Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
HYN A'R LLALL, YMA AC ACW.
HYN A'R LLALL, YMA AC ACW. MEISTRI GLYGWRS,—Wei, dyma 'r Steddfod a'r Sassiwn drosodd. Siawns nad ydi pobol Bangor wedi caul digon o visitors yr ha yma i cadw nhw yn dawal am y rhawg, ta nhw yn fwy grwgnachlyd nag ydy nhw. Ydw i'n clywad ma'r steddfod ath a hi, cin bellad a chaul mwya o bobol. Deudwyd wrtha i gin lawar na welson nhw rioed mo Fangor mor llawn a Difia, y dwrnod cydeirio. Rhaid i bawb addaf fod y steddfod miawn rhwysg mawr y blynyddodd yma. Gy- beithio y deil hi yn hir felly, ac y daw rhygorach cyfansoddiada i fiawn y naill flwyddyn ar ol y Hall, ac y ceir beirniaid ag y byddo i dedfryd nhw uwchlaw am- heuath—na fydd raid i neb betruso y mymryn lleia am i gallfi yn gystal a'i gy- nestrwydd. Ma'n digwydd weithia i ampall i ddyn wrth gynyg gwobr ar ryw- beth enwi ffrind iddo fo'n feirniad ar hwnw, a hwrach na bydd y cymwsder lleia yn y ffrind ma i feirniadu o gwbwl. Welsoch yn y steddfoda dyweutha ma ddynion wedi i gosod i ferniaau ar gyf- ieithiada o'r naill iaith i'r llall na wydda nhw fawr fwy am Sasnag na Joni Mogram am lynyddiaeth. Ma dau ddrwgyn dilyn hyn, sef stopio llawar i gystadlu acachosi anfyddlonrwydd mawr ar ol y feirniadath. Fe fydda yn gampus o beth fel y deudis i o'r blaun ta bosib hitio ar feirniad ar bob testyn yn uwch o'u hysgwydda i fyny na'u cyd-ddynion ar yr hyn a roddir iddynt i feirniadu. Rydw i'n styriad hyn y pwngc pwsica o ddigon i bob pwyllgor steddfod. Nid pynodi hwn a'r llall am i fod nhw 'n debig o'i gaul o'n o ddidraffarth ne am i fod o yn ffrind i ryw un ar y cymitti, ond mynu caul gafal ar y dynion gora—costiad a gostio, herwydd ma'r llafur a eir iddo gan lawar o'r rbai fydd yn cystadlu yn haeddu hyn. Tydw i ddim yn mynd i ffendio bai ar feirniaid Steddfod Bangor, yn un peth am nad odd gin i ddim pwt i fiawn o farddoniath na rhyddiath, ond hwrach y gyddefir i mi ddeud hyn, sefi'm tyb i fod no or-gymoliath ar amryw gyfan- soddiada, yn enwedigerhyn i ni gaul gwbod pwy odd yn- treio. Fasa rywun yn meddwl wrth. weld y feirniadath ar destyn y gadar na yrwyd y fath gyfansoddiada rioed i unrhyw gystadleuath, ond os ydi y rumour pwy odd yn- treio rwbath yn agos i'r marc, fel ma'n bur debig y bod hi, ni cbredith y wlad ddim fod na rwbath yn mhell uwchlaw cyffredin. Gwelais yr ynglynion buddugol i Gastell y Penrhyn yn y Blagiard Bach 'r ail bythefnos yn ol, a darllenis hyfyd yn ych papyr chi rwsnos dyweutha yr eiddo Cochwillan,- a dowch yn nea gaul i mi ddeud yn ddistaw yn ych clust chi, ydw i'n meddwl ma rhai Coch- willan ydi'r gora o ddigon. Fel na ydw i'n meddwl, a wyddoch chi rhaid i mi gaul deud fy meddwl, doed a ddelo. Barnad y cyhodd. Ddeuda i mo fy rhesyma am farnu felly rwan, ond os bydd isio fedra i neud tipin o feirniadath, cofiwch. Wel, mi adawn lonydd i'r steddfod ar hyna hiddiw. Ma gin i air bach ar y sassiwn. Yn un peth rydw i'n amha os na ryw fudd