Skip to main content
Hide Articles List

1 article on this Page

CHWAREL Y PENRHYN. 1

News
Cite
Share

CHWAREL Y PENRHYN. 1 Wedi sefyll allan am yr ysbaid o chwech wythnos, y mae chwarelwyr Cae Braich y Cafn wedi ymgymodi a'r perchenog, a dychwelyd at eu gorchwylion. Diamheu y bydd i hyn roddi boddlonrwydd cynredm- ol i'r wlad, yn ogymaint ag y gallasai par- had yi anghydfod am ychydig yn wy esgor ar ganlyniadau gofidus. an o yr achos wedi cael cymmaint! o sylw y» vstod y chwech wythnos diweddaf, credwn y byddai yn ddyddorol cyhoeddi y cryn- nodeb canlynol o'r gohebiaethau rhwng y pleidiau, modd y caffer cyfle i farnu a phwyso yr achos yn deg tuag at y naill ochr a'r Hall. A ganlyn sydd rwydd- gyfieithiad o'r gohebiaethau y dymumr arnom eu cyhoeddi Bethesda, Awst 31, 1874. SYRS,-Gyda'r amcan o benderfynu y pyngciau sydd rhwng Arglwydd Penrhyn a'i chwarelwyr, yr ydym ni, yr is-bwyllgor, yn dymuno cyflwyno yr awgrymiadau canlynol i ystyriaeth, pa rai yr ydym yn meddwl a allent symud yr anhawsderau canlynol sydd yn amgylchu penderfyniad y pwngc. Yr ydym yn teimlo fod y pen- derfyniad yn dibynu yn benaf ar an- ymddiried y dynion fel corph yn y llywodraethiad presenol. Yrydym dan orfodaeth i sylwi ar y pwynt hwn ar ba un v dibvna bodolaeth yr holl achos. I —Er rhoddi ymddiried yn y dyfodol, yr ydym yn awgrymu yn barchus ar fod i'w arglwyddiaeth enwi pen neu uchel oruchwyliwr y chwarelau, i'r hwn y gellid cyflwyno pob cwynion, ac yn llaw hwn y gorphwysai yr hawl i logi neu droi ymaith- y gweithwyr. Yr ydym yn cymmeryd y rhyddid i awgrymu y dylid ymddiried y fath uchel lywyddiaeth i brif oruchwyliwr yr etiteddiaeth, Pennant A. Lloyd, ysw., gan deimlo yn hyderus y byddai i'r fath drefniant ennill ymddiriedaeth y dynion. 2.-1 gyfarfod anymddiried eang a chyfiawn y dynion mewn gosod bargein- ion a llywyddiaeth weithredol gyffredinol, yr ydym yn barchus ond difrifol yn gofyn ar fod i'w arglwyddiaeth bennodi ail brif oruchwyliwr gweithredol, gyda gallu cym- mesur ag eiddo Mr John Francis yn mhob ystyr- a bydd i chwi ganiattau i ni awgrymu Mr J. H. Owen fel person yn yr hwn y byddai gan y dynion yr ymddiried uchaf. Argraffwyd ar ein meddyliau gan yr ychydig brawf a ganiattawyd i ni o Mr Owen ei fod yn uniawn a chyfiawn, fel rhwng meistr a dynion. 3.-Gellir cyfarfod ein gofynion cyntaf am safon lleiaf-dal o 30s. yn y dull canlynol: -Fod, ar yr amgylchiad, i'r pris a ofynir gan y dynion ar eu bargeinion gael ei ganiattau, iddynt sefyll neu syrthio ar y cvmmeriad hwnw; ond mewn amgylchiao o'u aorfodi gan y goruchwyliwr i weithio ar ei bris ef, ac iddynt fethu sicrhau cyflog priodol ar y cymmeriad hwnw, fod i gyf- logau y chwarelwyr (cymmerwyr bargein- ion yn gweithio Uechi) yn y fath am- gylchiad, ac yn y fath amgylchiad yn unig, gael eu gwneud i fyny yn 28s. yr wythnos ac fod i gyflogau chwarelwyr yn gweithio wrth y Hath, mewn amgylch- iad cyffelyb, gael eu gwneud 1 fyny yn 273 yr wythnos ac i gyflogau cymmer- wyr bargeinion mewn craig ddrwg, mewn amgylchiad cyffelyb, gael