Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

— LLOFFION CYMREIG. 1

NEWYDDION CYMREIG.

EISTEDDFOD FREINIOL A CHENEDL…

Advertising

AT AELOD 0 BWYLLGOR CONWY.

News
Cite
Share

AT AELOD 0 BWYLLGOR CONWY. FONEDDIGION,—Goddefwch i mi gy- flwyno hyn o sylwadau i'r Aelod hwn, er nad wyf yn perthyn i gerddgor na phwyllgor fy hun ond fel un o'r lluaws a deimlant ddyddordeb yn hen sefydliad ein cenedl ag y bu eich gohebydd yn honi hawl i'w chynnal yr haf dyfodol yn hen gastell Conwy. Addefa hwn ddarfod cyhoeddi Eisteddfod Pwllheli yn rheolaidd oddiar faen gorseddol yWyddgrug-" ond na ddarfu i gyfeillion Pwllheli anfon cym- maint a sill ar y pwngc i bwyllgor, Bangor." Wel, pa les a wna hyny gan i'r bwriad o'i gohirio i'r haf dyfodol gael ei gyhoeddi i'r byd trwy gyfrwng dau o newyddiadur- on. Yr wyf yn sicr etto os na wyddai pwyllgor Conwy hyn, arnynt hwy y gor- phwys y bai. Dylasent dalu mwy o sylw i hanesiaeth Gymreig a chofio yr hen wir-aii sydd yn rhaith gwlad er dyddiau ein tadau mai "Y cyntaf i'r felin gaiff falu." Digrif clywed eich gohebydd doniol yn ein cynghori i fabwysiadu y teitl o Eisteddfod Eryri," fel Penygroes a Llanberis, i'n gwyl Genedlaethol. Yn wir buasai'r teitl yn gweddu yn well i Gonwy. Mynyddoedd Eryri" ydoedd eu testyn cadeiriol y tro o'r blaen. Son- iant yn awr am "Ddyngarwch," a gobeith- iaf y- deuant i'w ddeall a'i arfer yn well. Gan nad beth fyddo enw yr eisteddfod, mae yn sicr y bydd un Pwllheli'yn un dra llewyrchus; mae y gwobrau yn haelionus, a cheir cyfansoddiadau gorchestol; ac amledd o bobl idHi gyda llinell y Cambrian o Aberystwyth hyd Feirion, a llech- chwarelau Arfon, a holl lengarwyr lluosog Lleyn ac Eifionydd. A pha fanteision mwy na hyn fedda Conwy ? Ac os dymuna y pwyllgor yma arbed traul adeiladu eu pabell, mae ganddynt hwy at eu gwasanaeth yn y dref yard gyfleus, wedi eu murio yn uchel. Ond ei thoi a'i gwneud yn gyfleus, cynnwysa tua'r un faint a phabell Bangor. Y mae yn tra rhagori o ran ei ffurf ar gastell hir-gul Conwy, nad oes ynddo ddim cytaddas- rwydd er cynnal eisteddfod mwy nag o fewn i chwibol Pont Britannia. Felly rhwng pobpeth gwelir fod ein rhagolygon yn dra gobeithiol, yn Mhwllheli. Ychwanega y pwyllgor yn fuan restr y testynau, ac adran celfyddyd, a gwneir lie i arddangos -gwaith y gwa- hanol ymgystadleuwyr am wobrau, a benthycir o balasdai cyfagos, gywreinion celfyddyd henafol a Chymreig nad oes o fewn i ardaloedd ereill eu cyffelyb i'w cael. Pwllheli. JOHN EIFION HUGHES.

PROPHWYDOLIAETH Y RADI.CALIAID.

GWAITH OLEW WEDI EI DANIO…

CYNHWRF ARALL MEWN ADDOLDY…

FFRWYDRIAD ANGEUOL YN LERPWL.