yn dwad o'r pregethu ar y mas. Ydw i'n 0 creduyngydwybodolfod na gimin yn mynd i ddangos i ddillad newydd y naill i'r llall, ac sy 'n myn'd i wrando 'r pregetha. Wrth gwrs' mi wrandawan dippyn bach wedi myn'd yno, ond mau arna i ofn ma'r amcan pena gin i hannar nhw yn myn'd odd caul dangos y suit nywydd, run fath a phobol gwna gwyrdd y steddfoda-wel., wch chi FI. Wyddoch chi beth, ffrindia, ma 'n anodd ofnadwy i'r genadwri gyr- hadd y galon drw 'r dillad nywydd ma, am fed nhw wedi eu leinio a balchdar a hunan. I ffwrdd a'r hen gasing na, a rhowch dippyn o'r stwff neis, ystwyth, a j elwir gystyngeiddrwydd yn i ie fo Debig gin i na fuo dim sassiwn yn Mangor ers talwm, os miawn co, a diu M.P. yn flaen- oriad a wir ma na gontrast garw yn liberality y ddau Davies. Ma un o nhw yn rhoi fel tywysog at bob peth sy 'n tueddu i ddyrchafu i gyd genedl. Yn wir, mau i roddion at Goleg Aberystwyth, pe na rodda fo run ddima at ddim arall bytb, yn ddigon i drosglwyddo i enw foi'r oesodd a ddel fel un o'r byneddwyr mwya haulfrydig a droediodd ddaear yrioed. Iechyd a llwyddiant iddo fo, medda fi, i barau i neud dioni. Tipyn yn chwith odd gwelad Mr R. Davies yn codi i drio taflu dwr oer ar gynygiad Mr H. Owen i g^l casgliad at Goleg Aberystwyth. Oni blra mod i 'n brysenol, prin baswn ni 'n coelio ond ma dda gin i allu deud fod rhyn a ddeudodd o yn anghymeradwy gin bawb odd no. Ddyliwn i fod Mr Davies flys actio dog in the manger efo 'r University ma,—ddim am roi i hun, ac ddim yn yd- *ach ryw foddlon iawn i neb arall gaul I'hoi chwaith. Be ddywad y rhai sy'n trio syfydlu sgoloriaetha yno, be ddywad y commercial men ynghyd a'i cydeirydd, i trysorydd a'i hysgrifenydd ? Ie, beth hyfyd, dewch allan a rhowch ych barn i'r byd. Meistri Glygwrs, ma Morgrugyn Mach- 0 o wedi gneud ail ymddangosiad. Ddylis 1 fod y boy na wedi cilio i'r cysgodion yn udistaw bach, wedi derbyn y cynghor cyredig rois i iddo fo dipyn o amsar 'n ol, I sef slidio yn ddistaw o'r golwg ond wir, j dyma 'r brawd yn cripio i fyny ytto, yn sgil Twm o'r Nant. Hwrach fod o 'n meddwl fod gyru chydig leinia o waith Twm efo i lythyr llipa i'r Blagiard Bach yn ddigon o stol dan i draed o i ddywad a fo i'r golwg ytto. Druan o'r gwr, man i haul o wedi mychludo ers amsar (os bu gyno fo haul), ac fydd o byth ond canwyll ddima rhygllaw. Ma arna i ofn hyfyd i fod o'n ddyrllenwr cibddall iawn, ne 'n ripio peth ofnadwy, ne fasa 'n gwelad darna fel hyn ysywath yr hen Dwm hy- fyd Ac yn swero bailiaid o ladron dideimlad I fradyehu mewn dichell bawb ddaw i'w bach ell." Ma'r hen Dwm wedi cofio am y boys ma, yn gystal ac am stiwardiaid ac offeir- iaid, a ma gyno fo linia fel hyn yn rhwla os ydw i 'n cofio 'n dda :— « Na'd elwyf hyth i bant y chwilod, Qu'd ydyw Hywel Dordyn wedi colli awdurdod. Amlach ffwl na gwr byneddig Hyn sy'n peri i'r byd ymlenwi mor ftleitllg." Nis gall y Morgrugyn bychan hwn sgyfenu pwt o lythyr heb neud i hunau i ydrach ynfychan iawn. Yn