Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

---=-. NEWYDDION CYMREIG.

News
Cite
Share

-=-. NEWYDDION CYMREIG. ABERGWESYN, BRYCHEINIOG. Boreu dydd Mercher, Hydref 14eg, clywid' per- seiniau ardderchog clychau Llanfihangel yn gwahodd y plwyfolion eleni etto i wyl y cynhauaf. Daeth cynnulleidfa bryd- ferth yn nghyd i ddiolch i Dad y trugar- eddau am ei roddion helaeth y flvvyddyn hon yn arbenig. Darllenwyd y gwasan- aeth boreuol gan y Parch. Mr Jones, ficer y plwyf, a phregethodd y Parch. Mr Da- vies, ficer Pendarren, yn effeithiol oddiar eiriau y Salmydd—" A'th lwybrau a ddi- ferant frasder." Drachefn, am hanner awr wedi chwech, cawsom y gwasanaeth prydnawnol; y Parch. Mr Jones yn dar- lien y gwasanaeth, a'r Parch. Mr Davies yn pregethu oddiar eiriau y Salmydd etto —" Yr Arglwydd yw fy Mugail, ni bydd eisieu arnaf." Yr oedd nifer dda wedi dyfod yn nghyd, a hyfryd oedd eu clywed yn uno mor galonog yn y gweddiau, yr attebion, a'r canu. Credwyf fod pawb yn teimlo mai da oedd bod yno, am fod Duw yno yn bendithio. Yr oedd yr eglwys hardd wedi ei haddurno yn weddus at yr achlysur. Rhwng y ddau wasanaeth, cafodd plant yr ysgol ddyddiol eu han- rhegu a the a theiseni, &c., trwy garedig- rwydd Mrs Thomas, o Lwyn Madog, a Mrs Jones, y Persondy. Yr oedd yr hin yn hyfryd, a mwynhaodd y plant eu hun- ain yn rhagorol.-Minavon. AMLWCH.—Nos Wener diweddaf cynnal- iwyd cyngherdd mawreddog yn ysgoldy Brytanaidd y lie uchod. Y llywydd ydoedd T. F. Evans, Ysw., Mona Lodge, a'r ar- weinydd ydoedd J. Matthews, Ysw., N. P. Bank, Amlwch. Cafwyd gwasanaeth yr enwogion canlynol ar yr achlysur :—Eryr Eryri, Telynor Seiriol (telynor ieuangc buddugol yn eisteddfodau Wyddgrug a Bangor), Ehedydd Mon, Cyhelyn Mon, Cemaes Glee Society, a Hugh Jones, yr hwn a chwareuodd amryw ddarnau yn hynod swynol gyda'r fife. Yr oedd y canu yn ardderchog, yr ystafell yn orlawn o wrandawyr, a chafwyd elw da tuag at gyllid seindorf bres Temlwyr Da St. Eleth Lodge. Cynnygiodd Mr R. Williams, London House, ddiolchgarwch gwresocaf y cyfarfod i'r llywydd a'r arweinydd am eu gwasanaeth gwerthfawr ar yr achlysur. Eiliwyd y cynnygiad gan Mr Morgans, Point Elianus, a phasiwyd ef yn unfrydol. Terfynwyd gwledd ddifyrus drwy ganu yr anthem genedlaethol.-Gohebydd. CAERNARFON.—0 flaen yr ynadon sirol ddydd Sadwrn, cyhuddwyd Robert Parry, rybelwr, Bryngwyn, Llanrug, o wrthod cydsynio a chais Bwrdd Ysgol Llanrug, i anfon ei blant i'r ysgol. Dywedodd y di- ffynydd fod ei wraig yn gorwedd yn glaf, ac nad oedd neb yn edrych ar ol y plant. Bhyddhawyd ef y tro hwn a chynghorwyd ef i fyned ger bron y bwrdd i ddyweud ei g,vyn.Griffith Williams, Caeathraw, a gyhuddwyd gan yr un bwrdd ddarfod iddo wrthod anfon ei blant i'r ysgol. Rhydd- hawyd ef a rhoddwyd eyffelyb gynghor. —Dirwywyd Robert Jones, Bryngwyn, i Is a'r costau amgyffelyb drosedd. 