Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

LLITH* DAFYDD EPPYNT.

News
Cite
Share

LLITH* DAFYDD EPPYNT. YSTRAD TEIFI.—Dull Priq^amI yn Sir JL beiiMifi gant a hanner o yn ol. -AT,ae sefyll uwchben yr hen oesoedd yn rhoddi difyrwck ac add.y-sg; arferion a defodau yr hen deidiau yn nhawelwch ein dyffrynoedd ac areilion ein bryniau eu difyrwch, gwisgoedd, bwydydd, eu defod- au priodasol, angladdol, addoliadol, &c., canys y pethau hyn, gwedi y cwbl, sydd yn dangos anianawd unrhyw genedl a mesur eu gwareiddiad. Ac i'r perwyl o fyned yn ol, mae tystiolaeth un cyfoesog a llygad-dystiog yn werth hanner sach o draddodiad a llafar gwlad. Anna Beynon ydoedd foneddiges ieuangc athrylithgar, gredadwy, yn byw mewn tyddynyn a elwid y Bargod, yn mhlwyf Llandyssul, 1720. Yr ydoedd chwaer iddi a'i theulu gwedi mudo i'r Americayn. yfintai y crybwyllasom am dani memi llith flaen- orol, gan wladychu ar lan y Sasquehanna, a galw eu trigfa newydd ar enw Pencader. Ysgrifenodd yr Anna Beynon hon o bryd i bryd-1720-1727-res y lythyrau cyf- rinachol at y chwaer rhagddywededig yn America. Trwy rhyw ffawd dda, cafodd y Ilythyrau hyn eu diogelu rhag myned ar goll, ac yn Maner America, 1870, ar- graffwyd hwynt yn un ac un, ac y maent o werth annhraethol fel yn taflu goleu ar eu hoes. Ychydig feddyliodd Anna Bey- non y buasai ei Uythyrau cyfrinachol yn cael eu datguddio a'u cyhoeddi ymhen cant a hanner ar ol ei dydd. Buasai yn dda pe y gwnelid ymchwil am gyffelyb lythyrau ereill a ddichon fod yn aros yn rhyw lyfrgell neu flwch, gan eu cyhoeddi. Fel y canlyn'yr ysgrifena Anna Beynon parth pripdas.Siencyn ei brawd, 1720 :— .j Bargod, Tach. 20, 1721. AT MARY POWELL, PENCADER, AMERICA. ANWYL CHWAER,—Yr wyf yn anfon Ilythyr attoch unwaith etto, heb gael at- tebiad i'r llythyr o'r blaen, ond clywais trwy y llythyr a anfonasoch at dad Tho- mas eich bod wedi ei gael, a'ch bod wedi cael bachgen tlws yn ychwanegiad at y teulu. Yr oeddym yn llawenhau wrth glywed hyny, a chlywed eich bod oil yn iach, ac yn dyfod ymlaen yn dda yn America bejl. 'Llawer iawn 0 achwyn ar yr amser drwg sydd yma eleni, ond, nid oes genym ni fel teulu lawer o achos i achwyn. Yr ydym wedi cael iechyd da, ac wedi cael cnwd da iawn ond y mae llawer yn cael eu gwasgu eleni. Mae pethau wedi bod yn lied ofidus yn Pantycreuddin yn ddiweddar. Y mae Lewis a'r prif ddynion yn groes i Jenkin Jones am ei fod yn gwadu etholedigaeth a pharbad mewn gras a phyngciau ereill, ac y mae yntau yn dyweyd mai hen Galfin culfarn yw Lewis, a'i fod ymhell ar ol yr oes. Achwynir ar Jenkin Jones ei fod yn ysgafn ac yn gellweirus, ac yn rhy hun- anol i dderbyn cyngor gan neb; ond y mae rhai ereill yn dyweyd ei fod yn bregethwr da, ac yn fachgen serchus, en- nillgar. Y mae Lewis yn dyweyd os llwydda egwyddorion Jenkin y diflana crefydd o'r ardal, ac y bydd i bechod a drygioni ei llenwi; ac nad yw ef ddim yn foddlon i Jenkin Jones