un part o'r llythyr dywad, Y mae yn beth pur ryfedd, ond er hyny digon gwit, nad oes gan y dos- barth gweithiol, yn y cyfanswm, ond pur ychydig o ymddiried mewn goruchwylwyr ac ofFeiriaid." Dipin yn mlaen dywad fel hyn-H Ni chlywais hyd yma fod person- iaid Bethesda yn cymeryd rhan na chyfran yn yr ymdrechfa sydd yn awr yn cael ei chario yn mlaen rhwng Arglwydd y Pen- rhyn a'i weithwyr." Dyma iawn, yn te ? Deud nad oes gin y gweithiwrs ddim ym- ddiriad miawnlffeiriadon, ac ar y run gwynt yn beio y ffeiriadon, druan, na basa nhw yn stwffio i hunin i fiawn, lie nad odd neb i hisio nhw. Paid, Morgrugyn bach, ma fo yn mhoeni fi dy wel'd di fel hyn. Studia Twm o'r Nant a chadw fo i ti dy hun. Cymar gyngor, a bydd yn dawal, frawd bach. Meistri glygwrs odd gin i air i ddeud: ar Steddfod Conwy a Phwllheli; ond gin mod i wedi mynd yn o faith yn barod, a thipin yn faith rwsnos dyweutha hefyd,! dw i meddwl ma rhoi gora iddi hi ar hyn na i rwan. g A" ROBIN SPONC. P.S.O.Y.—Gyrwch at yr idiot o Borth- madog sy'n galw i hunan "Hen Brydydd- y Gest, fod yn well. iddo fo roi i lythyra miawn cist a'i claddu nhw, os na fedar o siapio 'n well wrth dreio sgyfenu fel Robin nac y daru fo yn y Blagard Bach rwsnos dyweutha. Ellwn i feddwl ma merchant pills ne giw twrna ydi'r boy ne ryw gym- ysgadd o'r ddau, twrach.—R. S.
AT BWYLLGOR EISTEDDFOD : FFESTINIOG.
AT BWYLLGOR EISTEDDFOD FFESTINIOG. FON IEDDIGION,-Y mae yn rhaid i ni gredu fod yr eisteddfod uchod yn myned yn ei hoi mewn llawer modd, y naill flwyddyn ar ol y llall; a'r rheswm am hyny, gallem goelio, ydyw ei bod yn aros yn yr un man, tra ymae cyfarfodydd lIen- yddol, isel yn y dechreu wedi dod yn bwysicach yn y wlad na'r eisteddfod flynyddol. Cefais y fraint o fod yn yr eisteddfod dair gwaith, ac yn y ddiweddaf dywedai y Parch. R. Killin mai efe oedd ei thad, ac a welodd ei genedigaeth ond os bydd byw ychydig flwyddi, dichon y caiff weled ei marwolaeth, os na ddaw cyfnewidiad. Buaswn yn awgrymu i'r pwyllgor y modd y gallai ddod yn eisteddfod lewyrchus. Wel, bydded yn eisteddfod gadeiriol, etto yn ileol. Y llynedd yr oedd pum gini am yr awdl oreu; ond pe buasai tair punt o wobr a chadair, buasai yr ymgeiswyr yn llawer mwy. Edrycher ar gyfarfod llenyddol y Welsh Slate yn rhoddi saith gini am awdl, ac ugain punt i gor, nid ryw bum punt fel genych chwi. Wel hefyd cyhoedd-! er gorsedd, y mae genym ddigon o feirdd wrth fraint a defawd fel ag y gellir cyn- nal gorsedd, ac y mae Ffestiniog mewn lie manteisiol i gynnal gorsedd a chadair, ac y mae beirdd o fri ond myned ychydig yn mhellach. A pheth arall, rbodder, tlysau yn lie arian yn wobrwyon; bydd hyn yn sier. o gynnyrchu mwy o lafur, mwy o ymgeiswyr, a gwell cyfansoddiad- au. Rhodder testyn traethawd, awdl, neu gywydd, a chyfansoddi ton i rai tan bump ar hugain, dyweder yn gyfyngedig i In Ffestiniog, a bydd yr eisteddfod yn fwy llewyrchus yn mhob modd. EISTEDDFOPWR.
-_..____.-_-----YR HYN A GLYWAIS.
