Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

LLITH DAFYDD EPPYNT.'

News
Cite
Share

LLITH DAFYDD EPPYNT. YSTRAD TEIFI.— Llofrucldiaethau cant a h&nner a fiynyddoedd yn ol.—Mewn dyfyn- *ad o un o lythyrau Anna Beynon a ym- ddangosodd yr wythnos o'r blaen, soniai am ysgarmes a gymmerodd le yn ffair ^lanbedr rhwng rhyw Evan Bwlchgwynt ac Evan Blaencwm, pryd yr edliwiai y Cyntaf i'r olaf am ryw Ysgotiad ag ydoedd ( gwedi myn'd i- golli. Ymddengys fod Blaencwm yn dwyn cymmeriad *jrwg, gan beri ofn trwy y wlad. Yr ydoedd dynion a phethau ereill gwedi myned i oni, a drwgdybid fod gan y teulu hwn Iw yn eu galanas. Mewn Ilythyr, Hyd. leg, 1720, dywed Anna Beynon fod un I Geni, morwyn Blaencwm, gwedi myned ,ar goll, yn ugain oed, 0: faintioli canolig, |Wyneb glaslwyd, a llygad sur dan law, dywedwst, ac ar ben ei bun. genedigol o Llangeler. Yr ydoedd ei diflaiiiad yn destyn siarad trwy yr holl gymmydogaeth -ei mam bron tori ei chalon am dani. Yr ydoedd llawer o chwedlau yn ei chylch rhai yn dyweyd ei bod gwedi myn'd uant i Abertawe, ereill ei bod gwedi ym- tttio a haid o sipsiwn ag ydoedd gwedi ttij'ned trwy y wlad ar yr amser hwnw. Yr ydoedd rhyw hen wraig yn Llangeler gWedJ. breuddwydio iddi gael ei thaflu i afon l^eifi, a bod yr hwn a wnaeth hyny 1 gael ei grogi rhyw ddiwrnod, ond ychwane;ga y llythyr ddywedyd maiy farn gyffredin ydoedd ei bod gwedi ymuno a'r tylwyth tesg, cylchau pa rai a welidarhyd Ochrauy Jlwybr ag yr ydoedd hi yn ttiyned ar hyd-ddo yn ei hymweliad a'i mana y noswaith ddiweddaf y'i gwelwyd hi yn fyw gan weision Gellifaharen; ac os felly, disgwylid iddi ddychwelyd *newn un dydd a blwyddyn, ond ni ddych- welodd Gweni byth mwy. Ar ol hyn coll- Wyd o'r gymmydogaeth wr o Ysgotiad o'r enw Macdonald, yr hwn oedd edwicwr. Yr ydoedd yn myned o dy i dy gyda phac llawri a gwerthfawr ganddo. Aeth yn Iled hwyr i Blaencwm, a'r tebygolrwydd ydoedd iddo gael ei wahodd i lettya yno dros y nos, Beth bynag, dyna yr olwg ddiweddaf a gafwyd ar y Scotchman. Yr ydoedd y sibrwd allan ei fod gwedi cwrdd ^'i angeu yno, ond yr ydoedd pawb yn oini dyweyd hyny, canys gosodid ydlanau :ar dan a gwenwynid anifeiliaid, fel yr yd- oedd teulu Blaencwm yn ddychryn trwy y 'Wlad. Sylwid ar ol hyny fod dillad ne- ^yddion ysblenydd gan y teulii ysgymun aJ?od Evan yn swagro yn llydan! ofnadwy, llon'd ei boced o arian; yn galw yn fynych yn nhafarn Nani Danyr- allt. Y llofruddiaeth nesaf ydoedd ar berson unMagws Bwlchygroes. Aeth plant y drws nesaf at ei thy ipi boreu, a chaw- sant hi yn gorwedd yn farw njewn llynwen o waed. Yr oeddid gwedi ceisio gosod ei thy ar dan. Bhedwyd a'r newydd at Mr Lewis, o Gernos, a ehyn nos yr ydoedd Evan Blaencwm