Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

YMHEBGBRAETH YR EHANGDEE.…

LLANIDAN.

News
Cite
Share

LLANIDAN. .'V III. Prif gywreinion y Llan adfeiliedig ydynt y Maen Morddwyd a gedwid gynt yn ddiogd yn y pared rhag myned o hono ar grwydr o'r fangre gyssegredig, a Chawg y Dwfr Sanctaidd yn ystlys-bost Porth yr Eglwys, sef math ar gafn-faen yn taflu allan'o'r mur yn nghil y drws, ryw lathen a. hanner, mwy neu lai, goruweh y pal- mant. Prif hynodrwydd y cawg hwn yw ei allu sugn-dynol. Y mae bob amser, meddant i ni, yn llawn bron at yr ymylon o ddwfr glan, gloew, pereiddflas, a haen 0 raian man yn ei waelodion, a'r cwestiwn ymgyfyd yn naturiol yw, o ba le y daw y dyfroedd hyn i'r cawg ? Ni ddisgyn y gwlaw o'r nefoedd iddo, canys y mae tan dô, a saif, fel y sylwyd, encyd uwchlaw'r llawr. Nid oes na phibell na pheth i gludo'r elfen deneu ysblenydd i'r dwfr- lestr, ac etto y mae yn wastad yn llawn. Rhaid mai rhyw allu attyniadol yn y nitii yw'r achos gwirioneddol o'r rhyfedd- beth hwn. Priodolai yr hen frodyr hy- goelus gynt, y cyfan i rad a bendith Sank Idan. Bid a f, y mae ryw hynodrwydd arbenig yn y faith. Ond oddnvrth y ffaith at y fug. Dywecl Giraldus Cambrensis yn ei Deitblyfr, am y Maen Morddwyd, "i ba le bynag y symudid ef, y dychwelai i'w le yn y nos." Sicrhaodd Hugh Lupus, Iarll Caerlleon ar Ddyfrdwy, y maen hwn a chadwyn gref wrth faen mwy a thrym- ach, a bwriodd y ddau i eigion y mor. Ond erbyn boreu trannoeth, er syndod i bawb, yr cedd y Maen Morddwyd wedi diangc o'i gadwynau, a dychwelyd o'r dyfnior yn daclus i'w le. Nid ydym yn deall ei fod yn feddiannol ar y gallu hunansymmudol hwn yn yr oes oleu hon. Dyna brif greiriau creirfa gyfoethog Llan- idan. Ond at y creiriau ereill-y man relics a hynodant y ddarn-Eglwys henaf- °V Awn drwy'r "porth" i'r "Llan." Siommir ni braidd ynddi, canys o^fexvn y mae pob gweddusrwydd a glanweithdra: y llawr wedi ei ysgubo, y iti-Liulau wedi eu gwyngalchu, y creiriau wedi eu dosbarthu wrth drefn a rheol, ac GIAV ac hanes pob crair yn argraffedig ar gerdyn wrtho- pob peth yn weddaidd ac mewn trefn." Ar y mur cyferbyniol wele yn llawn llythyr y geiriau, Gwylia ar dy droed pan fyddych yn myned i dy Dduw."—Pregethwr v. 1. Cenadwri yn ei hamserini rhag annghofio o honom y cyssegr yn y Greirfa. Yr yd- ym yn sangu daear sanctaidd wrth gerdd- ed hyd a lied y deml hon. OfFrymwyd llawer gweddi 0 fewn ei muriau hi." Y peth cyntaf a dyn ein sylw o fewn ei chynteddau yw « The Reliquary oj St. Aian, a gaed 0 dan yr Uchei Allor- High Altar. Math o flwch grutfaen yw, yn yr hwn y cedwid yn ofalus relics y nawdclsant. Y peth liesaf, lien gareg lwydaidd oedd unwaith uwch capan drws yr Ardd. Arifi cxwn y ilad Lladinaidd isod: | j ) Locatus in V 1 1 HOMO< Damnatua ex. ) I „ I I II 5 ^umatus in ) 1 HORTO. _• (_Wenatusin ) J Y mae yn nghadw 0 fewn i'r greirfa hon hen Fedyddfa Normanaipdd, a gor- phwysn ar hyn o bryd ar bost dial, ac ar- no y dyddiad a'r enw R. P. 1768." Ced- wir yma yn ofalus "a goriud yr hen Eglwys, yr hwn sydd 0 faintioli anferth, a rhaid fod y clo y perthynai iddo yn gadarn nerthol. Cawn o'n cwmpas am- ryw lawfelinau {querns), a ddygpw^ yma i'w cadw o wahanol fanau yn y plwyf a'r cyffiniau. Cludwyd yma rai gweddillion hynafiaethol 0 ben balas enwog Bodowyr, ac yn eu mysg pen coronog benyw.' Cafwyd amryw gywrain-bethau yn Nghapel Bodowyr, sef