Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

HYN A'R LLALL YMA AC ACW.

News
Cite
Share

HYN A'R LLALL YMA AC ACW. MEISTRI GLYGWRS,—Ddechra rwsnos ma ddylis i fod y gaua ar yn cefna ni, chwadal pobol sir Gynarfon. Wn i ddim pa reswm sy miawn deud rwbath fel na chwaith. Ydw i 'n ffeilio gwbod fod y gaua ddim mwy ar gefn nac ar wynab ryw un. Boed y fyno well gin i got go gynas am y nghefn na'r gaua yna ond dyna o ni 'n mynd i ddeud fod hi yn dywydd rough iawn ddechra rwsnos ma, ond heddiw ma hi wedi troi yn braf iawn ytto, a ryw obaith yn codi yn mysg y bloda, na raid iddy nhw ddim shut up am dipin ytto. Cael llytbyr oddiwrth Mr Disraeli heddiw yn deud hwrach y bydda yn well i mi ddwad i Lundan rwsnos yma er mwyn bod miawn cyrhadd galw arna, tasa 'n digwydd fod isio nghonsultio i o ber- thyna|S i'r sefyllfa ddyddorol y ma'r Duchess of Edinburgh ynddi ar hyn o bryd. Yris ina 'n ol i ddeud y treiwn i ddwad tua diwadd rwsnos, ond y bydda dda gin i gaul fy ysgusodi os bydcla posib ryw sud neud hebdda i. Gybeithio bydd, wath dydw i In hitio dim am siwrna mor fawr ramsar yma o'r flwyddyii. Gwel'd yn y papyr heddiw fod na gyfarfod' i yn Gastle Hotel, Conwy, i gyd-ymde^calo efo Lord PenrUyn yix wy»«,b- y gwasgn sy arno fo gin i weithiwrs, a chiny giwad di-gwyddor sy In- -hofran fel halnt C'i ewmpas nhw. Ma llawar o'r spwngiars hyny ynglyn a phob symudiad fel hyn, rhy ddiog i weithio i huilin, ac yn rhy wynynllyd i adal i'w cyd gryduriad weithio miawn heddweh. Ma'r tinkers politicadd hyn yn pery mwy o anghydwelediad ac anydwyddwch miawn cymdeithas na ma neb yn i feddwl. Pity ofnadwy na fasa posib chartro Hong a gyrd y lot i gid o'r 9 wlad. Bydda hyny yn fwy o fendith i'r dosbarth gweithiol na dim gymrodd le ers blynyddodd lawar. Ma dda gin i weld pobol Nant Conwy wedi pynderfynu caul cyfarfod i gydymdeimlo a'r Lord, oherwydd ma dwy ochor i bob dalan, ac ma'r dynion wedi bod yn brysur iawn yn rhoi y lliw gora alia nhw ar i hochor nhw ers wsnosa bellach. Fair play is a. jewel dewch i ni gaul tipin o'r ochor arall. Ma na i ofn fod na lawar o'r gwirionadd wedi i ddal yn ol. Fe nath gohebydd y Daily News ddioni mawr, er fod y papyr hwnw o ran i olygiada yn hollol groes i Lord Penrhyn, ac yn ddiama y basa yn fwy cydnaws a'i deimlada fo gaul ffendio bai arno fo na dim arall. Ytto fe fuo yn ddigon gonast i ddeud y gwir ac i hintio yn lied blaun ma ar y dynion y ma'r mwya o fai. Y ma'r Blagard Bach yn melldithio y gohebydd hwnw o hyny hyd yn awr, ac yn priodoli iddo bob math o amcafilon iselwaul a thwllodrus ond wath heb, ma'r ffeithia'n aros-facts are stubborn things, ys dywad y Sais. Fe ddeudodd y dyn y gwir yn ddidderbynwynab; todd o'n hitio run botwm miawn gwg na gwen yr oil o honyn nhw. :Fasa hyny'n effeithio dim ar i gylchrediad o. Ma lIe i ofni fod y rhan fwya o'r Radical rags Cymraig yn ydrach mwy am gaul "large circulation" yn y chwaral nac am neud cyfiawndar rhwng gwr ajgwr, aq yn ymresymu efo'i hunin yn debig i hyn i-Os na chymrwn ni ochor ydynion, chymran nwtha mo'n papyr ni; 0 oylyni-ad, ma fo'n eitha amlwg ma'n dy- ledswdd hi ydi supportio'r dynion through p thick and thin. Ac felly, sywath, y ma hi wedi bod ar draul aberthu rheswm a chyfiawndar. 