0 flaen yr ynadon bwrdeisiol ddydd Llun, dirwywyd David Edwards (Crane), i 10s a'r costau am feddwi.—Am adael ei thafarndy yn agored ar ol unarddeg y nos, dirwywyd G. Williams, Albert Vaults, i bunt a'r costau. -Cyhuddwyd Margaret A. Thomas, Bardsey Tavern, o roddi diod i dri o ddyn- ion meddwon, prydnawn dydd Iau, wyth- nos d'r diweddaf. Ymddangosodd Mr J. A. Hughes dros y ddiffynes, yr hon a sicr- hai na wyddai fod y dynion, y rhai a ym- ddygent yn ddistaw yn y ty ar y pryd, yn feddw. Oherwydd fod amheuaeth yn yr achos cafodd ei ryddhau.—Thomas Price Jones a gyhuddwyd o adael ei dy yn agored drwy gydol y prydnawn Sul, wyth- nos i'r diweddaf. Dywedodd iddo dybjo, oddiwrth bapyryn a welodd, fod y tafarn- dai i gael eu hagor ar yr oriau crybwyll- edig, pan ddeuai y ddeddf newydd i weith- rediad. Dirwywyd ef i bunt a'r costau.— Am ymosod ar Laura Jones, Pentrenew- ydd, anlonwyd Ann Dower i garchar am saitii niwrnod.—Am feddwi dirwywyd Ann Williams, Hole-in-the-wall-street, i 5s a'r costau. DOLYDDELEN.—Cyfarfod Llenyddol Ys- golion Sal Echvysig.—Oddeutu blwyddyn yn ol, teimlwyd awydd gan glengwyr a ileygwyr yr ardaloedd hyn i wueud rhyw- beth er mwyn gwellhau YsgoJion Sul yr Eglwys. I gario y bwiiad yma allan, ffurfiwyd pwyllgor clerigol a lleygol dros blwyfydd Penmachno, Dolyddelen, Bet- twsycoed, a Capel Curig. Gwnaeth y pwyllgor eu rhan yn odidog, fel y tystiodd cyfarfod cyntai yr undeb yn Bettwsy- coed. Eleni cynnaliwyd y cyfarfod cys- tadleuol yn Noiyddelen, yr hwn a drodd allan yn llawer gwell nag y disgwylid. L-L Llywyddwyd yn ddelieuig gan Mr R. R. Williams, goruchwyliwr y Prince Llew- elyn Slate Quarry, ac arweiniwyd gan Alltud Eifion, yr hwn oedd yn ei hwyiiau goreu. Ennillwyd y brif wobr o ddwy bunt am ganu yr anthem O deuweh i'r dyfroedd," gan gor Dolyddelen. Ennili- wyd ar y chant gan gor Capel Curig. Derbyniodd Mr Hugh Hugoes, Shop Bach, Dolyddelen, y brif wobr am gyfan- soddi chant yn v cywairllekf. I Mr Ellis Roberts, Bwlch Bach, Dolyddeleh (post- carrier), y dyfamwyd y wobr am y traeth- awd ar Ddydd Gwener y Groglith." Ennillwycl y brif wobr am ganu y don, Bernburg," gan Mr Hugh Davies (Ehedydd Elen) a'i barti. Miss Williams, Bwlch Farm, aeth a'r brif wobr am y traethawd ar "Brif VV ragedd y Beibl," a Miss Ellen Jones, Capel Curig, yr ail wobr. Ennillodd cor plant, o eglwys Capel Curig ar ganu ton yn unsain. Gwobrwywyd y plant canlynol am adrodd darnau o'r Catecism:—E. M. Owen, ac E. Williams, Capel Curig; Lloyd Jones ac Anne Davies, Dolyddelen. Rhanwyd y wobr am "Araeth Ddifyfyr