Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
NEWYDDION CYMREIG.
NEWYDDION CYMREIG. BLAENAU FFESTINIOG.- Nos Wener, y 9fed cyfisol, buHiraethogyn darllen rhanau detholedig o'r "Emanuel yn yr Assem- bly Room. Cymmerwyd y gadair gan y Parch. W. Edwards, Aberdar, ac yr oedd y cynnulliad yn lluosog.—Llifogydd Mawr- ion.—Bu yr wythnos ddiweddaf yn hynod ar gyfrif ei gwlawogydd, ac y mae wedi pery peth anfantais yn y chwarelau, ac wedi boddi rhai manau. Yr oedd y dwfr yn myned i lawer o dai nes yr oedd llawer yn cario eu dodrefn i ddiogelweh.- Goheb- ydd. CAPEL CURIG.-Gwyl Gynhauaf.— Cynnaliodd Eglwyswyr y lie hwn eu gwyl gynhauaf, ar ddydd Iau, yr 8fed o'r mis hwn. Nos Fercher, cynnaliwyd gwasanaeth dwyfol yn yr eglwys, a phre- gethodd y Parch. Peter Jones, ficer Llan- ddona, M6n, oddiar St. Mathew vi. 33. Dydd lau, yn y boreu, pregethodd y Parch. Mr Morgan, Llanrwst, oddiar Hosea ii. 15 yn y prydnawn, y Parch. D. Jones, Llandudno, oddiar Gen. xl. 23.; ac yn yr hwyr, y Parch. P. Jones, Llan- ddona, oddiar i Samuel xii. 23, 24. Darllenwyd y gweddiau gan y Parchn. J. Lloyd Jones, B.A., Bettwsycoed H. .< E. Williams, Dolyddelen; a David Thomas, Capel Curig. Yr oedd y preg- ethu yn ardderchog o'r dechreu i'r diwedd. Gwnaeth y cor eu rhan yn ganmoladwy, dan arweiniad Mr John Williams. Casglwyd tuag at y gymdeithas er taenu Gwybodaeth Gristionogol.-Esgob Cork.- Boreu Sul, Medi 27, pregethodd yr hybarch a'r oedranus Dr. Gregg, Esgob Cork, yn yrj Iwerddon, yn rymus ac effeithiol oddiar St. loan vi. 37. Gwledd i'r enaid yw cael eistedd dan weinidogaeth yr hen Brotestant diledryw hwn. Y mae yn orator ysplenydd, ac yn Gristion cywir. "Esgob," ac nid "Arglwydd" sych a rhodresgar ydyw yr yr henafgwr anwyl hwn. Yn yr hwyr, pregethodd y Parch. Mr Jones, curad Bodedern, Mdn, yn rhagorol oddiar Psalm, xxxiv. 8. Casglwyd foreu a hwyr at Glafdy Bangor. -Llifogydd.- Y mwel wyd a'r ardal fynydd- ig hon ag ystorm ddigymmar o wynt a gwlaw nos Fawrth, y 6ed o'r mis hwn. Ysgubodd y ryferthwy y cloddiau o'i flaen, a chariodd y llifeiriant i ffordd yn gyfangwbl bont bren gadarn dros yr afon Lugwy, ger y Tanybwlch Hotel. Yr oedd y llif yn uchel annghyffredin, a'r gwlaw- ogydd yn drymion iawn. CWMYGLO.—Ni welsom y Bogelyn yma wedi chwyddo a ehedeg dros ei derfynau gymmaint ers ugain mlynedd, ag y darfu iddo ddydd a nos Fawrth ddiweddaf. Yr oedd afonydd yn rhedeg iddo o bob cyfeiriad, gan rwygO y ffyrdd a'r llwybrau, a diystyru pob rhwystrau a ddeuant i'w cyfarfod. Nid ydym yn ein hoes yn cofio iddi wneud yn agos gym- aint o lifogydd mewn can lleiad amser a'r tro hwn. Yr oedd y Bogelyn wedi chwyddo cymmaint fel yr oedd wedi