Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
12 articles on this Page
ENGLYNION YR EOS.
ENGLYNION YR EOS. Hanner nos, <>os fwyn awen—glywai* Yn gwlawio o'r goeden Hen barabl ar nabl o'r sun- Odliadau hyawdl Eden. Ya mbob notyn ymwibiai natur-bèr .1. Yn barod ac eglur; Newydd bill anian oedd bur Yn mysg miwsig y mesur. Dechreuad chwareu 'i hawen-oedd ddyataw, Cryn ddwyater prudd-lawen A 81 goeth fel angel hen Yn rhoi 'i gyngherdd o'r gangen. YLia ergydiai o'r goeden-nes byd Ddiasbedai 'n llawen Chwyddedig ifwsig uef wen Darai sibrwd dros wybren. Y fi oedd yn rhyfeddu,-feluslef Y lwyslais yn canu;i A llawen caid y llwyni en Yn ebrwydd atteb o'r ddeutu. EOB siriol, lain arian,—chwibianai ■ Uwch ben fel hir daran, EOR chweg felus ei eMn, 0 fol twmpath fel tympan. Eo, drwaiadus, dor sidan,-feiulwyd, Eos fwynlef anian, Eosig lwyd mewn gwiag lan, Eos eurgerdd lais organ. Dy awen barhaed, eos,-i byugcio ¡ k. Yn bencerdd canolnoa I mi 'n ddir mae'n hawdd arol I wrandaw 'n effraw drwy'r not: FFBEYLLyABDD. NODIAD.—Yagrifenwyd yr englynion uchod yn y fiwyddyn 1852, wedi bod yn gwrando yr eosyn oanu pnol nos, ddwy filltir aeu dair o ddinas Caer- fcaddon.—Fr.
CODIAD YR HEDYDD.
CODIAD YR HEDYDD. Gyda'r dydd hedydd hudawl-o ddyffiryn Ddeffry yn naturiawl; Fry, &'i awen foreuawl Arllwyaa g&n ger llys gwawl. OWAIN ABFOS.
YR HOEDEN ANYNAD.
YR HOEDEN ANYNAD. Ail draenexi yw'r iloeden o hyd—a'i gwawd Y gwaeda ni 'n eiibyd Ei diraid beth yw dwrdio byd "> r. rv A. droganu drwg eriyd. Croch gwynaw, ni thaw A'i th&n—anhydyn, A'i nhwydau gorwylltion; 'B ffoa bun o ffau bon, A'i holl gAn yw hyll gwynion. Grwgnacha fol yr afon-ruadwy. 1 A red yn ffrwd ddigllon 0 wrachaidd ufel wreiebioo-anhysbldd. A bwria g'wilydd o bair y galon. Brjugwyn. IOANEN.
Y CRYD.
Y CRYD. Y glan gryd hardd gysgle yw,-a. gwirfyg Fagwrfa dynolryw; Mae'n drigfan i'r bSban byw, A dedwydd ddrwa byd ydyw. Lkbnfachraith, M6n. OWES WILLIAMS.
ENGLYfT
ENGLYfT A gyfansoddwyd wrth fyned trwy goedwig, tra yn !;wel»d lliaws o'r dail glaswyrdd gynt, yn Uwydion ar y lawr yn Awat. Mae'r dail a roed i'r goedwig-yn wisg h&f, Yn Awst gu'n ayrthiedig, I'w gweled yn wywedig, Lawer un, lawr y wig. alwrn, CHWILFRYN MON.
