Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

CANTREF BUALLT A'R BWRDD YSGOL.

News
Cite
Share

CANTREF BUALLT A'R BWRDD YSGOL. Rhyw ddwy flynedd yn ol cynnygiodd goruchwyliwr yr Educational Department ffurfio yma y peth a elwir United school district," sef cymmeryd i mewn fan blwyfydd a hamlets, gan wneud un dos- barth o honynt, sef nid amgen Tirabad, Gorwydd, Llangamarch, a'r Garth, yr hon ysgol ydoedd i fod yn mhlwyf Llan- fechan. Yn ol y dosbarthiad cynnygiedig hwn, syrthiasai y pen trymaf i'r trawst ar Llangamarch, yn yr hwn blwyf y safai hefyd y Gorwydd, oblegid fod y t-ateable value yn fwy yma. Ar yr 2ofed o Awst diweddaf, cynnaliwyd festri yn Ysgoldy Llangamarch, gan wahodd y cyrau uchod oil i ddyfod yn nghyd, i'r perwyl, fel y mynegai yr hysbyseb, o gydymgynghori a bwrw ein penau yn nghyd parth y ffordd oreu i gyfarfod a gofynion yr Edu- cational^Department, a hyny yn y modd ysgafnaf i'r gwahanol drethdalwyr. Gwedi cyflafaru ac ymgomio yn gariadus aphwyllog, daethpwyd i'r penderfyniad unol, unllais, sef oedd hyny, fod i bob plwyf a hamlet, gwedi rhanu y trethdalwyr yn ol y cyfartaledd, i godi neu i adne- wyddu pob un ei ysgoldy ei hun, a hyny wrth roddion, neu dy- weder wrth dreth wirfoddol, gan oohelyd, fel gochelyd angeu, y peth gwancus, cegrwth, diwala hwnw a elvvir y school board; a chan fod genym yn barod dri ysgoldy o'r pedwar, ni buasai y draul o'u helaethu ond bychan iawn, sef rhyw wyth ceiniog neu swllt yn y bunt, yn y man pellaf. Gwedi cynnaliad y vestry, a phan yn mabwysiadu mesurau er dwyn allan ei phenderfyniadau, synwyd ni yn ddirfawr wrth glywed yn ddamweiniol fod rhyw ddeiseb neu petition yn cael ei arwyddo mewn Ilea elwir Capel Mvnydd yr Olewydd, yn Llanfechan rhagddywed- cr edig, ac y cludid ef yn lladradaidd ac ar y sly, o dy i dy gan feibion tangnefedd, ac y llawnpdid ef yn fflwch gan fanion cym- lo()r deithas, sef gan y man drethdalwyr ceiniog a dimeu, a'r geiniog a dimeu hyny, 0 ran nyny, yn cael eu dydhwelyd iddynt, druain, gan eu tirfeddianwyr, gan ddwyn i gof y ddiareb-Hael Sion ar bwrs dyn arall. Gwedi clywed y sibrwd. a ddaeth pwy ydoedd y wire-pullers yn y busnes, gan fyned, nyni a aethom, sef myfi a'm cymmydog, mor belled a swyddfa gor- uchwyliwr yr Educational Department yn Llanfair-y-Mi|aIlt lie yr oedd erbyn hyn y gyfryw ddeiseb gwedi ei chyfarwyddo, ac wele y ddeiseb ydoedd dim mwy na llai na gofyn i'r Department rocldl- to,issip their final order, f gwneud yr united district rhagddywededig yn ddeddf neu yn fact; a chyda hyny alw cyfarfod nid, dealler, er cyflafareddu parth a oedd school board i fod 0 gwbl, canys yr ydoedd My Lords Deacons 0 fynydd yr Olewydd, yn cael eu cynnorthwyo gan rhyw lipryn, gwedi settlo hyn yn barod drosoch, ond fod cyfarfod i gael ei alw er ffurfio,—" for the purpose of forming a School bpard, ac fe wae4 hyn oil Y.4 nannedd y vestry (canys ebe my Lord Brougham, nid yw y festri ddim), ac heb ymgyngbori ag un 0 swydflogipn awdrclqdedig y plwyf hwn, ac yn pgrym y manion ceiniog a