meddiannu iddo ei hun holl wastadedd o bont Penyllyn i lawr liyd Pontrhyddallt, gan orchuwdio y ffordd fawr sydd yn arwain o Gaernarfon i Lanberis, mewn amryw fanau. Aeth pawb i'w gwelyau nos Fawrth, fel arferol; ond oddeutu day o'r gloch y boreu, cododd un person i edrych pa fath dywydd oedd, a thra yn disgyn o'i wely disgynodd i ddwfr hyd at IPLI lwynau ac felly mewn dychryn, pan cfdpailocfd ei bod yn llif-ddwfr mawr, gwnaeth ei ffopdd at y drws i geisio glared ei fochyn, yr hwn oedd ganddo mWP. cwt tu Ql Tw dy, ar fin y llyn. Ac wrth agpr y drws, er eîyndod, gwelai ei fochyn y# nofio heibio i'r t £ fel pe buasai Wpdi bqd yno yn d-isgwyl i'w feistr agor iffdQ. Acyr oedd yma. lawer ty a theulu, 3- }l&\yer fij'ophyn yn yr yn sefyllfa, ond ymdrechodd ef wneyd yn hysbys i'w gymmydogion eu sefyllfa, pa rai oeddynt yn cysgu yn dawel, megys ar welyau fjofiadwy, a 11 wyd clod d i'w deffro. A dyna lie bu frelynt fawr hyd y boreu, gyda physgotta moch bychain a mawr, a'u cluda i'r bryniau. Dylai gwragedd ieuaingc Cwmyglo, o hyn allan fod yn falch o'u gwyr." Wyr,cerwch eich gwragedd, yw y gorchymyn;" ond, aeth gwyr ieuaingc Cwmyglo ar foreu dydd Mercher, y seithfed cyfisol, tuhwnt i'r gorchymyn. Yr oeddynt yn caru ac yn cario eu gwragedd, a hyny trwy ddwfr lawer, ac am a wn i na fuasent yn eu cario trwy d&n buasai angen. Wragedd, byddwch dyner wrth aipS$wyr, rhag digwydd i ddyfroscld eieh da! elto rhvwbrvd.—Hen Langc. CHWILOG, GER PWLLHELI.—Ar ol hir ddisgwyliad am hanes y cyngherdd a gynnaliwyd gan Mynyddog yn nghapel yr Annibynwyr, Chwilog, ger Pwllheli, nos ^au, i/eg cynfisol,' a'r hbll ddisgwyliad; fyned-^n ofcr," yr wyf yn1 ystyried fod gadael i'r cyfryw gyngherdd fyned i! dir anghof, heb goffa am dano, yn dro; anniolchgar, a chymmaint o ddyngarwch a ■hielioni wedi cael ei ddangos drwyddo yn: Whob modd. Un anrhydeddus a llwydd- iairius ydoedd mewn gwirionedd. Edrych- i yn gyntaf, ar ddyngarwch a haelioni ein anrhydedduslywydd, sef Owen Evans,! y*w., Broom Hall, Llanarmon, yr hwn1 sydd bob amser yn barod i roi pob cyn- northwy yn siriol at bob achos da yn ein tir, ac y mae yn dda genyf allu dyweud yn y fan yma, fod ei anrhydeddus fab, yswain ieuangc o Broom Hall, yn hoffi rhodio llwybrau rhinweddpi ei barchus dad, fel yr ydym wedi cael amlygrwydd ami droiau cyn yn bresennol. Bu i'r ddau foneddwr, fod mor garedig a rhoi eu dylanwad o blaid y cyngherdd hwn, a phrynu amrai docynau i'w rhanu, i rai nad oedd ganddynt fodd i'w prynu eu hunain, er byrwyddo y dyben oedd mewn g-olwe. sef dileu dyled capel Wesleyaidd Llan- armon. Ac yn hyn buwyd yn llwydd- ianus; fel yr hysbysodd ein hanrhydedd- us lywydd, ar ddechreu