1 Y FENYW DWYLLEDIG.
1 Y FENYW DWYLLEDIG. Mor dloe, mor bur oedd hon yn moreu oes- Tlos fel y lili, pur fel nef ei hun Chwareuai diniweidrwydd dan ei bron, Fel perlau ymddiagleiriai 'i llygaid heirdd Nes toddi ealon à'tl tanbeidiol drem A'i mdl-wefusau fyth a wisgent a..ôa hardd, gwfin cariad, gwên a Bwynai serch, Blagutai coch-rosynau ar ei grudd- Arwyddion o wyleidd-dra pur y ferch Coron o eurwallt dorchai am ei pheu, Yr hon ddisgleiriai fel coronau gwawl! h Disgynai'r gwallt i lawr yn rhaffau aur Modrwyawg hyd yeg/ryddau marmor cain. Y tad a'r fam winonent ar y fun, Ymglymai gwraidd eu henaid hwy yn dynn Aria eiddo'r ferch—hi oedd y oanoibwynt A sugndynai eu serohhdau'n llwyr. Hi drigal mewn llonyddwch a mwynhad, Yn nghesail un o fryniau Cymru wen- Cartrefle diniweidrwydd-mangre hedd, Life chwarddai Aniau yn ei thlyeni a'i rhwygg. Pan rodiai'r ysgafn fron drwy flodeu'r ardd, Y rhai a weneut yo mbelydrau'r haul, Pob deilen a wyleiddiai dan ei thraed Y lili faoh wirionai—codai 'i phen Tau weuu i gusanu troed y feroh. Gwyleiddiai'r rhosyn, gwridai, plygai 'i ben, A'r heirdd friallu chwarddent mewn mwynhad; Pan yr ymgrymai hi i sychu'r gwlith A leithlai rudd y gwylaidd rosyn cooh, Neu i gueauu'r deigryn gloew, crwn, < )ddiar y lili wen. Edrychai hi Mor deg, mor gain, ag un o engyl Duw, Tra'n chwareu rhwng por-flodeu gerddi'r nef. ilur oedd ei chalon—yagafn oedd ei bron, Fel bron aderyn bach. Ond ah mor fyr Parhaodd ydedwyddwch hyfryd hwn. Mor oriog, ansefydlog ydyw ffawd Fe drow'd cwppauau gwin yr meth Ion Gan chwa wenwynig siom yn wermod Bur! Daeth twyllwr anfad heibio gwelodd hwn Y feuyw anwyl, denodd hi i'w rwyd Ei wag, lygredig galon guddiai dan Rhyw hug o gariad, a than wiwlen aerch. Teg oedd ei addewidion fel yr haul, Ei eiriau'n feluri fel neithdarol win, h. A'i lais ddisgynai fel alawon nef Ar glustiau'r ferch, tra y gwrandawai hi Mewn difyr fwyniant, mewn p6r-lewygfeydd Ar ei ddeniadol addewidion Hills. Y deigryu chwarddai 'nngbil ei llygad tlws Fel Beren bach, tra yr ymgomiai ef Am serch, hen deetyn Duw a dyn erioed, Nes augno 'i henaid i rbyw gysglyd hoou. Ah hi a'i carai ef & thanllyd serch Ei Hedwyn garai yn angerddol! Ab Y gau, twyllodrus Edwyn garai hi! Cryf oedd ei chariad fel colofnau'r nef, Sior fel addewidion Duw ei hun, Parhaua fel bywyd, enaid, haufod dyn Ei chalon iddd i'w Hedwyn hoff, ond, Ow Y bradwr hwn a'i llethodd, aathrodd,—dc, Fe sathrodd galon dan ei halog droed Fe wasgodd galon yn ei grafangc erch, FA'i berwodd, nes y hôdd ei gwaed yn din Y ferch a dwyllwy.i gan yr adyn brwnt, Collodd ei choron a'i diweitdeb. Ha Fe syrthiodd, cwympodd, do, fe gwympodd hoc, A'i bradwr creulawn chwarddai am ei phen. Fy Nuw a ddiaugc hwn rhag barn y nef ?