Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

.LLITH MR. PUNCH.

TAN TANDDAEAROL YN SHEFFIELD.

EISTEDDFOD LLANDYSSUL.

News
Cite
Share

EISTEDDFOD LLANDYSSUL. Ni fu yn Llandyssul eisteddfod o'r bIaen ers mwy nag ugain mlynedd, ac ni fydd hiraeth ar neb, allwn feddwl, am weled un yma etto am bymtheng mlynedd arall, os na fydd rhyw argoelion am iddi gael ei chario allan dippyn, ie, getyn hefyd, yn fwy trefnus a rheolaidd na'r un ddiweddaf. Yr oedd yr eisteddfod hon yn hollol yn nghrafangau y Bedyddwyr, a bydd yr elw etto yn myned at yr achos, fel y dywedir; hyny yw, i droi rhod ddwr y Bedyddwyr yn y lie. Cymmerwyd y gadair gan Syr Thomas Davies Lloyd, Barwnig, Bronwydd, ac yr oedd yn ymddangos i mi yno fel pysgodyn ar dir sych. Nid rhyfedd hyny ychwaith, pan yr ystyriom fod y fath gruglwyth o annibendod fei looking-glass o'i flaen. Yr oedd "edrych yn y drych hwn dro yn ddigon i yru y barwnig o'r Bronwydd i ystad neu ffit o ddiflasdod. Yr oedd tocynau tri swllt, dau swllt, a swllt, ac felly gellid disgwyl fod gwahan- iaeth cyfattebol o fewn y babell ond, yn lie hyn, yr oedd petliau yma blith-dra- phlith bendramwnwgl, ie, dibyn-dobyn, fel y dywedir—perchenog y tocyn swllt yn eistedd wrth ei fodd ar eisteddle y tocyn tri swllt, a pherchenog yr un tri swllt yn fynych yn gorfod sefyll ar ungoes fel plentyn anufudd yn yr ysgol gynt, heb Ie i roddi y llall i lawr, a chael ei wthio yn ddidrngaredd o fan i fan, pob un ar ei eitliaf yn gwthio ei hun i'r sedd flaenaf, a neb yn ei rwystro. Hynod iawn na fuasai y pwyllgor wedi gosod rhyw ffin rhwng y naill ddosbarth a'r llall. Dechreuwyd ar y program am y dydd Z, am hanner awr wedi unarddeg, a buwyd yno tan chwech o'r gloch yn y prydnawn, heb damaid na llymaid. Yr oedd beirn- iaid y canu yn achwyn yn dost ar y drin- iaeth ymprydiol; nid heb achos. Nid wyf yn cofio gweled eisteddfod o'r blaen mewn pabell gyhoeddus yn amddi- fad o hen arwydd-eiriau Cymreig. Nid oedd yma yr un faner, oddigerth yr un oedd o flaen y twlc lie y gwerthid y tocyn- au, ar yr hon y gwelid y geiriau Tickets sold here." Ennillwyd gwobrwyon am draethodau gan IVIri D. Davies, Clynmelyn, Pencader Daron Jones, Llundain; a'r Parch. Davies, gweinidog y Bedyddwyr, L.lan- dyssul; ac am farddoniaeth gan Dewi Hefin, Llanwnen; Daron Jones, a Cariv Cynon. Ennillwyd ar y prif ddarnau corawl gan gorau Bargod Teifi, a Llan- dyssul. Arweinid y ddau gor hyn gan Mr D. Peters a Mr Evans. Cynhaliwyd cyngherdd yn yr hwyr, a chymmerwyd rhan ynddo gan Mr C. Vidior Harding, Caerfyrddin; Gwilym Cynon, Llinos y De, Eos Owendraeth, Eos Emlyn, &c. Gorphenwyd am tua deg o'r gloch. Wrth edrych ar y rhestr uchod, nis gellir pasio heibio yn ddisylii- enwau Mr Daron Jones a'r Parch. Davies, y rhai oedd- ynt yn aelodau o'r pwyllgor, ac yn dewis y testynau ar y dechreu ac yh derbyn y gwobrwyon yn y diwedd. Nid oes achos ymhelaethu ar hyn, oblegid fe wel pob dyn bedyddiol yr. afresymoldeb o'r fath gamwri. Beirniadwyd y traethodau a'r farddoniaeth gan y Parchedigion canlyn- ol: -William Thomas, M.A., T. James, M.A., T. Williams, a J. R. Morgan (Lleurwg). Fel hyn, terfynwyd un o'r eisteddfodau mwyaf annhrefnus ag a gyn- nbaliwyd ar dir sych erioed. Yr oedd yr elw yn myned at gapel Ebenezer, Llan- dyssul. MORGAN JONES.

YMLID YSBRYD YN NGWRECSAM.

[No title]

LLOFRUDDIAETH ARSWYDUS YN…

LLOFFION CYMREIG.