Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

------.,-------_--------------LLITH…

News
Cite
Share

LLITH îvfR PUNCH. FONEDDIGION,—Mae dosbarth ofddyn- ion odd iawn yn perthyn i gymdeithas, y rhai a adwaenir wrth y teitl rhodreswyr (busy-bodies). Nid oes fodd dyweud na gwneud dim wrth fodd y creaduriaid hun- anol hyn, oherwydd y maent yn edrych ar bob peth gyda llygaid rhagfarn. Hefyd, y maent yn ystyried pawb yn annhraethol !s na hwy, fel nacl oes gan neb byw bed- yddiol hawl i ddyweud na gwneud dim heb ddod attynt hwy i ofyn caniatad yn gyntaf! Fel ag yr ydym wedi sylwi o'r blaen, y mae y dosbarth hwn yn ein ba rnu yn dost, am feiddio anfon ein gclygiadau ar wahanol bethau, a pherson- au i bapyr newydd. Dywedant nad oes genym hawl i anfon yr hyn ydym yn anion—mai "barnu" ein "gwell" yr ydym, &c. Ond, attolwg, ai tybed, ynte, fod ganddynt hwy hawl i'n collfarnu am farnu "? Pwy sydd wedi eu cyn- nysgaeddu hwy ag awdurdod i farnu arall ? T—n—ddu, ebai y fian wrth yr wylan, a hithau felly eu hunan Ac, heblaw hyny, nid oes gan fy ngollfarnwyr ddigon o wroldeb i ddyfod attaf yn bresen- nol i'm cyhuddo. Na, gwell ganddynt wneud hyny wrth ereill, y tu ol i'm cefn, er mwyn bod yn gysson a'u cymmeriad fel ymosodwyr. Hefyd, dywed yr un dosbarth fy mod yn cael help gan un o ddynion cyhoeddus y He hwn, i wneyd fy llithoedd, Y mae hyny yn anwiredd noeth, gan nad ydyw ef na neb arall yma, nac oddiyma, yn fy helpu, oherwydd nid oes arnaf angen help gan neb i wneud hyn o orchwyl. Y mae genyf ddigon o allu at hyny yn annibynol ar gynnorthwy allanol. Dyna fi wedi ymostwng i gan- mol fy hun er mwyn ereill. Bellach ni a awn yn mlaen. Cafodd ein llith ddiweddaf ddylanwad neillduol ar y rhai oedd a fyno y sylwadau a hwy. Aeth un brawd bron i oifoledd, pan ddeallodd efe ei chynnwysiad, a chafodd hwyl fawr iawn, yn mhlith ei gwmni. Aethant allan i ben yr heol i floeddio a thyngu, yn enw eu tad, y difethant hwy yr offeryn a fu yn foddion i'w deffro am eu cyflwr fel bodau cyfrifol. Ond nid ydoedd hyny ond rhyw ffit o orphwylldra, wedi ei hachlysuro gan yr olwg ar y ciarluniau byw sydd yn y llith, a hyderwn y daw pawb o honynt i'w pwyll ar ol i'r ffit fyned heibio. Y mae hyn, foneddig- ion, yn profi fod eich gohebydd yn bre- gethwr dylanwadol; canys wele ei lith- oedd yn "ysgwyd"ac yn "cynhyrfu" cynnulleidfaoedd Digwyddodd un camgymeriad pwysig, yn ein llith diweddaf mewn perthynas i i awduriaeth yr englyn i'r "bont newydd." lid yr "Hen Felinydd" ydoedd ei hawdwr, fel ag yr hysbyswydd, ond rhyw- Ul arall. Ac y mae yn wir ddrwg genym i'w enw gael ei grybwyll mewn cyssylltiad a'r peth o gwbl, canys ni fynai yr hen wr er "deg punt" fod yh awdwr i'r fath englyn di-synwyr oblegid pa reswm ydoedd dyweud fod y dwfr yn rhedeg fel milgi i'r mor heli"? Dim! a hyd- erwn y bydd hyn yn ddigon o apology am yr hyfdra o gymmeryd enw yr hen wr yn ofer. Ond rnaddeued i mi am un awgrym pellach am dano, fel bardd. Yr ydym yn credu ei fod ef yn meddu ar awen natur- iol, a