— Sathrwr caloaau, lleidr, llofrudd uoetb I Pan wybu'r tad, ei galon dr6dd yn graig 0 iA., a thros y drwa fe drddd ei ferch Yn drist, tra'i henaid ruai yn ei ing, A tbra disgynai erch felldithion tad Fel myrddiwn o daranau ar ei chluat, Y fenyw aetb,-ond cyn ei myn'd— ei mam A gerfiodd ar ei gwyneb guaan d&n I Ar noson rewllydj oer, pan oedd y gwynt Yn chWiban trist alawon yn y coed, Ac yn cwynfanus udo rhwng y dail Taranau'n rhuo'n groch fel udgyrn barn A'r mellt yn gwibio drwy'r awyrgylch fwil, Ar uchel graig, o dan yr hon y m6r A falai ewyn mewn gorwyllter dig, Gorweddai baban bach, dinitrad, tl^ A gwyh obCnydd eira dan ei ben, A'i ddagrau wedi troi yn rynllyd rhew; Y rhai ddisgleirient yn mbelydrau'r iadr, Barug marwolaeth leithiai'r gruddiau gwyn 0 'r truan bach, diniwed. Gwenu mae, Er wedi marw. Ei wefuaau heirdd A wisgent wên ond, 0! pa la mae'r fam- Pa Ie mae hon, 0 Dduw pa le mae'r fam 1 Ha dacew bi'n llamddawnaio'n ngwawl y lloer Mae'r fam yn wallgof-gwallgof yw y fam Hi lam, hi chwardd, hi sieryd wrth y s4r, A n6d gwallgofrwydd eistedd ar ei gwedd Y gwallt oedd gynt fel aur, ay'n awr yn wyn, Yn chwareu'n ddidrefn yn y gwyntoedd gwyllt, Y w6dd fu'n wridog hardd fel rhosyn Mai Yn awr ey'n wyw, yn ddrych o dristwchdwfn Ei llygaid Mail yn ayn, yn wyllt, yn d&n, Fel llygaid un o ddamnedigion gwae Gwallgofus dremiant mewn rhyw ddychryn du. Ei hyspryd a ddyheua dan ei wae, Gruddfana dan ei bwya-ei henaid tlawd A wesgir, ac a faeddir gan bangfeydd. As: oerlef at y baban bychan rhêd, O'i gwmpas dawnsia, llama, neidia'n wyllt Chwardd yn ei wyneb,—wyla bob yn ail, Gwallgoftis sieryd wrth y truan baeh;1 Ond, ha, y gwynt chwibana watwor gerdd, A'r gareg atteb chwardda am ei pben Gafaela yn ei phlentyn, cyfyd ef, Gan ei wyllt-waagu 'n dyn i'w mynwes friw Gusana ei wefusau, gwelw, oer. A'i baban yn ei mynwee, rhoddes naid- Ofnadwy naid, i'r dyfroedd du islaw, A'r tonau a gauasant am eu bedd, A'r storm a ruai farwDad uwch eu pen Llansannan N. S. ELLDEYBN.
Y GYMMANFA GERDDOROL YN LERPWL.
Y GYMMANFA GERDDOROL YN LERPWL. (ODDIWRTH EIN GOHJlBYDD NEILLDUOL.) Lerpwl, prydnawn Mawrth. Nid wyf fi. na cherddor na mab i gerdd- or, and er hyny yr wyf heddyw wedi teithio dros ddeng milldir a thriugain trwy gyfaredd yr arlwyaeth gerddorol a addawid gan bobl y dref fawr ar lanau y Mersey. Yr wyf yn tystio ar fy ngair gwir mai dyna a'm denodd yma, er nas cymmeraf fy llw na byddaf cyn y nos wedi cyrchu hefyd am ddiddanwch cyweithas dan y nenbren sydd yn llochesu Llyfrbryf, Alarch, a rhif y gwlith o dda pluog," ys dywaid y doethion geiriadurol. Pe can- iattai amser, gwnawn ymholiad manwl pa ddirgel gyfathrach sydd rhwng magu ieir a golygu mabinogi-rhwng puro Twm o'r Nant a meithrin ceiliogod. Ond nid oes amser i hyn mwy nag i weled Ephraim Llwyd mewn ffram llo," ac yn wir pe bai egwyl pa ddaioni a wneid gan ddyn a'i ymenydd yn llawn o minims a'i glustiau wedi merwino gan nadau annaearol cant o ffidlau gwichlyd. Dyna fy nghyflwr i yn bresennol, a mi yn ymystwyrian yn oriel dde y Philharmonic Hall, ac yn ceisio adfeddiannu fy Hunan angherdd- orol yn ystod yr ychydig seibiant rhwng dwy ran y cyngherdd boreuol. Nis gallaf ddyweyd, fel y bardd Seisnig, fy mod yn unig yn fy ngogoniant, canys y mae yn y neuadd yma bedair mil o fodau deudroed heblaw myfi, heb son am y tri chan' lleiswyr a'r can' offerynwyr y soniais am danynt. Oni bai fy mod eisieu cadw gair mor bwylus at gyfarfodydd te a chyrddau llenyddol Llanyllwgfa, buaswn yn dyweyd fod yr olygfa yn fawreddog," ond dan yr amgylchiadau boddloned