rhwng Meistri Thomas Jones, Dolyddelen, a David Morris, Ffestiniog. Yn ystod y cyfarfod cafwyd araeth hyawdl gan Mr Prichard (Llwyd ap Twrog), Penmachno. Prif amcan y cyfarfodydd hyn ydyw dyrchafu sefyllfa yr Eglwys. Y mae y Parch. D. Thomas, Capel Curig, yn haeddu y ganmoliaeth uchaf am ei lafur gyda'r plant, a gobeithiwn y cymmer y plwyfycld ereill esiampl oddiwrtho, i'w trainio i fyny erbyn cyfarfod y Pasg, canys y mae yn ddiddadl mai arnynt hwy y mae llwydd- iant yr Eglwys yn dibynu yn y dyfodol. Ennillwyd y wobr ar ddarllen gan Row- land Evans, Pont Pant, Dolyddelen, ac E. M. Owen, Capel Curig. Arwisgwyd y buddugwyr gan y boneddigesau hyn Mr a Miss Williams, Bwlch Farm Mrs Thomas, Schoolhouse; Miss Owen, Bet- twsycoed; a Mrs Roberts, Vicarage. Rhoddodd y Parch. M. Wheldon Jones, Llangybi, foddlonrwydd eyffredinol wrth feirniadu y gerddoriaeth. Y beirniaid ereill oeddynt y Parch. P. C. Ellis, Parch. E. Hughes, Trebor Mai, Meistri Parry-Griffiths, Thomas, a Prichard, a Mrs Thomas, St. Anne's. Wedi talu y diolchiadau arferol, ymwahanwyd trwy ganu yr Anthem Genedlaethol.-Ter- tullian. LLANDINORWIG.—Yr oedd dydd Llun, y 12fed cyfisol, yn wyl gyffredinol yn y parthau hyn. Trwy garedigrwydd ystyriol perchenog chwareli Dinorwig, nid oedd neb y dwthwn hwnw yn myned allan i'w waith a'i orchwyl hyd *yr hwyr, ond yr oedd yr ardal yn gyffredinol yn neullduo'r dydd hwn fel gwyl diolchgarwch i Dduw am ffrwyth y maes yn ei bryd. Yn yr Eglwys yr oedd cyfarfod gweddi am naw yn y boreu, o dan arolygiaeth yr hen frawd diwyd a ffyddlon Mr Griffith Prich- ard. Gwasanaeth am ddeg, a phregeth ragorol gan y Parch. W. Edwards, Llan- beris. Cafwyd cyfarfod gweddi drachofn am ddau o'r gloch, o dan ofal Mr William E. Jones, a gwasanaeth am chwech o'r gloch, a phregeth odidog gan y Parch. J. Jenkins, Bryngwran, Mon. Yr oedd y cyanulliadau yn rhagorol dda trwy'r dydd, yn neillduol yn y cyfarfodydd gweddi. LLANDDOGET.—Nos Iau a thrwy y dydd ddydd Gwener, y 15fed a'r 16eg o'r mis hwn, cynnaliwyd cyfarfodydd lliosog iawn i dalu diolchgarwch i'r Hollgyfoethog Dduw am iddo ymweled a'r ddaear mewn trugaredd yn y cynhauaf eleni. Y nos flaenaf, pregethodd y Parch. Mr Reed, curad Corwen. Am hanner awr wedi deg boreu Gwener, pregethwyd gan y Parch. D. Evans, curad Colwyn; ac am banner awr wedi dau y prydnawn, gan y Parch. D. R. Jones, curad Llanelwy; a'r hwyr, gan y Parch. J. A. Jackson, Llan- elwy. Teimlid fod ysbryd a nerth Elias wedi meddianu pob un o'r gweinidogion enwog, a mawr hyderwn y bydd ffrwyth toreithiog yn deilliaw o'r athrawiaethau iach a'r cynghorion pwysig a hauwyd.— Addolwr. LLANEDr.