Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

Advertising

DYDD GWENER, MEDI 18, 1874.

AT CRAIG Y FOELALLT.

RHANU YR YSBAIL.

HYN A'R LLALL, YMA AC ACW.

Y DIWEDDAR CALEDFRYN.

LLYTHYR LLWYNOG CWMSILIN.

News
Cite
Share

LLYTHYR LLWYNOG CWMSILIN. FONEDDIGION,—Mae yn ddrwg gan y Llwynog orfod hysbysu y cyhoedd, fod un o brif ofergoelion y cynoesau yn ffynn i raddau yn ein gwlad, ac yn dyfod yn fatter o gred gan rai o breswylwyr Dyffryn Nantlle. Clywais lawer o son am ym- ddanghosiad ysprydion; ond ni chy- farfyddais i a chymmaint ag un erioed ac. ni chefais Ie i gredu fod y fath beth ag ymddangosiad y cyfryw fodau, yn bossibl. Mae yn g6f gan luaws yn y Dyffryn yma glywed son am yr hen yspryd tybiedig hwnw fyddai yn gwneud ei ymddangosiad, dan y teitl o Fwgan Groeslon Bryniau Duon." Ac un cethin oedd efe hefyd, medda nhw. Ond bu am amser maith heb wneud un math o wrhydri, na hwyr na boreu, hyd yn ddiweddar, pryd y cym- merodd gwrs a chyfeiriad gwahanol, ac adnabyddir ef yn awr, fel, Bwgan Pont y railway (Penygroes). Pwy bynag a arferai dramwyo y bont hon gwedi deg o'r gloch y nos, byddai ef (y bwgan) yn sicr o wneud ei ymddangosiad yn y fath fodd nes creu arswyd ac ofn ar y mwyaf eon a beiddgar. Ond tybiwyd yn sicr i'r hen yspryd hwn gyfarfod ei well ryw nos- waith, gan fod un o breswylwyr y Pentref (pwt o ddyn bychan lied lysti, o ymddang- osiad chwimwth) wedi penderfynu anturio i'w bresenoldeb ar yr awr a fynai o'r nos; ac y byddai iddo roddi terfyn ar ei einioes, hyd ddiwedd amser. Parodd i'r pen- derfyniad diysgog hwn lawenydd i'r holl fro. Ac yn ddiweddar, neillduwyd nos- waith i'r ymgyrch, a galwyd dyn arall i fyaed allan gydag ef, fel y byddai yn llygaid dyst o'r nerth eliphantaidd, a'r beiddgarwch llewaidd hwnw a ymddang- osai fel yn nodweddu ei gymmeriad. Y noswaith a ddaeth, ac yntau yr anturiaeth- wr a gasglodd ei holl nerth yn nghyd, ac a daniodd ei ysprydoedd beiddgar yn ddengwaith ffyrnicach nag y buont erioed o'r blaen. A dyma efe yn cychwyn gan ysgwyd ei freichiau; ac yn orlawn o feddwl di-ildio, a didroi-yn-ol. Cyrbaedd- odd y bont-dim byd i'w weled-y nos yn dywell, tawel, a digyffro-ei natur yn ffyrnigo mwy byth; ond yn yr high degree yma, dyma ryw fod annaearol o ymddang- osiad, yn ddiarwybod iddo, yn sefyll ger- llaw. Pan welodd efe ef, derbyniodd saeth i'w gyfansoddiad, ac awgrymodd rhyw- beth lied wan i'w gyfaill; ond rhag bod yn llai na dyn yn ei olwg, symudodd ddau gam yn mlaen, yr hyn a barodd i'r yspryd yntau, symud ddau gam ereill i'w gyfarfod. j Ac meddai ei gyfaill Keep up your heart, and go to him," a rhag bod yn llai na dyn etto, efe a symudodd ddau gam ond yr yspryd drwg hwn, a ddaeth bed war i'w gyfarfod, a'r peiriant dynol a safodd yn y fan. Dechreuodd ofni a chrynu- gwelwai ei wynebpryd-a dychryn mawr a ddaeth arno ef. Ac er mwyn bod yn fyr, terfynodd yr ysgarmes hon, mewn cwmmwl o lwch llwyd yn codi oddiwrth ei draed wrth ffoi am ei einioes i'w dy, lie y syrthiodd yn gelain. Pan yn ei gwymp llewygol, cafwyd archwiliad doctoraidd arno a daethpwyd i'r pen- derfyniad fod ei galon wedi syrthio ugain o raddau o'i safle phriodol, yr hyn yn ddiauaachosodd iddoymollwngi'r gwarth- nod cas hwn. Ond y mae yn dda genyf allu hysbysu, fod y bwgan wedi ei ddal, er hyny; a gobeithio na bydd iddo chwareu prangciau o'r fath o hyn allan, rhag digwydd peth a fyddo gwaeth. Yr oeddwn wedi meddwl sylwi ar am- ryw bethau ereill; ond mae fy amser i, a'ch gofod chwithau, Mri. Gol., mor brin, fel y mae yn rhaid i mi arfer fy noethineb i dreio bod yn fyr, a blasus. LLWYNOG CWMSILIN.

GWEITHIAU CALEDFRYN.

. . BETHESDA.