eich darllen- wyr ar i mi ddyweyd mewn iaith llawn mor wreiddiol ei bod yn haws ei dyehy- mygu na'i desgrifio." Gwrthddrych penaf sylw y y cenbedloedd yw Due Edinburgh, ail fab dewr y Frenhines, yr hwn sydd yn ei wisg lyngesol, ac yn wrandawr astud drwy ystod y cyngherdd, canys gwyr gymmaint am gerddoriaeth ag a wyr am hwylio llong, ac y mae yr un mor gyn- nefin a thynu tannau y crwth ag ydyw a defod ac arfer y llys. Trwy ryw oruch- wyliaeth rasol, nas gall meidrolion fel myfi ei hesbonio, pwy sydd yn eistedd heb fod neppell oddiwrth ei uchelder brenhinol namyn eich cymmydog Isalaw ac wele, gwydrddrychau ei fawrhydi cerddorol ydynt ymron cracio fel pen Croco gan ddarstain y llu trystiog o'i flaen. Prif orchwyl y brawd Isalaw yw dal pen rheswm i Cadben Verney, yr hwn sydd yn edrych mor happus a chartrefol ag ydoedd ar lwyfan Eisteddfod Bangor. Yr hyn sydd yn blino ysbryd rhyw ddau gyf- aill o sir Gaernarfon sydd yn eistedd o fewn cyrbaedd clyw i mi ydyw busnes Isalaw yn mhrifleoedd y dyrfa, ond prin y mae ganddynt hwy hawl i ddyfalu dim yn ei gylch, canys hwy a syrthiasant i am- Vyfusedd bron yr oil o gyfaneddwyr y south gallery, o gamgymmeryd y cerddor Cymreig ar ei ddyfodiad i mewn am y tywysog brenhinol. Curodd oddeutu han- ner cant eu dwylaw mewn brwdfrydedd gwaedwyllt ar yr oferdyb hon, ond yn mhen enyd cawsant dal am eu byrbwyll- dra trwy chwertbiniad gwawdus eu cym- mydogion ar ddyfodiad y gwir dywysog i I mewn. Yn union gyferbyn a mi, dacw dywysog pregethwrol y Wesleyaid Cym- reig, ys ef yr efengylwr nerthol o'r I Eglwysfach, a mawr yw ei hewyd yn ar. ddangos ei deimladau, yn enwedig pan, dro af ol tio, yr ennillai y Bencerddes Gym- reig galonau y gynnulleidfa. Rhaid i'r j llygad gael crwydro yn ol i'r llawr, canys I dyna Macfarren ar ei draed yn sibrwd I rhyw gyfrinach yn nghlust ei gymmydog, gallwn feddwl mai cael ei flino y mae gan ansefydlogrwydd Benedict yn ei ar- weiniad o'r cor. Dyn rhyfedd yw Mac- j farren, nid yn unig am mai efe yw yr I, awdurdod cerddorol uwchaf a fedd Pryd- ain y dyddiau hyn, ond hefyd ar gyfrif ei I, feistfolaeth hollol ar ei waith ac efe yn ddall o'i lygaid ac yn ftisgrell ddiymad- ferth o'i gorph. Nid yw. yn symmud dim bron ond fraich-yn-mraich a'r gwr ieuangc acw sydd megis car, cyfaill, ac arweinydd iddo. Nid oes dim yn ymddangosiad Macfarren a barai i neb estyn bys poblog- rwydd atto,—y mae yn llwydaidd a lied- Iwm ei ddiwyg, ei wyneb yn amddifad o fynegiant, a'i wefusau (pwysicach na'r cwbl) yr un mor amddifad o'r blewiach consetlyd yr olwg sydd megis yn nod angen pob bardd a cherddor yn Nghymru. Ond os nad ydyw Macfarren alluog Yn dwyn yogubell griuell grog Dan ei drwyn, mal dwyn draenog," y mae y rhan fwyaf o'r enwogion sydd ar y llwyfan yna yn meddu yr anhebcor cerddorol hwnw. Dyna Syr Julius Benedict er engraifft — amlwg yw nas goddefai ef i neb yngan gair bach am ei fwstas ef, canys onid eilliodd efe ei fochgernau yn lan modd nas caffai unrbyw flewiach dienwaededig draws- feddiannu hawlfreintiau na chymmylu gogoniant "yr ysgubell" dan y peiriant arogliadol ? Ni chymmerwn i fy llw y gallai Benedict bron ei hawl gynhenid