o'r diwedd yn y ddalfa. Y prawfiadau yn ei erbyn ydoedd am- gylchiadol (circumstantial). Yr ydoedd Magws yn feichiog o hono. Yr ydoedd, b zn Griffith o'r AlltgoJh wedi gweled Evan y Hoson hono yn gwato mewn eithin yn. agos i'r ty, yr'ydoedd ol y traed yn dangos ^aner pedol yn eisieu, ac felly yr oedd eiddo un o esgidiau Evan. Collfarnwyd Evan y sessiwn ganlynol yn Aberteifi, a chrogwyd ef; ond daliodd i wadll yn fil- mil hyd y diwedd, fel Gibbs, llofrudd Glan- rhymni, y dydd o'r blaen. Ymwelodd ^ewis, gweinidog Pantycreuddyn, hefyd offelriad Llangynllo, ag ef yn y carchar, ond gorchymynaiEvan hwynt i Dd-l, a bu farw fel anifail. Y nesaf a gawn mewn dalfa ydoedd John, mab yr Evan hwn, am ladratia defaid a dynladdiad sef P^athodd was y Gernos, yr hwn a'i dal- ^°dd yn y weithred o ddwyn defaid ei feistr, fel y bu farw yn mhen ychydig 0 ^I'iau. Fel hyn y dywed y llyfchyr am y treial:—Dyna sessiwn ryfedd fa-ar ei fater f. Yr oedd ei fam wedi addo ariaii mawr 1 Meurig Bush, cyfreithiwr melldigedig ,SIr Benfro, am ei achub ef. Ond yr oedd y peth mor amlwg yn ei erbyn a Lewis: Y Gernos Lewis, Pantyrodyn; Llwyd I ^Eronwydd Llwyd Do-haidd Llwyd y! Cilgwyn; Llwyd, Gilfachwen; aboneddig- ereill, mor benderfynol dros ei grogi, y methodd Meurig yn deg a'i ryddhau. ywedirei fod wedi gwobro y barnwr, ?ri(i'deallodd hwnw y buasai. y boneddig- 1on yn myned a'i fatter i Lundain, a, chaf- ^dd ormod o ofn gwyro barn, er iddo, tangos cetyn o ochr i'r mwrddrwr. Dy- ^edir hefyd fod Meurig wedi addo pob o "Qceded dda i'r jury am ei rhyddhau, ond §^naeth y foreman, yr hwn sy'n ddyn da, ac yn aelod yn Cilgwyn, rwystro y cynnyg "Iolldigedig hyny. Bum i yn Aberteifi S111 bedwar diwrnod, a chlywais y cyfan. Williams, Dolgoch, oedd y siryf, a gan J mod yn gydnabyddus ag ef, mi gefais _ob chwareu teg i wrando o'r dechreu i'r diwedd. Bu nhad yno ar ei lw yn tyngu a gi'wyn ein defaid ni. Yr oedd rhyw ya myned trwy fy nghalon i wrth y gyllell a'r hon y brathwyd Twm luan, yn cael ei dangos yn y llys. Yr ■^edd John yn dal yn galed ofnadwy. Nis §ailswn lai na cholli y dagrau fel y gwlaw Pan oedd y barnwr yn cyhoeddi y farn no, ond yr oeddi yntau ei hun fel y i>areg. Cyhoeddwyd ei fod i gael ei golli yn mhen ugain diwrnod. Parhaodd yn gyndyn am bythefnos, gan ballu siarad dim a neb, nes y daeth y newydd yn ol o Lundain nad oedd dim pardwn i'w gael iddo; ac yna fe ddywedodd ei fod b am weled Lewis, Dinas Cerdin, ac Enoch Francis, gweinidog yr Ailfedydd wyt. Aeth y ddau atto gyda'u gilydd. Fe ddy- wedodd wrth y rhai hyny ei fod yn gwy- bod ei fod yn haeddu ei grogi am ladd Twm y Gernos, ond nad oedd ef ddim wedi meddwl lladd hwnw, ond mai vn ei wyllfcineb wrth