diirieu uchod, y rhai pe anaJluQgid hwy am tis o ddilyn eu gwaith a fyddent ar y plwyf y ceisent hwy fel hyn ei feichio., A chyda golwg ar yr ychydig dreth-dalwvr ereill a lawnoda-sant y rhagddywededig ddeiseb gwnaethant hyny yn eu gwirion- deb a'u dylni, a thrwy gamarweiniad gwirfoddol rhyw bump neu chwech yd- oedd yn y cydfradwriaeth, y rhai sydd ny ro gwedi bod yu arweinwyr pob cadgyffro, ai plwyfol ai gwladol, gan beri terfysg ymryson, a chynen. Nid oedd blwyf, pe cawsid gan yr ymyrwyr haerllug hyn fod yn llonydd, gwedi eu ffafru yn well, canys yr ydoedd yr Educational Department gwedi caniattau i ni adnewydcju ein hen ysgoldai; a chyda gohvg ar y religious difficulty, nid oedd y m'a gwedi bod nac i fod gysgod rhith o wrthdarawiad, canys yn un peth mae telerau yr endowment ar y ffordd hyny yma, yn gystal a Llanwr- tyd. Qnd hunllef y bwtdd ysgol a ddyd ar 'ein' hysgWyddau yn ddiiael yn He swllt, wyth neu ddeg swllt, y bunt, a hyny ar fatter yr adeiladau yn unig, gan daflu cynnaliaeth y ped- air ysgol hyn hefyd arnoch eich hun- ain, ejch plant, a'ch wyrion. Gallesid disgwyl mai digon arnom oedd treth new- ydd, fceth tylodion, ac ami drethoedd y capelheb fod y man bregethwyr ymyrgar a'r nan drethdalwyr y rhain yn dodi arnoij hefyd dreth ysgol. A chwi, wyr y BulaM a ydych chwi yn meddwl y diang- well oblegid fod ganddoch ysgol yn barod. Ddynion ffolion, ni ddiangwch chwi ddim, ond gan drethu, trethir pob Jack o honoch, ar y pedair ysgol hyn, sef tra parhao eich ysgol bresennol heb fod dan yr ellyll bwrdd, yr hyn a fydd, mae yn debyg, tra parhao Llwyn Madog. Er fod yr ag- ant" chwilboeth synwyr wan gwedi llaw- nodi y petisiwn hwn, wele rhag ddywedais i chwi. Ond os yw dynion yn chwenych sefyll ar eu penau, boed felly y bo; os yd- ynt yn dewis gwneud asynod 0 honynt eu hunain, marchoger hwynt i hewl. Er fod y llwch hwn yn rhestr y prif drethdalwyr, ae nag ydyw yn bleseras fo3 y brogaod dwyflwydd yn cael eu marchogaetti gan y brogaod unflwydd dwyfodfeddog hyn, nid yw rhyw fan bunoedd iddo ef, nag yma nag acw. Beth bynag mae yn beth smaia dros fol clywed man ddynionach swagrog, gwrychog, swchsyber, yn codi eu cloch ar fater addysg y plwyf, pan y gellir gosod eu tipyn dysg a'u dylanwad a'ucyfoeth yn nghyd mewn blwch ffwgws, neu yn nghorn pibell gan ei chwiffio allan, ac ni bydd mwy mo hono. A boed felly y bo. CADAIR EPPYNT.—Dimgofod heddyw i gofnodi helyntion yr orsedd rhagor na dywedyd y sibrydir fod Attorney-General yr Iwerddon, nid amgen Lord McHagan, ar ymddiswyddo, a bod yn mryd yr or- sedd nodi canlyniedydd iddo, nid amgen Shon ar ei Wrych, Barrister-at-law, Super Irvon, canys Dafydd y Crydd a gododd ei lef ac a ddywedodd, 0 ddyddiau Ar- glwydd Brougham, o goffadwriaeth ben- digedig, hyd yn bresennol ni chododd yn mysg y Brytaniaid neb i'w cystadlu mewn deddfwriaeth, ai gwladol ai eglwysig, a Shon ar ei Wrych. Duw gadwo y Fren- hines. DAFYDD EPPYNT.

"ODLIG NEWYDD."

[No title]

I: YR HELYNT YN CHWAREL Y…

Family Notices

[No title]

Y SEFYLL ALLAN YN CHWAREL…