y cyngherdd, mai dyben y cyngherdd y noson hono oedd tynu dyled capel Llanarmon oddi- arno, a'i fod ef wedi clywed y byddai i hyny gael ei wneud y noson hono, a bod yn dda ganddo glywed hyny." Mae yn dda genyf finau gael cadarnhau yr adroddiad yna fod ymddiriedolwyr y capel uchod yn barod i gyfarfod a'r loan fund yn ei gofynion. Bu yma ami ymdrechfa yn cael eu gwneud o'r blaen tuag at leihau dyled ein capel, gyda chyfarfodydd te, a darlithiau, ond ni chawsom yr un o'r ddau mor Uwyddianus i gasglu arian a'r cyngherdd dan sylw. Yr oedd ar yr esgynlawr, heblaw y ddau foneddwr a nodwyd, G. T. Picton Jones, Ysw., maer Pwllheli; Mrs a Miss Thomas, Plasdu; Parchn. D. Jones (Idrisyn), J. Jones, Nefyn Mr G. Griffiths, Bryngoleu, Abererch, a'i gor; Mr Henry Jones, Pwllheli, a'i barti; Mr Daniel ^vans, Brynygwdynisa, a'i barti. Yr oedd y gwahanol bartion yn cynnorthwyo Mynyddog i gynnal y cyngherdd, a Miss Thomas, Plasdu, yn chwareu ar yr har- monium gyda Mr G. Griffiths, Bryngoleu. ki u pawb cawsom gyngherdd boddhaol, ac yr ydym yn teimlo ein hun- ain dan rwymau i fod yn ddiolchgar i bawb a gymmerasant ran yn y gwaith 0 1 gynnal. Yr oedd capel mawr Chwilog yn orlawn o bobl wedi d'od yn nghyd o bob cyfeiriad yn yr ardal.
I'R LLYWYDD.
I'R LLYWYDD. Hir oes i'r boneddwr hael,-a diddan, Boed iddo ei cbaffael; A marw fo a mawr faei, Y Nefoedd yn ei afael. ■. -loan Garmon, Llanarmon, EBENEZER, BANGOR. Cyfarfod Llen- yddol,- Cynnaliwyd cyfarfod llenyddol yn y capel uchod, perthynol i'r "Annibynwyr, yn y ddinas hon gan aelodau y lie, nos Fercher diweddaf. Cymmerwyd y gadair gan y Parch. Mr Williams, Bethesda, yr hwn a lanwodd ei swydd yn anrhydeddus. Hir ddisgwylid am y cyfarfod gan amryw o'r aelodau; ond wedi i nos Fercher ddo'd nid oedd dim yn neillduol ynddo yn tynu sylw oddieithr y gwr talentog Myn- yddog, yr hwn sydd bob amser yn creu gwen a digrifwcii yn mha Ie, bynag y bydd. Cafwyd prorlraninie digon o faint i lanw eisteddfod leol, a beirniaid yn ddi- rifedi, y rhai nad oeddynt wrth reswm yn alluog i gyflawni y gwaith pwysig a ym- ddiriedwyd iddynt, oud ychydig 0 honynt oblegid pa fodd y gallasent, ni chawsant fanteision a chyfleusderau i wneuthur hyny. Ond pa angen, wys, oedd am y fath liaws 0 feirniaid mewn cyfarfod mor fychan ag oedd yn Ebenezer y nos Fer- cher diweddaf ? Hefyd Ilwyddwyd i gael amryw 0 artistes, pa rai a gymmerasant ran yn y gwasanaeth; ond-nid oedd dim ynddynt oddieithr Isalaw, yr hwn y mae ei glod trwy yr holl wlad fel cerddor galluog a medrus. Hefyd gwasanaethodd y cor ar yr achlysur. Wedi yr holl amser a dreuliwyd i ddysgx\paltry glees, nid oedd y dorf yn eu hystyried hwy yn werth ond un encore trwy yr holl gyfarfod, Pa Ie y mae y bai tybed ? Chwareuid ar yr har- monium yn fedrus gan Mr J, H, Roberts, Betbesda.