pharod bob amser. Cawsom allan hyny, wrth wrando arno yn gwneud am- ryw billiau pert, yn nghlyw ei gymdeithion. Pan oedd un o honynt yn ymadael, dywedai yr "Hen Felinydd" fe hyn:— Morris Roberta, Tan y Bryn, Aeth adref yu ei grysbas gwyn." Yn awr pa le ceir dwy linell a mwy o farddoniaeth na'r uchod ? Ac y mae y synwyryngryf iawn, pan y dywed fod Morris wedi myned adref gycla'i grysbas ac nid dyweud fod ei grysbas wedi myned adref o'i flaen ef! Caredigrwydd hcielionus.—Oherwydd bod allan o waith am yn agos i 5 mis, y mae dyn tlawd, yn y gymydogaeth hon, yrliwn sy'n wr priod, gyda gwraig a dau o blant, yn gorfod gwneud drawn (raffle) ar oriawr (lIxäch) sydd yn ei feddiant, a hyny er mwyn cael ychydig foddion cynnaliaeth iddo ef a'i deulu. Ac y mae pobl y gym- ydogaeth, ac ereill, yn cydymdeimlo ag ef 1 0 a'i deulu, trwy brynu tocynau- ganddo tuag at chwyddo swm y drawn. Ddydd Sadwrn diweddaf cafodd ganiattad i fyued at borth gweithfa Mri. D. W. & Co., Caer- narfon, i gymhell tocynau ar werth i'r gweithwyr, y rhai sydd uwchlaw cant mewn nifer. Ac, er ei syndod, prynasant ganddo y swm enfawr o tua 00,000 o docynau! Dyna i chwi, foneddigion, gyd- ymdeimiad oddiwrtli y gweithwyr Y mae llawer o stwr yn nghylch y gweithwyr y dyddiau llyn. "Y gweithwyr yn cael cam," y "gweithwyr yn cael eu gwasgu," &c., &c., ydyw y cry trwy yr holl wlad o'r bron, ar hyn o bryd. A gelwir ar bawb i "gydymdeimlo a hwy," trwy roddi cyn- northwy iddynt, yn enwedig os byddant ar strike am godiad yn eu cyflogau. Wei, rbaid addef y fod cael "ychwaneg o gyfiog" yn beth blasus iawn gan bob dyn, ond y mae cael rhyw faint" o gyfiog yn well na bob heb gyfiog o gwbl! A dyma oeddwn yn gyrchu atto, ydyw Ilyn,- Os aiff gweithiwr allan o waith, a thrwy hyny ddyoddef caledi, a myned mor afresymoi a gofyn am dippyn o help gan ei gydweith- wyr, hwynt hwy, yn y cyffredin, ydyw y rhai mwyaf diystyrllyd o hono. Ond y mae eithriadau da o honynt hefyd, a diolch am hyny. A mrywion. Derbyn llytliyr donioloddi- wrth hen lange, yr hwn sy'n cynnnvys sylw. adau pert ar wahanol faterion pwysig. Hefyd ei waith ef ei hun yn barddoni, &c. Ac er mwyn y darllenydd, ni a ddodwn rai dyfyniadau o hono yn y llith. Dyma fel y dechreua ei lythyr Anwyl ffrind,- Yr wyt wedi blino bellach mi wn yn dis- gwyl llythyr oddiwrtha i. Ond mi faswn wedi anfon yn ngbynt pe buaswm yn lyicio. Mi glywis dy 'fod wedi priodi 1 gwraig. Wei, gin dy fod ti mor wirion, 'does dim help." Pan elo hogia ifangc i feddwl nad alia nhw ddim byw yn gysur- us heb briodi gwraig-heb help i fyta'u torth a'u tatws llaeth, &c., dyna'r adeg y bydd i pena nhw'n boeth, a'r chwilen wedi troi ar wastad ei cliefn, ac y mae hyny yn i drysu nhw'n arw. Nid oes un feddyginiaeth rhag y clefyd heintus hwn. Yr umg Ifordd i yru y dioddefydd o'i boen fyddai ei gymmeryd o i ben clogwyn Careg Alltrem a'i ollwng i lawr yn ara' deg dros y graig i'r afon islaw, a'i adael yn y dwr a'i draed i fynu, i oeri ychydig ar ei fenydd poeth. Ac wedi iddo fod yno yn dcligon