydol yn rhoddi y ganmoliaeth uchaf i Mrs Williams am y dull tra chanmoladwy y parottodd y einiaw.-G. Hysbysir fod Mr Bugbird, Caernarfon, wedi ei bennodi i wneud dociau newyddion enfawr yn mhorthladd Caergybi.