Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

Advertising

DYDD GWENER, MEDI 18, 1874.

AT CRAIG Y FOELALLT.

RHANU YR YSBAIL.

HYN A'R LLALL, YMA AC ACW.

News
Cite
Share

HYN A'R LLALL, YMA AC ACW. MEISTRI GLYGWRS,-Gair yn fyr rwsnos yma at bwyllgor steddfod Bangor. Gyf- eillion, mau rumour ar hyd a thraws y wlad y boch cbi yn, ne am sgwandro'r arian sy'n weddill ar ol y steddfod trw roi gormod o lawar o dal i rai am i gwasan- aeth. Glywis i yn ddistaw bach fod un o'r beirniaid am gaul cimmin dair gwaith am farnu ar un testyn ag oedd swm y wobr am y cyfansoddiad buddugol ar y testyn hwnw. Gwarchod pawb! be ydi ych meddwl chi, ddynion ? Neith peth felly mo'r tro. Mi ewch yn destyn siarad drw'r boll wlad, ac fe ddichon yr eith ryw rai i ddadla prun ai ffyliad ta twyllwrs ydach chi. Hwrach y deudith ryw un mod i yn arfar iaith rhy gre nag ydw, os ydi y rhyn a glywis i'n debyg o gymryd lie, herwydd fe fyddwch yn amddifadu y syfydliada o peth a ddylant gaul, ac wedi twyllo y cyhoedd trw ddenu eu harian ar bwys addo peth nad ydach chi am gyf- lawni. Nid ydi'r arian sy'n spar yn eiddo i chi o gwbwl. Tyda chi ddim amgian nac agants dros y public i dalu i bawb yn gyfiawn, diffafriaeth, a dihocad, yr hyn sy'n deg iddy nhw gaul; ac yna handio'r gweddill drosodd i'r tri syfydliad y pia fo. Son am dretio ych gilydd efo bytyma aur -wfft i'ch clona chi byth Os oes ar- noch chi isio rwbath i'ch gneud chi'n ddynion mawr, ro i bresant o own gwyrdd i chi bob un, a llun Sylum Dinbach a pavilion steddfod Bangor ar i gefn o. Ond gybeithio rydw i na dos dim gwir miawn llawar o'r petha ma pobol yn i siarad, ac os oes yr altrwch chi rhag blaun, ac yr ymddygwch chi fel dynion ac nid fel rhyw hogia bach isio tygana. Os rhaid i chi gaul tygana, fasa box toys chwech i bob un o honoch yn llawn ddi- gon yn meddwl i. Hyn yn awr, ych chi'n gweld, chwadal yr Hyntws, gan obeithio y bydd o'n ddigon i beri i chi styriad ond os, ar ol ystyriad, y rewch chi'n- mlaun run fath, arbeda i monoch chi'n wir. Mi gyhoedda i 'r particulars, ac mi gaiif y wlad farnu. Dyma i chi rybudd teg gochelwch, a trowch yn ych hola. Ma dda gin i ddalltwrth ypypyraheddiw fod hi wedi mynd yn heddwch rhwng Lord Penrhyn a'i weithiwrs. Hir y paro hi felly, medda i. Bellach byddad i'r dyn- ion actio'n deg at i gilydd, peidio stwffio i lawas y stiward am y fargan dda ar draul y bydd yn rbaid i ryw rai gymryd un ddrwg. Os oes ffasiwn beth wedi bod a breibio'r stiwardiaid, ma'r bobol odd yn gneud hyny wedi actio mor waul at i cyd-1 weithiwrs, ac wedi gwasgu cymin arny nhw ac a ddaru'r stiwardiad bob blywyn, os nad mwy. Beth bynag am esgid ar y traeth y Bardd gwir fawr," Gwilym Alltwen, tos dim amheuath na chaul hyd i hen glocsan a'i llond hi o gynffona shrimps wedi pydru ar y Traeth Coch, a yrodd yr idea o godi cymdeithas hynafiaethol i ben y Thesbiad. ROBIN SPONC.

Y DIWEDDAR CALEDFRYN.

LLYTHYR LLWYNOG CWMSILIN.

GWEITHIAU CALEDFRYN.

. . BETHESDA.