Skip to main content
Hide Articles List

13 articles on this Page

ENGLYN,

. -" NID MOR FFOL.

. GALAR LINELLAU "*" *'

ETTO.

. BEDD IEUAN GLAN GEIRIONYDD…

.--RHOSil, TYR'D I'R MAESYDD.

[No title]

. Y NEFOEDD.

BEDDARGRAFF Y RHEGWR.

EISTEDDFOD FREINIOL BANGOR.

News
Cite
Share

EISTEDDFOD FREINIOL BANGOR. BEIRNIADAETH YR ENGLYNION I GASTELL Y PEN RHYN. Derbyniwyd naw cyfansoddiad ar y testyn uchod, oil yn amcanus, ond heb un mor orchestol ag y buasid yn disgwyl ar destyn mor ddenol ac wrth argymmhelliad gwobr mor hardd. Disgwyliasid englyn- ion a fuasent yn dal i'w cyfieithu ac yn dangos peth newydd-deb a thlysni meddwl mewn iaith estronol, ond yn hyn fe'n siomwyd. Rhestrant mewn teilyngdod cymmhar- iaethol fel y canlyn :— Brodor (i).—Deuddeg englyn cy- ffredin, heb ddim newydd-deb ynddynt, ac yn cynnwys amryw wallau ieithyddol. Y mae ei ddegfed englyn yn un da rhagorol. "Brodor (2).-Lled weiniaid ydyw'r eiddo Brodor yr ail, ond y mae ganddo rai llinellau celfydd a rhagorol, ac ambell wall hefyd. Naturiol.Darllena englypiorl Nat- uriol yn dra rhwydd, a cheir ynddynt ami linell dlos a meddwl grymus, ond un- donol a difywyd ydynt fel cyfansoddiad. 0 ran iaith a chynghanedd y maent yn lied ddiwall. Y Dewraf ei Dyrait. -Cymmysglyd a gwasgarog eu syniadaeth yw gwaith yr awdwr hwn. Trydd o amgylch- yr un peth, a defnyddia yr un ymadroddion yn fynych. Er fod ganddo rai llinellau a darnau o englynion da, eiddil ydyw'r cyfansoddiad fel cyfanwaith. "Bachgen o Walia.Nid yw yr awdwr hwn yn rhagori ar ei ragflaenwyr. Bach- genaidd yw amryw o'i ddesgrifiadau. Rhagora y pedwar nesaf i fesur lied helaeth ar y rhai a enwyd, sef:— Tudur Aled.Y mae llawer o fardd- oniaeth ddesgrifiol brydferth yn englyn Tudur Aled. Diweddu yn wan mewn geiriau llanw y mae'r pedwerydd englyn. Cynghanedd lusg hynod o wan mewn englyn ydyw hon, Fel mae'r Wyddfa yn brif fynydd." Nid da y gynghanedd ag y bydd yn rhaid i'r darllenydd droi yn ol i chwilio am dani a'i lygad ar ol i'r glust gael ei thwyllo. Gair gwan i ddal acceniad odl ydyw yr arddodiad yn. Englynion da yw'r seithfed a'r wythfed. Diweddu mewn llinell glogyrnaidd iawn y mae y nawfed, fel hyn, Erys mewn bri oesau maith." Ni waeth genym ymdrechu gwneud allan gynghanedd o equation mewn algebra na dirdynu darlleniad iaith i gael allan sein- iau cynghanedd y cyfryw linell. Cochivillaii,Y mae englynion Coch- willan yn fwy naturiol eu cynghaneddion, ond y mae gradd o dywyllni iaith yn cymmylu harddwch yr wythfed a'r naw- fed englyn. Lied unffurfiol a marwaidd ydyw y farddoniaeth drwyddi, ond dilyna y testyn yn dda. Tybiem nad ydyw iaith y ddwy linell ddilynol yn gwbl gy- wir, er fod y syniad yn dlws, Ac mal gem loew i gyd, Felly saif y llys hefyd." Onid gem gloew" yw'r ddullwedd Gymreig oreu, gan gymmeryd y gair gem yn wrywaidd? Nid ydys, fodd bynag, yn condemnio yr awdwr, ond yn unig aw- grymu hyn, am fod, feallai, a wnelo ar- feriad lleol ^'r peth. G ivladgarivr.Dyma yr englynydd mwyaf rhwydd a hoew ei ysgogiad yn y gystadleuaeth. Y mae ei gynghaneddion yn gedyrn a phlethedig ac wedi eu caboli mor llyfnion a llathrwych a meini mur- au y castell. Ond y mae peth tuedd i aberthu iaith er mwyn boddio cynghanedd yn yr awdwr. Dirdyniad ar iaith neu goegrodres yw ysgrifenu Castell hyn." yn lie Castell hwn. Y wreiddsain C a dlasai fod y llythyren gyntaf yn y Ilinell isod ac nid G.. "Gywreinwaith Celf-Gaw-ri-enwog-ydynt." Caliryn yr englynion ambell air llanw hefyd, megis "dud eurog" adudeirian," a pheth ailadroddiad o'r un syniadaeth. Dylai pob llinell mewn cyfres fer o englyn- ion fod yn newydd mewn syniad a chyng- hanedd. Y mae cyfeiriadau hanesiol a hynafiaethol yr awdwr yn ddyddorol dros ben, ond braidd yn cymmeryd gormod o ofod mewn deuddeg englyn. H ArfonÝdd.Darllena englynion Ar- fohydd yn rhwydd a naturiol, acy maent yn dra dysgrifiadol ar y cyfan. Ond nid ydynt yr add-drnwaith perffeithiedig -o'r radd uchel a ddisgwyliem mewn englyn- ion ariandlysog ar orchestwaith Cymru. Y mae peth gwendid iaith yn y cyfansodd- iad hwn trwy arfer talfyriadau lleol werin- aidd, megis arnyn" am arnynt a rhy' am rhydd. Clwyfo iaith ydyw hyn, ac y mae pob clwyf yn ei hanharddii. Gair llanw yw yn abl waith yn y trydydd englyn. Gan na byddai rhoddi y flaenoriaeth i Gwladgarwr" neu Arfonydd yn tar- ddu oddiar ddim ond mater o chwaeth neillduol, a'ubod mewn beirniadaeth yn dra chydbwys ei rhagoriaethau a'u ffael- eddau, mwy cyfiawn a'r awdwyr ac a'r pwyllgor, os dewisant o'r ddeutu, fyddai rhanu y wobr, ac i'r ddau gyfansoddiad fod yn eiddo'r pwyllgor.—Yr eiddoch yn gywir, -1 Cms Wyn o Wyreai. Dewe Wyn o Essyllt.

,LLANIDAN.

DARGANFYDDIAD CORPH MAB Y…

---LLOFRUDDIAETH YN GLASGOW.