fyned i'w bulpud ef i lygru dynion a rhyw wenwyn afiach. Un boreu Sabbath yr haf diweddaf, pan oedd Lewis yn Pencader, daeth Jenkin i Pantycreuddin yn lied foreu, cyn i'r dia- coriiaid ddod yno, ac aeth i'r pulpud. Yr oedd yn gas ganddynt ei dynu i lawr wedi iddo ddechreu y cwrdd. Daeth Mrs Lewis, Dinas Cerdin, i mewn pan oedd bron dibenu gweddio ac wrth ei weled yn codi i fyny i bregethu, hi aeth allan a thuag adref. Menyw lied beriderfynol yw hi, fel y gwyddoch, a menyw wybodus iawn. Nid oes yma neb ond Lewis ei hunan yn ffit i ddal canwyll iddi. Gwnaeth y tro yna i'r holl ardal ferwi fel cawl pys,—rhai yn beio Mrs Lewis yn llym iawn, a rhai yn ei chadw yn boeth tan ond y mae y rhan fwyaf gyda Mr a Mrs Lewis, ac y maent wedi penderfynu na chaiff Jenkin Jones bregethu yn Pant- ycreuddin. Aethum yr haf diweddaf i roi tro am ychydig ddyddiau i dy modryb Nancy, Gwarffolog, a phwy oedd yno ar yr un amser, feddyliech chwi, ond Matti'r Pant, cariad Jenkin, fy mrawd. Mi eis mor ddiflas a chawl dwfr heb halen wrth ei gweled yno. Nid oedd dim byd i'w wneud ond myned ymlaen goreu gallswn. Nid oeddwn wedi bod nemawr o ddim yn ei chwmni o'r blaen. Ni feddyliais erioed ei bod yn gystal merch, mor gall ac mor isel, ac y mae yn llawer glanach nag oeddwn i yn meddwl. Nid wyf yn rhyfeddu fod Siencin yn ei charu. Yr oeddem yn ddwy gyfeilles wresog cyn pen dau ddiwrnod, ac yr oedd yn ddrwg iawn genyf fy mod wedi bod yn ei rhedeg i lawr wrth Siencin. Yn ffair Llanbedr fe yfodd Evan Bwlch- gwyn fwy nag a ddylsai, ac fe gwrddodd ag Evan Blaencwm, yr hwn oedd hefyd yn hanner cnap, a dechreuasant dafodi eu gilydd. Os wyt ti yn myned i yfed fel yna," meddai Evan Richard, ni chei di ddim o ferch y dyn duwioi sydd yn y Bargod yn wraig." Os na chaf fi hono," meddai Evan Parry, "mi gaf Saly, yr hen I I ygot gra.gi fawr y6d sy' ti." "Mae gan fy Saly i," intddai Evan Richard, u gystal dillad, a mwy o honynt, na phincen fach y Bargod." Pwy ddiolch iddi fod a mwy o ddillad ?" meddai Evan Parry feallai fod pac y Scotchman yn nes atti." "Be Nveda,ist ti ?" meddai Evan Richard. ac y 'Scotchman pac y Scotchman meddai Evan Parry nerth ei ben a dyna lle'r aeth yn amser o'ffiadwy rhyngddynt. Cafodd y gwahodd ei roddi allan yn y Pant. Yr oedd yno gwmni lliosog iawn wedi dyfod ynghyd, a phennodwyd Evan Ddigrif yn wahodd- wr. Ar ol dyweyd yr holl ammodau wrtho, aeth allan, ac ymhen ychydig dyna fe yn curo yn y drws, ac yn dod i fewn, a'i gwd ar ei gefn a'i ffon yn ei law, ac yn dechreu ar ei ffregod, ond fe gamddywed- odd rywbeth, a gorfu iddo fyned i maes. Daeth i fewn yr ail dro, a dechreuodd ami, ond aeth yn garnlibwns arno wedyn, a gorfu iddo fyned i maes, a phawb ar fyn'd yn yfflon gan chwerthin ond aeth Matti'r Pant yn ddistaw bach a shwced o ddiod iddo, oblegid pan yn gwarter cnap y mae Evan yn gallu dylifro oreu. Daeth i mewn y trydydd tro, ac aeth trwyddi fel milgi ar ol yr