-Diolchgarwch am y cynhauaf. —Nos Fercher a dydd Iau, y 7fed a'r 8fed cyfisol, oedd yr amser a neillduwyd gan Eglwyswyr y plwyf hwn i gyflwyno eu diolchgarwch i'r Hollalluog Dduw am y cynhauaf toreithiog sydd newydd gael ei gasglu yn nghyd. Pregethwyd nos Fercher yn Tycroes gan y rarchn. D. Davies, curad Pontardulais, a J. Griffiths, ficer Myddfai, a chan y Parch. Dr. Moore, Sailors' Church, Abertawy, yn Saesneg, yn yr Hendu. Dydd Iau yn Eglwys y plwyf, a pregethwyd gan y Parch. D. Davies, Pontardulais, yn y boreu, ac yn y pryd- nawn gan y Parch. Dr. Moore, yn Saesneg, ac yn Gymraeg gan y Parch. MrWilliams, caplan carchar Abertawe; ac yn yr hwyr gan y Parchn. E. Davies, curad Llangefel- ach, a J. Williams, Llanwnda, (gynt Is- Ganon Tyddewi), yr hwn, a dracldododcl bregeth ragorol ar y ffurf o weddi." Caf- wyd pregethau grymus a dylanwadol, a gwrandawiad difrifol gan y cynnulleidfa- oedd lluosog oedd wedi dyfod yn nghyd. Yr oedd y canu yn hollol gynnulleidfaol— nid rhyw ddyrnaid a elwir yn "gor canu," yn canu, a pliawb ereill yn gwrandaw arn- ynt, fel y mae mewn llawer o fanau, ond pawb trwy yr. Eglwys yn canu,—"pob perchen anadl yn molianu yr Arglwydd." Gwnaed casgliad ar ol pob cyfarfod tuag at y Gymdeithas er cynnal Curadiaid.— Qwain Edi. LLANFAES A PENSION.—Diolchgarwch am IJ CynJwnal-Cynnaliwyd gwasanaethau o ddiolchgarwch am y cynhauaf yn yr eglwys! uchod ar y 13eg a'r 14eg o'r mis 0 n hwn. Ar foreu dydd Mawrth cawsom yn Llanfaes bregeth ddoniol gan y Parch. Davies Owen, periglor Penmynydd; ac yn yr hwyr canwyd y Canticlau, y Salm- au, yr emynau, a'r anthem yn dra choeth- us gan gorau Llanfaes a Phenmon, o dan arweinyddiaeth feistrolgar Mr Owen Prit- chard a Mr Hutchfield, a pbregethwyd yn rymus gan y Parch. J. Williams, Llan- gefni. Nos Fercher cawsom bregeth dra adeiladol yn hen eglwys fynachol Penmon gan y Parch. D. Lewis Lloyd, prif athraw Friars School, Bangor. Yr oedd eglwys Llanfaes wedi cael ei haddurno yn ddestlus ar gyfer yr achlysur gan y boneddigesau canlynol :-Mrs Trevor, a Mrs Golden, o'r Persondy; Miss Hampton, Miss Lewis, Misses Higgins, a Misses Beevers. I-Iefyd, ni annghofiwyd ei chwaer hynafol Penmon, ond gwisgwyd hithau yn wych erbyn y dydd ag yd, blodeu, a dail gwyrddion. 0 LLANFECHELL. Cynnaliwyd cyfarfod- ydd diolchgarwch am y cynhauaf yn eg- lwys y plwyf uchod nos Fawrth a dydd Mercher, y 13eg a'r 14eg cyfisol, pryd y daeth yn nghyd gynnulleidfaoedd lliosog i dalu eu diolchgarwch i'w Cynnaliwr. Nos Fawrth, darllenwyd y gwasanaeth yn esffeithiol gan y Parch. Mr Morgans, curad Llanddeusant, a phregethwyd yn rhagorol iawn gan y Parch. E. Jones, periglor yr un lie, oddiar Esaiah i. 2. Boreu ddydd Mercher darllenwyd y gwasanaeth gan y Parchedigion T. Kyffin, ficer Cemaes; H. L. Pryce, periglor