Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
13 articles on this Page
ENGLYN,
ENGLYN, Cyflwynedig i R. Hughes (Bleddyn). Heb ei glwy, gwelir mwyacb,-ein Bleddyn Heddyw'n bloeddio'n holliach Gwr o bwyll hawddgar bellach, Gwenu bydd a. gwyneb iacb. Ffestin10S- GRIFFITH.
. -" NID MOR FFOL.
NID MOR FFOL. 1 D'wed rhai fy mod yn ormodol-adyn • Am wirodydd meddwol; Yn flysig neu aflesol, Ond dyma'r ffaith-nid yw mor ffol! Clwtybont. J. J. JONES.
. GALAR LINELLAU "*" *'
GALAR LINELLAU Er cydymdeimlad a Mr a Mrs Owen, Penisa'rdre Cot- tage, Llanrwst, ar farwolaeth en mab a'u mherch y cyntaf, Awst 26ain, a'r ail Awat 30ain, yn yr oedran anwylaf. Yn lie cftn, taran ay'n t' !-angeu hyf Yn ngafael a. Willy; Ac heblaw hyn, elyn hy, Pwy a alwodd-ai Polly? Polly a Willy wnaialw,-yn y t 0 mae'r tywydd yn arw Ond pwy na wâd, Duw pia nhw, -Efe wyr pwy sy' i farw." Cofi6lu gwawr, cofio'u geiriau,—a ddaw fel Cleddyf i'ch meddyliau; Gweld eu gwisg glyd yn gyd-gau, Agolynant galonau Dnd ha! gu riaint, nidgraian,-nid tý Tyweirch yw eu trigfan Yn neuadd nef, eistedd wnan',— Cynnes aeIwydydd Canaan. lach yw eu cyrpb, uwch yw eu c&n,—harddach Fyrddiwn eich dau faban Gwisgo gwisgoedd.nefoedd wnan' Sidanau, Crist ei kunan Yn bwyllog, ffarweliwch bellach-A hwy Hyd yr ail gyfeill-ich Henffych foreu goleuach, Cwyd y ddau o'u beddau bach. TREBOlt MAI.
ETTO.
ETTO. Bu am enyd wyneb mwynaf,—bychan Dibechod, hawddgaraf; 4 • Yna gwywodd cyn gauaf Ar adfail gwrid flagur haf. Ond am William John," dim welaf—drwy ffydd Wada'r ffaith anwylaf; Angel yw'n awr yn ngwawl Naf, Newydd wenu'n ddiaBaf. 0 dirDgoeddyr angau,—pwy ddiangc ? Pa ddewis, bob dyddiau Tmwneud y mae am nodau Cftonoedd a wangc yn ddi au. • Marwolaeth fel m6r hawliai-yr aelwyd, A II Mair Elen" ddygai Grym dwr garw ymdorai, A gwnaeth fedd geneth ddi fai. D-aw lor biodd droi bywyd—o'r golwg Drwy y gwaelod oerllyd Ac Iehofa a'i cyfyd, Foreu'r wyl fawr i'r ail fyd, GWYLLT WALIA.