-O. Y,—Gyda llaw, a ydyw yn ymddygiad crefyddol cynnal oyngherddau a chyfarfodydd Ilenyddolysgafn a chwerth- inllyd yn deilwng 0 broffeswyr crefydd ? Onid yw yn. ysgrifenedig, « Ty gweddi y gelwir fy nhy i," &c., ac nid ty i gadw cyngherddau chwerthinllyd a chyfarfod- ydd gwfig ae ysgafn.- Waeth Pwy. HOREB, LLANGRISTIOLUS.—Gtvledd i'r Ysgol Sztl.-Yr oedd dydd Gwener, y 9fed o'r mis hwn, yn ddiwrnod y cofir am dano ysbaid maith genym. Cawsom fel ardal- wyr, megys teulu wrth yr un bwrdd, ein gwala, a digon yn weddill, 0 wledd felus, yn gynnwysedig odea bara brith. Gwas- anaethwyd yn siriol wrth y gwahanol fyrddau gan y boneddigesau canlynol:- Misses E, Williams, Tycalch; M. E. Hughes, Bodhsnlli; J, Evans, Fferam M. E, Hughes, Tynewydd; 0. II, Roberts, Shop; A. Roberts, Ceryg Ceinwen; E, ac lvI. Williams, Oaer-euryth; E. Williams, Felinbachi E. Chambers, Tynypwll, a llu 0 rianod ereill. Wedi gwneud eyf" iawnder a'r danteithion, aethpwyd i gae perthynol i Mr 0. Jones, s Capel Ffarm, i ireulio awr neu ddwy mewn amryw ddi- niwed gampaU; Yn yr hwyr cafwyd cyf- arfod dyddorol yn y capel dan lywydd, laeth y Parch, William Williams, Tycalch. Cystadleuwyd mewn darllen, aieithio, a shanu yn ddifyfyr. Annerchwyd y cyfar" fod yn gynnes gan y Parch. R. Owen, >II. I, n j J", Cerygydruidion (gynt Llundain), Peter Williams, a John Williams, Gwalchmai. Cafwyd caneuon soniarus 0 buddiol gan Ap Morrus, J. Hughes, Cae'rdwr, a Mas- ter Willie Hughes, Tynewydd, a chanodd cor y lie yn hynod swynol. Bydd arnom biraeth am gyffelyb gyfarfod etto yn fuan. -Gohebydd. LLANDYRNOG.—Dydd Mawrth diweddaf pregethodd y Parch. Dr. Griffiths, gynt o Landeilo, yr hwn sydd newydd ei bennodi yn ebrwyad y lie hwn, ei bregeth gyntaf i'w gynnulleidfa newydd, yr hon a dra- ddodai ar yr achlysur 0 ddiolchgarweh am y cynhauaf. Yr oedd y bregeth yn nerth- ol a'r gwrandawyr yn astud. Darllenwyd y gweddiau gan y Parch. John Roberts, hen gyfaill i Dr. Griffiths, yr hwn sydd wedi bod yn gwasanaethu yn ei le er adeg ei bennodiad, bedwar mis yn ol. LLANERFYL.—Dydd Llun, yr 8fed cy- fisol, cynnaliwyd cyfarfodydd o ddiolchgar- wch am y cynhauaf gan y gwahanol en- wadau, a dydd Gwener canlynol yn Eg- lwys y plwyf. Pregethodd y Parch. E. Owen, Bontllogell, y boreu yn Saesneg yn hyawdl, ac yn yr hwyr pregethwyd gan offeiriad Dolanog, yn rhagorol. Yr oedd yr Eglwys yn orlawn o wrandawyr. Clywais well canu yn Eglwys Llanerfyl nag a glywais yn bresennol, ond yr oedd yr offeryn cerdd yn cael ei chwareu yn gampus gan foneddiges anadnabyddus i mi.