ysgyfarnog, rywbeth yn debyg i hyn Dydd da a chant henffych i chwi oil, deulu caredig, fel yr ydych yn codi ac yn cysgu, yn gwisgo ac yn bwytta, yn byw ac yn bod yn y ty hwn. Nesewch i wrando gyda brys, Rwy'n dod a gwarant fawr a gwys; Fel Ilatai'n (lod i law o'r llys At bawb mewn croen, os nad mewn crys. Yr wyf yn dyfod attoch chwi oil, o'r lleiaf hyd y, mwyaf, yn genad ac yn wahoddwr dros Siencin Beynon o'r Bargod o un tu, a Martha Morris o'r Pant o'r tu arall, i ofyn y ffafr o'ch cwmni a'ch ewyllys da ar ddydd eu priodas, sy'n cymmeryd lie ddydd Iau pythefnos i'r cyntaf. Mae Martha'n eneth fwynaidd, Ac ynddi Batur g'ruaidd "J Mae'n bwriadu myn'd yn siwr I ochor gwr i orwedd. Bydd cwmni y mab ifangc ar geffylau yn codi o'r Bargod am naw o'r gloch y bore, ac yn myned i gyrchu y ferch ifangc i'r Pant, lie bydd ei chwmni hithau ar ge- ffylau yn disgwyl am danynt, ac oddiyno byddant yn myned i eglwys Llandysil i gael cylymu y ddau ddyn ifangc ynghyd mewn glan briodas ac oddiyno bydd cwmni y briodas yn myned i Gwarallt-yr- YIi i gynnal neithior. Mae'r mab ifangc yn galw pob pwython dyledus iddo ef i mewn y pryd hwnw, ac y mae ei dad, Morgan Beynon o'r Bargod, a Becca ei wraig, yn galw pob pwython dyledus iddynt hwythau i mewn y diwrnod hwnw i ddwylaw y mab ifangc. Y mae'r ferch ifangc o'r ochr arall yn galw pob pwython dyledus iddi hithau i mewn y pryd hwnw, ae y mae ei thad, Huw Morris o'r Pant, a "Pal ei wraig, a'i hewythr, Griffith Morris, Gwrdybach, yn galw pob pwython dyled- us iddynt hwythau i mewn i ddwylaw y ferch ifangc y diwrnod hwnw. A phob rhoddion bynag a weloch chwi fod yn dda eu stofi ar y gwr ifangc neu y wraig ifangc y diwrnod hwnw, cant eu derbyn yn ddiolchgar a'u talu yn ol yn llawen pan fyddo galwad am danynt, ganddynt hwy ill dau, a chan y tad a'r fam o'r ddwy ochr, yr hwyaf fo byw o honynt. Bydd cyfeillion y par ifangc yn cyweirio y ty y nos o'r blaen yn Gwarallt-yr-Yn, a pha beth bynag weloch chwi fod yn dda ei stofi arnynt y pryd hwnw a gydnabyddir yn ddiolchgar, ac a delir yn ol yn llawen ganddynt hwy, neu eu rhieni o'r ddwy ochr pan ddelo amgylchiad cyffelyb i alw am hyny. Deuwch i'r briodas, na fyddwch yn ddiflas, I gael ewrw melyn, bara ceirch a 'menyn, Bara can a chaeen, a chawl cig maharen Cewch osod eich cwpan ar gornel y pentan Tra fyddoch yn smocio pib lawn o dybaco Cewch gwart pryd y mynoch o gwrw pin alwoch, Mi fyddaf fi yno'n ofalus i'ch tendio Mae llawer o feehgyn yn dyfod i'r topyn Caiff pob merch lygadlon ddau neu dri o gariadon. Ond da chwi, dewch weithian a blawd ceirch i Ifan Os hebddo 'rwyn cym'ryd IIond cawg o flawd a myd, Neu flawd barlys hiledd cyn ffaelu'n y diwedd, Gwnewch gyatal a galloch, a bendith Duw arnoch." Yr oedd yna briodas fawr, cant a deg ar hugain o wyr ceffylau yn nghwmni I Siencin, a phedwar ugain a phymtheg yn nghwmni Matti. Die ci brawd hi oedd y iteiliwr, a finnau yn llawforwyn. Ee fu gyru arswydus