YR HYN A GLYWAIS. FONEDDIGION,-Breintir finau fel lluaws o bechaduriad clywedog ereill a hanesion o bob natur a'r fy nheithiau gyda'r bag te yma, ar pethau mwyaf dyddorol a glywais ar fy nhaith ddiweddaf ydoedd a gan- lyn:— j Clywed fod parchus offeiriad Llanfair- caereinion yn cynnal gwasanaeth bob Sul yn mben ucbaf ei blwyf, er mantais a chyfleustra i'w blwyfolion, a bod ei wrth- wynebwyr yn brochi yn ddyclnynllyd. Wei yn sicr, y mae yn haeddu caumoliaefch am ei gyillludaoetli a da. Clywed mai arferiad rhai menywod tua chymydogaeth Penycapel yw ymgasglu at 1 j eu gilydd i rhyw fan bennodedig er trin a throsi busnes ac achau pobl yn iawn, ac hefyd cyn y diwedd ysgrifenu clamp o lythyr o'r iaith ryfeddaf ac iselaf a'i yru at, neu ynte ei fwrw dan ddrysau pobl a phersonau diniwed. Gobeithio y cymmer- ant rybudd ac na welir hwynt mwyach yn pentyru at eu gilydd rhag y bydd i'w henwau gael eu dynoethi. Clywed er fy mawr alar fod dau dreng- holiad wedi bod yn mhlwyf Llanerfyl yr wythnos diweddaf: un ar gorph dynes yr hon a ddaeth i gyfarfyddiad i raddau helaeth a'i diwedd t?wy yn ddamweiniol syrthio i lawr y grisiau, a'r Hall ar gorph plentyn bach oddeutu dwy flwydd oed yr hwn a gafwyd wedi boddi mewn ffyniion yn yr hon yr oedd oddeutu 11 modfedd o ddwfr. Er fy mawr lawenydd clywed fod Ysgol Sul St. Erfyl yn un wasanaethgar a llafurus, a bod yr ysgoleigion ar gael eu gwledda tua diwedd y mis presenol. Clywed fod yr hen arferiad bechadurus o ymdyru at eu gilydd yn ffynu yn mhlith ieuenctyd Llangadfan ar Foel, yn enwedig ar nos Sadyrnau ac wedi iddynt ddyfod yn dyrfa gref dyna hwynt yn dechreu ar eu gwaith, sef gwawdio a gwaeddi ar ol pobl pan y maent yn pasio o'r siopau neu unrhyw le arall. Gobeithio y cymmer- ant rybudd ac na welir hwynt mwyach yn gwneuthur triciau gwarthus fel yna. Clywed fod cyngherdd mawreddog i gael ei gynnal yn ysgol y bwrdd Llanerfyl, yr wythnos nesaf, ar ei agoriad, a bod can- torion enwog wedi addaw eu gwasanaeth. ERFYL.
----__-___-------LLITH LLYGADOG.
LLITH LLYGADOG. FONEDDIGION,-YR w .f,er's cryn amser bellach heb ymddangos mewn ffram lith- yddol ar ddalenau Llais y Wlad, a'r rheswm am hyny ydyw fy mod ers am- ryw wythnosau bellach yn mwynhau holidays yn awelon iachus bryniau Doly- ddelen. Yn ol fy arfer ymwelais ag ysgol- dy Dolyddelen, yr hon sydd dan ofal Mr E. Thomas, yn cael ei gynnorthwyo gan Mrs Thomas a Mr J. M. Hughes, Bettws- ycoed. Y mae yr ysgol mewn sefyllfa foddhaol iawn, yn anrhydedd i'r managers, ac yn glod uchel i'r athraw a'i gynnorth- wywyr. Cofier nad wyf fi, mewn un modd, yn gwenieithio i neb wrth ddywedyd byn, ond yr wyf yn selio hyn oddiar report J. Rhys, Ysw., M.A., arolygydd ysgolion dros ei Mawrhydi, yr hwn a ddaeth i law ers ychydig ddyddiau yn ol, a'r hwn sydr] fel y canlyn This school is progressing rapidly." Dyna ef, air yn air ac onid yw yn llefaru yn uchel am sefyllfa yr ysgo, ac am fedrusrwydd a gallu yr ysgolfeistr i gyflawni y swydd bwysig sydd wedi ei hymddiried i'w ofal? Hefyd, dymunwn alw sylw y rhieni at hyn, gan adgoffa iddynt eu dyledswydd tuag at y plant a'u mheistr, trwy eu hanfon yn gysson i'r ysgol. Byddent trwy hyny yn cynnal breichiau yr athraw, modd y gall ddyrch- afu yr ysgol i safon uwch eto y flwyddyn nesaf. Yr oedd y grants a ennillwyd yn 69p. 5s. Oc., neu yn fwy o 27p. na'r flwydd- yn flaenorol. Dyma ffaith eto yn profi llwyddiant yr ysgol; a phan y nodaf yn mhellach fod yr ysgol wedi pasio yn ol 89 y cant, a. bod y 1st class wedi pasio yn Uwyddianus yr arholiad yn algebra, ac hefyd fod y pupil teachers, sef y Meistri H. M. Williams a