Skip to main content
Hide Articles List

13 articles on this Page

ENGLYN,

. -" NID MOR FFOL.

. GALAR LINELLAU "*" *'

ETTO.

. BEDD IEUAN GLAN GEIRIONYDD…

.--RHOSil, TYR'D I'R MAESYDD.

[No title]

. Y NEFOEDD.

BEDDARGRAFF Y RHEGWR.

EISTEDDFOD FREINIOL BANGOR.

,LLANIDAN.

News
Cite
Share

LLANIDAN. II. Awn gyda'n harweinydd rhwydd- galon i'r EGLWYS. Hail, mouldering arches of yon revered pile, That seen in age's heavy vest to shine All hail for here creative fancy reads Of ages past the long forgotten deeds." Tybir i'r Eglwys hon gael ei sylfaenu oddeutu y flwyddyn 616 o.c., gan Nidan Sant, ab Gwrfyw ab Pasgen ab Cynfarch ab Meirchion ab Gwrwst ab Ceneu ab Coel Godhebog. Efe a fu beriglawr y saint ym Mangor Penmon." Ei ddyddgwyl oedd Medi 30. Tybiai Rowlands mai i Ædan, neu Aidan, Sant, y cyflwynwyd Llanidan; a dywed, "F-dan, or Aidan, was the son of Gabranus, or Gwrnyw, who was grand- son of Urien Reged, Prince of Regedia, in the North. But whether Aidan the King (who was this I mention), or Aidan the Bishop, called Aidan Voeddog of Columcil, and Bishop of Lindisfern, bears the name of the Church of Llanidan, is not certain but probably the latter, be- cause Finnan, whose name is on a Church in the neighbourhood of the other, was the latter Aidan's disciple, and succeeded him in the Bishopric and to accompany the good work of his master Aidan, he might have the other Church built in his own name, called Llanffinan."—Mona, Antiqua, tud. 153. Cynnaliai Owain Gwynedd ei lys yn achlysurol yn Llan- idan, a gwaddolodd Briordy Beddgelert a threfgordd Tre'r Beirdd, yn cynnwys etifeddiaeth Llanidan. Bu yn Llanidan Is-briordy o dan y sefydliad yn Medd- gelert, yn nghyd a cholegdy bychan. Y mae tyddyn yn y plwyf yn dwyn yr enw "Tyddyn Prior," a llanerch gerllaw y palas, yr enw « college," olion gweddill- edig o wychder mynachol y Llan. Cyn- naliai y Prior yntau ei lys yn Llanidan. Pan ddadgorphorwyd Priordy Mair yn Meddgelert, yn y flwyddyn 1535, rhoddodd Harri VIII. holl feddiannau tymmorol y Priordy hwnw i fonachod Chertsey yn Surrey. Aethant drachefn yn y flwyddyn 1537, gyda meddiannau Abatty Chertsey, i feddiant monachod Bisham, yn sir Beres. Daeth yr eiddo yn ol, yn adeg dinystr cyffredlnol y monachlogydd o bossibl, i ddwylaw y brenin, a gwerthwyd y medd- iannau yn Mon, oil oddigerth Tre'r Beirdd, gan y Frenhines Elizabeth i Edmund Downham a Peter Aston, pa rai drachefn a'u gwerthasant i Rhisiart Prydderch o'r Myfyrian. Ei ferch yntau a briododd Prys Llwyd o Lugwy, boncyffdad Llwyd- iaid Llanidan. Cawn a ganlyn yn mhrisiaid meddiannau tymmorol Priordy Beddgelert-11 Valor Ecclesiasticus 26 Henry VIII, Monachlog Beth Kylert:"— ft SIR FON." Rectoriaeth Llanredan yn Neoniaeth Meney a Malldraeth, gwerth canolig yn ol ymchwiliad ac arholiad y dirprwywyr,— i £ s. d. Gyda 40s. am dir Eglwysig 70 3 8 Eiddoyn arosyn llaw y Brenin 22 o o £ 92 3 3 r Gwerth blynyddol rectoriaeth Llanidan a'i chapeliaethau yn amser Harri VIII. ydoedd deg punt. Saif nifer y plwyfolion a gwerth y fywoliaeth yn