i'r cnuwch gwallt yna sydd yn toi ei benglog, ond yr wyf yn ofni y dyry&id peirianwaith mewnol Megin Melodi Corfanibus pe dy- wedwn gyda'r difrifwch sydd yn gweddu i fy swydd fod pencerdd a phen cantwr yn euog o wisgo perwig! Hwyrach mai ofn i'r gynnulleidfa dynu casgliadau anfrawdol o'r fath a barai i Benedict hercio a chyf- newid cymmaint yn ei amser, canys nis gellir dyweyd fod ei ddull o arwain y cor yn dangos rhyw lawer mwy o ddawn a! medr nag y gwelir yn ami mewn llawer i arweinydd yn y Dywysogaeth. Dyn yn gwisgo mwstas, o gorph lluniaidd, rhyw bum' troedfedd a naw modfedd o daldra, yw Santley, y prif baritone, agwedd fon- eddigaidd a diymhongar yr hwn oedd yn hawlio cymmaint o edmygedd bron a'i lais digymmar, a'i ddadganiadaeth perffaith. Dyn dippyn ieuengach, serchus a rhadlon, yw Edward Lloyd, yr hwn a orfodwyd yn ddisymwth i gymmeryd mwy na dwywaith ei ran o'r llafur oherwydd i Sims Reeves, yn unol a'i hoff ddefod ac arfer, weled yn dda o'i anwadalwch dori ei gyhoeddiad." Uno deulu y mwstas yw Lloyd,—brodor o Gloucester, a Chymro o ran gwaed a tbeimlad. Nid oes iddo gydmar tenorydd ond Sims Reeves, a thrueni oedd i bwyll- gor Eisteddfod Bangor, mewn flit o gyn- nildeb, wrthod gwasanaeth datgeiniad mor addawol, pan oedd efe yn rhoddi ernes o'i awydd i wasanaethu y Cymry trwy gynnyg telerau hynodisel. Pan wyf yn ysgrifenu hyn y mae oratorio fawr Mendelssohn, Sant Paul," ar haner ei pherfformio, ac Edward Lloyd newydd ddadganu gyda theimlad anwrthwyneb- adwy yr adnod "Bydd ffyddlon hyd angeu," gyda violoncello obbligato gan M. Vieuxtemps. Gogoneddus hefyd oedd ei ddadganiad ef a Santley o'r deuawd, Canys felly y gorchymynodd yr Arglwydd," &c. Ond yr un sydd wedi cyfarfod A'r llwyddiant penaf hyd yn hyn ydyw ein Pencerddes,—Eos Cymru, yr eneth wylaidd yna mewn galar- wisg, sydd yn eistedd wrth benelin aswy Syr Julius, yn brudd yr olwg ami. Anaml, os erioed y bu Edith Wynne yn canu dan y fath anfanteision ag yn Lerpwl-mae ei gwynebpryd yn dwyn argoel o waeledd corphorol, a'i gwisg ddu yn arwyddlun o drymder galarus ei bron. Ond er gwaethaf pob anhawsder hi o bawb sydd wedi gwneud yr argraff ddyfnaf ar gorph y dorf, ac ni bu ei llais erioed yn fwy peraidd a nerthol. Uanu yn dda odiaeth y mae Madame Patey, y contralto, ond rywfodd neu gilydd nid yw yn taflu ei henaid i'r gan megis y gwna y brif gantores Gym- reig, yr hon sydd yn barod wedi canu cynnifer a deg o weithiau y boreu yma. Nawdd Nef iddi yn ei phrofedigaeth, modd y caffo gymmorth i adlewyrchu athrylith gerddorol yr hen genedl yn fwy-fwy etto yfory a threnydd.-Ond dyma hi yn bryd tewi, canys y mae y gynnulleidfa yn tyru allan, a gwynebau llawen T. J., Llew Cynfarch, a Phencerdd Melin Madog megys cynnifer o oleuadau y tuallan i'r porth. Gair yr wythnos nesaf am Adelina Patti, Albani, a phob rhyw hysbysrydd arall ynghylch yr ysbleddach. A phoed felly y bo.
[No title]
Yn y boreu, ystyria pa beth sydd genyt i'w wneud; ac yn yr hwyr, ymhola pa beth a wnaethost. Cyfarfyddodd dyn a'i gyfaill, a dywed- odd :—" Mi a siaredais a chwi neithiwr mewn breuddwyd." Maddeuwch i mi," meddai y llall. fí ni chlywais chwi."
