Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

— LLOFFION CYMREIG. 1

NEWYDDION CYMREIG.

EISTEDDFOD FREINIOL A CHENEDL…

Advertising

AT AELOD 0 BWYLLGOR CONWY.

PROPHWYDOLIAETH Y RADI.CALIAID.

GWAITH OLEW WEDI EI DANIO…

News
Cite
Share

GWAITH OLEW WEDI EI DANIO GAN FELLT YN PITTSBURGH. Prydnawn ddydd Mercher, Awst 12fed, daeth i ran Pittsburgh ystorm sydyn o wyntoedd cryfion, gwlawogydd trymion, a mellt gorwylltion a dinystriol. Yn ystod yr ystorm fer, ymsaethodd mellten i danc yn liawn o olew, yn agos i bont Sharps- burg, nes ei danio yn y fan. Cynnygiodd amryw o'r gweithwyr oedd yu y iie ei ddiftodd aphlancedi, ond cymmeroddynwy dan, ac ymferwodd yr olew yn filamau dinystriol i bob cyfeiriad, gan danio yr oil a ddeuai i'w cyfarfod. Yr oedd yn y tanc bum' mil o ifarilau o olew wedi ei buro; felly gellir dychymygu y nerth oedd ynddo i gyrhaedd y llestri ereill, a'r gwahanol adeiladau. Rhedodd yr olew yn genllif danllyd i gae yd, gan gyfeirio at dai coed oedd islaw, nes creu braw a dychryn mawr ymysg y trigolion, a pheri i lawer o honynt lusgo a chario eu dodrefn, &c., i uchel-leoedd ond yn ffodus ni wnaeth yr afon danllyd yr un niwed i'r tai; ond llosgodd oddeutu erw o yd yn llwyrach nag y gallasai dyn eu toti 1 lawr. Yr oedd yr olygfa ar y ffrwd danllyd yn ym- wthio i ddwfr yr afon fawr, yn ofnadwy o aidderchog, ac yn ymddangos fel pe buasai y dwfr hefyd yn ymdanio. Llosgwydystoidy yn cynnwys dros ddeng mil o farilau o olew; rhai yn llawn ac ereill heb fod. Gwnaeth y mellt fwy o gplled yn ngwaith olew y Standard nag a wnaed ers biynyddoedd yn y ddinas. Tarawyd eglwys St. Andrews hefyd gan fellten, ond ni wnaeth nemawr o niwed; ond Iluchiodd werth can dolar o lechi oddiar y to i'r heolydd, a niweidiwyd gwerth yr un swm oddifewn. Yr oedd trigolion brawychus Allegheny, y man lie dinystriwyd cymmaint o eiddo, ac y coll- wyd cymmaint o. fywydau yn y dylif dy- chrynllyd a ymwelodd a'r lie nos Sul y 26ain o'r mis diweddaf, wedi dychrynu yn ddirfawr, oblegid chwythwyd i lawr yno ddwy simdda, eauadau ffenestri, coed, &c., nes peri i'r rhai oedd ar yr heolydd redeg am eu heinioes i'r tai, ac ofni yn bryderus wrth weled llifddyfroedd yn ymwylitio heibio'r drysau. Niweidiwyd llawer o dai yn drwm; ond da genym ddeall na chollwyd yr un bywyd yn yr ystorm wyllt hon.

CYNHWRF ARALL MEWN ADDOLDY…

FFRWYDRIAD ANGEUOL YN LERPWL.