Llanfairynghornwy a J. R. Edwards, Llanfechell, a phregeth- wyd yn hynod bwrpasol gan y Parch. D. W. Davies, periglor Llanrhuddlad, oddiar Salm lxvi. 8. Am dri o'r gloch yn y pryd- nawn, cynnaliwyd gwasanaeth Saesneg, pryd y darllenwyd y Litani gan y Parch. T. Kyffin, a phregethwyd yn effeithiol gan y Parch. H. L. Pryce, oddiwrth Salm cxvi. 12. Yn yr hwyr darllenwyd y gwas- anaeth mewn modd hyglyw a difrifol gan y Parch. J. R. Edwards, a phregethwyd mewn modd dylanwadol ac effeithiol iawn gan y Parch. Grey Edwards, Llanfach- raeth, Mon, oddiar Esaiah xliv. 21,22,23. Cafwyd cyfarfodydd llewyrchus iawn, ac arwyddion amlwg o fendith Duw arnynt. Gwnaed casgliad yn niwedd pob cyfarfod tuag at Glafdy Bangor a'r Gymdeithas er Lledaenu Gwybodaeth Gristionogol. Dy- ledus yw cydnabod yn ddiolchgar Mrs Kyfinn am gynnorthwyo gyda'i chor yn y gwasanaeth Saesneg. Hefyd, y mae llawer o ddiolchgarwch yn ddyledus i'r Parch. J. R. Edwards a'i foneddiges am eU diwydrwydd a'u haelioni gyda'r cyfar- fodydd, yn darparu ar ein cyfer, yn ys- brydol a chorphorol. Swm y casgliadau ydoedd lp lis 7|e.—Lhvydriidd. LLANGWNADL.—Ddydd Mercher, y lofed cyfisol, talwyd diolchgarwch calonog am fendithion y cynhauaf yn Eglwys blwyfol Llangwnadl. Dechreuwyd y. gwsanaeth nos Fercher mewn ystafell yn Bodferin. Darllenwyd y gwasanaeth gan y Parch. D. Owen, Bryncroes, a phregethwyd gan y Parch. B. Edwardes, Yspytty Cynfyn, Aberystwyth. Foreu Iau yn Llangwnadl darllenwyd y gwasanaeth etto gan y Parch. D. Owen, a phregethwyd gan y Parch. James Rowlands, ebrwyad Bottwnog. Am ddau o'r gloch darllenwyd y Litani gan y Parch. J. Hughes, Tydweiliog, a phregeth- odd y Parch. B. Edwardes. Yn yr hwyr darllenwyd y gwasanaeth gan y Parch. E. Pryse, Nefyn, a phregethodd y Parch. B. Edwardes drachefn. Yr oedd y pregethau yn dra phwrpasol ac effeithiol, a'r canu, o dan arweiniad Mr Thomas Owen, yn rhagorol. Yn yr oil o'r cyfarfodydd yr oedd y cynnulliadau yn dra iluosog, ac yn y gwasanaeth hwyrol yr oedd yr hen eglwys ardderchog yn orlawn hyd annghyf- leustra. LLANGYBI A LLANARMON.—Cynnaliwyd cyfarfod diolchgarwch am y cynhauaf yn yr eglwys uchod ddydd Mercher a dydd Iau, y 14eg a'r 15fed o'r mis hwn. Am hanner awr wedi chwech nos Fawrth, darllenwyd y gwasanaeth dwyfol gan y Parch. St. George Armstrong Williams, M.A., periglor y plwyf, a chafwyd pregeth dda ac effeithiol gan y Parch. Evan Jones, curad Llanrug, oddiar Luc xiii. 6-9 ad- nodau. Am ddeg boreu ddydd Iau, dar- llenwyd y gwasanaeth dwyfol gan beriglor y plwyf, a phregethwyd yn rymus a dy- lanwadol iawn gan y Parch. David Jones, curad Abererch, oddiar Ephesiaid v. 20. Ac am hanner awr wedi chwech nos Iau, darllenwyd y gwasanaeth dwyfol yn effeithiol iawn gan y Parch. David Jones" curad Abererch, a chawsom yr hyfryd- weh a'r anrhydedd o weled o chlywed yr Hybarch Archddiacon Evans, M.A., periglor Llanllechid, yn pregethu yn ar- dderchog oddiar y Salm lxxviii. 