geisio dianc y cyflawnodd ef y weithred, ac y buasai yn dda iawn orfmddn TIA bnnsa.i bob wnpiirl v nA+h Hnrl ei fod yn gwybod fod pethau oedd ef wedi wneud o'r blaen yn galw am ddial ar ei ben. Yna cyfaddefoddei fod wedi helpio ei dad i ladd dyn oedd bod yn Lloegr yn gwerthu da eyn iddynt symmud yma o Sir Gaer, a'i helpio i ladd a chladdu Mc Donald, y Scotshman; a chyfaddefodd mai efe a laddodd Gweni y forwyn, yr hon ymeddyliai dynion ei bod wedi myned i blith y tylwyth teg. Yr oedd ef wedi ei thynu dros y ffordd, ac yr oedd hithaudan ei gofal, ac i gael cuddio y peth, aeth i gwrdd a hi i lan Teifl y noswaith yr aeth i golli, wedi dieithrio ei hunan, tarawodd hi a phastwn ar ei phen, nes y cwympodd yn swp i'r ddaiar, ac yna clymodd gareg fawr wrthi, a thaflodd hi i'r afon. Cyf- addefodd fod ei dad ac yntau wedi tori ty offeiriad Llandysil, a thori siop yn Cas- tellnewydd, ac mai efe fu yn ceiso gosod Penrallt ar dan, a llawer o bethau drwg ereill. Ceisiai gan y ddau weinidog weddio drosto, ond pan ddywedent wrtho am weddio ei hunan, dywedai nas gallai, a'i fod yn or- mod q bechadur i feddwl cynnyg gweddio. Dywedai wrth Mr Lewis, "0 Mr Lewis anwyl! 'nhad 'nistrywiodd i, a bydd fy ngwaed i ar ei ben ef byth Pe buaswn yn fab i Morgan y Bargod fuaswn i ddim fan hyn heddyw." Gwnaeth Mr Lewis a Mr Francis eu goreu i'w gael yn edifeiriol am ei bechodau, a'i gyfeirio at Iesu, Oen Duw, yr hwn sy'n tynu ymaith bechodau y byd. Ond yr oedd ei feddwl yn dywyll a thruenus iawn, ac nid oes ganddynt ne- mawr o obaith am dano. Fe aeth lluoedd o'r gymmydogaeth hon i'w weled yn cael ei grogi. Bumifmau yn meddwl myned, ond perswadiodd IVilliam Bees fi i beidio. Fe fu Cati yr Alltgoch yno, ac yn awr cynted y cauo hi ei llygaid yn y nos, y mae"n gweled John Richards yn cael ei grogi, ac y mae'n 'sgrechian mewn dy- chryn mawr, ac yn methu cysgu, a bron myned yn ddwl. Yr wyf yn teimlo yn ddiolchgar yn awr nad aethum i ddim yno. Ond os yw John wedi cael ei grogi, nid yw ei eppil wedi darfod o'r byd. Y niae ganddo fabpythefnos oed ar ei ol. Yr oedd wedi tynu Si an y forwyn, croten 0 blwyf Llanarth, dros y llordd, ac y mae yh eredi;i y cawsai hono fyned i ryw ifordd tebyg i Gweni druan, pe buasai heb gael ei ddal am rai dyddiau yn hwy. Deuwyd a chorph John i'w sibedo ar flae4 tir y Gernog a dyna lie y mae holl grytiaid bugeilio yr ardaloedd yn treulio eu hamser yr haf hwn/ i daflu ceryg at ei gorph.