Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Advertising
FOR OCTOBER, PRICE ONE PENNY. DOUGLAS'S RAILWAY TIME TABLE COACHING AND STEAM PACKET Guide for North Wales CONTAINING ALSO A LIST OF FAIRS AND CALENDAR FOR THE MONTH, with a MAP OF NOliTH WALES, SPECIALLY ENCHASED if Oil THIS GUIDE. The Guide may be obtained from most Booksellers and at the Railway Bookstalls. On receipt of Eighteen Penny Stamps, the Publisher will forward the Guide for twelvemonths to any address. If booked to order the charge will be Two Shillings. Sow Ready, PRICE THREEPENCE. THREE HOURS IN THE GLEN OF ABER. A gossiping account of Aber and its attractions, by the author of A Russian Ghost Story," &c. Published by Messrs. Douglas Brothers, Bangor. News-ageuts can obtain supplies on the usual terms. AT EIN QOHEBVVYR. AB IRFON.—Nid ydyw yn arferol rhoddi enw a chyf- eiriad gohebwyr hyd yn nod i'w cyfeillion, oblegid nid ymddiriedir y cyfryw ond yn gyfrinachol i oi- ygwyr. TRAFAHLIWK.—Nis gallwa ddefcyddio eich ysgrif. HKNEY GWSNEDD HUGHES.—Yn ein nesaf. TKEBOR HEFOG.-Diolcu i chwi am eich teimlad da oud nid ydyw yr euglyn yn gywir ei gynghaneddiad. R. WILLIAMS. —Nid oes uu I) linellau eich engiyn, namyn y gyntaf^ yn gywit. Mynwch afaelar reolau y pedwar mesur ar hugaio, ac efrydwch hwy yu ddyfal os ydych yn awyddus am fod yu fardd. DIRWESTWR.-Nid ydym etto wedi darlien eich ysgrif end caiff ymddangos yn eiu rhifyn oesaf, os yu deilwng. EVANS.—Cawu edrych droa y cyfnewidiadau, a chyrn-* meryd eich cais i ystyriaeth. Ap DONA. -0 dan ystyriaeth. CHWILFKYN MON.- Yr ydym eisoes wedi cyhoeddi engiyn o'r eiddoch ar gwympiady d'ut, ond efallai y gallwn hyfforddio congl i'r llall. ELKTH.—Djlasai y g iir "gwrthyn" gael ei sillebu gydag 1L yu y Hill o'af, ond buasai hyny yn distryvvio yr odi. Dichon y gellwch ei newid. LLOFFION OR DEHEUJDIK.—Drwy l'yw auffawd ni ddaeth gohebiaeth eill gohebydd ffyddlon leuan Awst i law lies oeddym ar tiu myned i'r wasg. Ymddegys yn ein nesaf. MEWN LLAW.—Hen Langc, Llygadog, Gohebydd, Un a'i gwelodd, Lief o'r Naiit, H. G., Percheu Anadl, Plato, Casliawr Rhagrith, Hen Fiaenoi, R., Lluestwr, &c. Cofied ein Gobebwyr ysgrifenu ar un tu i'r ddalen yn unig, a bod geuym hawl i dalfyru eu hysgrifau. Cyu, belled ag y gallwn, bwriadwn gau allan uewyddion Ileol dibwys, er mwyn gwueud y Llais" ymhob yatyr yn NEWYDDIADUR CYFFREDINOL a CHENEDLAETHOL. Pob gohebiiethau I'W haufou erbyn bore Mawrth, neu os geliir yu gynt, a'u cyfeirio —The Editors, LLAIS Y WLAD. TELERAU GWERTHIAD "LLAIS Y WLAD." Pris pob copi unigol yw Un Ddimai, neu un Qeiuiog gyda'r post. Os bydd rhai o'n derbynwyr yn dewis ei gael trwy y Ilythyrdy yn rheolaidd, anfonir ef iddynt bob nos Iau am Is 3c y chwarter, os telir ymlaen llaw. Anfonir sypynau i Ddosbarthwyr am bedair cein- iogadimaiy dwsin gyda'r tren,aphumoeiniog gyda'r post cPr Pob taliadau, archebion, &c., i'w cyfeirio at Mr K. W. DOUGLAS, LLAIS Y W LAD Office, Bangor. DOSBAETH.WYli YN EISIEU. Carem glywed gyda throad y post oddiwrth y rbai a ddymunent gael eu pennodi yu ddosbarthwyr LLAIS Y WLAD. C&nt yr elw arferol, a chan ein bod wedi DYBLU MAINTIOLI Y PAPYH, y mae hyuy, ynghyda'r pris isel yn sicrhau CYLCHREDIAD ARUTHROL. Anfoner yn ddioed at y Parchenog, Mr K. W DOUGLAS, Bangor.
