Skip to main content
Hide Articles List

13 articles on this Page

COFFADWRIAETH

DAU ENGLYN

ENGLYNION

V'CLYCHAU Y LLAN.

T QWN GWYRUD CRACH-URDDASOL…

GWAWD-GAN

URDDEDIGION EISTEDDFOD BANGOii.

CHWEDLONIAETH Y CYMRY.

News
Cite
Share

CHWEDLONIAETH Y CYMRY. Difynir a ganlyn o draethawd arobryn a gyhoeddir yn y Wasg Americanaidd. Yn y bennod hon rhoddwn eglurhad y Parch. Owen Jones ar y Trioedd a ddyi- ynasom yn y bennod o'r blaen. Erein galiuogi i ddeall rhyw gymmaint o'r Trioedd hyn, y mae yn angenrheidiol i ni gofio fod yr hen Frythoniaid yn cyfrif Noah fel yr un a ddysgodd i'w tadau aredig tir gyntaf, ac yn gysson a hyny y dywedir yn yr hanes Sanctaidd i Noah yn fuan wedi y dyiifddechreu bod yn llafurwr, ac am hyny. pan nad oedd ganddynt ys- grifau, ond y cludent eu meddyliau o oes i oes trwy ddarluniau, hwy a'u darlunient ef drwy faedd, am fod y creadur hwnw yn aredig y ddaear a'i drwyn, gan ymlid ar ol y pryfed, ac felly yr arddwr mwyaf natur- iol; rhoddent barch addoladwy i'r arch, neu elfod yr arch, dan yr enw I Ced,' neu Ceridwen,' yr un a Ceres y Groeg- iaid, fel duwies llawnder, am mai o'r arch y caed had i hau y ddaear wedi anrhaith mawr y dy lif; a hwy a'i gal went hi weith- iau 4 Ogyrwen Amhad,' ac a'i darlunient dan y nodwedd o hwch ei hoff ddysgybi a elwid. porchellen ei harchotfeiriad a elwid Twrch/ neu 'Gwyddhwch,' sef baedáy llwyn; ei hotfeiriaid a elwid 'Meichiaid,' neu geidwaid moch a'i chynnuileidfaoedd a elwid uioch ac felly, ar gyirif eu dyhewyd crefyddol o'r, cynoes- oedd, y cyfenwid y Monwyson "Moch Mon." Mae yr hen ffug-chwedlau a elwir y 'Mabinogion,' sef y chwedlau a gyfan- soddid gan yr athrawon Derwyddol mewn iaith gyfrinol, i ddysgu eu dysgyblion trwyddynt yn eu hathrawiaethau a'u cofion crefyddol, yn cadarnhau y dybiaeth uchod. Y cyntaf o'r tri gwrddfeichiad a gry- j bwyllir yn y Trioedd yw Pryderi,' sef dwys ystyriaeth, a chan y'i cyfenwir Gwynfardd Dyfed,' neu 'Dderwydd Dyfed,' y mae yn hawdd i ni ganfod mai cyfundraeth ei greiydd oedd testyn ei ddwys ystyriaeth. Ei dad oedd "Pwyll," sef rheswm neu gallineb, a gallem feddwl mai nid enwau personol oeddynt y rhai hyn, ond yn hytrach enwau cyfrinol, er dynodi y cymhwysiad gofynol i wneud Meichiad da, neu swyddog crefyddol effeithiol yn y cyflawniad o'i swyddogaeth.! Cadarnheir fymeddwl yn y golygiad yma. drwy ddernyn hynod o farddoniaeth yr hen Daliesin, a elwir 'Penden An-nwn,' sef I Yspeilion y Dyfnder,' neu 'Gonon Orefyddol y Dylif,' lie y dywed mai wrth gynghor 'Pwyll' ar Phryderi' yr aeth yr hen batriarch i'r arch. Fel hyn y mae Golychaf wledig, pendefig, wlad ri Pa ledaa y pecaeth dros draeth Mundi Bu cywair carchar Gwair yn Ngbaer Sidi Trwy ebostol Pwyll a Phryderi, Neb cyn nag ef nid aeth iddi. Y dwyn dromlas, cywirwaa a'i cedwi A rhag preidden annwn tost ydd geni; Ao yd frawd, parhawd yr Bardd wedài; Tri llonaid Prydain ydd aethem ni iddi; Namyn saith ni dyrraeth o Gaer Sidi." Er mwyn y sawl ajallant fod yn annghyf- arwydd yn iaith cyfansoddiadau y prif- feirdd, dodwn yma aralleiriad rhydd o'r dernyn uchod Addolaf y penadur, goruchaf nolydd y tri, ped estynai ei Arglwyddiaeth hyd eithafoedd y byd etto cyweirid carchar Gwair yn Ngbaer Sidi, trwy gynghor Pwyll a Phryderi, nid aeth neb iddi o'i flaen ef. Dioddefodd gadwyn y dromlas, 0 wr cyfiawn ac am ysbeilion y dyfn- der, tost yw dy gwyn, a hyd ddydd brawd y'i cofir yn ngweddiau beirdd. Aeth, tri llonaid Prydain i'r dyfnder; ond ni ddy- chwelodd namyn saith o Gaer Sidi." Dywedir yn y Mabinogion fod Pwyll, arglwydd saith dalaeth Dyfed, pan yn ar- berth, neu yr uchel lwyn, wedi pennodi dydd hela, hyny yw, dybygid, adeg arben- ig i gyflawni cyfrinioji eu crefydd, ft'r He a ddewisai i hyn oedd Glyn Cwch, (neu Glyn yr Arch). Pan