Skip to main content
Hide Articles List

1 article on this Page

CHWAREL Y PENRHYN. 1

News
Cite
Share

gael ei wneud, y bydd i bob achos gael ei ystyried yn unigoL Y mae y ddau erfyn- iad diweddaf hyn yn tueddu braidd i ddangos nad ydyw y gwaith yn chwarelan y Penrhyn wedi bod lawn mor anymunol ag y gosodid allan. (j) Nas gellid cyd- synio ar fod caniattad i'r cyrnmerwyr bargeinion ddewis eu partneriaid mewn amgylchiad o wagle, oblegid gallai agor y drws i gamarferiad pwysig, yn y ffordd o ddewis cyfeillion neu berthynasau, pa rai a allant fod yn weithwyr is-raddol, ond fod enwau i gael eu hanfon gan y fargen gymmerwr i'r goruchwyliwr am ei gydsyniad. (k) Wedi ei ganiattau, yn ogymaint a bod y perchenog o dan yr argraph fod y fath bwyllgor yn bodoli yn bresennol, fel yr ydoedd gynt, a'i ddymun- iad ydyw ar fod iddo gael ei gyfansoddi fel y cynnygir. Gwrthwynebir y paragraph olaf, yn cynnwys cynnyg gyda golwg ar attal cy- hoeddiad yr ohebiaeth bresenol, neu un- rhyw un pellach, yn gymaint a bod cyhuddiadau a wnaed yn erbyn personau wedi ymddangos yn y papurau cyhoeddus, a theg ydyw fod i'r attebion i'r cyhudd- iadau hyny gael derbyniad hefyd. Ar y 9fed o Fedi cyfarfu Mr Lloyd y pwyllgor drachefn, ac wedi darllen iddynt y papyr blaenorol diweddaf, rhoddodd iddynt yr attebion eglurhaol ychwanegol a ganlyn i ofynion a roddid iddo ar y pryd gan y pwyllgor. Attebion Eglurhaol Pellach. 1.—Gallu y prif oruchwylwyr yn y chwarel.—Y mae Arglwydd Penrhyn wedi penderfynu ar fod i achosion o droi ymaith gael eu cyflwyno i'w penderfynu gan Mr Lloyd, ond y mae dynion o'r new- ydd yn y chwarel i gael eu cymmeryd i mewn gan Mr John Francis, yn ddaros- tyngedig i reolaeth Mr Lloyd. 2.—Yr unrhyw.-Bydd gan Mr John Francis awdurdod i stopio hyd nes y byddo y gwahanol achosion wedi eu har- chwilio gan Mr Lloyd, yr hwn a bender- Cyna arnynt. 3.— Lleiaf-dal pennodedig eyflou.- Y mae Arglwydd Penrhyn yn wrth- wynebol i leiaf-dal pennodedig o gyflogau heb unrhyw sicrwydd neillduol y bydd i waith gael ei gyflawni. Arweiniai addewid yn unig i weithio yn onesfc i annghydwel- ediad parhaus ac ymchwiliad rhwng y goruchwylwyr a'r dynion, ond fel y dy- wedodd eisoes, y mae wedi addaw y bydd yr allowances yn gyfryw ag i alluogi gweithwyr ymarferol i ennill y cyflogau a enwyd gan y dynion, ac y mae pennod- iad uchel oruchwyliwr yn sicrwydd y bydd i'r telcrau gael eu cario allan yn deg gan oruchwylwyr y chwarel. 4-Dynion a bechgyn yn ol 10s. yn y bunt. Bydd i'r cyfryw ddynion gael eu i cymmeryd i mewn yn y chwarel i fysg cyrnmerwyr bargeinion, ond y maeyn am- mhosibLcaniattau ar fod iddynt gael eu rhoddi i weithio ar graig ddifudd mewn rhanau o'r chwarel fwriedir adael o'r neilldu. 5.-—Bybelwyr.—Bydd i'r cyfryw allow- ances ag a roddir yn awr i'r dynion hyn yn Chwarel y Faenol gael eu rhoddi, o dan yrun amgylchiadau, yn Chwarel y. Penrhyn. 6.-Rhwbel labrwyr.-Nis gellir rhoddi un codiad i'r dynion hyn, gan eu bod eisoes yn derbyn mwy na rhwbel labrwyr Llanberis. 7.-Seiri Meini.