Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

LLOFFION O'R DEHEUDIR.

News
Cite
Share

LLOFFION O'R DEHEUDIR. DOWLAIS.-Dydd Iau cyn y diweddaf, cyfiawnodd dyn or enw Thomas Rees, yr hwn a breswyliai yn Ysgoldy St David's, Merthyr, hunanladdiad yn Nowlais. Adnabyddid y trangcedig yw fwy cyffredin wrth yr enw "Tom Rees, y criwr." Ymddengys ei fod wedi myned i dafarn o'r enw Beehive, oddeutu hanner awrwedi un jo'r gloch yn y prydnawn, yn berffaith sobr, a gofyn am lasiaid o gwrw. Ni yfodd ddim ohono, eithr gofynodd am allwedd y water closet gan y forwyn. Rhoddodd yr allwedd iddo, ac efe a aeth allan. Aeth oddeutu tri chwarter awr heibio, ac nid oedd dim arwyddion o'i ddychweliad yn ol i'r ty. Aeth y forwyn allan i edrych a oedd efe yn y closet, ond gan nas gallasai agor y drws, dychwelodd i'r ty, a gofynodd i un o'r dynion i fyned allan i geisio ei agor iddi. Llwyddodd y dyn i agor y drws, ac er ei ddychryn gwelai Rees yn hongian wrth raff newydd yn hollol farw. Tybir i'r truan neidio oddiar y seat, yr hyn a fu yn farwolaeth uniongyrchol iddo. Torwyd ef i lawr, a galwyd am wasanaeth meddyg, yr hyn, wrth gwrs, a aeth yn ofer. Yr oedd Rees yn ol mlwydd oed, ae ymddengys ei fod wedi bob yn dal sefyllfa barchus fel gweithiwr, ond yr oedd ers ychydig ilynyddaii wedi ymollwng i yfed i ormod- edd. Tybir fod y cyhuddiad a ddygwyd yn ei erbyn gan fwrdd iechyd Merthyr o ddarnguddio arian perthynol iddynt, wedi effeithio yn drwm ar ei feddwl, a dywedir ei fod wedi gwneuthur ymgais at foddi ei hun pan gyntaf y dygwyd y cyhuddiad yn Hi erbyn. Dydd Gwener eyrma,liwy<f trengholiad ar ei gorff, pryd y dychwelwyd iheithfarn i'r pwrpas ei fod wedi cyflawni y weithred mewn pang o orphwylldra. PEMBREY.—Fel yr oedd dau ddyn ieuaingc o dref Llanelly, packmen wrth ei celfyddyd, yn dyfod heibio ar eu cylch pacyddol, cododd awydd arnynt i ymdrochi yn hen ddoc y lie hwn. Er nad oes dim ilongau yn arosyma yn awr fel cynt, ond y mae yma lanw fel arfer, ac wrth fod un ollonynt yn nofio am gryn amser darfu rliywbeth ei daro yn ei gyfansoddiad megys cramp. Suddodd yn y fan fel careg, ac ni chafwyd gafael arno nes i'r llanw fyned allan a chodi y llifddorau. Dyma rybudd etto í beidio bod yn rhyfygus wrth nofio. DAMMAIN FRAWYCHUS.—Dydd Sadwrn diweddaf, digwyddodd damwain frawychus ar linell ffordd haiarn Castellnedd ac Aberhonddu, yr hon er ei bod wedi creu dychryn ac arswyd mawr ni achosodd farwolaeth i neb. Yr" ffodus ni dderbyn- iodd neb y niwed lleiaf ychwaith, ac ni attaliwyd y drafnidiaeth o gwbl. Ym- ddengys fod y peiriant wrth groesi un o'r crossings, wedi rhedeg oddiar yllinell, gan ddyfod i arosiad sydyn. Lluchiwyd rhai o'r rheiliaui fyny, ond llwyddwyd cyn hir i gael y peiriant yn ei ol ac i drefnu y rheiliau yn eu lleoedd priodol. LLANDILO. Cyhuddwyd boneddwr ymlleullduedig o'r enw Andrew Vaughan o flaen ynadon y lie hwn, ddydd Sadwrn diweddaf, o herwhila. Dirywydefi ddwy bunt a'r costau. LLANTRISANT.