hir i sefyll ar ei ben heb gynnorthwy, tyner ef allan, a doder ef mewn bocs o bren ffawydd, a chladder ef o'r golwg yn mynwent Ramoth yn mhlith y saint trochedig, lie y caiff Lodging yn nby'r ingiaa Hyd doriad bore wawr.' Gwell fyddai gwneud hyny ag ef na'i 0 boeni ar hyd oes gyda gwraig." Dyma ddarn o farddoniaeth o'i waith, ar yr Oes Bresennol, &c. Dechreua fel liyn: Er nad wy'n fardd mae genyf fiý., I wneutliur dernyn eyd a bys, Heb aruaf chwys na chwant Am gael fy ugh) fri' gyda'r uu O'r beirdd sydd etto'u ddrwg eu ilun, Fel dyn ag eisieu tyuu'i ddaut Wel, dyma gyfnod hynod iawn Ar oes y byd, o loreu hyd iviwu Ni bu ei fatb ers talwm iawn, Mi gym'raf fy llw fy mod yn iawn, Ois d'wedaf y gwir lgjd yu IJawn, Heb gelu iia orwg ua da Mae pawb, wrth geisio bod yn gall, Yu my lied yn groes y caill i'r liali, Fel pe bai neb oud gwr y fali Yn arwaiu eu Unoedd yn uilae-n," &c. Dyma i ti, ddarllenydd, waith hen langc yh barddoni. Ni waeth beth ddywedo neb, y mae rhywbeth yn odd mewn hen langciau. Pan oedd hen langc nnwaith yn dy- chwelyd adref o farehnad Caernarfon, yn ymyl Bettws Garmon Inn, ar ddiwrnod gwresog, daeth y Temtiwr (diafol) atto, a gofynodd iddo fel hyn, Morrus, a gym- meri di lasiad o gwrw—y mae hi'n wresog iawnr a thithau yn sychedig?" Cymmeraf," ebai Morrus. A phan oedd ef a'r diafol yn myned i fewn i'r ty, ychwanegai y diafol trwy ddyweud fel hyn, Ie, ti gai ddau neu dri glasiad, ac yna ti lyudai yn iawn!" Ar hyny cauai Morrus ei ddwrn ar y diafol, a dywedai, Na ni chymmeraf yr un dyferyn, gan mai eisieu fy nghael wedi meddwi sydd arnat ti," ae ymaith ag ef gan adael y diafol mewn syndod. Yr oedd Morrus wedi bod yn ddyn meddw ac afreolus; ond erbyn hyn yr oedd wedi ymuno a chrefydd a myned yn ddyn sobr. A rhoddodd y diafol ail gynnyg arni; ond cafodd ei siomi, gan ddarfod i Morrus ei wrthwynebu yn ei wyneo. Liofruddiwyd hen langc yn ddiweddar yn Kansas, a rhyddhawyd y llofrudd ar y tir fod yr hen langc yn greadur hollol ddiddefnydd i gymdeithas. Dywedir fod yr amaethwr American- aidd, gan yr hwn yr oedd moch mor deneu fel yr oedd yn angenrheidiol cael dau o honynt i ffurfio cysgod, wedi cael ei guro gan ffarmwr arall, gan yr hwn yr oedd amryw foch mor deneu fel y deuent allan o'r cwt drwy y craciau oedd yn y ddor. Ond ymddeugys iddo o'r diwedd roddi terfyn ar eu chwareu trwy roddi cwlwm ar eu cynffonau Gwelid hysbysiad Unwaith am ddarlith oedd i gael ei thraddodi yn yr awyr agored," ac y byddai casgliad i gael ei wneud wrth y drws er talu y costau. Gofynwyd unwaith i ffarmwr a oedd ceffyl a gynnygiai ar werth yn un ofnus ? 0 nag ydyw," meddai yntau, y mae efe yn arfer treulio amryw nosweithiau ar ei ben ei hun yn yr ystabl." Dywedir nad ydyw yn angenrheidiol fod dyn yn ymdreiglo mewn fIos, neu yn curo ei ben yn erbyn y post, i chwi allu penderfynu ei fod yn feddw ond pa bryd bynag y bydd iddo adrodd yr un puth fwy nag unwaith, yna gellir cymmeryd yn ganiattol ei fod ef yn feddw. GWAS MR PUNCH.

[No title]

Y GOHEBYDD GWIBIOL.