—Y mae 3s. 6c. i 4s., yn ol teilyngdod, wedi ei addaw eisoes, ond os bydd i ddynion y Faenol o'r un ieilyng- dod yn cael 4s. 6c., caniatteir ef i ddynion o'r cyffelyb ddosbarth yn y Penrhyn. 8.-Platelayers.-Gydag un eithriad nid yw y rhai hyn ond labrwyr yn unig, ac nid ydynt yn gweithio ar yr un gor- chwyl a rhai ar ager reilffyrdd. Y mae y cyflogau yn y dosbarth hwn eisoes wedi bod o 15s. i 18s. yr wythnos, ond os der- bynia platelayers o gymmeriad medrus 3s. 6c. y dydd yn Chwarel y Faenol, y mae Arglwydd Penrhyn yn foddlawn i godi y cyfryw ddynion i'r swm hwnw. 9.-Dynion a drowyd ymaith yn 1870. -Ni bydd i Arglwydd Penrhyn roddi y fath addewid ag a ofynir i'r dynion fel corph. Ond pan fyddo angen am ddwy- law newyddion, rhoddir ystyriaeth i ym- ofyniad oddiwrth unrhyw un o'r dynion hyn. 10.-Dynion a aethant ymaith yn wir- foddol.—Nis gellir gadael bargeinion yn segur i'r dynion hyn am _fwy na mis. Aethant ymaith yn wirfoddol, ac os na ddychwelant yn ystod yr amser hwnw, rhaid iddynt ddyoddef canlyniadau eu gweithredoedd eu hunain. 11.—Partneriaid mewn bargeinion.— Bydd i enwau gael eu cyflwyno gan y bargeinwyr i oruchwyliwr y chwarel, ac mewn amgylchiad o wrthodiad i'r pen goruchwyliwr neu gyflafareddwr. Castell Penrhyn, Bangor, G. C., Medi 16eg, 1874. ANWYL MR BARBER,—Pan dderbyniais y papur ynhwyr nos Sadwrn wedi ei arwyddo gan y pwyllgor yn cyttuno i fyned at eu gwaith, gwrthwynebais eglurhad ar eiriau neillduol a ysgrifenid ar ddarn o bapur gwahanedig, ond ni ddarfum ar y pryd sylwi fy mod wedi "caniattau i'r Chwarel bennodi pwyllgor i gymmeryd gofal pob cwynion i'w gosod o flaen y canolwr." Ysgrifenais at Mr Lloyd y boreu canlynol (y Sul) i'w hysbysu y byddai i mi ym- weled ag ef, ond yr oedd yn rhy wael i'm derbyn, a gadawodd cartref am y cyfandir foreu ddydd Llun yn rhy gynnar i mi fod yn alluog i'w weled. Y mae yn ymddangos i mi nad oes genyf unrhyw allu i attal y dynion i gy- flwyno eu hanghydwelediadau i bwyllgor cyn eu cyflwyno i'r cyflafareddwr os byddant yn dewis, ond nid oes genyf fwriad na gallu i ddyweyd y gallant wneud hyny. Byddaf yn barod i sylwi ar gwynion neu anghydwelediadau, pa un bynag a fyddant yn dyfod oddiwrth ber- sonau unigol neu oddiwrth bwyllgor yn gyfansoddedig o ddynion yn gweithio yn fy chwarel, cyffelyb i'r hwn sydd wedi cario ymlaen yr holl ymdrafodaeth gyda Mr Lloyd,—Yr eiddoch yn gywir, PENRHYN. H. Barber, Ysw., Penrallt. Gwelir fod Arglwydd Penrhyn yn ei lythyr o Bournemouth, dyddiedig Medi 2, yn cyfeirio at gyhuddiadau a wnaed gan y pwyllgor yn erbyn amrywiol ber- son au cyflogedig yn llywodraethiad y chwarel, a'i fod wedi gorchymyn ym- chwiliad i'r cyfryw gyhuddiadau. Y cyhuddiadau hyn oeddynt- I .-Fod gweithwyr, tra yn cael eu talu yn y chwarel, wedi eu cymmeryd oddiyno gan yr is-oruchwylwyr i ofalu am eu defaid a chyflawni goruchwylion ereill er eu budd personol. 2.