Skip to main content
Hide Articles List

6 articles on this Page

YR HYN A GLYWAIS.

GWRTHDARAWIAD ALAETHUS AR…

[No title]

LLOFFION CYMREIG.

News
Cite
Share

LLOFFION CYMREIG. Dydd Gwener cafodd dyn o'r enw Thomas Edwards ei wasgu i farwolueth rhwng y gwageni, tra wrth ei orchwyl yn ngorsaf Corwen. Hysbysir fod Mr William Hughes, cyf- reithiwr, wedi ei bennodi yn gwastabl dirprwyol Castell Conwy. Eleni cafodd trigolion Llandudno un o'r tymhorau prysuraf a mwyaf llwyddianus a gawsant er sefydliad y lie fel ymdrochle. Y mae Cynddylan wedi derbyn gwahodd- iad i fugeilio Eglwys Fethodistaidd yn Nghaerdydd. Yn llys yr heddgeidwaid, Penrhyndeu- draeth, ceisiodd un Janet Roberts dadogi ei phlentyn annghyfreithlon, pryd yr hysbyswyd fod yr eneth yn fam i ddau-ar- bymtheg o blant. Cynnaliwyd eisteddfod lwyddianus yn Llanwrtyd yr wythnos ddiweddaf. Yr englyn canlynol i'r Erfinen," oeiddoMr Thomas, ysgolfeistr, Abergwesyn, ydoedd y buddugol:— Un felen nea wen foliog—yw'r fwynaidd Erfinen gynffonog O'r hadyn llawn rheda'n Hog Blasua i ddant y blysiog." Cyrhaeddodd Mr John Bright, A.S., i Gaerdydd ar ymweliad ddydd Gwener. Cymmerodd ffrwydiad le yn Merthyr yr wythnos ddiweddaf, dryw yr hyn yr anaf- wyd amryw bersonau, ond neb yn angeuol. Cwynir fod eyflwr carthffosydd Aber- tawe yn dra diffygiol, a bernir fod hyny yn clwyddo llawer ar y farwrestr. Ymddangosodd c-th-r-I y canu" yn ei holl anferthwch yn Eisteddfod Pontypool, pryd yr ymgrechodd cor o Ebbw Vale yn arswydus ar ddyfarniad y wobr i gor Pont- ypool. Llwyr ddrylliwyd y bleserlong Clwyd, perthynol i Major Penn, Rhyl, yn Presta- tyn yn ystod yr ystorm ddiweddar, ond llwyddwyd i achub y dwylaw. Y mae y gadair aur a ddyfarnwyd i'r Parch. Gurnos Jones, wedi ei chwblhau, ac yn cael eu harddangos yn Masnachdy Mr Willman, oriorydd, Bangor, Gwerthwyd coed pabell Eisteddfod Ban- gor yr wythnos ddiweddaf, drwy arwerth- iant cyhoeddus, gan y Meistri E. H. Owen a'i Fab, Caernarfon, a chafwyd prisiau rhagorol. Dywedir fod pwyllgor Eisteddfodol Pwllheli yn gweithio yn rhagorol, ac yn ennill cefnogaeth prif foneddigion yr ar- dal. Yr wythnos o'r blaen cynnaliodd Dr. Pierce drengholiad yn Nimbych ar gorph geneth a drengodd yn mhen y teirawr wedi ei dychweliad o'i gwasanaeth. Am- heuid iddi gael ei hesgeuluso, ond esbon- iwyd pobpeth yn foddhaol yn y tystiol- aethau, a dychwelwyd rheithfarn o "Farw- olaeth naturiol." Y Temlwyr Da oeddynt wrthwynebol y dydd o'r blaen i Caradog, arweinydd Cor y De, gael trwydded newydd i werthu gwirodydd, ond ochrodd yr awdurdodau yn ffafr y cerddor. Cynnaliwyd trengholiad y dydd o'r blaen yn Ngwrecsam ar gorph meddyg o'r enw Edwin Charles Garnsey, 48 mlwydd oed, yr hwn a fu farw mewn can- lyniad i gymmeryd dogn gormodol o laudanum. Y mae dafad berthynol i Mr R. Roberts, Bryniog Ucha, Llanrwst, wedi bwrw ped- war o fayn yn ystod y flwyddyn hon-dau yn Chwefror a dau yn Gorphenaf. Hysbysir fod Syr Watkin W. Wynn a'i briod wedi gadael Lloegr am y Cyfandir, lie bwriadant aros am beth amser. Cynnelir arddangosfa amaethyddol sir Fflint, yn nghydag arddangosfa own Gogledd Cymru, yn Rhuthyn ar yr 22ain cyfisol. Yr oedd Eos Morlais yn un o'r prif ddatgeiniaid yn nghyngerdd blynyddol Cymdeithas y Tonic Sol Ffa, yn y Palas Grisial ddydd Llun. Mawr ganmola y wasg Seisnig ei ddatganiad o Sound an Alarm," a chafodd encor brwdfrydig. Gwasanaethid gan gor Mr Proudman, cynnwysedig o dair mil o leisiau, yr hwn gor sydd yn adnabyddus i'r Cymry fel yr un a orthrechwyd gan gor enwog Caradog yn nghystadleuaeth y Palas Grisial. AMLWCH.—Dydd Sadwrn, Medi 12fed, cynnaliwyd ffair yn y lie uchod. Mae yn dda genyf ddeall fod y ffair hon wedi troi allan yn hynod lwyddiannus. Gwerth- wyd Ilawer o anifeiliaid, a chafwyd pris- iau lied dda ar y cyfan. Yr oedd yn ddy- wenydd genyf ganfod cymmaint o borth- myn yn bresennol, ac yr ydym yn hyderu y bydd iddynt ddyfod yma yn rheolaidd i'n ffeiriau.-Gohebydd. CRICCIETH.-Dydd Sadwrn rhoddodd William Watkin, Ysw., y Muriau, de a bara brith o'r fath oreu i 250 o blant yr ysgolion yn y lie, sef ysgol y bwrdd a'r ysgol Genedlaethol, a darfu oddeutu 200 o rai mewn oed, yr oil yn rhifo 450, fwyn- hau o'r un danteithion. Yr oedd yno hen wyr a hen wragedd, gwyryfon a llangciau, wedi dyfod ynghyd i fwynhau y wledd, ac wedi gorphen gyda'r te, aethpwyd allan i longyfarch y boneddwr haelionus yn nghyda'i briod gareclig,Twm Certh.

NEWYDDION CYMREIG.

GWEITHIAU CALEDFRYN.