DYDD GWENER, HYDREF 30, 1874.…
DYDD GWENER, HYDREF 30, 1874. MR OSBORNE MORGAN YN NINBYCH. Yn Llanerchymedd yr wythnos o'r blaen, ymdrechodd Mr Henry Richard, yn ngrym ei gulni a'i ragfarn sectol, argy- hoeddi y Monwysion fod Ymneillduaeth a Radicaliaeth yn eiriau cyfystyr; ond gweddasai iddo brofi ei bwngc yn hyt- rach na gorphwys ar haeriadau noethion. Pe buasai Mr Richard yn feddiannol ar gymmaint parch at gyssondeb ag o gib- ddellni sectol, diamheu y tybiasai yn ddoeth weinyddu cerydd Ilym i'r offeiriad a. safai ar yr un ]lwyfan ag ef. Ond y mae brodyr unllygeidiog o'r nodwedd yma va syllu drwy gyfryngau gwahanol i'r cy- Airedin, ae o ganlyniad yn llwyddo i ar- gyhoeddi eu hunain fod amgylchiadau yn benthyca lliw eu drychau hwynt. Pe buasai twyll-ymresymiad Mr Richard yn werth y drafferth o'i chwalu fel us i'r rgwynt, buasem yn dwyn ar gof iddo ei af- lwyddiant personol fel cysgod sectol Mr Miall. Dywed Mr Richard y dylai pob Ymneillduwr fod yn Eadical, ac yn gys- son a'r gosodiad rhaid iddo addef ei bod yn gymmaint dyledswydd ar Eglwyswr i fod yn Geidwadwr. Yn unol a'r un athraw- iaeth dylasai y mwyafrif Radicalaidd mawr o dan deyrnasiad William y Bobl" fod wedi pleidleisio dros ei fesur ef, ac ym- :gymmodi a llyngcu cawl sectol Miall, sydd bellach wedi ei dwymno drosodd a thros- odd drachefn hyd ddiflasdod; ond cafodd brawf diymwad mewn un o'r tai llawnaf nad oedd ei goginiaeth yn dygymmod ag archwaeth ond ychydig dros driugain o'r saelodau Radicalaidd. Hefyd, gweddai i Mr Richard roddi ystyriaeth i'r ffaith mai ISgVwyswyr, fel rheol, ydyw yr aelodau ( Radicalaidd, yr hyn a lwyr ddiryma ei athrawiaeth o sectyddiaeth wleidyddol. Un o'r cyfryw aelodau ydyw Mr Osborne Morgan, yr hwn a faethwyd ar fronau yr Eglwys Sefydledig, ond sydd yn awr yn ymdrechu ei cholynu i'r byw. Diamheu fod Mr Morgan wedi llyngcu syniad eigym- mrawd o Ferthyr o barth natur cyssondeb, ac yn credu yn ddiysgog yn moeswers yr hen ddibareb yn nghylch y "llyffant blwydd yn lladd y dwyflwydd," fel cydna- byddiaeth serchog am fagwraeth. Nos Wener diweddaf dilynodd Mr Mor- gan, arwr mesur anffodus y claddfeydd. esiampl cynnrychiolwyr Mon, drwy ym- ddangos ger bron ei etholwyr yn Ninbych. Prin y mae y boneddwr uchelgloch hwn yn gyfrifol i unrhyw ddosbarth o etholwyr am ei weithrediadau, oblegid cydnabyddir yn gyffredin mai i'r cyd-ddealltwriaeth a fodola rhyngddo a Syr Watcyn yn benaf y mae yn ddyledus am ei eisteddle. Diau mai ar yr ystyriaeth hon yr esgeulusodd