eu gwneud i fyny i 25s. yr wythnos. Byddai ir ifchod yr ydym yn meddwl, gyfarfod yr achos, bod yn amddiffyniad i feistr a dyn- ion, ac yn benderfyniad ar y 30s. lleiaf- dal. fgi pwyntiau ailraddol, dymunwn osod ger eich bron er eich ystyriaeth y canlynol :-(a) Fod i fargeinion gael eu trefnu i'r rhai dros ugain,paraioeddyntar ddechreu yr anghydfod yn gweithio yn ol 10s yny bunt, (b) Fod i'r prisiau a ddyfymr genych eisoes am wneud llechi, &c., gael eu mabwysiadu. (c) Fod i godiad yn y dunnell gael ei ganiattau i labrwyr rwbel. (rl\ Fod i seiri meini gael caniattau o Ss 6c i 4 s. 6c., yn ol teilyngdod. (e) Fod i platelayei-s gael eu caniattau o 2s. 6c i a, Gc yn ol teilyngdod. (J jFod ir tfi;.Vfnd bob nedair wythnos. (;i) Fod 1 Id t v d gad el gwneud fod iT rhai a dro- d ymlb ?yf7^yweUdd"ane: Sn1^ ™%yrme^d.i mLn. („)' Foci amser yn cael ei ganiattau ir rhai sydd yn awr «di cymmeryd contracts y -j nvollll pVpiil i gyflawni eu con- mewn chwaiclau eie:advchwelyd i'w hen tracts, ac wedyn } rbyddid i'r lpoedd vn y chwarel. {}) JLOUX With y Aai npri'iid eu hunain, allan o biiti y bwyllgOT^'r chwarel lywodraethu y clwb ciaf Arglwydd Eenrliyn 1 fod yn llvwydd, y m-K ortrchwyliwr i fod yn rs-lywydd. Fod i ddau lywodraettiwr gweitluedol a dau o'r is-oruchwylwyr gael eu hetiiol. yn flynyddol i fod yn aelodau ex-qfi.cio 01 pwyllgor, ac an cliwarelwr o 1 -ol 1. pong yn y chwarel, banner y rhai u,» 1 gael eu '^I'l-VS-mfefhyn yn fyr v,«li myned drwy yr'holl gwestiwn, ond ar >1 un piyd yn teimlo fod yr holl fatterion ereill yn gorphwys ar Ithif 1, a 3, ac yr ydym yn gwasgu y rhai hyny yn ddifrifol at ys- tyriaeth eich arglwyddiaeth. Teimlwn yn dra diolchgar am atteb olynol i'r am- rywiol bwyntiau a gynnwysir yn y llythyr hwn. Bwriadwn, a gobeithiwn y bydd felly, i'r ohebiaeth bresennol, ac unrhyw un bellach a gymmero le, gael eu cadw oddiwrth y cyhoedd allanol a'r wasg. Nid oes angen i ni ddyweyd ei bod yn bwysig ar fod i attebiad buan gael ei roddi.— Ydym, syrs, eich ufuddaf weision, ROBERT PARRY, GRIFFITH EDWARDS, ROBERT ROBERTS, JOHN EVANS, WILLM. WILLIAMS, HUGH JONES. HUGH JONES, A ganlyn ydoedd yr attebiad a anfon- wyd o Bournemouth :— Bournemouth, Medi 2, 1874. Anwyl Lloyd,—Yr wyf newydd dderbyn y papyr a anfonasoch, yn cynnwys gofyn- ion presennol y pwyligor. Mor bell ag y gallaf wneud allan o'r papyr hwnw, y mae ynddo lawer o bwyntiau nas gellir eu caniattau. Gyda golwg ar bennodiad pen llywodr- aethwr, neu ganolwr, mewn achosion o annghydwelediad rhwng y prif oruchwyl- iwr a'r gweithwyr, yr oeddwn eisoes wedi bwriadu ar i un fod, ac felly nid wyf yn wrthwynebol i hyny; ond yr wyf yn wrthwynebol i gymmeryd i ffwrdd y gallu cychwynol i droi ymaith mewn achosion o gamymddygiad neu segurdod eglur oddi- ar y pen fiywodraethwr yn y chwarel, oblegid byddai gwneud hyny, ar unrhyw adeg yn ystod absenoldeb y pen canolwr, yn tahu yr holl chwarel gyda'i holl gyfrif- oldeb at drugaredd y gweithwyr eu hun- ain heb lywodraeth. Byddai i'r pen llywodraethwr yn y chwarel anfon pob achosion o droi ymaitn i'r pen canolwr. 