—Fod is-oruchwylwyr ereill, mewn Hiaws o amgylchiadau wedi cyflenwi Ilechi o'r chwarel i bobl yn adeiladu yn Gerlan, Llanfairfechan, a lleoedd ereill heb gydna- byddiaeth (receipt) am ypris (yn awgrymu, y mae'n ymddangos, nad oedd cyfrif wedi ei roddi am yr arian). Ni roddwyd ond tair engraifft o'r cyfryw achosion. 3.-Fod symiau wedi eu dal wrth settlo o ennillion cyfiawn y dynion. Dygwyd tuag ugain o engreifftiau i gadarnhau y cyhuddiad hwn, o dynu allan daliadau gwahanol y dynion yn ystod un mis. Gwnaed achwynion ereill ar yr un pryd, ond yr oeddynt naill ai o gymmeriad an- eglur neu gyffredinol yn unig, neu yn gynnwysedig yn y gofynion am y Slain o Awst. Gorchymynodd Arglwydd Penrhyn wneud ymchwiliad diduedd i'r cyhuddiad- au pwysig uchod gan ei gyfreithiwr, yr hwn mewn canlyniad a'u harchwiliodd yn drwyadl. Cafwyd fod y cyhuddiadau Rhif 2 a 3 yn gwbl ddisail. Yr oedd pris y llechi a werthwyd o'r chwarel wedi "rhoddi cyfrif dyladwy am danynt yn y llyfrau yn yr oil ond un amgylcbiad, yr hwn oedd yn rhy bell yn ol mewn dyddiad i allu ei olrhain yn foddhaol. A'r arian a delid ar ddydd cyfrif oeddynt symiau a roddasid yn mlaen Haw i'r dynion ar eu dymuniad hwy eu hunain mewn rhagolwg ac ar gyfrif eu hennillion, ac o ba rai yr oedd cyfrif rheolaidd wedi ei gadw yn unol ag hen arferiad yn y chwarel. 0 blaid y cyhuddiad cyntaf, cymmerwyd tystiolaethau nifer o dystion yn Port Pen- y rhyn ac yn y chwarel. Dygai rhai o'r tystion hyn yn erbyn yr is-oruchwyl- wyr eu bod wedi gwneud i fyny gyf- logau y dynion iddynt yn eu habsenoldeb o'u gwaith yn y chwarel drwy wneud false-entries yn y cyfrifon, neu drwy al- lowances gormodol ac annghyfiawn, tra y cyfyngai tystion ereill eu hunain i ddyweud eu bod yn cael eu gorfodi i weithio yn galettach mewn canlyniad i'w habsenoldeb oddiwrth eu gorchwyl rheol- aidd, mewn trefn i wneud i fyny eu tal- iad, ac mai hwy eu hunain oeddynt yr unig golledwyr. Byrhawyd yr ymchwiliad drwy i'r is- oruchwylwyr lawnodi papur yn wirfoddol, i'w anfon i Arglwydd Penrhyn i'r pwrpas canlynol Yr ydym wedi clywed y gwahanol ad- roddiadau a wnaed i'n herbyn. Gwedir rhai o honynt yn hollol, y mae ereill yn wir mewn rhan, ond wedi eu camliwio, ac ereill yr ydym yn barod i'w cyfaddef. Yr ydym yn gwadu i ni erioed wneud i fyny daliadau y gweithwyr drwy false-entries yn y eyfrifod, lieu drwy ganiattau iddynt daliad mwy o'r chwarel nag a ennillasant mewn gwirionedd. Yr ydym yn cydna- bod ddarfod i ni arfer defnydclio dynion o'r chwarel at ein hamcanion ein hunain, ond y mae yn hen arferiad cyffredinol, ac beb fod yn gyfyngedig i chwarelwyr y Penrhyn, ond yn bodoli mewn lleoedd ereill i raddau mwy fyth (yma enwid am- ryw chwarelau.") Wedi i'r cyfaddefiad rhanol hwn gael ei gyflwyno i Arglwydd Penrhyn, y mae efe wedi rhoddi cyfarwyddiadau mewn perth- ynas iddo fel yr ymddengys fod natur yr achos yn gofyn, ar yr un pryd yn gocliel am y dyfodol rhag deftiyddio dynion o'r chwarel gan yr is-oruchwylwyr i'w dyben- ion eu li-Linaiu,yn y fath fodct ag i achly- suro unrhyw ahnghyfiawnder, yn enwedig tuagat y dynion eu hunain. Yn y gofynion am y 31ain cynfisol, cynnwysir (g) fod