—Nos Fawrth diweddaf, yn ngwaith haiarn Bute, cyfarfyddodd dyn o'r enw William John a'i farwolaeth mewn njodd echrydus. Tra gyda'i orchwyl ar- ferol, tarawyd ef i lawr gan ddarn mawr o haiarn a ymryddhaodd o ben uchaf y gwaith, a lladdwyd ef ar darawiad amrant. Yr oedd y trangcedig yn chwech a deugain mlwydd oed, ac yn wr priod. Hysbyswyd y newydd yn y modd mwyaf gochelgar i'w weddw, yr hon sydd ers amryw flyn- yddoedd mewn sefyllfa egwan o ran ei hiechyd. Ofnir yr effeithia ei phrofedig- aeth mor dost arni nes diorseddli ei rheswm. HHYMNI.-Y mae, y pwll a adnabyddir wrth yr enw Pwll Pidwallt, ger y lie hwn, wedi gorlifo. Perthyna i'r Rhymni Iron Company. Dygwyd y ceffylau o'r gwaith ddydd Gwener diweddaf, ac mae y gwaith, wrth gwrs, wedi cael ei ohirio. Ystyrir fod y dwfr wedi cyfodi oddeutu deg troed- fedd trwy bob rhan o'r gwaith, ac ofnir y bydd iddo wneud ei ffordd i'r pyllau ereill, oblegid y mae amryw byllau yn gyssyllt- iedig a'r Pidwallt. ABERDAR.—Cynnaliwyd wythfed Eis- teddfod Alban Elfed yn y Temperance I-Iall, Aberdar, ddyddiau Sadwrn a Llun cyn y diweddaf. Yn anffodus, trodd y tywyddyn anlfafriol, oherwydd yr hyn nid oedd y gynnulleidfa mor Jiosog ag arferol. Y beirniaid oeddynt:—Cerddoriaeth, Mr J. Proudman, Llundain; rhycldiaeth a barddoniaeth, Mynyddog, yr hwn hefyd ydoedd yr arweinydd. Cymmerwyd y gadair gan yr Hybarch Canon Jenkins a Dr.'Price, Pontypridd. Y brif gystadleu- aeth oedd am y datganiad goreu o'r "Amen Chorus "-dau gor yn cystadlu, sef eiddo Merthyr a Hirwain. Ennillwyd y wobr, sef 25p, gan y cor diweddaf. Canodd Mr James Sauvage amryw alawon Cymreig yno, a derbyniodd gymmeradwy- aeth gyflredinol y dorf. Cynnaliwyd cyngherdd mawreddog yr hwyr yn ystody ddau ddiwrnod. CWMRHONDDA.- Yn llys yr beddgeid- waid yn y lie hwn, ddydd Lluu diweddaf, o flaen Mr Gwilym Williams, cyhuddwyd un Thomas Hogol's; Blaenrliondda, o wneuthur ymosodiad ar Mary Anne Powel, o'r un lie. Gwelodd Mary Anne Powel y diftynydd yn ceisio taflu ei phlen- tyn i'r afon ac am ei bod yn myned i'w rwystro, tarawodd hi ddwywaith. Dy- wedai un o'r tystion, pe buasai y cyhudd- edig wedi llwyddo i daflu y bachgen i'r afon, y buasai ei fywyd mewn perygl. Dirwywyd y diffynydd i ddeg swllt a'r costau am y trosedd cyntaf, ac i swilt a'r costau am yr ail. GOWER ROAD.