aden o'r hen Eg- lwys ddidoedig oddiallan. Sylwasom ar darian ac arfbais," date 1197, perthynol i'r Meredyddion, a phenbenyw cabol- edig :a gafwyd yn yr'ystlys-gapel, a maen bychan ac arfbais Prysiaid Bodowyr, a gafwyd 0 fewn i'r Eglwys. Cedwir yma hefyd faen bychan arall perthynol i'r hen Eglwys, ac arno yn gerfiedig :— 1601, LE OE H 0.. Y mae frame-work ffenestr ddwyreiniol ardderchog yr hen eglwys yma yn gyfan, ac y mae gwaith godidog ami. Erys mewn cadwraeth dda er cymmaint ei hoedran, a rhydd i ni rhyw ddrvchfeddwl lied gywir o ogoniant y ty cyntaf." Nid yw yn ol i'r colofnau a'r bwäu mewn cyw- reinwaith cun a- morthwyl. Gosodwyd i fyny ar furiau y greirfa y gwyddfeini syml a frithent barwydydd yr hen Lan- dismantled church. Cyfodwyd hwynt i drosglwyddo i olafiaid, fel y tebygasid, enwau ac achau hen fonedd v fro, bonedd ag sydd erbyn hyn wedi pallu o'r tir, fon- cyff a changen. Perthyna dau tablet i hen fonedd Llanidan. Codwyd y cyntaf er cof am William Hughes, obiit Mehefin 12fed, 1765 John Hughes, Ionawr 29am, 1766: Jane Hughes, Chwefror 12ferl, 1743; Richard Hughes, Ionawr 6ed, 1745 a Margaret Lloyd, eu mam, yr hon a gladdwyd Tachwedd 21ain, 1769, yn 50 oed. Ar yr ail tablet cawn y feddar- graff hon Underneath lie the remains of William, an infant son of Robert Lloyd, of Porthamel. He' died Dec. 8, 1776, aged 8 months. Also Margaret, wife of the above-named Robert Lloyd, who died July, 1777, aged 20 years. Also the above-named Robert Lloyd, who departed this life the 20th of March, 1785, aged 44." Ar wyddfaen arall darllenwn, Here lieth the remains of Margaret, the wife of John Rowland. She died Octo- ber 19, 1783, aged 64." Cawn yma ddau tablet perthynol i Bodowyr. Ar y naill y mae y cerfiad hwn :— "Neere this place lyeth ye body of Edward Price, of Bodowyr, Esq., who de- parted this life ye 6th of March, Ano. Dni. MDCLXXI. Ætatis suae xxxviii & x months." Ac ar-y llall Here lyeth Hen. Price Fitzgerald, of Bodowir, gent., son to Edmund Fitz- gerald, gent., and Mary Price, who died Apr. xii. MDCCIX. Being lineally de- scended from Gerald Oge; of Rathroan, who was descended from Mac Thomas, a younger son of the Earl of Kildare, in Ireland. ALt. xxxiv. iv. ms. R.V.P." Ychydig i'r gorllewin oddiwrth yr eg- lwys saif Ffynnon Idan," hen fedyddfan gyntefig y Llan, o bossibl, a bwrlymia etto ei dyfroedd byw i'r lan at wasanaeth "Y Plas." Dyna fraslun o hanes Llan Idan. Y mae hen annedd-dy yn y plwyf yn dwyn yr enw Cadair Idan hyd y dydd hwn. Flynyddau yn ol bu un Thomas Gibson yn glochydd yn Llanidan. Yr oedd iddo dri o feibion a dwy o ferched. Bu ei fab, John, yn ardc1 wr yn Madryn trigai ei fab, George, yn nghymmydogaeth Bryn- siencyn, ac yr oedd ei fab, William, yn fath 0 oruchwyliwr a garddwr i Samuel Price, Ysw., Penarth, ger Conwy, a bu farw yn Llerpwll. Mab William Gibson, ac wyr i Thomas Gibson, ydoedd John Gibson, y sculptor enwog, yr hwn a fu farw yn Rhufain Ionawr i7eg, 1866 ac a 1111 O' f UrV' gladdwyd yno. Ehaid canu'n iach i'r adail gyssegr- edig. Vale. "Yr hen fynachlog anwyl! mae'n resyn bod dy wedd, Y n ail i gorph pydredig dan dywyllleni'r bedd Ni chenir Cred na Pbader ar wawr na gosper mwy, Yr Ave her ni pbyncir, na'r Saut gan blaut y plwy' Ni chlywir yn y gangell un gyngan ond y gwynt Yn gwatwor yr alawou a genid yno gynt."

-.------------.."__._"-----.-_-DAMWAIN…