0 berthynas i'r gofyniad am leiaf-dal pennodol o gyflogau, yr wyf eisoes wedi datgan fy ngwrthwynebiad lddo. Yr wyf yn foddlawn, fel yr wyf wedi dyweud eis- oes, ar fod i'r hyn a ganiatteir fod yn gyf- ryw ag i ganiattau i weithiwr aiwyd. a phrofiadol i ennill y cyflog a osodir i iawr yn yr adroddiad ydych eisoes wedi wneud yn nysbys, a byddant yn gyfartal ymhob dosbarth i'r rhai a rocidir yn Chwarelau y Vaynol. Y mae pennodiad canolwr yn sicrwydd digonol y bydd i'r telerau gael eu cario allan yn deg ymhob dosbarth o weithwyr gan y goruchwylwyr. Mewn perthynas i'r awgrymiad gyda golwg ar bennodiad Mr Owen fel cydweith- redwr a Mr John Francis, ni bydd i mi rwymo fy hun i bennodi Mr Owen na neb arall, gan y byddai yn aberthiad llywodr- aethiad fy eiddo fy hun, a'i drosglwyddiad drosodd i gyfarwyddiad (dictation) y pwyll- gor,—yr hwn bwyllgor, dylid cofio, ar ddechreu y strike hon a ymwrthodai a phob syniad am ymyraeth a llywodraeth- iad y chwarel. Nid oes genyf un gwrth- wynebiad, yn bersonol, 1 Mr Owen, ac mewn llawer o swyddau, yr wyf yn credu, y byddai yn ddyn tra defnyddiol, ond wedi bod o hono gynt yn gwasanaethu fel ysgol- feistr, ac yn ddilynol fel clerc mewir swyddfa, nid oes ganddo brofiad fel gweithiwr chwarel. Cymmerwyd ef i mewn yn Chwarelau y Vaynol wedi iddo ymadael a Chwarel y Penrhyn, llenad oedd wedi aros ond am fyr amser, ac y mae yn ganlynol wedi ymaclael y chwarelau hyny. Wedi ei wrthwynebu gan Mr Francis fel yn ddiffygiol mewn gwybodaeth ymarferol o chwarelyddiaeth, nis gellid dyweud y buasai ei bennodiad yn arddangos rhag- olwg [ffafriol am weithrediad diduedd iawn yn nglyn a Mr Francis yn llywodraethiad y chwarel. Yr wyf yn wrthwynebol i unrhyw gyf- ,arwyddiad (dictation) gyda golwg ar benderfyniad fy ngoruchwylwyr, er y dymunwn, wrth gwrs, ar fod i'r rhai a bennodir genyf weithredu gyda pherffaith degwch tuag at y dynion yn eu holl ym- wneud a hwy. Yr wyf yn wrthwynebol i'r term "an- ymddiried cyfiawn," a ddefnyddir yn adroddiad y pwyllgor am y llywodraeth- iad cyffredinol. Awgryma y termau hyny addefiad o wirionedd y cyhuddiadau a wnaed gan y pwyllgor yn erbyn amrywiol bersonau cyflogedig yn y llywodraethiad, ar hyn ni bydd i mi gydsynio, nes ceir canlyniad yr ymchwiliad, pa un, yn unql a fy addewid, sydd yn cael ei wneud i'r cyhuddiadau hyny. Mewn perthynas i lywodraethiad y clafdy a'r fudd-gymdeithas, credwyf fod y pwyllgor llywodraethol gynt yn cyn- nwys rhai o'r gweithwyr. Yr oeddwn yn deall ei fod felly etto. Yr wyf yn meddwl y dyiai, ac nid oes genyf un gwrthwyneb- iad, os pery y clwb, i gyfansoddiad y pwyllgor fel y cynnygir; ond yr wyf yn berffaith foddlawn os dymuna y pwyllgor i drosglwyddo drosodd yr holl lywodraeth i'r dynion eu hunain, ac i adael iddynt gael adeiladu y clafdy am ardreth nominal, ond o dan y cyfryw amgylchiad ni rwymaf fy hun gyda golwg ar y tanysgrifiad a gyfranwn. Gyda golwg ar beidio cyhoeddi yn y dyfodol unrhyw ohebiaeth berthynol i'r strike hon, ymddengys yn anmhossibl | wneud y fath gyttundeb. Er cymmaint yw fy awydd i liniaru pob teimlad gelyn- iaethus, y mae cyhuddiadau yn erbyn personau wedi eu gwneud yn y papurau cyhoeddus, gan y pwyllgor, a thrwy gyd- synio a'r fath gyttundeb, ceuid allan y cyfryw bersonau rhag glanhau eu cym- meriadau eu hunain. Wrth gwrs, drwy gydsynio i bennodi prif ganolwr, nid wyf yn rhoddi i fyny y gallu neu ryddid i droi ymaith ddynion fy hunan pan y byddo yn angenrheidiol. 