'II'" BEIRDD CADEIRIOL. -
'II BEIRDD CADEIRIOL. OLYGWYR MYG,—A ganlyn sydd restr o'r beirdd cadeiriol sydd yn awr yn fyw, hyd y gwn; ond os oes rhai ereill heb eu henwi yn y rhestr hon, byddaf ddiolchgar os bydd i ryw frawd cyfarwydd à hwy wneud hyny yn olynol i hyn yma. Y maent fel y canlynOwain Gwyrfaip Gwalchmai, Dewi Wyn o Essyllt, Teilo, Iago Emlyn, Gwilym Hiraethog, Hwfa. M6n, Gwilym Cowlyd, Ap Fychan, Mor- wyllt, Meiriadog, Tafolog, loan Arfon" Eidiol Mon, Tudno Jones, J. Jones, Ty'ru y braich Iolo Trefaldwyn, Ieuan lonawr,- Islwyn, Thalamus, Eos Glan Twrch,. Alafon, Dafydd Morganwg, Gwilym: Alltwen, Fferyllfardd, Cranogwen, Leon,. Gaerwenydd, Dewi Glan Peryddon, G. Jones, Cwmtirmynach, Cadfan Davies, Llystyn, Gwilym Eryri, Llew Llwyfo, Dewi Emlyn, Cynonfardd, Gumos Jones, Carl Morganwg, Ionoron Glan Dwyryd, Dr. Morgan, Derwenog, Ceulanydd, Graien- yn, Granellian. Dyna y rhestr o'r beirdd cadeiriol sydd yn awr yn fyw, mor bell ag y gwn am danynt ar hyn o bryd, ond Os gwnaethum ryw amryfua fai, Maddeuwch i mi yn ddilai. Glan Gwynant. HOMO WYN,
MOESOLDEB LLANWDDYN.
MOESOLDEB LLANWDDYN. FONEDDIGION, Drwg genyf fod wythnos wedi myned heibio heb i mi wneuthur sylw ar yr hyn a glywodd eich gohebydd -'Erfyl am anfoesoldeb Llan- wddyn. Yr hyn a'm lluddiodd ydoedd yr annghyfleustra sydd yma gyda thros- glwyddiad llythyrau. Anfynych y daw Llais y Wlad i'n dwylaw cyn prydnawm ddydd Llun, ac am hyny anmhosibfl oedd sylwi yn gynt. Ond ychwaneg ar hyn rhyw dro etto. Dywed Erfyl iddo glywed fod anfoesoldeb yn ffynu yma, a I bod y pentrefwyr yn byw yn anfoesol iawn! Clywsoch anwiredd noeth, Mr Erfyl; nid ydyw yn ffynu, ond yn hytrach yn lleihau, ac nid ydyw y pentrefwyr mewn un modd yn anfoesol. Na, gallaf sicrhau fod y pentrefwyr, a'u cymmeryd yn gyffredinol, yn breswylwyr tawel, moesol, a heddychol. Os clywsoch nas gallant yngan gair heb fod rhyw 1* neu reg wrth ei gwt, chwi a glywsoch anwir- edd noethach fyth. Er y gall hyn fod yn wir i raddau, am ychydig o wehilion sydd yma, etto y gwirionedd anwadadwy yw fod yn y pentref a'r gymydogaeth lawer iawn o feibion a merched, gwyr a gwragedd, gwylaidd a chariadus, nad arferant rith o lw na rheg, mewn un achos o gwbl. Gotyna Mr Erfyl yn mha le yr ydwyf. Bydded hysbys iddo fy mod a'm llygaid yn agored, ac yn rhodio o gwmpas, ac yn gallu cadw pawb yn dawel heb gym- morth gwyr y cotiau gleision. WDDYN. O. Y.-Edryched yr ychydig hogiau hyn sydd yn tynu anair ar y pentref atti hi. Cymmeraf sylw manylach o honynt rhagllaw.
[No title]
Yn ddiweddar gwnaeth ysgrifenydd a ymgyfenwa Rambler sylwadau yn y Wrexham Advertiser ag sydd wedi cyth- ruddo ysbryd y cantor a bardd, Llew Llwyfo, yr hwn a ddywed fod yr awgrym- iadau yn gelwyddau a'u hysgrifenydd yn gelwyddwr."
Y PRIF FARCHNADOKDD CYMREIG.