—Maldwynfab. LLANFFLEWYN.—Ar ddydd Mercher, Medi 3oain, cynnaliwyd cyfarfodydd diolchgarwch am y cynhauaf yn eglwys y plwyf uchod. Dywedwyd y Litani am ddau o'r gloch, a phregethodd y Parch. Evan Jones, offeiriad Llanddeusant, yn rhagorol o dda. Am saith o'r gloch dy- wedwyd y Gosper gan offeiriad y plwyf, ac yna traddododd y Parch. H. L. Price, R.D., offeiriad Llanfairynghornwy, breg- eth effeithiol a phwrpasol iawn ar yr achlysur. Yr oedd yno gynnulleidfaoedd parchus, gwrandawyr astud, a chanu a chan- tio da a bywiog. Addurnwyd yr eglwys yn brydferth iawn gan Mrs Watkin Davies, gyda chynnorthwy Mrs a Miss Williams, Llanfflewyn, ac ereill. LLANGEINWEN A LLANGAFFO.-Anfynych iawn y bydd yr enwau uchod yn ym- ddangos yn ngholofnau eich papur clod- wiw, ond ar y 6ed a'r 7fed o'r mis hwn, cynnaliodd yr Eglwys, fel arferol, ei chy- farod diolchgarwch blynyddol am y cynhauaftoreithioga gwerthfawr a gawsom y flwyddyn hon etto gan Roddwr pob daioni. Ni chefais y fraint 0 fod yn bresennol yn y lie olaf, oherwydd gerwin. deb y tywydd, ond deallwyf eu bod wedi cael cyfarfod hyfryd iawn ac er gwaethaf y tywydd tymhestlog, fod yr eglwys yn orlawn 0 wrandawyr astud. Darllenwyd y gwasanaeth gan y Parch. Mr Jones, Ganllwyd, a phregethwyd yn ddylanwadol gan y Parch. Mr Jones, Ffestiniog. Boreu drannoeth, sef y 7fed, am ddeg,!yn Eglwys LJangeinwen, darllenwyd y gwasanaeth yn effeithiol iawn gan Mr Jones, Ffestiniog, a phregethwyd yn rymus ac adeiladol gan Mr Jones, Ganllwyd, oddiar Esau Iv. 10, 11. Am ddau yn y prydnawn dar- llenwyd y Litani yn bur deimladwy gan Mr Jones, Ganllwyd, a phregethwyd yn bur addysgiadol gan Mr Jones, Ffestiniog, oddiar Marc xiv. 37. Am bump o'r gloch cynnaliwyd cyfarfod gweddi, pryd y diolchwyd yn gynnes i Dad yr holl dru- gareddau gan amryw frodyr. Yn y cyfarfod hwyrol, am hanner awr wedi chwech, darllenwyd y gwasanaeth gan y Parchedig Thos. Meredith, Niwbwrch, yn ol ei arfer, yn bur ddylanwadol, a phregethwyd gydag yni, hyawdledcl, ac effeithioldeb neillduol gan Mr Jones, Ganllwyd, oddiar loan xiv. 6. Yr oedd y cynnulliadau yn bur Ilia sag ar hyd y dydd, yn neillduol felly yn yr hwyr, a'r canu a'r gweddiau yn bob peth dymunol, Hyderir, 0 dan fendith Duw, fod y diolchgarwch a roddwyd, a'r 0 gwirioneddau pwysig a draddodwyd, yn offerynau yn ei law Ef i droi Ilawer pechadur 0 gyfeiliorni ei ffordd, a dwyn y credinwyr yn nes at Grist. Gwnaed casgliadau ar ddiwedd pob cyfarfod at y Gymdeithas Fugeiliol Eglwysig Gartrefol, —S. O. LLANRHUDDLAD.