Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

.LLITH MR. PUNCH.

TAN TANDDAEAROL YN SHEFFIELD.

EISTEDDFOD LLANDYSSUL.

YMLID YSBRYD YN NGWRECSAM.

News
Cite
Share

YMLID YSBRYD YN NGWRECSAM. Ers rhai nosweithiau yn ol y mae cyn- nhyrfiadau afreolus wedi bod yn Salisbury Park, Gwrecsam, mewn canlyniad i chwedl a daenid am ymddangosiad ys- bryd." Yr oedd sibrwd fod yr "ysbryd yn gwneud ei ymddangosiad yn nosawl, a'i fod yn llamu dros y cloddiau gyda chwimrwydd i-i-iyfcddo.1, Mewn canlyniad i'r chwedl hon ymgasglai y dosbarth isaf o'r trigolion gerllaw y lie bob nos, gan aflonyddu pawb a aethent heibio, ac ar brydiau ymosod arnynt yn greulawn. Nos Sadwrn terfynodd prangciau y dyhirod hyn drwy ymosodiad annyuol a wnaeth- ant ar ddyeithrddyn. Digwyddai gwneuth- urwyr berwedyddion o Brymbo fyned heibio'r fan yn fuan wedi nos, a chodwyd dolef mai efe ydoedd yr ysbryd." De- chreuwyd annos own atto, a bu agos iddo gael ei dynu aelod oddiwrth aelod ond yn ffodus cyrhaeddodd yr heddgeidwaid, a a llwyddasant i'w achub yn amserol. Pen- derfynodd yr ynadon ar fod i wysiadau gael eu dwyn allan yn erbyn arweinwyr y cythrwfl.

[No title]

LLOFRUDDIAETH ARSWYDUS YN…

LLOFFION CYMREIG.