y taliadau bob pedair wythnos. Yn gydmarol ddiweddar y daeth yr amseriad hwn i arferiad yn chwarelau y Faenol, ond nid oes brin dair blynedd ers pan gynnaliwyd cyfarfod yn ehwarelau y Penrhyn yn mha un y pen- derfynwyd gan y dynion i lynu wrth y cyfundrefn o setlo wrth y mis calendar yn hytrach na phob pedair wythnos. Pa mor lleied o reswm oedd gan y perchenog dros dybio fod troad ymaith y dynion yn 1870 (yn cael cyfeirio ato yn paragraph (h) o ofyniadau am y 31ain cynfisol) wedi ei gam ddehongli, neu fod unrhyw sail i anfoddogrwydd yn bodoli yn y chwarel, gellir gweled oddiwrth yr an- nerchiad canlynol a gyflwynwyd yn Awst y flwyddyn a enwyd diweddaf:- ANNERCHIAD GWEITHWYR CAE-BRAICH-Y-CAFN NEU LLECH-CHWARELAU Y PENRHYN. I'r Gwir Anrhycleddus Arglwydd Penrhyn, o Gastetl y Penrhyn, yn sir Gaernarfon. Fy ARGLWYDD,—Y mae yn ffaith ddigon hysbys fod tua phedwar ugain o ddynion wedi eu bwrw o waith yn llech-chwarelau eich arglwyddiaeth, ac y mae mantais annheg wedi ei chymmeryd ar yr am- gylchiad gan rai orpapurau Ileal i enllibio ac ymosod ar eicjh arglwyddiaeth a'ch goruchwylwyr. Yn ngwyneb y pethau hyn, y mae gweithwyr y chwarelau uchod wedi ystyr- ied yn ddyledswydd arnynt wneud gwrth- dystiad cyhoeddus yn erbyn y cam-ad- roddiadau a wnaed yn y papurau lleol, ac mewn trefn i sicrhau yr amcan hwnw cynnaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn Llech- chwarelau, y Penrhyn ar y 26ain dydd o Gorphenaf, yn mlwyddyn ein Harglwydd 1870, pan gyttunwyd yn unfrydol a'r pen- derfyniadau canlynol gan holl weithwyr eich arglwyddiaeth yn y chwarelau:— Ein bod yn cyfrif bwriad allan o waith nifer o'n cydweithwyr y mis diweddaf (Mehefin) i sefyllfa bresenol y farchnad lechi, ac ein bod yn teimlo yn wir ofidus oherwydd fod y fath angenrhaid; ac hefyd ein bod yn dymuno datgan ein teimlad o ddiolchgarweh i Arglwydd Penrhyn am ei anrheg i'r rhai allan o waith. Ein bod yn cyfiawn gydnabod awdur- dod Arglwydd Penrhyn i dderbyn i mewn, neu droi allan o'i waith, yn hollol fel y barno yn briodol, a hyny yn annibynol ar bob personau yn neu allan o'i waith. Ein bod yn gwrthdystio yn ddifrifol yn erbyn yr haeriadau (a ymddangosasant yn rhai o'r papyrau lleol) fod Arglwydd Penrhyn yn cadw caethweision gwyn- ion," a bod ei arglwyddiaeth mewn dull gwael ac annheg yn cymmeryd yr holl fudd iddo ei hun, tra yr ydym yn berffaith ymwybodol ein bod yn mwynhau pob rhyddid ag y gallai gweithwyr yn rhesym- ol ei ddisgwyl neu chwennych. Ein bod yn anghymmeradwyo y dull annheg ymha un y mae goruchwylwyr ei arglwyddiaeth, William Francis, Ysw., John Francis, Ysw., a Robert Morris, Ysw., yn cael eu camliwio a'u henllibio gan y wasg gyhoeddus. Ein bod yn cwbl anghymmeradwyo ym- ddygiad gobebwyr a golygwyr papyrau neillduol ac ereill sydd yn gosod eu hun- ain rhyngom ni ac Arglwydd Penrhyn, ac yn gobeithio gweled terfyniad union- gyrchol ar y fath waith gwael a diangen- rhaid. Ein bod yn dymuno cyflwyno i Ar- glwydd Penrhyn ein diolchiadau diffuant am ei garedigrwydd gwastadol