41. Yr oedd y cynnulliad yn dda, ac effeithiau a dylanwad yr Ysbryd Glan i'w ganfod yn amlwg arygynnulleidfa. Hefyd, cafwyd canu da iawn, ac y mae hyn i'w briodoli yn unig i lafur a diwydrwydd Miss M. C. Thomas, Plasdu, yr hon hefyd a ddilyn- odd y cor ar yr harmonium, trwy yr holl gyiarfodydd, mewn modd chwaethus a meistrolgar. Yn mysg y gynnulleidfa gweiwyd Owen Evaus, Ysw., Broom Hall; Robert Thomas, Ysw., a Mrs Thomas, Plasdu; a Mrs St. George Armstrong i Williams. Gwnaed casgliadau trwy yr 0 holl gyfarfodydd tuag at y Gymdeithas er Helaethu yr Eglwysi yn Esgobaetb Bangor. LLANIDLOES.—Cyngherddau.—Nos Ian a nos Wener, y 15fed a'r 16egcyfisol, yn heuadd y dref hon, cynnaliwyd dau gyng- herdd lied fawreddog gan y Tyler Band" o'r Assembly Rooms, Aberystwyth, yn lleisol ac offerynol, ey boddhad neillduol i'r torfeydd rhyfeddol o fawr oedd wedi ymgynnull i'r lie y ddwy noson, Y mae cynnyrch y cyngherddau yn myned at yr ysgol genedlaethol y lie hwn.-Idloesyn. LLANLLYFNI.—Dydd Llun, y 12i'-?d o'r mis hwn, cynnaliwyd cyfarfodydd o ddiolchgarwch am y cynhauaf yn Eglwys y plwyf. Dechreuwyd am haner awr wedi deg yn y boreu. Aeth y Parch. E. Davies, periglor y plwyf, drwy'r gwasanaeth, dar- llenwyd y llithoedd gan y Parch. T. Laugh- arn, a phregethodd yr Hybarch Arch- ddiacon Wynne Jones yn wir dda ac ym- arferol. Wedihyny gweinyddwydyCymmun Sanctaidd gan yr Archddiacon, yn cael ei gynnorthwyo gan y periglor. Am ddau o'r gloch darllenwyd y Litani gan y Parch. T. Laugharn, a chaed pregeth adeiladol iawn gan y Parch. J. Morgan, Porth madoc. Am chwech yn yr hwyr aeth y Parch. E. Davies drwy'r gwasanaeth drachefn, a chaed bregeth ragorol o dda gan y Parch. W. Hughes, Llanenddwyn. Yr oedd y cynnulleidfaoedd yn, dda y boreu a'r prydnawn, ond yr hwyr yr oedd yr Eglwys yn orlawn. Yr oedd pob gwas- anaeth yn gorawl drwyddo a'r canu yn well nag y clywsom ef erioed. Gwnaed casgliad ar ol pob gwasanaeth tuag at Gymdeithas Genhadol yr Eglwys. LLANLLYFNI. Cynnaliwyd cyfarfod diolchgarwch am y cynhauaf yn y lie uchod ddydd Llun, y 12fed o'r mis hwn. Traddodwyd pregethau buddiol a grymus gan y clerigwyr canlynol :—Yr Hybarch Archddiacon Wynne Jones (yn Saesneg), y Parchedigion J. Morgan, Portmadoc, a W. Hughes, rheithior Llanenddwyn (yn Gymraeg). Canwyd anthem gan y cor yn y boreu, ac un arall yn y gwasanaeth hwyrol. Yr oedd nifer liosog wedi dyfod. yn nghyd i addoli, ac i roddi teyrnged 0' fawl i'r Arglwydd am ei ddaioni