. BEDD IEUAN GLAN GEIRIONYDD…
BEDD IEUAN GLAN GEIRIONYDD YN MYN- t, j; WENT TREFRIW. i /llb (Alaw—" Toriad y Dydd.") nv Yn mynwent dawel Trefriw Yr huna tyrfa fawr, O'gyrhaedd byd a'i groesa' i gyd, Yn ddistaw yn y Ilawr; Ac yn eu plith mae Ieuan, Oedd brif-fardd Cymru wen, Yn gorwedd heddyw yn y pridd, II i. Yn isel iawn ei ben J Wrth daleen uwcha'r eglwya t Mae cistfaen lwyd ei gwedd, Sydd yn dynodi'r llecyn hardd YT huna'r bardd mewn hedd Mae'r Ilechwedd anwyl yua, Yn gyssegredig dir, Er pan y claddwyd ynddi'r gwr, Oedd bercheu awen wir. Mae bwthyn gwladaidd prydferth 0 dan gelynog lwyD, Lie sugnodd Ieuan ddiliau mel 0 flodeu maboed mwyn; A cher y bwth mae'r afon, 'Chwareule 'i bluen fach; jf, Pan oedd yn laslangc ieuangc lion, A bochau gwridog iach. Hyd fin yr afon yna ■'wiiiSvA Ymrodiai fio y nos, ■■■■■U 1 A siriol wenai wrtho li hun Pan greai linell dlos i. i; Mwynhawn rhyw brudd edmygedd O'r bwth a'r afon lefn Ond 0 mae rhywbeth yn y bedd Sy'n taflu 'r oil tu cefn. Mae'r yw uwchben y beddrod A'r awel yn eu brig, Fel pob hen ywen arall fo'n Gwarchodi marwol drig Ond rhywsut, er y cyfan, Mae rhyw linvnaa byw Yn goglais rhywbeth yn y fron, Nis gallaf dd'weyd beth yw, Mae chwaeth yn herio amser Uwchben y beddrod llaith, Gan dd'weyd—" Nis gelli er dy rym Ddifodi dim o'i waith Bydd enw'r mwyn Geirionydd Ar dafod gw lad y gân i T Tra rheda'r af on loew, lefn, Ar wely'r graian mdn." Hibaethlon.
.--RHOSil, TYR'D I'R MAESYDD.
RHOSil, TYR'D I'R MAESYDD. Cyflvyynedig i N. Bennett, Ysw. (Trefnant), Glaurafon [Foneddigion.—Cyfeithiad rhydd ac ystwyth yw Y mydriaeth destlus caDlynol o weithydd barddonol y bardd Frangcaeg Beranger, gan yr awenydd galluog, a'r lienor addfed ac hyfedr, y Parch, R. H. Jones, M.A., (Quellyn) periglor parchus Llanidloes. Dios genyf, y byddwch mor hynaws a chymmwynaggar a'i gyssodi yn ngholofnau eich newyddiadur gwasanaethgar fel y byddo ar gof a chadw i'r oesoedd a ddel.—Ydwyf, &c., Llanidloes. R. Powss.]
[No title]
Rosa, ty'rd mae'r wavvr yn tori, Gad d' obedydd yn ei le, Clywi lais y gloch foreuol, Swn yn treiddio tua'r ue' Chwiliwn am orphwysfa dawel I ddedwyddwch ddiogel nyth; Tyr'd ir maesydcl pell o'r trefydd, Lie cartrefa enaid byth. Tyr'd i'r maes i droedio'r gwlithyn, Cymmer afaej yn fy llaw Tyr'd i ymgom hefo anian v Fel y carem fwy rhagllaw Clyw mae effro gor y goedwig Yn ein galw draw o'r llwyn Tyr'd i'r maesydd pell o'r trefydd Lie cartrefa cariad mwy. Mabwysiadwn chwaeth y dreflan, Codi gyda thoriad gwawr; ( Ac wrth drangc y dydd dychwelwn, Dan feill-ddeiliog glydol glawr 0 I f'anwylyd byth ni chwyni Nad yw'th gwrlid di yn deg Tyr'd i'r maesydd pell o'r trefydd, Lie cartrefa cariad chweg. A phan arwain haf fedelwyr Lawer i'r toreithiog fa's, Ar eu hol loffesau diwyd lawn i gasglu'r d'wysen fras,— Pa sawl cusan rhwng y 'sgubau, Gan y bugeilesau lion ?— Tyr'd i'r maesydd pell o'r trefydd, Lie cartrefa cariad bron. A pban nawf nefolaidd nectar 0 fasgedau Hydref 11awn, Wrth y celwrn coch, trochionog Chwardda'r lieiiwr foieu an;iwn, Testyn can orael y dreflan Ydyw caru'r oes a tu Tyr'd i'r maesydd pell o'r trefydd, Lie cartrefa cariad cu. Tyr'd i rodio hyd y glenydd Gweli di yn forfa naaith ? Gwelaf dan y tew frwysglwynilth Droed yn flin, a'th rudd yn Haitb, Chwant ddymuna wely o fwsog Pell yw'r byd—0, felus sawr Tyr'd i'r maesydd pell o'r trefydd, Cartref cariad, march y wawr CTF. QUELLYN.
. Y NEFOEDD.
