Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

i '.-Y DEHEUDIR.

News
Cite
Share

i Y DEHEUDIR. "I1 (ODDIWRTH EIN OOItBBYDD.) Maddeued fy hen gyfaill Dafydd Eppynt a mi am fod cyhyd cyn atteb ei gwestiwn yn ngbylch Matcorn Ych Banog Llan- ddewi Breft-ar y gymmalwst yr oedd y bai. Nid wyf yn gwybod dim beth ddaeth o'r crair hun bum yn ymddiddan ag am- ryw hen bobl yn Llanddewi oedd yn cofio ei weled, ond methais gael dim o'i hanes. Y mae yn bur debyg iddo fyned ar goll pan dynwyd yr hen eglwys i lawr aetb pob dernyn o olion hynafiaethol ar goll yr amser hwnw. Symmudodd Jacki Roderick, tafarnwr yn y pentref y fedydd- ifan, a gwnaeth gafn mochyn ohoni Cirosodwyd careg bedd Idnerth yn Drothwy i dan y drws bach, ac yno y mae hi yn awr. Nid oedd yma un offeiriad yn byw yn y plwyf yr amser hwnw yr oedd y Parch. Samuel Evans, y ficer, yn byw yn Llan- -andreas ar gyffin sir Henffordd. Yr oedd y curadiaid yn byw allan o'r plwyf, ac yn .gweinidogaethu mewn plwyfydd ereill. Y mae yn dda genyf ddywedyd fod amser gwell wedi gwawrio ar Llanddewi Brefi, Nis gallaf hysbysu eich gohebydd Cil- machallt mewn perthynas i'r llyfr y cy- feiria efe ato; nid wyf wedi ei weled o < gwbl. Er nad yw gweithfeydd glo a baiarn Gwent a Morganwg mewn sefyllfa mor ddymunol ag y dymunir, y maent yn myned yn mlaen yn weddol, ac y mae gobaith am adfywiad. Y mae gweithwyr Cwmrhondda i gyd yn gweithio, ac y mae gwaith dur yn Nowlas a Phenycae yu ad- fywio. Nid oes dim son fod Uyfarthfa yn ¡. «ael ei gychwyn. Y mae sefyllfa tai yn y gweithfeydd yma yn arswydus o ffiaidd. Gorlenwir y tai yn mhob man. Nid yw ddim gweled mewn ambell fan deulu o wyth, a dau let- *H tywr yn byw mewn dwy ystafell! Nid » yw yr awdurdodau lleol yn gwneud ne- mawr o ddim i lanhau ffauau lie y megir clefydau. DylaiyLocal Board yn Llun- X dain anfon arolygwr i lawr. Nid yw llawer o berchenogion tai yn hidio dim ond cael eu harian. Gorchymynodd bwrdd iechyd Merthyr i un Mrs Williams barottoi cyf- i; leusderau addas i breswylwyr y tai hyn, yn jnis Ebrill; ond ni wnaethpwyd un sylw Mater. Gwysiodd y bwrdd iechyd Mi's Williams yr wythnos diweddaf, gwell hwyr na hwyrach, am ei hanufudd-dod. ( Siarad am wareiddio: paganiaaJT !-gjwled- .f$dpellenig Yr wyf yn barnu fod angen t afla. wareiddio ein paganiaid cartrefol yn gyntaf. Yr wythnos aeth heibio yr oedd vdwy fehyw yn croesi'r mynydd o Ryraiii i Merthyr pryd yr ymosododd chweeh o ddynion, neu yn fwy priodol, bwystiilod mewn crwyn dynion, ar un wraig weddw. Baeddasant hi yn anifeiiaidd a threisiasant hi; niweidwyd hi yn erwin, ac anfonwyd am feddyg. Y mae y chwech mewn dalfa, a dygwyd hwy oil o flaen Mr De Rutzen yn Merthyr. Ceisiodd cyfreithiwr y carch- arorion brofi nad oedd y fenyw yn un o'r cymmeriadau goreu; os yw hyn yn wir, nid yw yn un rheswm iddi gael ei thrin fel anifail, a gwaeth na hyny. Yr ym yu hoff o fostio am ein moesoldeb a'n crefydd y mae lie i ofni fod mwy o anfoesoldeb yn cael eu gario yn mlaen nag ym yn freudd- wydio. Nid oes dim llawer o amser er pan ymosodwyd ar wraig briod ar yr un mynydd gan rhyw labwst. Y mae llawer o'ch darllenwyr wedi darllen am John Kyrle, The man of Ross, gwr enwog am ei haelioni a'i ddyngarwch. Y mae yn debyg i'w fantell syrthio ar ys- gwyddau yr ynadon. Dygwyd dwy eneth fach o'u blaen am dynu tywysenau o wenith o gae ffermwr, dim ond gwerth dwy geiniog. Traddododd yr ynadon hwy i sefyll eu prawf, a gwrthodasant eu goll- wng yn rhydd ar feichniafon. Yn Boss hefyd y cyfaneddai Mr Ward hyd yn ddi- weddar, arwr mawr y llafurwyr amaeth- yddol. Yr oedd y gwr hwn yn holf o ddefnyddio ei danfforch yn y Labourer's Chronicle, ond y mae wedi myned yn hollt rhyngddo a Mr Arch a'i Gwmni, y rhai sydd, dan rith o fod yn gyfeillion y llafur- wyr, yn aredig ar eu cefnau. Y mae Dr Basil Jones yn rhoddi bodd- lonrwydd mawr i drigolion Caerfyrddin. Dydd Sul wythnos i'r diweddaf cynnal- iodd ei urddiad yn Eglwys Crist, Gaer- fyrddin, a