Hide Articles List

9 articles on this Page

— LLOFFION CYMREIG. 1

NEWYDDION CYMREIG.

EISTEDDFOD FREINIOL A CHENEDL…

Advertising

AT AELOD 0 BWYLLGOR CONWY.

PROPHWYDOLIAETH Y RADI.CALIAID.

News
Cite
Share

PROPHWYDOLIAETH Y RADI- CALIAID. Y mae'r Rhyddfrydwyr y dyddiau tawel hyn yn prophwydo y bydd storm fawr ac aruthrol yn cyfodi yn fuan yn nhiriogaeth y Cyfrin-gyligor Ceidwadol, yr hon a'dar- rltwa golofnan y ty nes syrthio ar ben ei breswylwyr, lladd rhai, ac anafu ereill, a bydd hyn yn rhag-arwydd o ddadgorfforiad buan y Senedd, pryd y bydd y Rhyddfryd- wyr yn esgyn grisiau St., Stephan mewn gorfoledd unwaith drachefn, heb ofni syrthio mwy. Maent yn peri i mi feddwl am chwedl yr hen wraig, yr hon oedd am briodi yn ei hen ddyddiau, pryd nad oedd dant yn ei gen ond ni chaniattai ei phlant iddi briodi heb yn gyntaf iddi dori tair cneuen. Yno yr oedd hi yn ceisio tori un gneuen, ac yn dywedyd. pe bawn i wedi tori hon ni fyddai genyf ond dwy drachefn." Felly mae'r Radicaliaid yn dywedyd, pe caem ninau ewyg yn y Cabinet fe gaem ddadgorphoriad y Senedd a buddugoliaeth etholiadol, aphriodi eto. Ond ni thorodd yr hen wraig, druan, ddim un gneuen o gwbl, ac ni chafodd ei dy- muniad felly y prophwydi hyn. Maent heb weled cyflawniad o un o'u dymuniad- au eto ond y maent fel prophwydi Ahab yn prophwydo pethau daionus iddynt eu hunain. Yr oedd Mr Watkin Williams yn ei ar- aeth yn nghyfarfod yr Odyddion yr wyth- nos diweddaf yn awgrymu ei fod ef yn gwybod dirgelion meddwl y Prif Weinidog, a'i fod ef mewn sefyllfa i hysbysu y bydd ad-drefniad yn y Cabinet; a hyny am nad ydyw Mr Disraeli yn gyd-fyned a Lord Sandon yn nghylch yr ysgolion Gwaddol- edig. Ond y gwir yw, mae y Prif Wein- idog yn gwrthddywedyd yr haeriadau uchod yn y papyrun Rhyddfrydig, ac nad Lord Sandon yn unig sydd attebol am y mesur uchod a'i fod ef yn cefnogi y mesur, ac yn bwriadu gorphen yr adranau diwyg- iedig yrr y Senedd dymhor nesaf. Mae'n rhyfedd fod y Radicaliaid yn gwybod meddwl y Prif Weinidog yn well nag ef ei hunan. Mae'n hynod fod Mr W. Williams wrth gyfarch yr Odyddion ynffNgwrecsam yn swybodachyhoeddi dirsrelionabwriad- au y Prif Weinidog Ceidwadol! 0, y mae efe yn brophwyd galluog; mae ganddo ddeg-ar-hugain o fwyafrif, a bu o fewn i die i gael ei ddyrchafu yn gyfreithiwr Cyffredinol yw lie Syr Henry James. Buasai yn fwy buddiol iddo ef fel ereill na chyhoeddi gwrthryfel yn mhlith y C* cid- wadwyr i heddychu ei blaid ei hun, Mr Gladstone a Syr William Harcourt, neu Mr Baxter a Mr Lowe, yn lie taenu prophwydoliaethau fFugiol ar y wlad. Pwllheli. SARPEDON.

GWAITH OLEW WEDI EI DANIO…

CYNHWRF ARALL MEWN ADDOLDY…

FFRWYDRIAD ANGEUOL YN LERPWL.