—Cynnaliwyd gwas- anaethau diolchgarwch am y cynhauaf yn yr eglwys uchod ar ddydd Gwener, Medi 25aiii. Dechreuwyd y cyfarfod gyda gwasanaeth y Cymmun Bendigaid am wyth o'r gloch y boreu. Am ddeg o'r gloch, dywedwyd y gwasanaeth boreuol gan y Parch. James Smith, curad Amlwch, a phregethodd y Parch. Hugh L. Pryce, R.D., offeiriad Llanfairynghornwy, yn dra tharawiadol a theimladwy ar yr achlysur. Am ddau o'r gloch dywedwyd y Litani gan y Parch. Evan Jones, offeir- iad Llanddeusant, a thraddodwyd pregeth effaithiol a grymus gan y Parch. J. Smith. Am saith o'r gloch dywedwyd y Gosper gan offeiriad y plwyf, ac yna traethodd y Parch. G. W. Griffith, curad Llanfairisgaer, bregeth ardderchog i gynnulleidfa o wrandawyr astud. Yr oedd yn hawdd* eanfod oddiwrth fywlogrwydd y canu a'r diantio fod y cantorion wedi ami gyfarfod er mwyn ymbarottoi at gyfer eu hoffrwm o fawl a diolch i'r Hollalluog yh ei dy, ac 'i A x 4.J 1 t, ( i. r. x.J I i, nid oes genym ond gobeithio od effeith- ioldeb y canu, y pregethu,, a gwasanaeth- au difrifol y dydd hwn wedi bod, trwy fendith y nef, yn llawn o ddaioni ysbrydol i'r rhai oedd yn bresennol. LLINWDD-YN.-Tippyn o bob peth hedd- yw. Cadwyd dydd Llun, y 5ed o'r mis hwn, yn ddydd 0 ddiolchgarwch i Dad y trugareddau am iddo ein cofio yn nhrefn ei Ragluniaeth y flwyddyn hon etto, trwy roddi cynhauaf toreithiog, a hîn ddymunol i'w casglu i ddiddosrwydd. Cynnaliwyd y cyfarfod cyntaf am ddeer o'r gloch vn nghapel y Wesleyaid yr ail am ddau yn Peniel a Bethania, cangenau perthynol i'r Methodistiaid; ac am chwech yn nghapel y Llan, perthynol i'r Methodist- iaid. Cafwyd casgliadau da yn yr oil o'r cyfarfodydd at y goleuni. Mae y pentref anghysbell yma yn llawn bywyd ac yni. Yn Ebrill diweddaf, gosodwyd careg syl- faen capel newydd y Methodistiaid Calfin- aidd, a chyn y bydd y llinellau hyn yn nwylaw y darllenwyr, bydd yr adeilad eang dan do. Bydd yn glod i Fethodist- laid yr ardal, a gobeithio bydd yr atdyn- iad i liaws o'r newydd ddyfod i wrando yr efengyl.—Yn Awst diweddaf tynwyd Eg- lwys y plwyf i lawr, gyda'r bwriad o'i hail-adeiladu a'i harddu. Teilynga y ficer glod a chanmoliaeth uchel am ei lafur yn parottoi ac yn casglu at ddwyn traul yr adeiladaeth heb bwyso ar y plwyfolion. Yn .bresennol ymgynnullir i addoli ar y Sabboth i'r Ysgoldy Genedl- aethol.—Mae chwarel llechau yn cael ei hagor yma gan yr anrhydeddus Syr E. Buckley, A. S., yr hwn yn ddiweddar a brynodd ystad belaoth yma ac yn ol ei arfer, bob amser o wneud pob peth a all er cysur ei gydgreaduriaid, nid yw yn ol yn hyn yma. Disgwylir y bydd yn y chwarel lechau rhagorol i'w cael yn bur fuan bellach, Mae yma ysgol ddyddiol lewyrchus iawn, tali ofal Mr E. Jones (Alaw Creuddyn). Mae hon yn ysgol an- enwadol. Os oes ar y cynhyrfwyr poli- ticaidd eisieu cynllun i ffurfio ysgol deu- ant yma.