Skip to main content
Hide Articles List

9 articles on this Page

Advertising

DYDD GWENER, MEDI 18, 1874.

AT CRAIG Y FOELALLT.

RHANU YR YSBAIL.

News
Cite
Share

RHANU YR YSBAIL. FONEDDIGION,-Da genyf allu eich llon- gyfarch chwi a phwyllgor Eisteddfod C> Freiniol Bangor ar y llwyddiant diam- mheuol a fa ynglyn a'ch anturiaeth- anturiaeth, meddaf, oblegid felly yr ed- rychidarni gan y wlad yn gyffredinol. Hawdd ydoedd gweled y buasai eich costau yn enfawr. Tybiwn i yn bresennol eich bod yn rhedeg i eithafion afresymol gyda'r adferteisio hefyd, i'm tyb ostyng- edig i, gallasech hebgor un os nad dau o'r ysgrifenyddion, heb son am y lliaws Phariseaid a'r eryrod barddol a ddilyn- ant symmudiadau o'r fath, bob amser yn barod i wledda ar y gelain. Digwyddais fod mewn gwestty yn eich dinas yr wyth- nos ddiweddaf, a deallais fod matterion yr eisteddfod yn cael eu trafod-pobpeth yn arddangos y teimladau I goreu, ynghyda'r 500p. o arian gweddill. Ebe finnau, bydd y wlad, gyfeillion, yn dis- gwyl rhodd o 150p. o leiaf at Goleg y Genedl yn Aberystwyth. A chan ych- wanegu dywedais, Cymmerwch bob pwyll ac arafwch wrth ranu yr yspail, onite ofer fydd unrhyw appel at y wlad ynglyn ag eisteddfodau dyfodol. Yr oeddwn yn synio yn gryf fy mod yn rhoddi gair yn ei amser; ond, foneddigion, fe'm cipiwyd i fyny mewn dull tra sydyn ac annisgwyl- iadwy. Dywedwyd wrthyf fod yr ysgrif- enyddion heb eu talu, ac hefyd fod yn angenrheidiol rhoddi deg punt yn ych- waneg i Gweirydd ap Rhys am feirniadu. Ar bob cyfrif, foneddigion, bydded i chwi dalu yr ysgrifenyddion yn deilwng; ond yr ydwyf yn hawlio gwybodaeth oddiar eich llaw fel pwyllgor ar ba dir yr ydych yn gwneuthur gwahaniaeth yn eich tal i Gweirydd ap Rhys rhagor beirniaid ereill ? Os iawn y cofiwyf yr oedd Gweirydd yn cydfeirniadu ar ddau destyn tua thri cyfansoddiad ar bob un. Paham y talas- och fwy iddo ef, sef (lOp.) rhagor ei gyd- feirniaid Meudwy Mon a gwr mi dybiaf o'r enw Mr Thomas ? Yr ydwyf yn eich dal yn gyfrifol fel pwyllgor o wyr goleu- edig a gonest am yr annghyfartaledd an- esboniadwy. Ond pa beth a ddywed y wlad am y bwriad a'r rhagdrefniad o anrhegu Gweirydd a DEG PUNT yn ych- waneg. Os tlodi ac angenoctyd ydyw y ddadl wele y -mae y tlodion gyda chwi bob amser hyd ddiwedd y byd "—felly am Goleg Aberystwyth. 0 barthed i'r Infirmary a'r Museum, chwychwi yn Man- gor a ddylech wybod oreu. Ond os ydych wedi addaw at y sefydliadau uchod bydded i chwi ofalu am gwblhau. Melltith eisteddfodau y blynyddoedd a fu ydoedd y fantais annheg a gymmerid arnynt gan feirdd a llenorion ymhongar, hunanol, a rhai na phetrusant gyfoetbogi eu hunain ar draul yspeilio y wlad.- Ydwyf, &c., UN O'E BEIRNIAID,

HYN A'R LLALL, YMA AC ACW.

Y DIWEDDAR CALEDFRYN.

LLYTHYR LLWYNOG CWMSILIN.

GWEITHIAU CALEDFRYN.

. . BETHESDA.