chyssegrodd Eglwys newydd f 0 yn Llanelli. Pigodd un o heddgeidwaid Cwm Rhon- dda lowr meddw i fynu ar yr heol, a saith bunt ar hugain yn mhoced ei, glos. Gwir yr hen cldihareb, The fool and his money will soon part." Y mae Llechryd, plwyf ar lan Teifl, ar y ffordd i gael ei anfarwoli. Ychydig am- ser. yn ol cyhuddwyd Mr Thomas Harries, peLgwyddog a phen Radical y sir, o saer- niaetV; Mr Evan Mathew Richards o ber- swadio James Hughes, assistant overseer y plwyf, o osod enwau pwyllgor ysgol Llechryd h1: ol i lyfr y dreth gael ei basio gan yr ynalon ar y 3lain o Fawrth, er mwyn troi y ^.ntol yn etholiad y bwrdd ysgol dosbarth L^ngoedmore. Rhoddodd hyn bedwar-ar-byn^iieg o bleidlesiau i'r byrddwyr. Gwnaethl-vycl hwy yn dreth- dalwyr am hen fwthju anghyfannedd. Gwnaethpwyd cynnyg yn arholiad o t" -= IIJ flaen"! yr arolygydd i brofi fod yr enwau wedi cael eu gosod ar lyfr y plwyf cyn Slain o Fawrth. Nid oedd un o'r enwau ar y llyfr ar y 6ed a'r ISeg o Fai! Dy- wed Mr James Hughes yn mhapyr Aber- teifi iddo brynu llyfr newydd yn shop Mrs Jane Thomas cyn etholiad y bwrdd, ac i Mr Tobit Evans wneud y llyfr newydd i fynu, Nid oedd neb yn gwybod pa fodd y terfyna yr ymdrafodaeth hon. Beth ddy- wed y Faner am hyn, wyr ? Pe buasai i'r Toriaid wneud hyn, buasai "Pobman" yno cyn hyn. Gyda Haw, clywais fod u Pob- man yn darlithio i lfaenoriaid y Radicals am beidio addysgu y bobi yn y ffydd Radi- calaidd. Y mae pobl sir Aberteifiyn ddyn- ion call,a gallant farnu drostynteuhunain. Nid oedd dim angen eu dysgu yn 1868 pan ddarfu iddynt ethol Mr Richards. Yr oedd Mr John Bright, Mrs Bright, a Miss Bright, yn bresennol yn arddangosfa amaethyddol Aberystwyth. Y mae yn debyg iddo gael ei foddloni yn fawr pan ar ei hynt trwy'r Deheubarth. Ymwelodd a Chastell Caerffili. Y mae Mr Bright, fel y mae yn heneiddio, yn dyfod yn hoff- ach o hen bethau. Yr oedd ef yn barnu nad oedd llywodraeth gyffelyb i America, ond y mae lie i farnu ei fod ef yn dyfod yn fwy hynafol gyda golwg ar wleidydd- iaeth. Y mae cicio gwragedd yn dyfod yn beth cyffredin yn Nghaerdydd ac Abertawe. Gellir meddwl fod menywod wedi cael eu creu i fod yn bêl droed i ddynion anifeil- aidd i dreio eu hesgidiau a'r hoelion naw, chwedl James Thomas, Tresimwnt. Yr wyf yn methu deall dyfarniad yr ynadon yma,—Twm yr herw-heliwr, yn Nghaer- dydd, yn cael tala deg swllt am faeddu ei wraig, a Sims y Morwr, yn Abertawe, yn cael ei anfon i'r carchar i gamu ar y tread-wheel am. dri mis am yr un troseld. Yr wyf yn credu mai Mr Fowler, Aber- tawe, sydd yn llygad ei le. Ni ddylai un hen swyddog ddangos dim un cydym- deimlad a churwyr gwragedd. Y mae Mr John Winstone, un o aelodau brefog cyngor trefol Caerdydd, yr hwn sydd yn dioddef oddiwrth glefyd y jaw, am orfodi Ardalydd Bute i roddi i fyny un o'i barciau i wneud lie i ymblesera. Os na fydd i'r Ardalydd gyttuno, y mae Mr Winstone am fyned i'r Senedd i'w or- fodi i roddi y pare i fyny. Y mae brwydr y cofrestriad yn cael ei hymladd i'r earn yn sir Forganwg. Flyn- yddoedd yn ol yr oedd y Radicaliaid yn cael eu ffordd eu hunain. Nid oedd neb yn eu gwrthwynebu ond y mae y dydd- iau halyconaidd hyny drosodd. Y mae Ceidwadwyr sir ForgaUWg ar eu gwyliad- wriaeth, ac y maent yn ennill pleidlciaiau yn barhaus. Cerxqfi. rgcant bulling y Rads y'ii Ilyni o ddwyri peth- au ynmlaen. < Yr oeddwn yn meddw} fod gan chwarel- wyr Gogledd Cymru fwy o. synwyr cyff- redin na sefyll allan ond y mae yn ym- ddangos eu bod yn hwylio yn yr un cwch a ni yn y De yma. Yr ym ni wedi llwyr laru ar sefyll allan, ac y mae y gweithwyr eu hunain wedi blino ar y busnes yma, a goreu po gyntaf i chwarelwyr Bethesda olchi eu dwylaw oddiwrth strikes, a pheidio cymmeryd eu cylcharwain gan aflonyddwyr. Bydd i'r sefyll allan eu dinystrio, a'u gwneud yn fegeriaid, a'r masnachwyr yn fethdalwyr. :<,+ I CRAIG Y FOELALLT.

. - YR HYN A GLYWAIS. ,,

[No title]

"'¥M-i AT FEISTRADOEDD A GWEITHWYR.

LLANIDAN. ^

LLITH LLYGADOG.