Y NEFOEDD. Gwlad hynaws gIyd yw bODO-i enaJd Fydd uniawn breswylio; Tragwyddawl hyfrydawl fro, Iesu anwyl" sy'yno. Talwrn. CHWitFRTN Moir.
BEDDARGRAFF Y RHEGWR.
BEDDARGRAFF Y RHEGWR. Bu farw Sion trwy ddirfawr loes Ar ol rhegieydd a'i fyw di foes Ni chlywir mwyach ganddo rêg; Mae Llandegai yn llon'd ei geg. OGWENYDD.
EISTEDDFOD FREINIOL BANGOR.
EISTEDDFOD FREINIOL BANGOR. BEIRNIADAETH YR ENGLYNION I GASTELL Y PEN RHYN. Derbyniwyd naw cyfansoddiad ar y testyn uchod, oil yn amcanus, ond heb un mor orchestol ag y buasid yn disgwyl ar destyn mor ddenol ac wrth argymmhelliad gwobr mor hardd. Disgwyliasid englyn- ion a fuasent yn dal i'w cyfieithu ac yn dangos peth newydd-deb a thlysni meddwl mewn iaith estronol, ond yn hyn fe'n siomwyd. Rhestrant mewn teilyngdod cymmhar- iaethol fel y canlyn :— Brodor (i).—Deuddeg englyn cy- ffredin, heb ddim newydd-deb ynddynt, ac yn cynnwys amryw wallau ieithyddol. Y mae ei ddegfed englyn yn un da rhagorol. "Brodor (2).-Lled weiniaid ydyw'r eiddo Brodor yr ail, ond y mae ganddo rai llinellau celfydd a rhagorol, ac ambell wall hefyd. Naturiol.Darllena englypiorl Nat- uriol yn dra rhwydd, a cheir ynddynt ami linell dlos a meddwl grymus, ond un- donol a difywyd ydynt fel cyfansoddiad. 0 ran iaith a chynghanedd y maent yn lied ddiwall. Y Dewraf ei Dyrait. -Cymmysglyd a gwasgarog eu syniadaeth yw gwaith yr awdwr hwn. Trydd o amgylch- yr un peth, a defnyddia yr un ymadroddion yn fynych. Er fod ganddo rai llinellau a darnau o englynion da, eiddil ydyw'r cyfansoddiad fel cyfanwaith. "Bachgen o Walia.Nid yw yr awdwr hwn yn rhagori ar ei ragflaenwyr. Bach- genaidd yw amryw o'i ddesgrifiadau. Rhagora y pedwar nesaf i fesur lied helaeth ar y rhai a enwyd, sef:— Tudur Aled.Y mae llawer o fardd- oniaeth ddesgrifiol brydferth yn englyn Tudur Aled. Diweddu yn wan mewn geiriau llanw y mae'r pedwerydd englyn. Cynghanedd lusg hynod o wan mewn englyn ydyw hon, Fel mae'r Wyddfa yn brif fynydd." Nid da y gynghanedd ag y bydd yn rhaid i'r darllenydd droi yn ol i chwilio am dani a'i lygad ar ol i'r glust gael ei thwyllo. Gair gwan i ddal acceniad odl ydyw yr arddodiad yn. Englynion da yw'r seithfed a'r wythfed. Diweddu mewn llinell glogyrnaidd iawn y mae y nawfed, fel hyn, Erys mewn bri oesau maith." Ni waeth genym ymdrechu gwneud allan gynghanedd o equation mewn algebra na dirdynu darlleniad iaith i gael allan sein- iau cynghanedd y cyfryw linell. Cochivillaii,Y mae englynion Coch- willan yn fwy naturiol eu cynghaneddion, ond y mae gradd o dywyllni iaith yn cymmylu harddwch yr wythfed a'r naw- fed englyn. Lied unffurfiol a marwaidd ydyw y farddoniaeth drwyddi, ond dilyna y testyn yn dda. Tybiem nad ydyw iaith y ddwy linell ddilynol yn gwbl gy- wir, er fod y syniad yn dlws, Ac mal gem loew i gyd, Felly saif y llys hefyd." Onid gem gloew" yw'r ddullwedd Gymreig oreu, gan gymmeryd y gair gem yn wrywaidd? Nid ydys, fodd bynag, yn