roddi cyfrif o'i oruchwyliaeth yn Ninbych, ac y rhyngwyd bodd iddo ollwng ei lestr areithyddol at drugaredd y gwynt a'r ton- au. Wrth gwrs, cawsom yn ystod y fordaith gyfeiriad at yr edliwiad ystrydebol yn nghylch dylanwad y tafarndy yn yr ethol- iad diweddaf. Pan yr edrychom ar y ffeithiau gwaradwyddus a ddatguddiwyd yn niseddiad y lliaws aelodau Radicalaidd yn ystod y flwyddyn bresennol oherwydd llwgrwobrwyaeth a meddwdod, yr ydym yn rhyfeddu at ryfyg boneddwyr fel Mr Morgan yn meiddio cyfeirio at ddylanwad tafarndai, pa rai a deflid yn agored o led y pen i gefnogwyr ei blaid wyngalchog ef drwy gydol yr etholiad. Nid ydym chwan- nog i feio ton alarnadol Mr Morgan pan y desgrifiai Radicaliaeth wedi bod ar frig y don, ac eilwaith wedi ei hyrddio i waneg siomiant ac anobaith ond pan yr ymor- foleddai oherwydd ymlyniad sir a bwrdeis- drefi Dinbych wrth ei blaid ef, dylasai ffrwyno ychydig ar ei ormodiaeth. Am y sir, nid oes yr amheuaeth leiaf na ddych- welasai ddau Geidwadwr pe nad estynasai Syr Watcyn aden ei nawddogaeth dros ei gydaelod; ac am y bwrdeisdrefi, ni chaf. odd Mr Watkin Williams namyn diangfa gyfyng drwy fwyafrif damweiniol o ych- ydig bleidleisiau, ac nid oes neb bellach yn meiddio amiieu na ddisodlir ef gan yr Anrhydeddus Mr Kenyon mor fuan ag y gelwir lluoedd y ddwyblaid i fdes brwydr etholiadol. Yn wir, gellid casglu nad oes neb yn fwy argyhoeddedig o hyn na Mr Williams ei hun, oblegid yn ei annerchiad diweddaf yr oedd ei don wedi lleddfu i gryn raddau, fel pe buasai yn ymawyddu am gymmeryd cam dros y gagendor sydd rhwng Radicaliaeth a Cheidwadaeth. Nis gallem lai nag edmygu y deheu- rwydd gyda pha un y cyffelybai Mr Mor- gan y corph politicaidd i'r cyfansoddiad dynol. Dywedai fod y wlad wedi ei chyn- nysgaeddu a r fath gyflawnder o ymborth deddfwrol yn ystod pum' mlynedd teyrn- asiad y Radicaliaid, fel yr oedd yn angen- rheidiol iddi gael seibiant i'w dreulio. Yr ydym yn cwbl gydsynio a'r boneddwr an- rhydeddus mor bell ag y credodd gario y gydmariaeth ond goddefed i ni fyned, gam yn mhellach drwy syhvi fod yr ymborth amrwd wedi ei bwnio i lawr i wddf y wlad nes codi cyfog ar ei chylla, ac achlysuro diffyg treuliad masnachol a chymdeithas- ol, oddiwrth ba un y dioddefa yn arswyd- us hyd heddyw. Dywedir nad oes neb mor cidall a'r hwn na fyn weled, a gofidus genym gljfwed boneddwr o dalent Mr Mor- gan yn meiddio haeru ar lwyfan cy- hoeddus nad oes unrhyw adweithiad gwleidyddol wedi ymaflyd yn nghyf- ansoddiad y wlad. Dichon