—Wddyn. RHYL. Darganfyddiad Corph Baban.- -b el yr oedd morwyn a phlentyn i Mr Rowlands, yr ysgrifenydd trefol, yn rhod- iana ar Ian y mor prydnawn Sul, daeth troed y plentyn i gyffyrddiad a'r hyn a drodd allan yn gorph baban newydd- anedig. Yr oedd y corph yn noeth, ae wedi ei gladdu yn y traeth 0 fewn tua dwy lodtedd i'r gwyneb. Yr oedd asgwrn y pen wedi ei dori, ac ymddangosaifelwedi ei gladdu yn y tywod yn ebrwydd ar ol ei enedigaeth. Cynnelir trengholiad ar y corph, ac y mae yr heddgeidwaid yn prysur ymchwilio i'r achos. ST. ANN'S, LLANDEGAI.- -Nos Iau, yr 8fed o'r mis hwn, cynnaliodd yr Eglwys- wyr yn mhlwyf St. Anns eu cyfarfod diolchgarwch am y cynhauaf toreithiog a gwerthfawr i Roddwr pob daioni. Cafwyd pregeth rymus ac effeithiol gan y Parch. W. Edwards, Llanberis. Darllenwyd y fJATT #ran §urad y Ue yn hynod effeithiol. Mae yn dda genyf gael cry- bwyll amy parchus gurad, yr hwn sy4 newydd ddechreu ar ei weinidogaeth yn St. Ann's, ei fod yn bregethwr rhagorol. Gobeithio y bydd bendith ar ei weinidog- aeth yn y lie uchod.-Tegai. TALYLLYN.—Dydd Mawrth diweddaf, cynnaliwyd cyfarfod 0 ddiolchgarwch am y cynhauaf yn Eglwys plwyf Talyllyn, sir Feirionydd. Dechreuwyd y cyfarfod m ddau o'r gloch, pryd ydarllenoddy Parch: J- Richards, ficer Llanfihangel, v gweddiau, ac y pregethodd y Parch, Mor, gan Jones, ficer Carno, sir Drefaldwyn oddiar 1 Bren. xvii, 16. Hefyd am chwech, darllenwyd y gweddiau gan y Parch. Robert Roberts, Uwch y gareg, a phre- gethwyd yn effeithiol iawn gan y Parch. Canon Griffiths, Machynlleth, oddiwrth 1 Cor, i. 3, 4. Gwnaed casgliad da ar ol y gwasanaeth tuag at y Gymdeithas Genhadol. TYDWEILIOG.-Nos Fercher a dydd Iau, 7lfSdiaf 8fed cyftsol, cynnaliwyd cyfarfod diolchgarwch am y cynhauaf yn Eglwys y lie uchod. Gwasanaethpwyd ar yr achlysur gan y Parchn. T. Jones, Llangwnadl; G. Williams, PwlIheli; D. Jones, Abererch; Canon Johnson, Llan- lestyn ac E. Jones, Llanrug. Yr oedd y pregethau yn bwrpasol a chyfaddas iawn i'r amgylchiad, a'r cynnulliadau yn lluosog iawn. Gwnaed casgliadau tuag at y gymdeithas er lledaenu yr efengyl mewn gwledydd tramor.
[No title]
Coronid trum Carnedd Llewelyn Ag eira yr wythnos ddiweddaf. Bu farw dynes o'r enw Mary Jones yn Abercarn, drwy i'w dillad gymmeryd tan oddiwrth y ganwyll. Sibrydir fod yn mwriad pwyllgor eis- teddfod ddiweddar a gynnaliwyd yn Cas- newydd gyflwyno e-Li gweddill arianol tu- agat sefydlu ysgoloriaeth newydd yn nglyn a Phrifysgol Aberystwyth. i Syrthiodd bachgen i Mr John Tucker i ffynon yn Mhenyclawdd, a boddodd. ■Mypda djti o'r snw John Williams i tarwolaeth yii'nglofa Penycae, gei- y Wvdd- grag, y dydd o'r blaen, | r