Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

Advertising

DYDD GWENER, MEDI 25, 1874.

CHWAREL Y PENRHYN.

TANAU MAWRION.

DAMWAIN ANGEUOL I ■FARCH-OGWR.

. TAN MAWR YN AMERICA.

TAN DIFAOL YN FROSTBURG, AMERICA.

ADNEWYDDIAD YR ANNGHYDFOD…

[No title]

News
Cite
Share

Am fod mewn meddiant o bwysau an- nghywir, dirwywyd un Thomas Cooke gan ynadon Dinbych. Llwyddodd un Robert Ellis, Drws-y- nant i drafaelio ar reilffordd y Cambrian o Dolgellau i Arthog, a gorfyddwyd iddo dalu dirwy o ddwy bunt a'r costau yn llys yr ynadon. Ddydd Sadwrn, wythnos i'r diweddaf, cyrhaeddodd Ardalydd Bute y 27 mlwydd o'i oedran, a dathlwyd yr amgylchiacl gyda rhialtwch mawr yn Nghaerdydd. Wedi diogi ohono am dri mis ar bwys cardotta, cafodd cerddedwr i £ r enw Helium f ei ddedfrydu i lafurio n galed yn ngharchar Llandaff am yr ysbaid o ddeng. niwrnod. 0 ddiffyg gorchwyl pwysicach, y mae nifer o bobl yn Mlaenafon yn ymgynhyrfu am sefydlu bwrdd ysgol. Oherwydd esgeuluso trwyddedu o hono ei geffyl a'i gi, cafodd George Jones, Dry- brook, ei ddirwyo i chwe phunt a choron. Wrth groesi y rheilffordd yn Dowlais tarawyd labrwr gan y peiriant, a darn- iwyd ei gorph mor arswydus fel y bu farw yn y fan. Ysgubir lluaws o blant ymaith yn ddyddiol yn Mountain Ash gan y frech goch. Y mae Mr Henry Taylor, ar fedr cael ei bennodi yn gwnstabl dirprwyol Castell Fflint. Hysbysir fod yr Anrhydeddus Sauvage Mostyn wedi ei ddyrchafu i radd milwriad yn y Royal Welsh Fusiliers. Ymddengys nad ydyw hen langciau Caernarfon yn foddlawn ar yr estyniad yn oriau y fasnach feddwol, oblegid hys- bysir fod tua haner dwsin o honynt yn ymdyru at eu gilydd yn nosawl i ymlythu ac ymfeddwi, gan aflonyddu ar heddweh y gymmydogaeth hyd bedwar o'r gloch y boreu. Dywedir fod yif eu mysg wr priod o nod, i'r hwn y gweddai cymdeithas ei deulu yn llawer gwell na'r fath ysbledd- ach. Fel goruchwyliwr Radicaliaid Arfon, cyrhaeddodd Mr William John Parry gam yn nes i anfarwoldeb ddydd Llun drwy wrthodiad haner cant o'i wrthwynebiadau i etholwyr Ceidwadol yn nosbarth Conwy- Cynnaliwyd cyfarfod o bwyllgor Eis- teddfod ddiweddar Corwen nos Wener, pryd yr hysbyswyd fod yn ngweddill wedi talu yr Holl dreulion y swm o 180p. pa un a gyflwynwyd i'r drysorfa er diddyledu ysgol Frytanaidd y lie. Cychwynwyd papur dyddiol o dan y teitl Evening Expressyn Abertawe, ond terfynodd ei yrfa y dycld o'r blaen wedi bodoli am ddeuddeng wythnos. Yr Esgob Basil* Jones ydoedd Y chweched a welodd y Canon Richardson yn cael ei orseddu yn Esgobaeth Ty- ddewi. Hysbysir y bydd i Mr Beales, Caer- grawnt, a Mr Homersbam Cox gyfnewid eu cylchdeithiau barnol am y mis nesaf. Dywedodd gwr blin wrth ei wraig, gan nas gallent gyttuno a'u gilydd, fod yn rhaid iddynt ranu y ty. O'r goreu, meddai hithau, gellwch chwi gymmeryd y tu allan!" LLANFROTHEN.-Te Parti. Prydnawn ddydd Sadwrn, y 19eg cyfisol, trwy hael- ioni gwladgarol Mr a Mrs Jones, Ynysfor, darparwyd te a bara brith i blant Ysgol Sul St. Catherine. Cyfranogodd oddeutu pedwar ugain o'r dandeithion. Ar ol 1 bawb gael eu gwala a'u gweddill, ymddi- fyrodd y plant mewn chwareuon diniwed- Oddeutu saith o'r gloch ymadawodd pavrb yn dra siriol a diolchgar am. y fatb groesaw a dderbyniasant gan' y teuln caredig.—Z. I