yr ys- tyrid yn rhyfyg ynom feiddio erlyn arno ymostwng i esbonio ei esboniad, a rhoddi i ni ryw gyfrif amgen nag adweith- iad grymus a thrwyadl am gyfnewidiad y mwyafrif Radicalaidd i fwyafrif sylweddol y Ceidwadwyr. Yn absenoldeb hyn, ni ry- feddem ei gael rai o'r dyddiau nesaf, yn ei gibddelliii anwyliadwrus, yn haeru gyda chyffelyb hyfdra fod y llanw yn gyfystyr a thrai y mor. Ped ymostyngasai y wlad i wrandaw drwy glustian Mr Osborne Morgan, diamheu y cydsyniasai ag ef fod y blaid Geidwadol yn y Senedd yn tori alIan. mewn udiad na chlywyd y fath erioed oddiallan i Bedlam;" ondarwahan oddiwrth goethder diarhebol y Senedd, y mae y wlad yn ddigon ystyfnig i hawlio y fraint o ddefnyddio ei chlustiau ei hunan, drwy ba rai y digwydda banllefau buddug- oliaethus y Ceidwadwyr seinio yn berffaith gydgordiol a soniarus. Nid rhyfedd genym, gan hyny, fod lleferydd Mr Morgan a'i gymmrawd Mr Watkin Williams mor ddieffaith yn y Senedd "a phe buasent yn ymgeisio at gyfarch y gwynt a'r tonau oddiar drum Moel Famma." Diamheu fod ein darllenwyr wedi sylwi oddiwrth yr oil o'r annerchiadau a dra- ddodwyd yn ddiweddar ei bod yn druenus o dlawd ar y Radicaliaid am gri bolitic- aidd. Fel rbai ar soddi i bwll anobaith y maent yn ymreibio am welltyn, ac yn ceisio creu rhagfarn sectol drwy ymosodiad unol ar yr Eglwys Sefydledig. Nid ydyw Mr Morgan wedi esgeuluso taro y tant hwn mor llawdrwm ag y gallai, ond yn anffodus iddo nid ydyw y don yn swyno ond syppyn distadl sydd wedi ymgohi mewn eithaf- rwydd sectol. Nid ydym yn synu cael Miall, Richard, a Bradlaugh yn amcanu tyrchu o dan seiliau yr Eglwys Wladol, ond prin y gallwn gyssoni ymddygiad boneddwr fel Mr Morgan yn erlid y fam a'i maethodd. Pe byddai angen, nid ein swyddogaeth ni ydyw amddiffyn y sefyd- liad henafol hwnw, ond y mae genym ber- ffaith hawl i ddisgwyl cael cyssondeb fel un o rinweddau disglaeriaf cynnrychiolwyr y bobl. Fel Mr Morgan Lloyd, y mae Mr Os- borne Morgan yn gallu sugno cysur o alar a gorfoleddu mewn aflwyddiant. Cydneb- ydd ei bod yn nos ar ei achos ar hyn o bryd, ond y mae llygaid ei ffydd yn gallu sylweddoli yr hyfryd wawr sydd i dori yn ebrwydd ar Radicaliaeth. Nid ydym yn amheu na ddyrchefir y blaidchwyldroadol unwaith etto i awdurdod, ond nid yw ar- wyddion yr amserau yn bresennol yn cy- fiawnhau cysgod gobaith am y fath gyfnewidiadau dedwydd am amser maith i ddyfod, ac hyd hyny caffed Mr Morgan a'i blaid gymmysgryw nerth i ymflonegu ar obaith.
ARGLWYDD PENRHYN A'l WEITHWYR.