a'i haelioni tuag attorn ni, ei weithwyr, ac hefyd i'w barchus oruchwylwyr am eu caredig- rwydd i ni. Llawnodwyd ar ran y gweithwyr genym ni, eu cynnrychiolwyr yn mliwyligor William Jones, Chwarel-gocb, cadeirvdd. Owen Jones, Bethesda. Thomas Thomas, I I irdit-. Robert Williams, Bryntiriou., Evan Thomas, Cerrigllwydion. Edward Jones, Gerlan. William Jones, Rhiwlas. Owen Pierce, PenbryD. Robert Williams, Tansgapell. i- Griffith Thomas, Braichmelyn. Griffith Davies, Coedyparc. Morris Evans, Coedyparc. William Trevor, Glanmeurig. The mas Mori is, Bryniau. Rowland Williams, Penybryn. Hugh Hughes, Craigypandy. John Evan, Llanfairfechan. Hugh Davies, Cilgeraint. John Williams, Red Lion, Llanllechid. John Roberts, Penybryu. J:) William Jones, Gerlan. £ •, i Michael Hughes, Caellwyngrydd. John Hughes, Sling. Hugh Joseph, Bryntirion, Bethesda. Owen Hughes, Carneddi. John Williams, Gefnan. Morris Williams, Frondeg. Robert Robert Thomas, Carneddi-road, ysgrifenydd. Dyddiwyd Awst 2il, 1870, v Llech-chwarelau y Penrhyn. Pa fodd y tarddodd yr annerchiad hwn a ymddengys oddiwrth y dyfyniadau can- lynol o'r Carnarvon and Denbigh Herald, am Gorphenaf 30, 1870 Y TROI ALLAN YN LLECH-CHWARELAU Y PENRHYN. Pry du awn dydd Mawrth diweddaf cyn- naliwyd cyfarfod o'r gweithwyr (yn rhifo '4 tua 3,000 o wyr a bechgyn) cyflogedig yn Llech-chwarelau y Penrhyn, ar y "bane," ger y lie tamo, yn nghanol y chwarel, i'r dyben o wrthdystio yn erbyn yr ymosod- iad a wnaed mewn cyfryngau neillduol o'r wasg Gymreig ar weithwyr y chwarelau, ac hefyd i wrthdystio yn erbyn yr anfri mawr a daflwyd ar y goruchwyl- wyr parehus a charedig a pherchenog caredig y gwaith." Ymddengys fod y symudiad hwn yn tarddu yn uniongyrchol ar ran y gweithwyr, a chadwyd ef mor gyfyngedig, mor hollol yn eu mysg eu hunain, fel nad oes gan yr awdurdodau gyfleusdra, fel y mae genym reswm i gredu eu bod yn tueddu, i'w^innghym- meradwyo. Nid yw chwarelwyr Cymreig yn amddifad o gynlluniad, oblegid gall y symudiad hwn ymffrostio mewn pwyllgor, cyfansoddedig o gynnrychiolydd (gweith- iwr) o bob "pone." Chwarelwyr yn eu dillad gwaith ydoedd y llywydd a'r oil o'r llefarwyr, a'r esgynlawr ydoedd carnedd o rwbel; yr awr ddewisedig oedd yr awr ginio. Yr oedd yn olygfa i weled y dynion yn ymffurfto yn rhengau hirion i'r man cyfarfod o bell leoedd y chwarel wrth swn y corn yn cyhoeddi canolddydd, ac yn un arall eu gweled yn dychwelyd i'w gwaith wedi terfyniad y gweithrediadau mewn dull trefnus, parchus, a thawel. Cynnygiodd Mr Owen Jones, Brynsa- lem, a chefnogodd Mr John Williams, Red Lion, Llanllechid, a chyttunwyd yn unfrydol fod i Mr William Jones, Chwarel Goch, lywyddu. Y Cadeirydd, wedi i'r esgusodion llyw- yddol arferol, a ddywedodd fod y cyfarfod hwn yn perthyn i'r gweithwyr ac iddynt hwy yn unig, ac nid oeddynt yn disgwyl nac am ganiattau i neb arall i wneud dim yn y symudiad. Perthynai iddynt hwy, ac yr oeddynt am ei gadw iddynt eu hun- ain. Yr oeddynt wedi ffurfio rhaglen, a byddai i bobpeth fyned ymlaen