0 berthynas i gymmeryd yn ol y dynion a drowyd ymaith yn 1870, nis gallaf gyt- tuno i wneud hyny, fel corph; ond os cymmerir rhai o'r dynion hyny yn 01, rhaid iddo fod ar ystyriaeth o bob achos ar wahan. Felly hefyd gyda golwg ar y dynion hyny ydynt ar ol y strike hon wedi myned i chwarelau ereill. Y ma,e y ddau ofyniad diweddaf braidd yn gwadu yr haeriad fod y chwarelwyr yn Chwarel y Penrhyn wedi bod yn waeth allan nag mewn unrhyw chwarel arall. Pe buasai felly, paham y cwyna y blaenaf eu bod wedi eu troi ymaith, ac yr awydda y diweddaf am ddyfod yn ol ? 0 berthynas i'r gofynion ynghylch y rybelwyr, platelayers, a rubbishers, yr wyf yn ystyried fod y pyngciau hyny wedi eu setlo, fel yn gynnwysedig yn y cyttundeb, y bydd yr "allowances" yr unrhyw ag ydynt yn bodoli yn Chwarelau y Vaynol, o ddosbarth i ddosbarth. Dylid cofio, yn Chwarel y Penrhyn, nad oes angen am i'r platelayers mewn cryn gyfartaledd fod yn weithwyr mor hyfedr ag ar linell o ager-reilffordd. Nid ydynt ond labrwyr yn unig yn ymwneud a'r ffurf fwyaf syml o lafur. PENRHYN. Trosglwyddwyd yr atteb uchod i Mr Pennant Lloyd o Bournemouth ar yr ail o Fedi; ond oherwydd ei afiechyd sydyn, anfonwyd brys-genadwri yn ddilynol atto, yn ei ryddhau am yr amser oddiwrth yr angenrheidrwydd o wneud mwy na thros- glwyddo attebion Arglwydd Penrhyn i'r tri gofyniad cyntaf, ar ba rai y dywedasai y pwyllgor fod yr holl fatterion ereill yn gorphwys. Trosglwyddwyd yr attebion hyn gan Mr Lloyd yn y geiriau can- lynol Lime Grove, Medi 5ed. Cyflwyhodd Mr Pennant Lloyd i Ar- glwydd Penrhyn yr awgrymiadau a rodd- wyd iddo gan y pwyllgor ar yr 31ain cynfisol. Dymunodd Arglwydd Penrhyn arno ddyweyd, mewn perthynas i'r cyn- nygiad cyntaf, mewn perthynas i bennod- iad pen goruchwyliwr' neu athrywynwr, neu gyflafareddwr mewn achosion o annghydwelediad rhwng pen goruchwyliwr y chwarel a'r dynion, ei fod ef (Arglwydd Penrhyn) yn barod wedi bwriadu i un fod, ae felly nid yw yn wrthwynebol i bennod- iad o'r fath; ond y mae yn gwrthwynebu i'r gallu cyntaf i droi ymaith mewn achos- ion o gamymddygiad neu segurdod amlwg gael ei gymmeryd oddiar oruchwyliwr y chwarel, oblegid byddai hyny yn ystod absennoldeb y prif gyflafareddwr unrhyw amser, osod yr holl chwarel, gyda'r holl gyfrifoldeb ynglyn a hi, at drugaredd y gweithwyr eu hunain, heb unrhyw oruwch reolaeth. Byddai i'r goruchwylwyr yn y chwarel wneud adroddiad i'r prif gyflafareddwr o bob achosion o droad ymaith. Mewn perthynas i'r cais am safon sef- ydlog o leiafdal, mae Arglwydd Penrhyn wedi nodi ei wrthwynebiadau iddo yn barod. Ar yr un pryd y