condemnio yr awdwr, ond yn unig aw- grymu hyn, am fod, feallai, a wnelo ar- feriad lleol ^'r peth. G ivladgarivr.Dyma yr englynydd mwyaf rhwydd a hoew ei ysgogiad yn y gystadleuaeth. Y mae ei gynghaneddion yn gedyrn a phlethedig ac wedi eu caboli mor llyfnion a llathrwych a meini mur- au y castell. Ond y mae peth tuedd i aberthu iaith er mwyn boddio cynghanedd yn yr awdwr. Dirdyniad ar iaith neu goegrodres yw ysgrifenu Castell hyn." yn lie Castell hwn. Y wreiddsain C a dlasai fod y llythyren gyntaf yn y Ilinell isod ac nid G.. "Gywreinwaith Celf-Gaw-ri-enwog-ydynt." Caliryn yr englynion ambell air llanw hefyd, megis "dud eurog" adudeirian," a pheth ailadroddiad o'r un syniadaeth. Dylai pob llinell mewn cyfres fer o englyn- ion fod yn newydd mewn syniad a chyng- hanedd. Y mae cyfeiriadau hanesiol a hynafiaethol yr awdwr yn ddyddorol dros ben, ond braidd yn cymmeryd gormod o ofod mewn deuddeg englyn. H ArfonÝdd.Darllena englynion Ar- fohydd yn rhwydd a naturiol, acy maent yn dra dysgrifiadol ar y cyfan. Ond nid ydynt yr add-drnwaith perffeithiedig -o'r radd uchel a ddisgwyliem mewn englyn- ion ariandlysog ar orchestwaith Cymru. Y mae peth gwendid iaith yn y cyfansodd- iad hwn trwy arfer talfyriadau lleol werin- aidd, megis arnyn" am arnynt a rhy' am rhydd. Clwyfo iaith ydyw hyn, ac y mae pob clwyf yn ei hanharddii. Gair llanw yw yn abl waith yn y trydydd englyn. Gan na byddai rhoddi y flaenoriaeth i Gwladgarwr" neu Arfonydd yn tar- ddu oddiar ddim ond mater o chwaeth neillduol, a'ubod mewn beirniadaeth yn dra chydbwys ei rhagoriaethau a'u ffael- eddau, mwy cyfiawn a'r awdwyr ac a'r pwyllgor, os dewisant o'r ddeutu, fyddai rhanu y wobr, ac i'r ddau gyfansoddiad fod yn eiddo'r pwyllgor.—Yr eiddoch yn gywir, -1 Cms Wyn o Wyreai. Dewe Wyn o Essyllt.
,LLANIDAN.
LLANIDAN. II. Awn gyda'n harweinydd rhwydd- galon i'r EGLWYS. Hail, mouldering arches of yon revered pile, That seen in age's heavy vest to shine All hail for here creative fancy reads Of ages past the long forgotten deeds." Tybir i'r Eglwys hon gael ei sylfaenu oddeutu y flwyddyn 616 o.c., gan Nidan Sant, ab Gwrfyw ab Pasgen ab Cynfarch ab Meirchion ab Gwrwst ab Ceneu ab Coel Godhebog. Efe a fu beriglawr y saint ym Mangor Penmon." Ei ddyddgwyl oedd Medi 30. Tybiai Rowlands mai i Ædan, neu Aidan, Sant, y cyflwynwyd Llanidan; a dywed, "F-dan, or Aidan, was the son of Gabranus, or Gwrnyw, who was grand- son of Urien Reged, Prince of Regedia, in the North. But whether Aidan the King (who was this I mention), or Aidan the Bishop, called Aidan Voeddog of Columcil, and Bishop of Lindisfern, bears the name of the Church of Llanidan, is not certain but probably the latter, be- cause Finnan, whose name is on a Church in the neighbourhood of the other, was the latter Aidan's disciple, and succeeded him in the Bishopric and to accompany the good work of his master Aidan, he might have the other Church built in his own name, called Llanffinan."