— Gelwir sylw y cy^rajn at freuddwyd hynod yr hen wraig o Langelei1, a gofheir uchod, canys cofnodir yma gan Anna BeynQn rhyw bedair blynedd (1720) cyn y crogi (1724) a ddarogana y breuddwyd, ac ni ddatguddiwyd mai ei boddi gafodd yn ol y breucidwyd cyn 1725. CADAIR EPPYMT.JBU gorsedd, neu yn ysbrydol, seiat yr wythnos hon, sef pan ydoedd yn 11awn lloer; canys wrth y lle'uad y bydd Derwyddiaeth yn cyffro, a chyfrif gwyliau, dyddiau, a blynyddoedd. • Yr ydoedd prif-feirdd Cantref Buallt yn wydd- fodol. Yn absenoldeb yr archdderwydd, dodwyd y bardd Cadeiriol, nid amgen Da- fydd y Badell, yn y gadair, a bu. raid ar Dafydd Fyr roddi gwers i'r Badell ar briodoliaethau agwedd ac ystum gorph- orol fel cadeirydd seiat, sef ymledu, ac edrych yn ddoctoraidd gan dynu gwyneb hir, canys wr anmhrofiadol ydoedd y Badell, heb gymmairit a bod yn y seiat erioed, chwaithach bod yn gadeirydd, canys ,cenedl.ddyn ydyw o, ac ar gwn^ins Abergwesyn y pora. Ar hyn dyma yr Archdderwydd, nid amgen Eppynt yn dyfod i mewn tu fewn i gylch cyssegr- edig yr orsedd, ac oddiar ei bedion cyn- nygiodd fod Derwyddiaeth, fel cynt, i fod yn grefydd sefydledig y byd. Mewn araetli na chlywodd neb mo'i bath y sylwodd fod Cristionogaeth, ai sectyddol ai Eglwysig, gwedi niethu cadw undeb gan gynnal heddwch-r,epose-a chym- mydogaeth dda; fod Cristionogaeth wedi ymholiti yn fil o ddarnau, bob cwmwd, cwr au gwlad a phentref a'u heglwys a rhyw ddau neu dri 0 fan gapelydd; capel yn erbyn capel, allor yn erbyn allor, gan rwygo cymmydogaethau a theuluoedd, a gcsod surdoes yn mhob ty a thwlc, gg,n drethu'r tippyn ardaloedd hyn er cynnal i fyny Eglwysyddiaeth, capelyddiaeth, ac offeir- iadaethau y gwahanol giwdogau y rhain, a dylanwad eu gweinidogaethau ydoedd nid gwneud pyfiawnder, gonestrwydd, cyni- mwynasgarwch, moesgarwch, cymmydog- aeth dda, &c., ond lJanw meddyliau pobl a rhagfarn, surni, ouliai, chwerwder ys- bryd, pengamrwydd, &c., fel yn lie yr hen dawelwch, yr hen undeb crefyddol a gwladgarol a ffynai rhwng ein bryniau a'n mynyddoedd dan Dderwyddiaeth, nid oes ond terfysg, pendrymdod, a rhagrith. Er holl ymdrech y wasg a'r pwlpud, grogi 0 wella mae hi yn Nghymru. Anffyddiaeth, tori Sabbath, tyngu anudon, meddwi, godinebu, balchder, hoced, rhagrith, cnoi, traflyngcu; ydyw, y mae y ffurfiau cref- yddol, er ei holl drwmp, gwedi methu gwella y byd. Mae yr holl sectau yma yn ein dotio,—Derwyddiaeth i mi. Es- gyner i'r mynyddoedd; nid oes eisieu nac Eglwys na chapel, offeiriad na phregeth- wr, degwm na tholl cildwrn, dim ond an- ian fawr, cymhlethu ein mawlgerddi yn wban y gwyntoedd, murmuron nentydd, a sisial y dail. Ar hyn disgynodd yr awen ar Harri Fardd Hir, ac wedi sefyll ar ei bedion gan daflu ei hunan i'r ystum briodol, efe a agorodd ei enau ac a ddy- wedodd gyda lief uchel (impromptu): Mae baner Derwyddiaeth ya chwifio'n y gwynt, A nod cyfria ami fel bu'r oeaoedd gynt— Nod saif yn dystiolaeth yu erbyn y byd, Cryn