Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

YNYS MON.

News
Cite
Share

YNYS MON. 1. Suetonius estynai—eierchyll.. «. ,v Gadgyrcbiad, a threiddiai Hyd finion ffrwd y Feuai Am dir Mon yn eon ai. Anneddu 'r oedd hen Dderwyadon 0 fewn i sicr fjnwes hun. Ymhyfrvdent mewn myfyrdodau, Dy gj y'nghanol derw ganghecau Ger eu harni uchel heirddiun gronilechau, Difeiua unenc mewn defosiyuau Ami oedd eu syml wddiau,-a. dyfal, Yn nydd y dial am nawdd y duwiau. I'w cygsegr-lwydi'r etts egr elynioti Aneirif llament si'u harfau liymion, Gan hawdd roddi yr egwau Dderwyddon -i t* I greulawn augeu o u hurddau heirddioa A chwalu eu huchelion-,tllorati Yn brudd feddau i'w beirdd a'u hofyddiou.— Elis Wyr o Wyrfai. Gobeithiai Suetonius, trwy ddaros- iwng ysbryd gwrthryfelgar y Brytaniaid, y gallai godidogrwydd ei lwyddiant fod yn gyfartal i lwyddiant Corbulo yn Armenia. Am hyny, penderfynodd ddarostwng Ynys Mon, lie a breswylid gan bobl ryfelgar, a noddfa gyffredin yr holl Frytaniaid an- foddog. Er mwyn rhwyddhau ei ddynes- iiid at oror anhawdd a pheryglus, arch- odd i nifer o ysgraffau gwastad-waelod gael eu gwneuthur. Trosglwyddodd ei wyr traed drosodd yn y rhai hyn, tra yr aeth y gwyr moirch trosodd mewn rhan trwy y beisleoedd, ac mewn rhan trwy nofio eu meirch nes glanio ar yr ynys. Yno, ar lan y Fenai, safai tyrfa fawr o wyr arfog, yn un corph yn gyfagos i'w gilydd ar y traeth, yn barod i ryfel, tra y rhuthrai y benywod yn orwyllt trwy y rhengau mewn galarwisgoedd, a'u gwallt yn chwyfio yn y gwynt, gan gludo ffaglau tan yn eu dwylaw, a'u holl ymddangosiad yn debyg i ellyllon gorphwyllog gan gyn- ddaredd. Y Derwyddon hefyd a safent oddiamgylch, a'u dwylaw yn ddyrcbafedig tua'r nef, yn erfyn ar y duwiau, ac yn arllwys melldithion erchyll aJ arswydus. Y milwyr Rhufeinig a darawyd a braw a dychryn gan newydd-deb yr olygfa ofn- adwy. Safent mewn syndod syfrdanol, fel pe buasai eu haelodau wedi fferu, heb fedru syflyd o'r fan, ond sefyll yn nod i saethau y gelyn. Ond yn mhen ychydig amser, taenodd annogaethau y cadfridog egni trwy y rhengoedd, a'r milwyr hefyd yn cynnyrfu eu gilydd i wneud gwrhydri. Teimlent fod yn warth iddynt .gymmeryd eu dychryn felly gan haid o fenywod a thorf o offeiriaid penboeth a chan gyrchu eu Ilumanau yn mlaen, limthras- ant i'r ymgyrch gyda ffyrnigrv.-ydd an- wrthwynebol. Hwy a ddymchwelasant y Brytaniaid oil o'u blaen, gan eu bwrw bendramwnwgl i'r fflamau a gynneuasant eu hunain. Cwympodd yr ynys o flaen y goresgynwyr, a gosodwyd gwarchodlu i gadw y gorcbfygedig mewn ufudd-dod. Gwnaed y llwyni cyssegredig a gyflwyn- asid at ddefodau ofergoelus a barbaraidd yn gydwastad a'r llawr. Yr oedd y brodor- ion yn mwydo eu hallorau a gwaed eu caethion, ac yn ymgynghori a'u duwiau trwy gyssegr-chwilio ymysgaroedd dyn- ion."—Tacitus, Ann. 14 c. 30; Cymru, t.d. 308. Dyna ddesgrifiad yr hanesydd Tacitus o gyflafan y Derwyddon. Tybir i Sue- tonius Paulinus groesi afon Menai gyfer- byn a'r Meini Gwynion a chydrhwng Pwllyfuwch a Llanidan, tua'r fan a elwir hyd y dydd hwn Pont yr Ysgraffau. Cym- merodd y ddrychineb a ddesgrifiwyd uchod le, mae yn debygol, ar wastadtir bychan o ugain erw, ryw dri chan' Hath o lan y Fenai, yn nghymmydogaeth Llan- idan, a elwir 11 Maes Hirgad;" a ther- fynodd y gyflafan ond odid ar Gaer-oer- waed. Sonia awdwr y Mona Antiqua am olion gwarchgloddiau a cheuffosydd bych- ain, ac ar fin y Fenai dywed fod man a elwid Y Rhiedd "-A:obiliuni Statio safle blaenoriaid y gAd, ar yr hon sefyllfa y darganfyddwyd nifer o arfau Prydeinig, o dan gareg yn nglan y mdr, Crybwylla yr un awdwr dysgedigam domen betryal- tuinulus-o