Hide Articles List

8 articles on this Page

HYN A'R LLALL, YMA AC ACW.

News
Cite
Share

HYN A'R LLALL, YMA AC ACW. MEISTRI GLYGWRS,—Wei, dyma 'r Steddfod a'r Sassiwn drosodd. Siawns nad ydi pobol Bangor wedi caul digon o visitors yr ha yma i cadw nhw yn dawal am y rhawg, ta nhw yn fwy grwgnachlyd nag ydy nhw. Ydw i'n clywad ma'r steddfod ath a hi, cin bellad a chaul mwya o bobol. Deudwyd wrtha i gin lawar na welson nhw rioed mo Fangor mor llawn a Difia, y dwrnod cydeirio. Rhaid i bawb addaf fod y steddfod miawn rhwysg mawr y blynyddodd yma. Gy- beithio y deil hi yn hir felly, ac y daw rhygorach cyfansoddiada i fiawn y naill flwyddyn ar ol y Hall, ac y ceir beirniaid ag y byddo i dedfryd nhw uwchlaw am- heuath—na fydd raid i neb betruso y mymryn lleia am i gallfi yn gystal a'i gy- nestrwydd. Ma'n digwydd weithia i ampall i ddyn wrth gynyg gwobr ar ryw- beth enwi ffrind iddo fo'n feirniad ar hwnw, a hwrach na bydd y cymwsder lleia yn y ffrind ma i feirniadu o gwbwl. Welsoch yn y steddfoda dyweutha ma ddynion wedi i gosod i ferniaau ar gyf- ieithiada o'r naill iaith i'r llall na wydda nhw fawr fwy am Sasnag na Joni Mogram am lynyddiaeth. Ma dau ddrwgyn dilyn hyn, sef stopio llawar i gystadlu acachosi anfyddlonrwydd mawr ar ol y feirniadath. Fe fydda yn gampus o beth fel y deudis i o'r blaun ta bosib hitio ar feirniad ar bob testyn yn uwch o'u hysgwydda i fyny na'u cyd-ddynion ar yr hyn a roddir iddynt i feirniadu. Rydw i'n styriad hyn y pwngc pwsica o ddigon i bob pwyllgor steddfod. Nid pynodi hwn a'r llall am i fod nhw 'n debig o'i gaul o'n o ddidraffarth ne am i fod o yn ffrind i ryw un ar y cymitti, ond mynu caul gafal ar y dynion gora—costiad a gostio, herwydd ma'r llafur a eir iddo gan lawar o'r rbai fydd yn cystadlu yn haeddu hyn. Tydw i ddim yn mynd i ffendio bai ar feirniaid Steddfod Bangor, yn un peth am nad odd gin i ddim pwt i fiawn o farddoniath na rhyddiath, ond hwrach y gyddefir i mi ddeud hyn, sefi'm tyb i fod no or-gymoliath ar amryw gyfan- soddiada, yn enwedigerhyn i ni gaul gwbod pwy odd yn- treio. Fasa rywun yn meddwl wrth. weld y feirniadath ar destyn y gadar na yrwyd y fath gyfansoddiada rioed i unrhyw gystadleuath, ond os ydi y rumour pwy odd yn- treio rwbath yn agos i'r marc, fel ma'n bur debig y bod hi, ni cbredith y wlad ddim fod na rwbath yn mhell uwchlaw cyffredin. Gwelais yr ynglynion buddugol i Gastell y Penrhyn yn y Blagiard Bach 'r ail bythefnos yn ol, a darllenis hyfyd yn ych papyr chi rwsnos dyweutha yr eiddo Cochwillan,- a dowch yn nea gaul i mi ddeud yn ddistaw yn ych clust chi, ydw i'n meddwl ma rhai Coch- willan ydi'r gora o ddigon. Fel na ydw i'n meddwl, a wyddoch chi rhaid i mi gaul deud fy meddwl, doed a ddelo. Barnad y cyhodd. Ddeuda i mo fy rhesyma am farnu felly rwan, ond os bydd isio fedra i neud tipin o feirniadath, cofiwch. Wel, mi adawn lonydd i'r steddfod ar hyna hiddiw. Ma gin i air bach ar y sassiwn. Yn un peth rydw i'n amha os na ryw fudd yn dwad o'r pregethu ar y mas. Ydw i'n 0 creduyngydwybodolfod na gimin yn mynd i ddangos i ddillad newydd y naill i'r llall, ac sy 'n myn'd i wrando 'r pregetha. Wrth gwrs' mi wrandawan dippyn bach wedi myn'd yno, ond mau arna i ofn ma'r amcan pena gin i hannar nhw yn myn'd odd caul dangos y suit nywydd, run fath a phobol gwna gwyrdd y steddfoda-wel., wch chi FI. Wyddoch chi beth, ffrindia, ma 'n anodd ofnadwy i'r genadwri gyr- hadd y galon drw 'r dillad nywydd ma, am fed nhw wedi eu leinio a balchdar a hunan. I ffwrdd a'r hen gasing na, a rhowch dippyn o'r stwff neis, ystwyth, a j elwir gystyngeiddrwydd yn i ie fo Debig gin i na fuo dim sassiwn yn Mangor ers talwm, os miawn co, a diu M.P. yn flaen- oriad a wir ma na gontrast garw yn liberality y ddau