yn unol a'r rhaglen. Nid oedd ef yn disgwyl i'w gyd- weithwyr siarad os nad el wid arnynt, oblegid byddai yn anfanteisiol i fyned ymlaen heblaw mewn dull trefnus. Byddai yn ddyledswydd arno ef alw ar y rhai a enw- asid i gynnyg a chefnogi y penderfyniad- au oeddynt wedi eu tynu allan. Dichon y dylai ddyweyd gair neu ddau mewn eglurhad. Yr oedd y symmudiad hwn wedi ei gychwyn, ei gario ymlaen, ac i gael ei derfynu yn hollol ganddynt hwy fel gweithwyr hefyd, dymunai ddyweyd nad oedd gan unrhyw oruchwyliwr oddi- fewn nac oddiallan i'r chwarel law ynddo, ac na fyddai a fynont ag ef. Dymunai argraffu hyny yn eglur, ac hefyd nad ydoedd y gweithwyr wedi eu dirwasgu neu eu gyru yno, ond eu bod wedi ymuno a'u gilydd o'u hewyllys rydd eu hunain. Am- can y cyfarfod, yn y lie cyntaf, oedd i ar- ddangos i'r byd eu hanghymmeradwyaeth o'r personau a'r papyrau a amcanent iselu Arglwydd Penrhyn a'i oruchwylwyr mewn cyssylltiad a hwy fel chwarelwyr, ac hefyd i wrthdystio yn erbyn yr hyn a ddywedasid am danynt hwy eu hunain. Cynnygiodd Mr Riel-iard Hughes, Cae- llwyngrydd, y penderfyniad cyntaf -I( Eill bod ni yn cyfrif y troi allan o nifer o chwarelwyr yn mis diweddaf (Mehefin) i farweidd-dra yn y fasnach lechi, ac yr ydym yn gofidio oherwydd yr angenrlieid- rwydd o wneud hyny." Cefnogwyd y penderfyniad g'an-Mr John Williams, Red Lion, Llanllechid. Fod y fasnach yn farwaidd oedd yn eglur. Fod cynnifer wedi eu troi ymaith o chwarelau ereill oedd yn profi marweidd-dra mas- nach, ond hyd yn nod o'r marweidd-dra hwnw yr oedd y newyddiaduron wedi cymmeryd mantais i wneud ymosodiadau iselwael a chreulon gyda'r bwriad o isel- hau Arglwydd Penrhyn a'i oruchwylwyr a'i weithwyr gonest. Yr oedd yr ysgrif- enwyr yn cadarnhau yr hyn yr oedd yn rhaid eu bod yn gwybod oedd heb fod yn gywir, a chyfrifent i achos plentynaidd yr hyn a wyddent oedd yn gwbl ddyledas i farweidd-dra masnach. Yr oedd cannoodd wedi eu troi allan o wasanaeth cwmni y Welsh Slate, ac yr oedd yn rhaid i ereill weithio amser byr, dim ond pedwar diwr- nod yr wythnos. Yr oedd y cylfogau wedi eu gostwng yn Chwarel Penyrorsedd. Pasiwyd y penderfyniad gyda brwd- frydedd, a sylwai y cadeirydd nad oedd. o un dyben galw am wrthwynebwyr pan yr oedd pawb yn unfrydol. Mr Griffith Davies, Coedyparc, a dclar- llenodd y penderfyniad nesaf gyda golwg ar gyflogiad a throad ymaith dynion, yr hwn a, gefnogwyd gan Mr David Thomas, Glasinfryn, gan sylwi fod, pan oedd rhagolygon y fasnach lechi yn dra ffafriol rai blynyddoedd yn ol, Arglwydd Penrhyn a'i oruchwylwyr, yn lie dwyn i mewn gant neu ddau o estroniaid, wedi cymmeryd prentisiaid a meibioni chwarel- wyr i'r gwasanaeth. Cariwyd y pen- derfyniad gyda brwdfrydedd, ac esboniai y cadeirydd ar y difrifoldeb gyda pha un y derbynid y penderfyniadau. Mr Owen Jones, Bryngoleu, a gynnyg- iodd y penderfyniad nesaf yn erbyn rhyw gyhuddiadau o eiddo y wasg, yr hwn a, eiliwyd gan Mr Griffith Thomas, Braich- melyn, ac a basiwyd gyda brwdfrydedd. Mr Morris Williams, Frondeg, a gyn.