Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

HYN A'R LLALL, YMA AC ACW.

AT BWYLLGOR EISTEDDFOD : FFESTINIOG.

News
Cite
Share

AT BWYLLGOR EISTEDDFOD FFESTINIOG. FON IEDDIGION,-Y mae yn rhaid i ni gredu fod yr eisteddfod uchod yn myned yn ei hoi mewn llawer modd, y naill flwyddyn ar ol y llall; a'r rheswm am hyny, gallem goelio, ydyw ei bod yn aros yn yr un man, tra ymae cyfarfodydd lIen- yddol, isel yn y dechreu wedi dod yn bwysicach yn y wlad na'r eisteddfod flynyddol. Cefais y fraint o fod yn yr eisteddfod dair gwaith, ac yn y ddiweddaf dywedai y Parch. R. Killin mai efe oedd ei thad, ac a welodd ei genedigaeth ond os bydd byw ychydig flwyddi, dichon y caiff weled ei marwolaeth, os na ddaw cyfnewidiad. Buaswn yn awgrymu i'r pwyllgor y modd y gallai ddod yn eisteddfod lewyrchus. Wel, bydded yn eisteddfod gadeiriol, etto yn ileol. Y llynedd yr oedd pum gini am yr awdl oreu; ond pe buasai tair punt o wobr a chadair, buasai yr ymgeiswyr yn llawer mwy. Edrycher ar gyfarfod llenyddol y Welsh Slate yn rhoddi saith gini am awdl, ac ugain punt i gor, nid ryw bum punt fel genych chwi. Wel hefyd cyhoedd-! er gorsedd, y mae genym ddigon o feirdd wrth fraint a defawd fel ag y gellir cyn- nal gorsedd, ac y mae Ffestiniog mewn lie manteisiol i gynnal gorsedd a chadair, ac y mae beirdd o fri ond myned ychydig yn mhellach. A pheth arall, rbodder, tlysau yn lie arian yn wobrwyon; bydd hyn yn sier. o gynnyrchu mwy o lafur, mwy o ymgeiswyr, a gwell cyfansoddiad- au. Rhodder testyn traethawd, awdl, neu gywydd, a chyfansoddi ton i rai tan bump ar hugain, dyweder yn gyfyngedig i In Ffestiniog, a bydd yr eisteddfod yn fwy llewyrchus yn mhob modd. EISTEDDFOPWR.

-_..____.-_-----YR HYN A GLYWAIS.

----__-___-------LLITH LLYGADOG.

-=" ! IOAN MALDWYN A PLEIDIWR…

PENBLETH PRIODASOL.

DAMWAIN ALARUS AR Y RHEILFFORDD.

FFRWYDRIAD ANGEUOL. :