-Nos Sadwrn diweddaf digwyddodd tro difrifol yn y lie uchod pan yr oedd dau gi yn ymladd. Perchenogid un o honynt gan William Williams, yr hwn a aeth allan a phocer i wasgaru y cwn oddiwrth eu gilydd, mi debygwn ac meddai John Lewis, o Waenarlwydd, Paid a bwrw un o honynt yn waeth na'r Hall," ac wele William Williams yn ym- aflyd yn y pocer, a tharo John Lewis yn ei ben nes ei archolli yn enbyd. Yn mhen ychydig amser, wele frawd y carcharor yn dyfod allan wedi hyny, a'i fwrw yr ail waith, nes y mae John Lewis mewn sefyllfa beryglus iawn, ac nid oes ond gobaith gwan am ei adferiad. Y mae William Williams yn y ddalfa, ac y mae Edward Williams (ei frawd) i gael ei gym- meryd i fyny etto. Y mae Gower a Waenarlwydd yn lleoedd rhyfedd am gwn. MOUNTAIN ASH.-Yn 11ys yr heddgeid- waid yn y lie hwn, ddydd Llun diweddaf, O flaen Mr De liutsen, cyhuddwyd un Evan Edwards o wneuthur ymosodiad ar berson Thomas Thomas, ddydd Mawrth, y 29ain cynfisol. Taflwyd yr achos o'r llys heb gospi yr un o'r cyhuddedigion. ABERDAR.—Yn llys yr heddgeidwaid yn y lie, hwn dydd Sadwrn diweddaf, o flaen Mr De Rutsen, cyhuddwyd tri dyn o'r enwau John Meredith, Morgan Thomas, a Thomas Williams, o wneuthur ymosodiad ar Robert Richards, gyda'r bwriad o achosi niweidiau corphorol difrifol iddo. Dywedai Mr Rutsen, gan nad oedd unrhyw amddiffyniad wedi ei wneud gan y dynion, a bod yr achos yn un pwysig, y byddai iddo ef drosglwyddo yr achos i'r brawdlys chwarterol. TREHERBERT.—-Dydd Llun diweddaf yn llys yr heddgeidwaid yn y lie hwn, cyhudd- wyd dyn o'r enw Thomas Davies o deithio ar linell y Taff Vale heb docyn. Dywedai Mr David Morgans fod yr achos yn un drwg, a bod y cwmpeini yn dymuno w I gwasgu y cyhuddiad yn mlaen. Dirwywyd y carcharor i bunt ar costau. BURY PORT.-Aeth William Haden, bro- dor oLoughor,yr hwn oedd yn taluymweliad a'r lie uchod ar y pryd, i ymdrochi dydd Sadwrn diweddaf. Ymddengys ei fod wedi myned yn rhy bell i'r dyfnder, a chafwyd ei gorph wedi boddi. Yr oedd y trang- p 0 cedig yn gwasanaeth Mr B. Sutherland, Llanelli. MERTHYR.—Boreudydd Mawrth diwedd- af cyfarfyddodd dyn o'r enw James Jen- kins, yn byw ynTwynyrodyn,ger y lie hwn, a'i angeu mewn modd dychrynllyd. Tra yn cerdded i fyny incline Penydarren, goddiweddwyd ef gan gerbyd oedd yn esgyn i fyny, gan ei daraw i'r ilawr a thori ymaifch ei ddwy glun. Cymmerwyd ef ar unwaith i'r meddygdy, ond bu farw yn y prydnawn oddiwrth effeithiau y ddamwain. Dychwelodd y rheithwyr ddedfryd o farw- olaeth ddamweiniol'ar y trengholiad dran- noeth. GLANDWR.—Y mae y gweithfeydd enwog ac eang sydd yn y lie hwn, lie y gweithir cymmaint 0 haiarn a dur, wedi sefyll yn hollol, mewn canlyniad i gamddealltwr- iaeth rhwng y perchenogion a'r gweith- wyr. Pan fyddai y gweithfeydd hyn ar lawn gwaith, byddai o ddwy fil i ddwy fil a haner o ddynion a bechgyn yu ennill eu bara benyddiol ynddynt, ond y maent yn awr yn segur ac heb ennill dim. Hyderwn yn fawr na phery yr annghydwelediad pruddaidd hwn yn hir. IEuAN AWST,

MERTHYRON ETHOLIADOL.

GWEDDILL ARIANOL EISTEDDFOD…

YR OES HON.

[No title]

LLITH DAFYDD EPPYNT.