—Mona, Antiqua, tud. 153. Cynnaliai Owain Gwynedd ei lys yn achlysurol yn Llan- idan, a gwaddolodd Briordy Beddgelert a threfgordd Tre'r Beirdd, yn cynnwys etifeddiaeth Llanidan. Bu yn Llanidan Is-briordy o dan y sefydliad yn Medd- gelert, yn nghyd a cholegdy bychan. Y mae tyddyn yn y plwyf yn dwyn yr enw "Tyddyn Prior," a llanerch gerllaw y palas, yr enw « college," olion gweddill- edig o wychder mynachol y Llan. Cyn- naliai y Prior yntau ei lys yn Llanidan. Pan ddadgorphorwyd Priordy Mair yn Meddgelert, yn y flwyddyn 1535, rhoddodd Harri VIII. holl feddiannau tymmorol y Priordy hwnw i fonachod Chertsey yn Surrey. Aethant drachefn yn y flwyddyn 1537, gyda meddiannau Abatty Chertsey, i feddiant monachod Bisham, yn sir Beres. Daeth yr eiddo yn ol, yn adeg dinystr cyffredlnol y monachlogydd o bossibl, i ddwylaw y brenin, a gwerthwyd y medd- iannau yn Mon, oil oddigerth Tre'r Beirdd, gan y Frenhines Elizabeth i Edmund Downham a Peter Aston, pa rai drachefn a'u gwerthasant i Rhisiart Prydderch o'r Myfyrian. Ei ferch yntau a briododd Prys Llwyd o Lugwy, boncyffdad Llwyd- iaid Llanidan. Cawn a ganlyn yn mhrisiaid meddiannau tymmorol Priordy Beddgelert-11 Valor Ecclesiasticus 26 Henry VIII, Monachlog Beth Kylert:"— ft SIR FON." Rectoriaeth Llanredan yn Neoniaeth Meney a Malldraeth, gwerth canolig yn ol ymchwiliad ac arholiad y dirprwywyr,— i £ s. d. Gyda 40s. am dir Eglwysig 70 3 8 Eiddoyn arosyn llaw y Brenin 22 o o £ 92 3 3 r Gwerth blynyddol rectoriaeth Llanidan a'i chapeliaethau yn amser Harri VIII. ydoedd deg punt. Saif nifer y plwyfolion a gwerth y fywoliaeth yn bresennol ryw- beth fel y canlyn 1 Degymau 1867. Plwyf. Poblog.1861. -_J Improp. Vicar. Llanidan 1232 370p. 185p. Llanedwen 273 130p. 65p. Llanddanielfab 443 160p. SOp. Llanfair-y-Cwmmwd 37 26p. lrfp. Cyfanswm 1985 686P. 343p. Gollyngwyd yr Eglwys yn adfeiliau, a chwalwyd y rhan fwyaf o honi yn y flwyddyn 1843, pryd" yr adeiladwyd Eglwys newydd yn ei lie ar sefyllfa ganol- barthol yn y plwyf. Gadawyd y pen gorllewinol o'r nave ar ei draed at was- anaeth angladdau, ond gan fod y gladdfa wedi ei chwbl-gau i fyny, weithian mae'r darn Eglwys hwn hefyd yn ystod olaf dirywiaeth,- "Yn myn'dyngandryllfriwsion rhwngbysedd difroddu." Yr oedd yn hen adeilad hybarchwedd yn ei dydd. Gwahenid y corphlan yn ddwy ystlys hirgul-,aisles--gan res o golofnau ardderchog, ar .ba rai y gorphwysai chwech o fwaau prydferth. Erys pedair o'r arches hyn allan yn yr awyr agored- dismantled. Y ddwy arall a gynnaliasant do y capel angladdol' rhag-grybwylledig West End. Mae marwolaeth fel pe wedi ymafael yn mhobpeth yma. I-Tik angof' yw ystyr helaethaf y gair—pob- peth. yn anghofiedig. Nid ymhoffwn mewn naanylu ar yr olygfa bruddglwyfuS* Yr eiddew, trweh a gripiodd hyd y talc" gorllewinol, nes ei lwyr guddio; a'r araf fran hithau a fu mor hyf a nythu yn nghymydogaeth y