Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

Advertising

DYDD GWENER, MEDI 25, 1874.

CHWAREL Y PENRHYN.

TANAU MAWRION.

DAMWAIN ANGEUOL I ■FARCH-OGWR.

. TAN MAWR YN AMERICA.

TAN DIFAOL YN FROSTBURG, AMERICA.

News
Cite
Share

TAN DIFAOL YN FROSTBURG, AMERICA. Hysbysa Mr Tbos. E. Jones yn y wasg Americanaidd fod y rhan fasnachol fwyaf o dref Frostburg yn awr yn gydwastad a'r llawr Ymddengys i'r tan ddechreu yn1 ystordy Beal a Koch, Main street, oddeutu un o'r gloch prydnawa Sadwrn diweddaf, ac mewn llai nag awr, yr oedd yr holl adeilad mawr a enwyd yn wenfflam ddych- rynllyd. Cymmerodd yr adeiladau am- gylchynol dan yn ebrwydd, nes ymestyn yn mlaen ac ol hyd i ystor Hitchins a'i Frodyr, ar un pen, ac hyd i Broadway ar y pen arall. Daeth yr amrywiol adeiladau sydd o'r tu cefn i'r brif heol a enwyd i gyffyrddiad buan a'r elfen ddinystriol, nes eu llosgi yn lludw; ac yn eu plith gartref Mr Jones, ond dywed iddo ddiogelu ei eiddo rywfodd, a cbafodd ef a'i briod hawddgar a'i blant ymlochesu a chartrefu ar gronglwyd ac aelwyd ddymunol y caredig Mr a Mrs Morgan Rees. Yr oedd colled Beal a Koch yn 35,000 o ddoleri. Cyrhaeddodd y tan y Porter's Hall a'r ystor, nes eu dinystrio'n llwyr, a gwneyd colled o 15,000 o ddoleri. Cyr- haeddodd hefyd at y Franklin Hotel, nes ei difodi hithau, a gwneyd colled o 15,000 o ddoleri. Ysgubodd y fflamau gyfran o Water-street liefyd, a llawer o'r tai oedd ar yr ochr orllewinol iddi, nes cyrhaedd yr Eglwys Lutheraidd. Hwn oedd yr unig^ddoldy a losgwyd, ond diamheu y buasai yr Eglwys Bresbyteraidd, oedd yn ymyl, wedi llosgi hefyd, oni b'ai ymdrech- ion dihafal ei charedigion a gwroniaid Cymreig. Dywedir fod y Cymry ar y blaen i'r oil mewn gwroldeb, deheurwydd, ac yni par- haus i ddiffodd y tan, helpu anffodusion, a hyrwyddo diangfa i fywydau ac eiddo. Y maent yn teilyngu clod am eu dewrder priodol mewn achos o galedi a chythrwfl fel hwn. Dywedir befyd y buasai y tan wedi dinystrio ychwaneg o lawer ani bai i beiriannau dwfr Cumberland ddyfod yno mewn pryd. Gan fod cymmaint o geryg adeiladu da ymhob man oddeutu Frost- burg, gresyn na welai y Cymry sydd allan o waitli y priodoldeb o weithio man chwar- elau yma ac acw, i'r dyben o roi annog- aeth i'r adeiladwyr ddefnyddio cerig hardd, yn lie coed peryglus, ac i'r dyben o lesoli gweithwyr sydd yn brin o waith. Hyder- wn y cymmer amryw o Gymry yr awgrym i bwrpas.

ADNEWYDDIAD YR ANNGHYDFOD…

[No title]