Davies. Ma un o nhw yn rhoi fel tywysog at bob peth sy 'n tueddu i ddyrchafu i gyd genedl. Yn wir, mau i roddion at Goleg Aberystwyth, pe na rodda fo run ddima at ddim arall bytb, yn ddigon i drosglwyddo i enw foi'r oesodd a ddel fel un o'r byneddwyr mwya haulfrydig a droediodd ddaear yrioed. Iechyd a llwyddiant iddo fo, medda fi, i barau i neud dioni. Tipyn yn chwith odd gwelad Mr R. Davies yn codi i drio taflu dwr oer ar gynygiad Mr H. Owen i g^l casgliad at Goleg Aberystwyth. Oni blra mod i 'n brysenol, prin baswn ni 'n coelio ond ma dda gin i allu deud fod rhyn a ddeudodd o yn anghymeradwy gin bawb odd no. Ddyliwn i fod Mr Davies flys actio dog in the manger efo 'r University ma,—ddim am roi i hun, ac ddim yn yd- *ach ryw foddlon iawn i neb arall gaul I'hoi chwaith. Be ddywad y rhai sy'n trio syfydlu sgoloriaetha yno, be ddywad y commercial men ynghyd a'i cydeirydd, i trysorydd a'i hysgrifenydd ? Ie, beth hyfyd, dewch allan a rhowch ych barn i'r byd. Meistri Glygwrs, ma Morgrugyn Mach- 0 o wedi gneud ail ymddangosiad. Ddylis 1 fod y boy na wedi cilio i'r cysgodion yn udistaw bach, wedi derbyn y cynghor cyredig rois i iddo fo dipyn o amsar 'n ol, I sef slidio yn ddistaw o'r golwg ond wir, j dyma 'r brawd yn cripio i fyny ytto, yn sgil Twm o'r Nant. Hwrach fod o 'n meddwl fod gyru chydig leinia o waith Twm efo i lythyr llipa i'r Blagiard Bach yn ddigon o stol dan i draed o i ddywad a fo i'r golwg ytto. Druan o'r gwr, man i haul o wedi mychludo ers amsar (os bu gyno fo haul), ac fydd o byth ond canwyll ddima rhygllaw. Ma arna i ofn hyfyd i fod o'n ddyrllenwr cibddall iawn, ne 'n ripio peth ofnadwy, ne fasa 'n gwelad darna fel hyn ysywath yr hen Dwm hy- fyd Ac yn swero bailiaid o ladron dideimlad I fradyehu mewn dichell bawb ddaw i'w bach ell." Ma'r hen Dwm wedi cofio am y boys ma, yn gystal ac am stiwardiaid ac offeir- iaid, a ma gyno fo linia fel hyn yn rhwla os ydw i 'n cofio 'n dda :— « Na'd elwyf hyth i bant y chwilod, Qu'd ydyw Hywel Dordyn wedi colli awdurdod. Amlach ffwl na gwr byneddig Hyn sy'n peri i'r byd ymlenwi mor ftleitllg." Nis gall y Morgrugyn bychan hwn sgyfenu pwt o lythyr heb neud i hunau i ydrach ynfychan iawn. Yn un part o'r llythyr dywad, Y mae yn beth pur ryfedd, ond er hyny digon gwit, nad oes gan y dos- barth gweithiol, yn y cyfanswm, ond pur ychydig o ymddiried mewn goruchwylwyr ac ofFeiriaid." Dipin yn mlaen dywad fel hyn-H Ni chlywais hyd yma fod person- iaid Bethesda yn cymeryd rhan na chyfran yn yr ymdrechfa sydd yn awr yn cael ei chario yn mlaen rhwng Arglwydd y Pen- rhyn a'i weithwyr." Dyma iawn, yn te ? Deud nad oes gin y gweithiwrs ddim ym- ddiriad miawnlffeiriadon, ac ar y run gwynt yn beio y ffeiriadon, druan, na basa nhw yn stwffio i hunin i fiawn, lie nad odd neb i hisio nhw. Paid, Morgrugyn bach, ma fo yn mhoeni fi dy wel'd di fel hyn. Studia Twm o'r Nant a chadw fo i ti dy hun. Cymar gyngor, a bydd yn dawal, frawd bach. Meistri glygwrs odd gin i air i ddeud: ar Steddfod Conwy a Phwllheli; ond gin mod i wedi mynd yn o faith yn barod, a thipin yn faith rwsnos dyweutha hefyd,! dw i meddwl ma rhoi gora iddi hi ar hyn na i rwan. g A" ROBIN SPONC. P.S.O.Y.—Gyrwch at yr idiot o Borth- madog sy'n galw i hunan "Hen Brydydd- y Gest, fod yn well. iddo fo roi i lythyra miawn cist a'i claddu nhw, os na fedar o siapio 'n well wrth dreio sgyfenu fel Robin nac y daru fo yn y Blagard Bach rwsnos dyweutha. Ellwn i feddwl ma merchant pills ne giw twrna ydi'r boy ne ryw gym- ysgadd o'r ddau, twrach.—R. S.

AT BWYLLGOR EISTEDDFOD : FFESTINIOG.

-_..____.-_-----YR HYN A GLYWAIS.

----__-___-------LLITH LLYGADOG.

-=" ! IOAN MALDWYN A PLEIDIWR…

PENBLETH PRIODASOL.

DAMWAIN ALARUS AR Y RHEILFFORDD.

FFRWYDRIAD ANGEUOL. :