Y PRIF FARCHNADOKDD CYMREIG. ABERGELE, Medi 26.-Gwenith, o 14a Go i 15it Oo yr hob;ha»dd, 10a 6c i 12s 6cyr hob; oeirch, 98 Oc i 10. 6c yr hob; Ha, 06 Oc i 86 00 yr hobj blawd ceirch, Sbti UC 408 Oc y ii-10 pwya. ABEHysTWifTH, Medi 19.—Gwenith, 6111 60 i 7a 6d y inesur; kaictd, 5a Oc i 5a 6c; ceirch, 3s Oc i 5s Oc y, cueesur; yiueuyu firea, 18c i 2JO y pwye; ymenyn hallt, 14c i 150 y pwya; ednod, 4s Uc i Oc y cwpl; pytatws, 4 Oc i 4a 6c y canpwys. BANGOH, iuedi Z,Gwenith, 42a Oc i 44a Oc 1 chwarter; liaidd, 30a Oc i 33a uc; ceirch, 23a Oc i 268 Oc oiawd ceituu, joa Oc i 37 S 00 y 41.40 pwye; ymenyn tli'ea a 15e i lo y pwys cig eidion, o be i J Oc y pwys; cig defaid, o 80 i 10c y pwya; cig lloi, o 7c i 8c y pwys. CABBNABFOM, Medi 26.-(4wenitii, o 41a Oc i 44a Oc y chwarter haidd, 28a Oc i 32ri Oc y chwarter; ceirch, o 22a 6c i 24a 00 y chwarter; blawd ceirch, ° 37a 0c i 39s 0c y 240 pwya. GAERGYBI, Medi 26.—Ych gig, 7c i 10c y pwys; dafad gig, 8c i 10c y pwya llo gig, 7c i 8c y pwya J moch gig, 7c y pwya; ymenyn tires, 11e i 17c y pwys wyau, 7 am 6c ewnidgod, ve yr un, ieir, 21c i 22c yr uu cywioo, 12c i 150 yr un; pytatws, 12 i 13 pwys am 6c moch bach, 12a i 17s yr un. DINBYCH, Medi 23.-Gwenith, 15a 00 i 16. 09 1 hob; haidd, 13s 6c i 15a Oc yr hob ceirch, o 7a 60 9a Oc yr hob; ymenyn fires, Is 5c i la 6c y pwy» » tybiau bychain, la 4d i is 4c ypwya. LLANKRCHYMKDD, Medi 23.-Gwenith, 498 00 i 50a Oc y chwarter haidd, 35a 0c i 36a Oc y chwarter; ceircb, 0 23a Oc i 24.s Oc y chwarter blawd ceirch, 34a i 358 (J(; y 240 pwyb pytatws, o 4s 6c i 0a 001100 pwyl í ymenyn firea, Js 3c i us Oc y pwys; cig eidion, o 83 I \Ie y pwya cig defaid, 9c i 10c y pwyB hams cartrof goreu, o Os l Oc y pwys. LLAURWST, Medi 22.-Gwenith, 188 Oc i 19B Oc yr hob haidd, 12a Oc i 13s Oc yr hob; ceircb, o 9a 001 10s Oc yr hob blawd ceirch, 22s 6c i 288 Oo yr bob pytatws, 9a Oc i 9s 00 yr hob; ymenyn fires, o 18 Be i 18 9c Y pwy; cig eidiou, 8e i 9c y pwya; eig clafad, 80 1 IOC y pwys. PWLLHELI, Medi 16.-Haidd, 22a i ON y 220 pwf8 ceirch, 38a blawd ceirch, 40s y 240 pwys; IndrAwnt 0015 y chwarter cig eidion, 9o i lOo cig dafad, 90 i y pwys; ymenyn ffres, o 15c i 16c y pwys; lleetri, t)oc i OOe y pwya. LLANGEFNI, Medi 24.—Gwenith, 408 Oc i 4315 0° f chwarter; haidd, 30a Oc i 32a Oc y chwarter ceIt 22a 60 i 24a Oc y chwarter blawd ceirch, 36a Oc 1 38B 0c y 240 pwya pytatwB, 4s 6c y 100 pwys youlnr; ffres, Is 4c i Is 4c y pwys; cig eidion, o 8c i 90 pwyB cig dafad, o 9c i 10c y pwys. Argraffwyd a Chyhoeddwyd gan y Perchenog, NØ WHITWORTH DOUGLAS, Argraffydd, ko., Heoi Bangor, dydd Gweaer, Hydref 2, 1874.