o'n ty ni i'r Pant, ac oddi yno i'r eglwys, ac o'r eglwys yn ol i dy'r neithior. Ond Shemi gwas Galltyrodyn oedd y blaenaf. Yr oedd ef wedi cael ceffyl y gwr boneddig, a gorchymyn i beidio gadael i neb fyned o'i flaen pe bu- asai yn lladd y ceffyl. Yr oedd cwinten wedi ei gosod yn groes i'r ffordd rhwng y Pant a'r eglwys. Yr oedd yn un fawr, gref, ac yn rhy frwnt i neb gwrdd a hi, a bu rhaid cael bilwg dwylaw cyn ei thori. Nid allodd neb neidio drosti ond Shemi Galltyrodyn aeth ef drosti fel barcutan. Dywedir mai Twm Penddol wnaeth y gwinten. Fe gwympodd Cati'r Alltgoch rhwng yr eglwys a thy'r neithior, a thor- odd ei braich. Yr oedd yno neithior fawr iawn-y fwyaf a welwyd er ys blyn- yddau. Yr oedd dau del 0 frag wedi cael eu macsu, ond fe yfwyd y cwrw bob dy- feryn cyn deg o'r gloch y nos. Fe dder- byniodd Siencin bum' punt ar hugain a chweigain, a Matti un bunt ar bymtheg, ac fe dderbyniwyd saith punt ar hugain am y cwrw a'r bara can. Fe feddwodd rhai yn lied ddrwg, yn enwedig Evan Bwlchgwyn. Aeth ef i regu, a chwympo maes, ac ymladd, yn ei feddwdod. Yr oeddwn yn ddig wrtho, oblegid yr oedd wedi tynghedu wrthyf i beidio meddwi'r pryd hyn. Cefais bregeth dri a chwech gan fy nhad ar ol hyny. Dywedydd wrthyf am gofio Sarah, Gelli- faharen, a bod yn rhaid i mi ballu i Evan neu adael ei dy ef. Yr wyf wedi pallu yn benderfynol iddo. Y mae yn ddrwg genyf i mi fod yn cadw cwmni i'r fath ffwl. Yr wyf heb un cariad yn awr. Y mae Wil Rees, Penrhin, wedi myned i'r ysgol at ei ewythr yn Lloegr. Nis gwn pa eisieu rhagor 0 ysgol sydd arno, oblegid yr oedd yn ysgolhaig da o'r blaen. Efe oedd yn ysgrifenydd yn y neithior. Nid oes genyf le i ychwaneg. Eich chwaer gariadus, ANNA BEYNON. YSTRAD IRFON.—Cadair Eppynt.-Y prif ddygwyddiad 0 bwys a gymmerodd le yma yr wythnos hon, a gellid chwanegu, mai oddigerth ymddangosiad yr angel-y damweiniad pwysigach yn y ganrif hon ydyw, sef dim llai na dihuniad hen Gad- air Eppynt gwedi bod yn nghwsg oddiar gwymp Llewelyn ap Gruffydd. Canys pedair prif Cadair y sydd, ebe Dafydd y crydd, sef yw hyny, Cadair Morganwg yn Essyllwg, a'i harwyddair Y gwir yn er- byn y byd;" Cadair Dinefwr, "Duw a phob daioni;" Cadair Powys, "A laddo a lecldir;" a Chadair gwlad Buallt, a'r gair cysswyn Nid da lie gellir yn well," ac ar y Tri Chrug yn Eppynt y delir y gadair hon er cyn cred a chof; a'r tri chrugyn, onid tair gorsedd ydynt, sef un i'r arch- dderwydd, y Hall i'r prif-fardd gorseddog, a'r llall i'r prif ofydd. Yn unol a statudau Gruffydd ab Cynan dihunwyd y gadair rhagddywededig hon ar awr anterth, dydd Alban Elfed, sef pan cedd yr haul yn ar- wydd yr Hwrdd, pryd yr ymgynullodd beirdd a gwyr lien Cantref Buallt, sef oeddynt nid amgen, Dafydd y Badell, Beni Synwyr Wan, Twm y Wesley Gwyllt, Dewi Dinllwm, Harri Fardd Hir, Gwilym Bendrwm, Rhys y Geiriau Duon, Dai Drum yr Eiria, &c., sef beirdd mynydd- oedd Abergwesyn ydoedd y rhai hyn. Ac