ARGLWYDD PENRHYN A'l WEITHWYR. Bellach y mae cydymdeimlad y wlad ag Arglwydd Penrhyn yn y cyfwng profed- igaetiius presennol wedi cyrhaedd y fath bwynt fel nas gall ymattal rhag rhoddi datganiad cyhoeddus iddo. Buasai ym- yryd yn y cweryl anffodus presennol, a cheisio cyfryngu rhwng y meistr a'r gweithiwr, tra y mae y cwynion o dan ys- tyriaeth y cyflafareddwr, yn gynamserol ac anwarantedig, ac ar y cyfrif hwnw yn amddifadu y datganiadau o gydymdeimlad o'u gwerthfawrogrwydd; a dywenydd genym weled y cyfarfodydd a gynnelir yn cymmeryd golygiad mor eang a chyffred- inol ar y pwngc, fel y mae Rhyddfrydwyr a Cheidwadwyr yn ddiwahaniaeth yn ym- ryson am lawnodi yr annerchiadau. Yr wythnos ddiweddaf cyflwynwyd yr an- nerchiad o Gonwy gan ddirprwyaeth o bobl barchusaf yr ardal, pa rai a gawsant dderbyniad croesawus gan ei arglwydd- iaethyn Nghastell yPenrhyn. Wrth gydna- bod derbyniadyr annerchiad, cymmerodd ei arglwyddiaeth achlysur i wneud rha.i syl- wadau ag ydynt yn eglurhaol o'i deimlad y 0 personol a sefyllfa bresennol amgylchiad- au yn nglyn a'r annghydfod. Con- demniai rai newyddiaduron oherwydd y camadroddiadau mynych a gynnwysent yn nglyn a'r pwngc, ond nid ystyriai yn werth ei drafferth eu gwrthbrofi, gan iddo drigo yn y wlad am gynnifer o fiynydd- oedd, ac os na safai ei gymmeriad wrtho ei hun, nid oedd o un dyben iddo ef ei amddiffyn. Nid oedd ef yn priodoli unrhvw 01 amcanion i flaenotiaid y strike, oherwydd nas gallai eu profi ond teimlai nad oedd yn teilyngu y dull yn mha un y dygid yn mlaen y ddwy strike hyn gan bobl yn ei wasanaeth, oblegid gallai ddyweud yn gydwybodol ei fod er pan yn y wlad wedi gwneud yr oil yn ei allu i sicrhau eu llwyddiant a'u hapusrwydd ac er yr oil a ddywedwyd, hyd yn hyn nis gellid can- 0 y fod agwedd mwy hapus a llwyddiannus mewn unrhyw gymmydogaeth nag a geid yn ardal y chwarelau hyn. Ar ol ei ymdrechion diflin er lleshad ei weithwyr, teimlai yn dra briwedig oher- wydd y modd y digwyddasai y strike hon, ac yr oedd yn ofidus ganddo ddyweud nas gallai ganfod unrhyw ragolwg am ei ther- 0 fyniad ebrwydd, am y rheswm syml nad oedd efe yn gwybod amcan presennol y strike, ac nid oedd yn credu fpel hyd yn nod y bobl eu hunain yn gwybod pa beth oedd ei hamcan. Dywedai rhai pobl wrtho mai yr amcan ydoedd cael ymwared o'r goruchwylwyr presennol, a hyny yn unig; ond yr oedd ef yn teimlo nas gallai droi neb ymaith o'i wasanaeth heb brofion. Yr oil a ddywedasai ef oedd-" Rhoddwch i mi brofion o unrhyw beth, a bydd i m i ymdrechu unioni pa beth bynag sydd allan o'i Ie." Mewn gweithfa mor eang yr oedd yn dra phossibl y gallai pethau o'u lie fod wedi ymlithro i mewn, ond nis gallai ef weithredu ar haeriadau aneglur. Yr oedd yn rbaid iddo gael profion eglur. Yr eedd wedi rhoddi i'r dynion gyfleusdra er cael ymchwiliad trwyadl i bob cyhudd- iad y ddygasid yn mlaen, ac yr ydoedd yr ymchwiliad yn myned yn mlaen ar y pryd, ac ni wnelai y tro iddo ef ddyweud dim yn mhellach yn ei gylch hyd y ter- fyniad. Ond gallai ddyweud mai ei ddy- muniad difrifol, os oedd camwri o unrbyw natur yn bodoli, oedd gwneud cyfiawnder i bob person, ac ymdrechai yn mhob modd roddi y chwarel ar safle drwyadl deg. Yn. sicr, teimlai ofid a phryder wrth weled pobl ddiniwed wedi eu taflu allan o waith. Derbyniai lythyrau yn feunyddiol oddi- wrth bobl yn datgan eu hawydd am ddy- chwelyd yn ol, pe gallent ond ymryddhau oddiwrth y pwyllgor. Yr oil a allai ef ddywedyd ydoedd yr ail-agorid y chwarel, wedi terfyniad yr ymchwiliad, i bawb a ddymunent ddychwelyd, a byddai raid i'r rhai na ddymunent ddychwelyd gadw i ffwrdd. Nis gallai dim fod yn decach na hyny. Yr oedd eisoes wedi cyhoeddi, pa, bryd bynag yr ail-osodid y chwarel, y byddai yno ddynion heb ymgymmysgu a'r cweryl diweddar i wneud hyny. Nid oedd yn gwneud hyn fel cynnygiad i'r dynion, ond yr oedd wedi ewyllysio i'r cyhoeddiad hwn gael ei wneud er gwneud i ffwrdd a'r possibilrwydd o unrhyw ddrwgdeimlad. Afraid ynom ni fyddai manylu ar y dy- fyniad uchodo sylwadau eglurhaol ei ar- glwyddiaeth ond, fel dangoseg eglur o deimlad a bwriadau y meistr, credwn eu bod yn teilyngu ystyriaeth ddyfalaf y gweithwyr, oblegid gydag ef, yn hytrach na thrystwyr ymyrgar, y gorphwys arnynt fod yn gymmodlawn vaewntrefu i sicrhau eu llwyddiant a'u cysur.