mae yn foddlon, megis y dywedodd o'r bJaen, fod i'r allow- ances fod yn gyfryw ac a ganiattaont i weithiwr diwyd ac ymarferol ennill cyflog yn unol a'r raddfaau brisiau a'r dadganiad sydd yn hysbys yn barod, ac iddynt fod yn gyfartal ymhob dosbarth i'r prisiau a roddir yn chwarelau y Faenol. Mae pen- nodiad, cylfafareddwr yn sicrhad digonol y bydd i'r ammodau hyn gael eu cario allan yn deg. 0 berthynas i'r awgrymiadau gyda golwg ar bennodiad Mr Owen, teimla Ar- glwydd Penrhyn fod y pwyllgor i ryw raddau yn amcanu ymyraeth a llywodr- aethiad y chwarel, bwriad yr ymwrthodid yn gryf ag ef ganddynt pan dorodd yr anghydfod allan gyntaf; ond ar wahan oddiwrth y syniad hwn, y mae Arglwydd Penrhyn, tra heb feddu yn bersonol un gwrthwynebiad i Mr Owen, yn teimlo nad oes ganddo, wedi ei ddwyn i fyny fel ys- golfeistr, ddigon o wybodaeth ymarferol am weithio chwarel i'w roddi yn y sefyllfa gyfrifol y dymunai y dynion iddo ei llanw, ac er na ddymunai Arglwydd Penrhyn bennodi neb ond y rhai a ymddygent gyda pherffaith degwch at y dynion, y mae yn meddu gwrthwynebiad cryf i unrhyw gyf- arwyddiad (dictation) gyda golwg ar y cyfryw bennodiadau, ac y mae ef yn anghyrnmeradwyo y geiriau "anymddiried cyfiawn" a ddefnyddir yn adroddiad y pwyllgor, oblegid yr awgryma y termau hyny gyfadd efiad o wiredd y cyhuddiadau a wnaed gan y pwyllgor yn erbyn rhai. pe, a'r hyn ni chydsynia Arglwydd Penrhyn, tra yn aros canlyniad yr ym- chwiliad y mae yn ddwyn ymlaen yn unol a'i addewid. Gyda golwg ar lywodraethiad y clwb claf, creda Arglwydd Penrhyn fod y pwyllgor llywodraethol gynt yn cynnwys rhai o'r gweithwyr; tybia ei fod felly etto; a barnai y dylai wneud hyny yn awr; ac ystyria, os parha y clwb, y gellid cyfansoddi y pwyllgor yn deg o'r rhai a awgrymid yn awr; ond y mae Arglwydd Penrhyn yn berffaith foddlawn, os dymuna y pwyllgor hyny, i dros- glwyddo drosodd yr holl lywodraethiad i'r dynion eu hunain, ac i adael iddynt gael adeilad y clafdy am ardreth nominal, ond dan y fath amgylchiad ni rwymai Ar- glwydd Penrhyn ei hun i'r tanysgrifia3 a gyfranai. Mewn perthynas i'r pwyntiau ailraddol, bydd i Arglwydd Penrhyn weled fod y dynion hyn yn cael eu gosod ar yr un tir &'r rhai cyffelyb eu sefyllfa yn chwarel gymydogol y Faenol, ac y mae yn hollol foddlawn, mewn amgylchiad o unrhyw anghydwelediad a gyfodo oddiar y pwynt rhwng y goruchwylwyr a'r dynion, ar fod iddo gael ei roddi i gyf- lafareddiad i unrhyw oruchwyliwr chwarel o safle a phrofiad. Yna eglurodd Mr Lloyd i'r pwyllgor, pa mor anfoddlawn bynag ydoedd i ymgymeryd a swydd mor gyfrifol a thra- fferthus ag un o ganolwr neu gyflafar- eddwr, byddai yn ddrwg ganddo ef gadw draw, a bod felly fe ddichon yn achos o barhad yr ystad anffodus bresenol ar bethau, a'i fod felly yn derbyn y swydd yr oedd Arglwyd Penrhyn a hwythau yn gynnyg iddo. Ar y 6ed o Fedi anfonodd Arglwydd Penrhyn o Bournemouth yr attebion ol- ynol a ganlyn i'r gofynion am y 3lain o Awst:— I.