i gwrdd a hwynt y daeth beirdd Eppynt, pob un a'i gorn, canys yn ngheiriau y Staiut Bydded i bob bardd wrth fraint a defod, ei gorn gafr, ac i'r Pen-bardd gorseddawg, y corn gwlad." Gwedi cyf- arfod ar y Tri-Chrug, a gwedi myned yn ddefosiynol trwy y defodau rhagbarotoawl, megys gosod cylch oddiamgylch ogylch y gorseddau, gan roddi gwys a gwaharddiad na byddai i neb ddyfod dros y cylch onid beirdd; yna dododd pob un ei gorn wrth ei fant (os laxum yn y Lladin), a chan droi tua'r haul, llygad goleuni, udganodd pob un ei udgorn gan--floeddio, Cyfod, mae yn ddydd," ac ni bu y cyfryw floedd yn nghof neb yn fyw neu heb yn fyw, gan gyrhaedd trwy hyd a lied gwlad Buallt. Syrthiodd amryw 0 dai, ac yn eu plith Shop y Gof, Rhys y Geiriau Duon yn Nghwm-rhoch. Gwylltiodd y defaid, ebolion, &c., gan daflu eu hunain dros y creigiau, a bu colledion dirfawr, anferth. Yno yr agorwyd yrv Orsedd a rhoddwyd urddau, ac ymysg ereill graddiwyd Dafydd Brydydd Byr yn Pastynfardd, sef bod trwydded a hawl a braint ganddo i gario pastwn a elwir pastwn y ffydd, gyda hawl i'w arfer yn lie rhesymeg, canys trech pastwn na rhesymeg, ebe y Statut. Hefyd rhoddwyd urdd Clerwr ar Wil Brydydd Main, sef rhoddi hawl a thrwydded iddo yn rigrym ei urdd yn amser y gwyliau i hela am gymmorthau, diod, gwydd dew, pres, degwm cildwrn, &c., sef yw hyny, fod clerwriaeth yn y daiarol yn atteb i'r Jackyddiaeth yr ysbrydol. Hyderir y bydd i ddihuniad y Gadair lion roddi pen ar rwysg crach-ymhonwyr diawdurdod, anwarantedig, sydd yn crwydro dros wlad a gorwlad, gan gymmeryd arnynt y gor- chwyl 0 holi plantach dan otd yn mydrau cerdd dafod, gan roddi iddynt docynau di- reol anwarantedig, a hyny er mwyn pres a gwneud bol mawr. Bwriedir mewn gor- sedd ddyfodol ddwyn dysgyblaeth arnynt gan eu hesgymuno trwy gynffon y sarph, gan*eu lluchio, yn ngeiriauy Statut—<( fel wy clwc i Abred." DYDD MERCHED.—Yn cyfarfod heddyw a'r Prydydd Main a Dafydd Fyr, yn dych- welyd 0 Eisteddfod Llanwrtyd. Eu gwyn- ebau gwedi syrthio, poer dros y farf, a'u dillad yn rhwygedig fel rhai a faeddwyd mewn rhyfel; y si allan fel tan gwyllt, ddarfod iddynt golli ar destyn y gadair —Dafydd y Babell gwedi dwyn i gadair i Abergwesyn. Ba cam chwareu dychryn- 11yd y beirniad gwedi ei lwgr-wobrwyo; y storm yn ymgasglu, y dymhestl yn dar- llaw, a fyddo ddianhangol aed i'w babell. BULAH AR GAMARCHA.—IRRESISTIBLE GRACE.—Soniai yr hen bregethwyr yn fynycli am y gras anwrthwynebol, gwein- idogaeth effeithiol, &c., a chafwyd prawf yr wythnos hon nad ydyw y rhinweddau y rhain gwedi darfod yn llwyr o'r wlad, ac mewn shop gwr o 6f yn y pentref uchod y bu y prawf. Mae yn wybyddusTnad oes caniattad i un sectwr i ddarllen un llyfr na phamphet, oni bydd arno nod a thrwydded y seiat, canys ebe yr^athraw gyda sobrwydd priodol, gofaler am gauad- leni ffenestri, "keep the shutters up," ebe ef yn Gymreig a Saesneg. A gwr 0 Faptist, gan ddyfod a ddaeth i mewn