J. M. Hughes, wedi myned trwy eu harholiad yn Ilwyddianus, y mae yn ddiainheu genyf fod yr oil ffeith- iau hyn yn rhwym o ennill cefnogaeth rhieni y plant, a phawb sydd yn teimlo ddyddordeb mewn addysg. Yn bresennol symmudaf yn mlaen i grybwyll am yr anrheg o de a bara brith a roddwyd gan foneddigion yr ardal i'r plant ar y 3ydd cyfisol. Yr oedd y byrdd- a u wedi eu parottoi yn yr ysgol, gan foneddigesau yr ardal. Ffurfiwyd y plant yn ddwy adran ar lawnt yr ysgol, er eu hannerch, yr hyn a wnaethpwyd yn foddhaol iawn yn nghanol banllefau byddarol. Wedi clirio y byrddau, ffurfiwyd gorymdaith i Brynbedd, He y rhoddwyd y plant i gystadlu am wobrwyon gwerthfawr, mewn gwahanol gampau diniwed, dan gyfarwyddyd De Wolfe, Ysw., y Parch. H. E. Williams, ficar; D. Thomas, Capel Curig; ac R. G. Ogden, Bettwsycoed; a'r Dr. Maclaire, principal King's College, Llundain a'r Meistri R. R. Williams, Bwlch; E. Thomas, C.M.; W. Roberts, P.C.; J. M. Hughes, pupil teacher, a "Llygadog," eich gohebydd. Aeth y plant trwy eu chwareuon yn foddhaol iawn ac ennillwyd gwobrau yn amrywio o 4s. i 5s. ganddynt. Wedi ohoni hwyrhau, ffurfiwyd ail orymdaith i'r ysgoldy, lie y rhanwyd y certificates i'r ysgolorion Uwyddianus yn y gwahanol ddosparth- gan y Dr. Ma claire, yr hwn a an- nerchodd y plant a'r gwyddfodolion yn gampus, ar fedrusrwydd yr athraw, a sef- yllfa yr ysgol. Ac wedi y diolchiadau arferol terfynwyd y diwrnod mwyaf difyr a dreuliais erioed, yn nghanol mor o leis- iau cerddorol, a tharawiadaia per a swynol dant y delyn. LLYGADOG.
-=" ! IOAN MALDWYN A PLEIDIWR…
-=" IOAN MALDWYN A PLEIDIWR GWIRIONEDD. FONEDDIGION, Ymddangosodd gofyniad yn Llais y JVlad am yr wythnos ddiwedd- af yn dwyn yr enw Pleidiwr Gwirion- edd," a hyn yw swm ei ofyniad appelia at ddarllenwyr a gohebwyr yn gyffredinol, a oedd hawl gan olygydd rhyw bapyr newydd i wrthod cyhoeddi ysgrif amddi- ffynul, gan fod yr ymosodydd wedi dyweud rhyw gelwyddau dychrynllyd ar yr am- ddiffynydd. Diniwaid iawn, onide ? Ond hyn sydd genyf i'w draethu, bod gohebydd yr H. C., o'r Borthaethwy, yn haeru wrth drigolion yr ardal hon, mai loan Maldwyn yw y Pleidiwr Gwirionedd hwn, ac y mae yn gwneud difyrwch mawr ar draul hyny iddo ei hun a'i gwmpeini. Dy- munaf, foneddigion, i chwi wneud yn hys- bys yn eich papyr yr wythnos hon, nad oes dim a wnelwyf a'r llythyr gofyniadol crybwylledig. Gan na ysgrifenais yllythyr dan sylw, ac na feddyliais am ei gynnwys- iad, ac na arferais erioed yr enw Pleid- iwr Gwirionedd," ystyriaf yn orchwyL annheg iawn i neb ei dadogi arnaf. Yr ( wyf ar fy ngair llw yn tystio na wyddwn ddim am dano nes i mi ei weled yn argraff- J edig yn eich papyr ddydd Gwener diwedd- af. Ymae yn ddrwg iawn gennyf i neb ddyweud mai myfi ydyw awdwr y llythyr dan sylw, gan fod hyny yn tueddu i wneud cam a golygydd yr H. C., oherwydd cefais yr H. C. yn rbydd i wneud pob am- ddiffyniad a geisiais. Y mae yn iawn i bawb a phob peth gael chwareu teg. Pan"; wnelo unrhyw newyddiadur gam a mi, nid I E-Jufy**8? yD 8wne»<3> ond yn rhoddi y fleithiau I lawr yn deg i'r dar- llenydd. Gwnaeth gohebydd y Borth ymosodiad personol, digrifol, plentynaidd arnaf yn ddiweddar yn yr H. C., a chan na ddaeth amddiffyniad allan, barna ef yn ol ei farn fach, gul, fynyddig, mai wedi cad fy ngwrthod yr ydwyf; ond y gwir- ionedd ydyw nad oedd ei lythyr yn cyn- nwys ffaith, ymresymiad, mater, na ffraethine b, ac felly yr oedd yn is nag islaw sylw genyf. JOHN DAVIES (loan Maldwyn). "4 Cadnant, Menai Bridge. [Nid oedd a fyno ysgrifenydd y llythyr uchod o gwbl a llythyr "Pleidiwr Gwirionedd."—GOL.] j
PENBLETH PRIODASOL.