a'i dru- gareddau. Ar yr un diwrnod, pregethodd J y Parch. J. Smith, Amlwch, yn Eglwys Talysarn, yn y boreu a'r prydnawn, a'r Parch. J. Morgan, Portmadoc, i gynnull- eidfa fawr yn yr hwyr. Yr oedd y preg- ethau oil yn hynod dda ac addysgiadol. Yn y gwasanaeth hwyrol tanodd y cor gydgan o'r Messiah. Gweinyddwyd y Cymmun Sanctaidd yn eglwys y plwyf ac yn Nhalysarn yn y bareu, a gwntied cusgl- iadau tuag at y Gymdeithas Genhadol Eglwysig. LLANSANNAN.—Gan fod. y Llais wedi cyrhaedd y lie hwn, dylai rhywun roi hanes beth sydd yn digwydd yma. Saif y lie tua naw milldir o Ddinbych, ar lan- erch o ddyffryn prydferth. Nid oes yma ond amaethyddiaeth yn myned yn mlaen. Mae amryw o weithfeydd mwnau wedi cael eu gweithio yma mewn rhyw oes, ac y mae cwmni wedi ymaflyd mewn un o honynt, a gobeithiwn y tal ei ffordd am eu h uuuriaeth yn gwario cymmaint o arian i osod peiriant mor fawr er codi y dwfr. Mae yma hefyd amryw addoldai yn y pentref ac Eglwys blwyfol i ba un yr;, mae llawer o hynafiaeth yn perthyn. Era ■ ychydig yn ol bu rhyw "Elis o'rNant,"yn talu ymweliad a'r lie ar ei daith obebydd- ol, pryd y cafodd allan fod Llais yvVlacl yn uwch ei lef a'i ddylanwad na'r Faner. Parodd hyny ofid iddo, yr hyn a ddangos- odd trwy ei iaith grynedig yn ei lythyr i'r Faner. Dallwyd ef yn bost gan y ffaith hon fel na welodd ddinl ond mai gwael a thruenus eu cyfiwr oedd y trigolion ac isel eu chwaeth, a hyny am eu bod yn rhoddi derbyniad i'r Llais. Cyng- horwn ef y tro nesaf i gymmeryd ■, mwy o bwyll a chadw ei ragfarn iddo ei huni-Nos Lun, y 12fed cyfisol, bu gan bwyllgor yr arddangosfa flodeu yn y lie hwn gyfarfod i wastadliau peth- au, a dangoswyd fod y gymdeithas ar., gynnydd parhaus. Hefyd gwneir, ym- drech i ychwanegu at rifedi y pwyPgor erbyn y flwyddyn nesaf, ac i gael gwell gwobrau, er mwyn symbylu yr amaethwr a'r gweithiwr i godi gwell cnydau ar eu tir. Bydded pob llwyddiant iddyat.- Dydd Iau, y 15fed cyfisol, yr oedd talu ar-' drethoedd Mr Yorke, Dyffryn Aled, pryd y gwahoddodd y gwr boneddig ei denantiaid, dros drugain mewn nifer i giniaw ar- dderchog, a gwnaeth pawb gyfiawnder a'r danteithion oedd o'u blaen. Yr oedd yn- tau ei hun yn ciniawa hefo ei denantiaid, a pheth pur hyfryd yw gweled y meistr a'r tenantiaid mor agos. Yn ystod ei sylwad- au, dywedodd y meistr fod pawb wedi talu eu gofynion i'r ddimai, ac felly gwel- wn nad yw Llansannan yn.mhell ar ol yr oes.r 16eg cyfisol, talwyd diolchgar- wch am y cynhauaf i'r Hwn y mae yn deilwng i ni fod yn ostyngedig a diolch- gar, a gwnaed hyn gan enwadau y lie y dydd uchod mewn modd defosiynol a dif- rifol trwy y dydd.—Job lihys. LLANWDDYN.—Dydd Mercher, y 14eg eyfisol, am saith o'r gloch, cynnaliwyd