Skip to main content
Hide Articles List

6 articles on this Page

YR HYN A GLYWAIS.

News
Cite
Share

YR HYN A GLYWAIS. Clywed fod hen gigydd o Feifod y dydd o'r blaen wedi prynu gan ffermwr o Gwm Canada, Llangadfan, eboles bump-ar- hugain mlwydd oed am y swm isel o saith bunt. Dyna speculation dda i ffermwyr, onide ? Clywed fod rhai o ddiaconiaid capel y D-o-g wedi gwrthgilio am i rai o'r brodyr daflu allan y ddelw bren a haiarn. Gresyn mawr fod y fath grefyddwyr yn bodoli yn ngwlad yy efengyl fel hyn. Ysgub- ell arw a ddylai gael ei defnyddio. Clywed fod anfoesoldeb yn ffynu yn fawr yn nghymmydogaeth Llanwyddyn, a bod y pentrefwyr yn byw yn anfoesol iawn. Nis gallant gymmaint ag yngan gair heb fod rhyw lw neu reg wrth ei gwt. Pa le mae Wyddyn, tybed, heb dynu i'r maes fel llew yn erbyn y fath arferion. Clywed fod creulondeb tuag at anifeil- iaid yn bodoli yn helaeth yn Llanerfyl. Pa le y mae yr awdurdodau ? Clywed mai nid digon yw rhoddi ffrynd i orwedd yn monwent Dolanog mewn heddwch, ond bod rhaid troi anifeiliaid yno i fathru gorweddle y rhai a ddylent gael heddwch. Diwigiwch, chwi War- deiniaid. Clywed fod ymosodiad ar ddyn wedi cymmeryd lie yr wythnos ddiweddaf yu nghymmydogaeth Pentyrch, Llanfair, ac ymgais at ysbeilio hefyd; a bod yr hedd- geidwaid yn lied oeraidd yn ei gylch. Deffrowch, chwi wyr y cotiau gleision. Clywed mai yr achos fod "Gwas Mr Punch wedi cilio o faes y Llais ydyw fod pobl y Bontnewydd wedi dyfod i drefn, a bod season y mushrooms trosodd. Atti hi etto, yr hen ffrynd. EEFYL.

GWRTHDARAWIAD ALAETHUS AR…

[No title]

LLOFFION CYMREIG.

NEWYDDION CYMREIG.

GWEITHIAU CALEDFRYN.