i t shop y gof rhagddywededig, ac yr ydoedd yn llaw Moses y gof ar y pryd yr "Haul" am y mis, ac ynddo yr oedd traethawd yn dwyn gwawd ac ansyberwyd ar yr hyn a elwir, Seiat. A Moses a gododd ei lef ac a roddodd orchymyn i syrthio ar y gwr 0 Faptist a'i ddal yn gadarn gerfydd ei glustiau, (clustusibus yw y Lladin), yr hyn a wnaed am 0 gwmpas o haner awr, a darllenwyd iddo yn ofalus, pwyllog, mesuredig, hyglyn, esboniadol, milain gan Foses, y eyfryw draethawd trwyddo ddwy waith gwedi hyny llith Dafydd Eppynt am yr wythnos—(hats off)-gwedi hyny gollynwyd y gwr yn rhydd. A daeth ar- gyhoeddiad dros y gwr 0 Faptist, a'i lygaid a agorwyd, ac efe a ddywedodd- yr ydwyf yn gweled dynion fel prenau yn rhodio. Mae ystrangc Moses y gof gwedi gwneud cyffro mawr trwy gapelyddiaeth Cwmwd Bulah, canys gan fod rhanau helaeth o'r Beibl yn waharddedig i'r saint, megys lleoedd y crybwyllir am ddarpar- iaeth y degwm i'r offeiriadaeth trwy ddeddf dragwyddol, am unoliaeth Eglwys Dduw gan ochelyd yr hwn a fo sismatic, neu rwygwr, am esgob, offeiriad, deacon, &c., ofnir y bydd dala eto gorfydd y clustiau. A'r blaenor a attebodd ac a ddywedodd, gwell bod heb glustiau, canys paham y peryglir yr achos,-y casgliad degwm cilddwrn, &c. ? Gyda llaw mae y Bardd Byr gwedi ffromi yn aruthr, ac nid heb achos, am y Ilyrguniwyd ei englyn gan Dd- y wasg yn y Llais diweddaf. Fel y canlyn y dylai fod Ei chlai, ei chrib a'i chloch raff-a'i hallor Mae'r oil yn gysegr-graff; Pe ceuid ei dor brid braff Ai 'n liw nos ar Lan Asaff." LLANBEDR.-Ar y 4ydd o'r mis hwn bu gwyl de flynyddol ysgolion Sabbothol y plwyf hwn, yr rhai sydd yn cael eu gwneud i fyny 0 dair ysgol, nid amgen, eiddo St. Pedr, St. loan, a St. Mair. Gwedi cyfar- fod a'u gilydd a ffurfio un gorymdaith, cerddasant trwy brif heolydd y dref yn cael eu blaenu gan gor 0 berorwyr, ac oddi yno i'r green 0 flaen y coleg, lie bu yfed te a rhialtwch arferol. Perthynai i'r plwyf hwn gynt ddau gapel dan yr eglwys, sef eiddo St. Thomas a St. Mair, a buont ddiflanedig am oesoedd; ond yn ddiwedd- ar, ac yn benaf trwy offerynoliaeth prif foneddwr y plwyf, y mae y ddau gwedi mewn rhan eu hadferu. Mae y plwyf hwn yn cael ei freinio fel rhcol a churadiaid talentog a gweithgar. LLANDEILO-TALYBONT.-Ar y 3ydd o'r mis hwn,, bu farw y Parchedig Thomas Clarke, periglor y lie hwn, mewn oedran teg (82). Ordeiniwyd ef gan Esgob Bur- gess yn 1821, a bu yn gwasanaethu dan bedwar Esgob, nid amgen Burgess, Jen- kinson, Thirwall, a eiddo Basil Jones, yr Esgob presenol. Yr ydoedd yn wr a wasanaethodd ei Eglwys a'igenhedlaethyn dda, ac yn dwyn parch gan bawb a'i had- waenai. Yr ydoedd nifer mawr 0 offeir- iaid yn ei angladd. Pregethodd y Parch. R. Williams, periglor Llanedi, ei bregeth angladdol, oddiwrth Actau xiii, 36. Dan- fonir i chwi fanylion ppllach am y gwr teilwng yn Nghrist. 1,R DAFYDD EPPYNT.

TAN DINYSTRIOL YN LLANEFYDD.

-_------------YMDDISWYDDIAD…