bridd acheryg; ac ycbwanëga ddarfod iddo weled jeloddio swm mawr o ludw ac eegyrn yn gymmysgedig allan o'r .Y 0 0 ddaear, tua llathen o ddyfnder, a hyny heb fod neppell oddiwrth y domen rag- ZD grybwylledig. Hwyrach mai ar y llan- erch hon y cynneuwyd yr oddaiih ofn- adwy hono a fwriadwyd i lwyr ddifa y jgelyn, ond i'r hon y taflwyd y cynneuwyr gwallgofus eu hunain, nes eu ditu, yn an- aagiierdd y tan. Golygfa athrist ydoedd mewn gwirionedd. Byth aa lychwiner glanail ieg y Fenai a cbyfIelyb waedlyd gyflafan; bytli na chlywer adsain y fath druenusaf gri ac oer-lefain drachefli yn mro dawel Liawidai]. Cyn cwblhan M waith yn Mon, gorfu ar y jeadflaencr xihi;ife?7Jig wynebu yn ol i jLoegr, i ddarostwng y gwrthryfel yn mharthaai dwyreiniol y wla4 ;;lal1 Buddug torenhines ddewr yr Iceniaid. J, gweddill anrhaith yn yr "YnyS 'PjW.-eiV' lonyddwch a seibiant i gael eu jbana.<^ attynt. Ond byr iit eu heddwch, canys yn y flwyddyn 78 O.C. gwelwyd yr Eryr Rhufeinig unwaith yn ychwaneg yn clrwitio yn yr awel ar lethrau y Crug yn Llanlair- 0 u is-gaer. Croesodd llu banerog o JLiUufein- wyr ystyfnig afon Menai, clan lywyddiad Juluis Agricola, a glaniasant ychydig isjaw Llanidan, nid neppell oddiwrth Bont yr Ysgraffau. Daeth Agricola ar wartbaf yr Ynyswyr yn ddiarwybod iddynt bron; canys tybiasant y buasai iddo fel ei rag- flaenor Suetonius barot.toi badau i groesi yr afon. Ond yn lie hyny, efe a archodd chwilio allan fasleoedd y Fenai; ac ar bryd trai, nofiodd ei wyr a'i feirch drosodd, nes brawychu yr ynyswyr druain dros fesur. Synnodd y Monwysion yn aruthr, ac nid oedd mwyach nerth nac ysbryd yn- ddynt. Deallasant, fel y sylwa Tacitus, nad ydoedd dim yn ormod i'w gyflawni, ac yn anmhossibl gan wyr ddeuent i'r frwydr yn y fath fodd-" Nihil arcluum et invectum sic ad helium venientiblls"-a deisyfasant ammodau heddwch ar draul colli eu hannibyniaeth. Er mwyn cadarn- hau ei lywodraeth droq yr Ynys, seiliodd ddwy wersyllfa gref, un yn mhob pen iddi, y naill yn nhufiddau Crigyll, a'r llall yn nghymmydogaeth Porthaethwy. Adna- byddir hwynt hyd heddyw wrth yr enw Castellior." Safai y Castellior blaenaf ar dir Gwaunfynydd yn mhlwyf Llech- ylched, a'r Castellior olaf yn mhlwyf Llansadwrn, lie mae olion caerfa i'w gweled ar fferm o'r enw. Chwalwyd y Castellior yn Llechylehed, lie yr oedd olion niferi o gytiau crynion ac adeiladau ereill o faintioli mwy, ac yn gyfagos wedd- illion claddfa a ffordd Rufeinig. Gyda golwg ar groesi y Fenai yn y wedd y darfu Agricola a'i fyddin, deallwn nad ydoedd yn orchwyl ammhosibl yn yr hen amserau gynt, ond weithian y mae y cul- for hwn wedi ymledu a dyfnhau gan gymmaint, fel mai prin y credir Rhys Goch Glandyfrdwy yn ei Gywydd i bum mab Llewelyn ab Hwlcyn o Bresaddfed, lie y dywed :— Ni awn draw, myned yr wyf, Nid er oedi cla'r ydwyf I dir Mon er dw'r Menai, Dros y traeth, ond aros trai." Yr ydym yn teimlo yn lied anfoddog i der- fynu ein nodiadau hyn ar Llanidan yn y fan hon, gan niai cam fyddai hyny a hanesiaeth y plwyf hynod hwn, a'i gapel- iaethau henafol. Gan hyny rhoddwn dro drwy ororau y Fenai o'r Barras i Bwll- ffanog, ac o ffordd Lundain i Lon y Curo mawr;" a chymmerwn wibdaith ar edyn dycbymmyg trwy Y meusyda a fwydwyd a gwaed y Derwyddon, Dan ddwyliw libufeiuiam ac Traill wyr brocl.; A'r tir a haiogwyd gari diaed y gdyuiop, 0 iryu (Jadair id„a hyd ddul y illas Cuch." Canys— Pa ond amoihosibl terfynu yr aW: lion, Heb grybwyll am rai o'r helyntion afu, Trwy uodi y brwydrau, y train, a'r trallodion, A wnaed ar ororau y Fenai gain gu ?"

LLITH MR. PUNCH.|

CYFARFOD UYSTADLEUOL.

YR HYN A GLYWAIS.-"

[No title]