-Fod i ben neu uchel lywodraethwr gael ei bennodi, i'r hwn y. cyflwynir pob annghydwelediadau, ac yn absenoldeb y cyfryw uchel lywodraethwr, fod i berson cyfarwydd gael ei bennodi i weithredu yn ei absenoldeb. 2.—Na fydd i'r perchenog rwymo ei hun i bennodiad Mr Owen, neu unrhyw berson arall, fel ei oruchwyliwr. 3.—Na fydd iddo ymostwng i gyf- arwyddiad (dictation) gyda golwg ar ben- nodiad ei oruchwylwyr, er ei fod yn awyddus ar fod i bob person a bennodir ganddo ef weithredu yn drwyadl deg rhwng y cyflogwr a'r cyflogedig. Nad oes ganddo un gwrthwynebiad i Mr Owen, ond ei fod, wedi ei ddwyn i fyny yn wreiddiol yn ysgolfeistr, wedi ei gael ar ol prawf yn chwarel y Penrhyn yn an- ymarferol mewn gweithrediad chwarelau, ac iddo wedi hyny gael gwrthwynebiad yn chwarelau y Faenol ar yr un tir. Ei fod ef yn credu ei fod yn drwyadl onest, ac y ceid Mr Owen yn ddyn tra defnyddol mewn llawer gorchwyl. Y mae yn an- mhossibl cael dau ben goruchwylwyr yn llywodraethiad yr un chwarel. 3.—Fod y prisiau a'r raddfa o allowances a gyhoeddwyd yn ymddangos yn cael eu hystyried yn rhesymol gan y pwyllgor, a bod addewid wedi ei rhoddi gan y perchenog y bydd i'r prisiau hyny gael glynu wrthynt, a bydd yr allowances yn gyfryw ag a alluogant weithwyr cymmedrol acymarfer- ol i ennill safon y lleiaf-dal o 27s. 6c., 25s., yr wythnos, ac felly yn mlaen yn y gwahanol ddosbarthau, fel y rhoddwyd i lawr ac yr anfonwyd i'r pwyllgor gan Mr Lloyd, ond fod y perchenog yn wrth- wynebol i leiaf-dal uchel penodol o gyflog- au, heb unrhyw sicrwydd am y swm o waith a gyflawnir, a bod pennodiad pen canolwr mewn amgylchiadau o annghyd- welediad yn sicrwydd digonol y bydd i'r gosodiadau gael eu dwyn yn mlaen yn deg, 4.-Gyda golwg ar y gofynion ail- raddol (a). Fod i'r dynion a weithiant yn ol 10s. yn y bunt gael eu cymmeryd i mewn yn y chwarel yn mysg y chwarelwyr bar- geinion, feI y caniatta cyfleusdra, ond ei fod yn anmhossibl i ganiattau fod iddynt gael eu gosod i weithio ar y graig ddifudd mewn unrhyw ran o'r chwarel a fwriedir adael. (b) Fod i'r Rybelwyr yn y dyfodol gael eu cyfyngu i fechgyn dan ugain mlwydd oed fod llawer o honynt yn feibion i chwarelwyr yn dysgu eu crefft o wneuthur llechi o'r banciau rhwbel, ac y mae yn gwbl wrth eu dymuniad hwy. (c) Wedi ei ganiattau eisoes. (d) Wedi ei ganiat- tau eisoes. (e) Wedi ei ganiattau eisoes. (f) Yn cael ei ganiattau. D.S.—Nid ydyw y platelayers yn platelayers medrus, fel ar ager reilffyrdd. Nid oes ond un platelayer o'r dosbarth hwnw yn cael ei gyflogi, tra nad yw y gweddill ond labrwyr yn unig. (g) Yn cael ei ganiattau. (h) Yr atteb oedd ei fod yn anmhossibl eu cymmeryd yn ol fel corph, ond os cym- merid hwy yn ol y byddai ar ystyriaeth o bob achos yn unigol. (i) Yr un oedd yr atteb gyda golwg ar y dynion hyn, pa rai, wedi i sefyll allan yn wirfoddol a myned i chwarelau ereill, yr oedd yn anmhossibl i'r perchenog rwymo ei hun i gadw y bargeinion yn agored, neu, mewn geiriau ereill, i gadw rhanau o'r chwarel yn segur hyd nes y byddai eu cyttundebau n'ewydd- ion hwy wedi terfynu, ond os byddai i unrhyw ymofyniad am dderbyniad yn ol