CRYNNODEB WYTHNOSOL.
CRYNNODEB WYTHNOSOL. Newyn a wareiddia y liew, medd un hen ddihareb ac mewn pang o newyn arianol, y mae Pwyllgor Eisteddfod Bangor wedi ymlonyddu i gryn raddau yn eu rheibiaeth, Wedi esgeulso ohonynt y rheol euraidd o gynnilo yn ngenau y god, ofnwn nad oes gan- ddynt bellach ond dyledion yn aros er cof am y gweddill arianol a hauwyd gyda llaw af- radlon i bob cyfeiriad, ond yr un priodol. Credwn yn sicr y dylesid gofalu am dalu dyledion cyfreithlon cyn dechreu breudd- wydio am dystebau a thlysau pwyllgor- awl; ond er mynych appeliadau at y swyddogion, deallwn fod hyd yn nod am- ryw o'r gwobrau yn aros yn ddyledus hyd heddyw. Yn ein rhifyn diweddaf, cy- hoeddasom lythyr ar bwngc y gweddill oddiwrth Mr Eichard Evans, Llandudno, ac yn sicr fe ddylai y wlad deimlo yn falcii o'r annibyniaeth a amlyga yn gwrth- dystio, fel aelod o'r pwyllgor, yn erbyn y gwastraff sydd wedi gwarthnodi coffadwr- iaeth Eisteddfod Bangor. I ni, ymddengys syniad Mr Osborne Morgan am nodweddion diwrnod ilia;- glaer yn dra chymmylog ac anesboniad- wy, pan y gallai y dydd o'r blaen longy- farch trigolion Llangollen ar eu mwynhad o'r cyfryw ddiwrnod drwy en trethiad hyd yr asgwrn. Fel cefnogwr gwresog y gyfundrefn wirfoddol mewn crefydd, y mae Mr Morgan, yn unol a'i gyssondeb arferol, yn credu yn y gyfundrefn orfodol mewn addysg ac ar y cyfrif hwn y llon- gyfarchai y trethdalwyr lleol, trigolion sir Ddinbych, ac hyd yn nod Ogledd Cym- ru ar yr achlysur o sefydliad bwrdd ysgol ac agoriad ysgoldy newydd, ar y draui o ddwy fil o bunnau, yr hwn swm a orphwysa fel hunllef yn y dyfodol ar dref Llangollen. Nid ydym ni yn ol i Mr Morgan yn ein sel dros addysgu yr oes sydd yn codi; ond lie y geliir trefnu y moddion angenrheidiol tuag at hyny drwy danysgrifiadau boneddigion haelfrydig, ac heb anhawsder sectol, teimlem yn ddyledswydd arnom resynu dros yn hyt- rach na llongyfarch lleoedd a lethir a. threth afreidioi. "r:, I"'i' !)'Jr; Terfynwyd yr ymchwiliad i mewn i gwynion a chyhuddiadau chwarelwyr Bethesda o flaen Mr Wyatt ddydd Llun, yr hyn sydd, o bossibl, yn un earn pellach tuag at derfyniad yr annghydwelediad. Ar hyn o bryd y mae Mr Wyatt, fel y cyflafareddwr pennodedig, yn ymchwilio i natur y bargemion a phyngciau ereil4 er cydmaru y tystiolaethau yn flaenorol i gy- hoeddiad ei ddyfarniad. Pa mor bell y