0 v. r ■»!' .■ r.r >* ?•••• • fcaiM i'fu bu. ■< > Ddyliwn i bydd sir Fon yn frith o wylia llynyddol a stecldfoda y flwyddyn nesa, ac ma nhw wedi bod yn ddoeth yn'nywisiad i beirniad. Pobol gall gyddeiriog ydi pobol sir Fon, o'r dyn mawr o Bentraeth gafodd hyd i'r glocsan shrimps ar y traeth i lawr hyd at secretary y Liberal Association a'r Brazier. Tasach chi ddim ond meddwl, er siampl rwan, am un o feirniad cylchwyl lynyddol y Berw a'r Gaerwen. y testyndi hwn, Rhwym- edigaethau Gweinidogion a Blaenoriaid Eglwysig i fod yn Demlwyr Da." Beirn- iad, Alfardd. Pwy byth ond pobol sir Fon iasa n medru dwad a, gwell testyn a beirniad i gyffyrddiad a'i gilydd ? Ma hyn yn gan mil gwell na rhoi Gweirydd yn feirniad ar gylieithiad Sasnag. Dis- gwyliaf yn fuan glywad fod y Licensed Victuallers, Association wedi pynodi yr Uwch-Demlydd yn feirniad ar destyn tebig i hyn,-Am y traethawd gora ar Gwrw Burton a Phortar Dublin fel moddion effeithiol at gaul iechyd a chryfdar; ne am y traethawd gora ar rwymedigeth pob perchan anadI, o Jackan i lawr hyd y morgrug, i yfad French cognac a cham- pagne. Byddwch wych, bobol sir Fon. ROBIN SPONC. MEISTRI GLYGWRS,—Gin fod yr anffawd wedi digwydd i'm llythyr rwsnos dyweutha fod yn rhy hwyr, tos dim i neud ond rhoi hwn yn i gwt o, er fod o braidd yn ormod o bwdin yn y run papyr.. Erbyn hyn ma'r cyfarfod cydymdeimlo efo Lord Pen- rhyn wedi pasio, a ddyliwn fod o'n un hapus iawn. Well done, pobol Conwy; gyrwch y raddress i mi gaul y fraint o sgyfenu fy enw ynddi hi, ne yn hytrach er mwyn i'r lord gaul y fraint o welad enw Robin Sponc ynddi; herwydd tos dim doubt na phery byny fwy o lawenydd iddo fo na darllan tua mil o enwa cyffredin. Yn wir mau o'n bwngc gin i au o i dra- ffarth i ddarllan dim rhagor wedi dwad o hyd i enw Robin. Fe ddeuda wrth i hun nunion wedyn, ma pobpeth yn all right. Chefis i ag ni welie i fawr o hanas cyfarfod y Rads yn Llanarchymedd. Hwrach ceir report go dda yn rhai o'r pypyra rwsnos yma, ond ddyliwn na wagiodd Mr Morgan Lloyd mo'i gAvd i gid yn Llanarchymedd, ond fod o wedi mynd i ddangos i gardia i'r bobol drws nesa i'r Werddon, ac yn ffendio bai dychrynllyd ar y ffordd ma i wrthwynebwrs yn chwara yr eiddynt hwy. Felly wir; braidd na ddeudwn i fod Mr Lloyd yn scholar rhy ifanc yn y political school ac yn rhy fler efo i gardia i hunan i allu efo good grace ffendio bai ar y ffordd mau i wrthwynebwrs yn chwara,—ond wath i chi prun. Ma'n siwr i chi fod o wedi cael cheers; iawn yn Nghaergybi, herwydd wath gin bobol "dorith i haddewid wrth ddau neu dri be nan nhw. Hwrach ran hyny fod y ddau ne'r tri dyn mawr o Gynarfon yno 'n i helpio fo, sef Esgob Heber, Mr Twb Menyn, a Mr Dyn-mwya- yn-y-byd, sy'n mynd i stopio'r Niagra .Falls._ Clywad heddiw gin ryw hen wag 5'dd ° ddim yn goll amsar hollol gynal Ste.ddfod yn Mhwlllleli, OS y bydd, hyny yn foddion i chwanegu ryw chydig at ddysg a moes pryswyliwrs yr antipodes hyny os paid mynych ymweliad y chief clown a'i gneud nhw'n fwy clownaidd. ROBIN SPONC.

SYLWADAU -0 FANGOR.

---=-. NEWYDDION CYMREIG.