PENBLETH PRIODASOL. Achoswyd cynnwrf annghyffredin yn Chesterfield ddydd Mawrth ar yrachlysur o briodas yn yr eglwys blwyfol. Yr oedd y priodfab, yr hwn sydd tua banner cant oed, wedi bod yn cydfyw a dynes yn St. Mary's Gate am 24 mlynedd, ac yr oedd ganddo .deulu lluosog o honi. Tua chwe* mis yn ol bu farw ei wraig gyfreithlon, oddiwrth yr hon yr oedd wedi ymwahanu ers 26 mlynedd; ac yn mhen ychydig wedi yr amgylchiad hwnw, cymmerodd ei letty gyda gwraig weddw tua 60 mlwydd oed. Ymddengys eu bod wedi penderfvnu ymuno mewn "glan briodas," a chyda'r amcan hwnw cyfeiriasant tua'r eglwys ddydd Mawrth. Modd bynag, dilynwyd hwy gan berthynasau yr ail gariad, ao eiddo y briodferch, pa rai oeddynt yn erbyn y briodas, a chanlynwyd hwythau gan dorf fawr o rai a gydymdeimlenfc. Cyn iddynt gyrhaedd yr eglwys cafodd y par priodasol eu baeddu yn annrhugarog gan y gyfran fenywaidd o'r dorf; ond er y cyfan, gyda chynnorthwy yr heddgeidwajd llwyddasant i gael i mewn i'r eglwys, ac erbyn hyn yr oedd tros fil o bobl wedi Jill- gasglu. Erbyn hyn yr oedd yr heddgeid- waid wedi ymgasglu yn eu holl nerth, ond er eu holl ymdrech', baeddwyd y priodfab yn ddidrugaredd, a rhwygwyd ei ddillad yn ac yr oedJ gd\vg pob peth ond dymunol ar y briodferch. O'r diwedd cyrhaeddasant i'w cartref, ond poenydiwyd dyddgan dyrfa°edd yu ^wawdio drwy y
DAMWAIN ALARUS AR Y RHEILFFORDD.
DAMWAIN ALARUS AR Y RHEIL- FFORDD. Foreu dydd Sadwrn digwyddodd dam- wam arswydus ar y rheifffordd rhwng Preston a Wyre, drwy yr hon y cafodd amryw o bersonau eu niweidio, ac eiddo ei ddinystrio. Daeth cerbydres teithwyr i wrthdarawiad sydyn a nifer o. wageni gweigion, ac yr oeddyr ysgyttjad yn ddy- chrynllyd. Maluriwyd amryw o'r cerbyd- au a'r gwageni, yn nghyda'r peiriant, ac yr oedd y cyffro yn annesgrifiadwy. Dor- byniodd nifer mawr o'r teithwyr yn nghyda'r peirianwyr niweidiau mwy neu lai, ond estynwyd cynnorthwy meddyo-ol yn ddioed, a thrwy drugaredd ni chlwvf. wycl neb yn angeuol.
FFRWYDRIAD ANGEUOL. :
FFRWYDRIAD ANGEUOL. K»?dyJ:ld1^Wrth %niroerodd ffrwydriad berwedydd le yn Glasgow, drwy yr hyn y cyferfu pump o bersonau a niweidiau peryglus. Llosgwyd George Wilson tanwr, mor arswydus fel na ddisgwylir ,fr oedd P«mp o enethod ya elS ul iSie a,ij berwedydd pan ddie- wyddodd y ddamwain, a chafodd dwy o honynt eu niweidio yn dost. Derbyniodd dau ddyn arall hefyd niweidiau pwysig a llosgwyd ystabl lawn o wair hyd y flaw.