bresennol ryw- beth fel y canlyn 1 Degymau 1867. Plwyf. Poblog.1861. -_J Improp. Vicar. Llanidan 1232 370p. 185p. Llanedwen 273 130p. 65p. Llanddanielfab 443 160p. SOp. Llanfair-y-Cwmmwd 37 26p. lrfp. Cyfanswm 1985 686P. 343p. Gollyngwyd yr Eglwys yn adfeiliau, a chwalwyd y rhan fwyaf o honi yn y flwyddyn 1843, pryd" yr adeiladwyd Eglwys newydd yn ei lie ar sefyllfa ganol- barthol yn y plwyf. Gadawyd y pen gorllewinol o'r nave ar ei draed at was- anaeth angladdau, ond gan fod y gladdfa wedi ei chwbl-gau i fyny, weithian mae'r darn Eglwys hwn hefyd yn ystod olaf dirywiaeth,- "Yn myn'dyngandryllfriwsion rhwngbysedd difroddu." Yr oedd yn hen adeilad hybarchwedd yn ei dydd. Gwahenid y corphlan yn ddwy ystlys hirgul-,aisles--gan res o golofnau ardderchog, ar .ba rai y gorphwysai chwech o fwaau prydferth. Erys pedair o'r arches hyn allan yn yr awyr agored- dismantled. Y ddwy arall a gynnaliasant do y capel angladdol' rhag-grybwylledig West End. Mae marwolaeth fel pe wedi ymafael yn mhobpeth yma. I-Tik angof' yw ystyr helaethaf y gair—pob- peth. yn anghofiedig. Nid ymhoffwn mewn naanylu ar yr olygfa bruddglwyfuS* Yr eiddew, trweh a gripiodd hyd y talc" gorllewinol, nes ei lwyr guddio; a'r araf fran hithau a fu mor hyf a nythu yn nghymydogaeth y gloch Rhyfedd gyf- newidiad. Yr Eglwys anghofiedig-y Llan ang. hyfaneddol! Wyt ar lun cymmwys o syrthiedig ddyn. Yn awr wedi dy lwyr adael, ac wedi dy halogi o bossibl! y fath gyfnewidiad sydd ynot! Nid oes ynot na bywyd .na phrydferthwch, oddigerth yr eiddaw a ymlyn megis mewn dwfn dosturi wrth dy furiau adfeiliedig, gan guddio eu noethni a chyfnerthu eu gwendid, ac ami i dlws flodeuyn ag sydd yn siriol wenu yn agenau dy barwydydd gogwyddedig. Nid oes degwch ynot- ciliodd ymait,p. Etto ynot derbyniwyd llawer baban i deulu Duw drwy 'yr olchfa ddwfr.' Llefarwyd o'th ffwn eiriaw sanctaidd, ac addunedwyd ynot addunedau cyssegredig. Llawer cymdeithas gu a gafwyd rhwng dy gaerau. Y mae llygaid fil a dremiant arnat o'r gogoniant fry gyda dyddordeb annesgrifiadwy. Mynych cyfarfu Duw a dyn is dy gronglwyd gan- dryll di. 'Hwnyma a honaccw a aned yma.' Ond weithian lie bu'r 'organ efo'r eufgor' yn ffrydio mawl am lawer oes, nid oes sain ond swn cwynfanus y gwynt a chwibianiad dolefus y corwynt yn nydd yr ystorm n6J anynad y ddall-huan unig ar oerllyd noswaith gauaf fferllyd, a chwyth wenwynig y neidr dorchog ar nawn tesog o haf. Nid oes arwyddion bywyd o fewn y lie, oddigerth eiddo yr ysglyfaethus hwyrol adar a ymlochesant yn mysg yr adfeilion nes machlud haul, a'r man-bryfaid gvvangcus a ymborthant is y meini ar y celaneddau difywyd yn yr oer-feddau ar y dde ac aswy. Y gogoniant a ymadawodd." Cynt yn Demi Dduw, ond yn awr yn gyssegr gwrthodedig. Ac oni all y ddynoliaeth hithau hefyd ysgrifenu ar lech y galon- Ichabod-y gogoniant a ymadawodd." Gogoniant y greadigaeth nid yw mwyach ond murddyn salw-Teml yr Ysbryd Glan wedi syrthio yn drigfa i bob aderyn nos, ac yn breswylfa i bob ysprydion aflan. ICHABOD.

DARGANFYDDIAD CORPH MAB Y…

---LLOFRUDDIAETH YN GLASGOW.