oedd Pwyll ar ganol i ei helwriaeth, yn gwrandaw ar swn ei fytheiaid, efe a glywai yn eglur swn by- theiaid ereill, hollol wahanol eu goslef i'w rai ef, ac yn dyfod yn gymhwys i'w herbyn. Mae hyn yn cyfeirio at ryw ddefodau crefyddol hollol wahanol i'r eiddo Pwyll a'i hynafiaid. Ai tybed nad oes yma ryw gyfeiriad, er yn dywyll, at lygriad a gwyriad yr hen Gymry oddi- wrth symlrwydd eu crefydd gyntefig, yr hon oedd yn llawer mwy cydweddol a synwyr ac ystyriaeth ddifrifol, na'r lluaws defodau coegion ac eilunaddolgar yr ym- lithrai y genedl i'w harfer yn fuan. Am Coll, fab Collfrewi, efe a ddarlunir fel nai a dysgybl H Rhuddlan Gawr," neu y Cawr Coch esgyrniog, fel yrarwyddoca yr enw, yr hwn nas gall fod yn neb amgen na'r Masnachydd Coch o Phenicia, yr hwn oedd Ganaanead o un tu, ae Edomiad o'r I tu arall, ac a drafnidiai i ynysoedd yr Alcan, ger Cernyw. Coll, fab Collfrewi, dybygid a olygir yn y Trioedd fel athraw y grefydd newydd yma; a'r gyfundraeth a :ddysgid ganddo a ddarlunir o dan y gyffelybiaeth o hwch, i'r hon y priodolir dodwy, neu adael o'i hoi, neu gynnyrchu mewn amrywiol wledydd yn ei ifordd, am- ryfal bethauneueffeithiau, felolion ei hym- weliad. Yn N gwent y dodwes dri gwen- ithen a thair yivenynen." (Ystyridygwenith a'r gwenyn yn gyssegredig gan yr hen Gymry.) Nis gwn a allai hyngynnwys rhyw amnaid fod Coll a'i gyfundraeth newydd wedi caei derbyniad liedroesawus yn Nghwent; neu efaltai ei fod yn rhoddi ar ddeali fod yr Athraw hwn wedi bod o gryn wasanaeth i drigolion Gwent, trwy eu hyfforddi i wellhau amaethyddiaeth eu gwlad, ac felly gynnyrchu cynnaliaeth a chysuron einioes yn helaethach nag. o'r blaen. HeblaW hyny, y mae rhi ydynt yn hyddysg- yn nghoelgrefyddau y prif oesoedd yn ein hysbysu fod gwenyn yn cael lie mawr yn eu temlau mewn cysyllt- iad a rhai o'u defodau, ac am hyny, oni aliwn ni gasglu fod athraw y grefydd newydd hon yn wr tra dichellgar, a'i fod dan y gochl o ddysguy Gwenhwyson yn y gelfyddyd werthfawr o amaethyddiaeth wedi cael cyfle i ddwyn ei syniadau a'i ddefodau crefyddol i iewn ar yr un pryd. Yn Mhenfro, drachefn, y dodwes ar heiddyn a phorchellan; tra yn dysgu amaethyddiaeth i drigolion Dyfed, cyn- ilyrehaiiei ryw.ei hun o grefydd, yn eu plith hwjthau. Yn Arfon, ai Ystlys Rhiw Gyferthwch, y aodwes ar genaw blaidd a chyw yr eryr." Yr oedd y baaidd yn y ffugchwedlau, medd Mr Bryant, yn pertnyn i addoliad yr haul; a'r eryr hefyd oedd Un o'r eulunod Aiphtaidd, cysaegredig mewrimodd arbenig i'r haul. Dywedir fod Coll wedi anfon yr eryi yn anrhegiFrynach WyddeloddinasAffar- aon, a'r cenaw blaidd i Fenwaed, Arglwydd Arllechwedd. Oni ellid casglu oddiwrtn y Triad hwn fod rhyw orsaf arbenig i'r gref- ydd newydd yma wedi ei sefydlu gan Frynach Wyddel a chan Menwaed yn Ar- glwyddiaeth Arllechwedd ? A'm barn os- tyngedig ydyw bod yr hen adfeilion, ar y ddwy uchella grybwylledig, yn cynwys olion temlau i lu y nef, a gyfodwyd gan ein hyn- afiaid yn ysbaid ffyniant y gyfundraeth grefyddol a ddygwyd yma o Pheneoia gan Khuddlan Gawr, ac a ledaenwyd wedi hyny trwy offerynoliaeth Coll fab Collfrewi. Y maen, du yn Arfon, lie y dodwes ar genaw cath, ydoedd y maen du yn yr Arddu, yr hwn sydd yn agos i Lanberis." A MY cynnyrchiadolaf ymao eiddo yr hwchgyff- redinoi, dywedir mal cath balwg, neu cath fraith ydoedd, a bod Coll wedi ei bwrw o ben y maen Elu" i'r Menai, a bod meibion JBaiwgyn Mon wedi ei chymmerydi'r Ian a'i magu, ond iddi wedi hyn ddylod yn un o dair brif gormes Ynys M6n. 44 Efallai fod hyn yn rhoi ar ddeall i ni fod dygiad y grefydd newydd yma i'r Yiiys wedi achosi blinder. ac ymrafaelion yn mysg y trigolion, os nad rhyfel cartrefol."

YMDDYGIAD ANNYNOL.

INEIDIO O'R GERBYDRES.

[No title]

I"';-Y FBlF FAHCdNADOiiDU…

Advertising