gloch Rhyfedd gyf- newidiad. Yr Eglwys anghofiedig-y Llan ang. hyfaneddol! Wyt ar lun cymmwys o syrthiedig ddyn. Yn awr wedi dy lwyr adael, ac wedi dy halogi o bossibl! y fath gyfnewidiad sydd ynot! Nid oes ynot na bywyd .na phrydferthwch, oddigerth yr eiddaw a ymlyn megis mewn dwfn dosturi wrth dy furiau adfeiliedig, gan guddio eu noethni a chyfnerthu eu gwendid, ac ami i dlws flodeuyn ag sydd yn siriol wenu yn agenau dy barwydydd gogwyddedig. Nid oes degwch ynot- ciliodd ymait,p. Etto ynot derbyniwyd llawer baban i deulu Duw drwy 'yr olchfa ddwfr.' Llefarwyd o'th ffwn eiriaw sanctaidd, ac addunedwyd ynot addunedau cyssegredig. Llawer cymdeithas gu a gafwyd rhwng dy gaerau. Y mae llygaid fil a dremiant arnat o'r gogoniant fry gyda dyddordeb annesgrifiadwy. Mynych cyfarfu Duw a dyn is dy gronglwyd gan- dryll di. 'Hwnyma a honaccw a aned yma.' Ond weithian lie bu'r 'organ efo'r eufgor' yn ffrydio mawl am lawer oes, nid oes sain ond swn cwynfanus y gwynt a chwibianiad dolefus y corwynt yn nydd yr ystorm n6J anynad y ddall-huan unig ar oerllyd noswaith gauaf fferllyd, a chwyth wenwynig y neidr dorchog ar nawn tesog o haf. Nid oes arwyddion bywyd o fewn y lie, oddigerth eiddo yr ysglyfaethus hwyrol adar a ymlochesant yn mysg yr adfeilion nes machlud haul, a'r man-bryfaid gvvangcus a ymborthant is y meini ar y celaneddau difywyd yn yr oer-feddau ar y dde ac aswy. Y gogoniant a ymadawodd." Cynt yn Demi Dduw, ond yn awr yn gyssegr gwrthodedig. Ac oni all y ddynoliaeth hithau hefyd ysgrifenu ar lech y galon- Ichabod-y gogoniant a ymadawodd." Gogoniant y greadigaeth nid yw mwyach ond murddyn salw-Teml yr Ysbryd Glan wedi syrthio yn drigfa i bob aderyn nos, ac yn breswylfa i bob ysprydion aflan. ICHABOD.
DARGANFYDDIAD CORPH MAB Y…
DARGANFYDDIAD CORPH MAB Y DEON RIPON. Crewyd cryn gyffro ychydig ddyddiau yn ol o berthynas i ddiogelwch Mr James Daniel M'Neile, mab y Deon Ripon, yr hwn a aethai ar goll. Bellach y mae yr holl ddirgelwch wedi ei glirio drwy ddar- ganfyddiad corph y boneddwr anffodus yn yr afon Ure, tua phymtheng milldir o'r llanerch y gwelwyd ef ddiweddaf yn fyw. Aethai ar hynt bysgotta tua phythefnos yn ol, ac nis gwelwyd ef mwyach yn fyw. Cynnygiwyd gwobr haelionus am ddarganfyddiad y corph, ond hyd foreu Gwener bu pob ymchwil yn ofer. Yn y trengholiad a gynnhaliwyd ar y corph, dychwelwyd rheithfarn a "Cafwyd wedi boddi." J i
---LLOFRUDDIAETH YN GLASGOW.
LLOFRUDDIAETH YN GLASGOW. Nos Sadwrn cafodd dyn o'r enw John M'Guinness, 30 mlwydd oed, ei lofruddio gan un Robert Fairley, yn nhy y di- weddaf, yn Bridgeton, Glasgow. Yr oedd y trangcedig wedi bod yn westtywr gyda "Fairloy, ac elai i'r ty gyda'r bwriad y gy o dalu dyled fechan. Cyfododd ymrafael rhyngddynt, a cheisiwyd gan y trangcedig ymladd. Tynodd ei got i'r dyben hwnw; a thra yn cael ei ddal gan ddyn-arall, tarawodd Fairley ef yn farw gyda phrocer, Y mae y llofrudd wedi diangc.