twyll-gyfuudraethau dycli'mygol eu hud, Derwyddiaeth chwilfriwia bob gwyrni rhyw bryd. Byw fyth fyddo'r Cymry, byw fyth fyddo'n hiaith, Byw fyth fo Derwyddon, Barddonioa a'u gwaith Byw fyth fo'n defodau, byw fyth fyddo'r gwir, Byw tyth gorsedd Eppynt tra mor a tbra tir. Disgynodd dylanwad y llinell olaf hon ar y presennolion fel ergyd taran,fel yr ymsaetlt- asant ar eu pedion. Gwedi dyfod attynt eu hunain syrthiodd gwewyr ar Dafydd y crydd. Dau englyn (improptu) mesur byr, ebe Dafydd, gwedi troi ei wyneb tua chodiad haul.— Mae Hawer o ymrysonau, A swu am gau grefyddau, Ac ami opiniynau, a phleidiau, sectau sydd,, Heb ddim ond un ffordd gymmwys I fyned i Baradwys, Un bedydd ac un Eglwys, Hoff weddus, ac un ffydd. Nid a, na Phrotestaniaid, Na Rowadiaid, na Chwaceriaid, Eglwyswyr, Methodistiaid, Er Inaint eu liudde(I liawn Na neb i ddinas nefol Wrth enw plaid neillduol Heb galon edifeiriol, fucheddol, dduwiol ddawn. Cymmerodd Dafydd Brydydd Main, Dafydd Cadwaladr, Dafydd y Cnwch, ac ereill ran yn y gynnadledd, a rhoddir eu hanes yn y llith nesaf. Sibrydir fod yn mryd yr orsedd agor shop urddau- diploinas-dysgedig mewn Duwinyddiaeth a Gwyddoniaeth, megys B.A. (Artium Baccalaureus), M.A., (Artium Magister), D.D., (Doctor Divinitis), M.D., (Medicine Doctor), &c., a hyny am bris isel, gan ddwyn y doniau hyn Q fewn cyrhaedd pob Jack a chlwpa. Duw gadwo y Frenines, GORSEDDIAD ESGOB TY DDEWI. — Yr ydwyf o'r un farn a'r gohebydd Eglwys- wr ar y matter hwn. Collwyd cyfleustra am oes. Paham na roddasid rhyw agweddiad Cymreig i'r gwasanaeth- hymn, llith, ton, neu rywbeth, ac yn ben- difadddeu paham naddodasidDr. Griffiths, y gwr mwyaf anwyl sydd genym yn Ne- heudir Cymru, i bregethu ei bregeth ymadawol yno. Mae rhyw ddynion yn ddall geni. Quos Deus vult perdere prius dementat." Crybwyllir gyda sobr- wydd pwysleisiol am hirhoedliad. Hyd y gwelaf fi nid oes rinwedd o gwbl yn yr hir, ysgatfydd, gallai fod rhinwedd yn y lied yr hir rhodd Duw ydyw; y lied, gwaith a llafur dyn ydyw. Disgwyliasid fod dull gweinyddiad y gwasanaeth yn y fam Eglwys hon yn gynllun i'r Esgobaeth, ond wfft iddo. Beth bynag, yr ydoedd y dull newydd o ganu yr Hen Ganfed yn beth ddylai gwyr wrth gerdd dafod ei gym- meryd at eu hyslyriaeth. LLANDRINDOD.—Cynnaliwyd gwylm ab- sant yn y lIe hwn yr wythnos ddiweddaf, mewn rhedeg a neidio. Sylwid fod dau deiliwr Bulah yn dychwelyd yn lladrad- aidd, eugwynebau gwedi syrthio, a phridd ar eu penau fel rhai yn ffoi o ryfel, &c, Wrth ddibenu y llith rhoddir rhybydd i Dd- y Wasg i fod yn fwy gofalus, canys bwriada yr Orsedd wneud dysgyblaeth arno, oni ddiwygia. DAFYDD EPPYNT.

ODLIG NEWYDD,

LLYTHYR LLWYNOG CWMSILIN.…

[No title]