Hide Articles List

9 articles on this Page

— LLOFFION CYMREIG. 1

NEWYDDION CYMREIG.

EISTEDDFOD FREINIOL A CHENEDL…

News
Cite
Share

EISTEDDFOD FREINIOL A CHENEDL AETHOL CONWY. Nos Wener diweddaf.ymgyfarfu pwyllgor rhagbarottoawl Conwy, ac etholwyd y Parch. W. Ellis, Gyffin, i'r gadair. Hys- byswyd fod yr eisteddfod wedi ei chyhoeddi yn flaenaf ac yn rheolaidd oddiar faen Gorseddol Eisteddfod Bangor, a bod per- ffaith gyd-ddealltwriaeth yn bodoli rhwng y ddirprwyaeth a dirprwyaeth Gwrecsam, lley bwriedicl, cynnal yr Eisteddfod Genedl- aethol am 1876'. Yr oedd cyfeillion ac hyrwyddwyr penaf Eisteddfod Gwrecsam wedi ammodi i wneud a ellynt er llwydd- iant Eisteddfod Conwy, ar y telerau fod i hyrwyddwyr yr olaf wneud yr oil a ellynt dros lwyddiant y flaenaf a enwyd. Credid y profai Eisteddfod Conwy yn llwyddiant perffaith, yn enwedig gan fod amryw ugein- iau o bunnau o wobrwyon eisoes wedi eu haddaw heb wneud unrhyw appeliad, ac wrth ystyried fod y lie mor ganolog, y cyfleusterau teithiol mor rhagorol, ac yr arbedid swm mawr o arian wrth gynnal yr Eisteddfod yn y castell. Datganwyd gofid fod mewn bwriad gynnal dwy Eis- teddfod fawreddog yn yr un sir am yr un flwyddyn, ac awgrymwyd y byddai yn fuddiol dyfod i gyd-ddealltwriaeth a phwyllgor Pwllheli. Eglurwyd mai fel "Eisteddfod Eryri" y cyhoeddwyd un Pwllheli yn y Wyddgrug, Bangor, a Phwll- heli, a gofidid ddarfod i'r pwyllgor dybio yu ddoeth a boneddigaidd drawsfeddianu teitl Eisteddfod Conwy yn eu hysbysiad heb ymgynghori a'r pwyllgor yn y lie olaf. Eglurwyd yn mhellach mai Ileol neu dalaethol yr ystyrid Eisteddfod Eryri," ac mai ar y cyfrif hwnw y cy- hoeddwyd un Conwy yn Freiniol a Chenedl- aethol. Teimlid gofid fod unrhyw gam- ddealltwriaeth yn bodoli, a llefarodd Mr Richard Evans, Llandudno, yn gryf yn mhlaid ymohebu a phwyllgor Pwllheli, ac i ohirio Eisteddfod Conwy, os deuid i gydwelediad. Dywedai nas gellid yn briodol defnyddio y teitl o "Genedlaethol" yn nglyn ag Eisteddfod heb fod i'r surplus arianol gael ei ddefnyddio at amcan Cenedlaetbol. Yna cynnygiodd ar fod i'r ysgrifenydd gael ei awdurdodi i ymohebu a phwyllgor Pwllheli ac i ofyn a fyddent hwy yn barod i ddefnyddio y gweddill arianol at ryw amcan Cenedlaethol, ac i wneud a ellynt dros lwyddiant Eisteddfod Conwy, os cyttunent i'w gohirio. Pasiwyd hyn heb wrthwynebiad, ond dadganwyd penderfyniad di-ildio i fyned yn mlaen eleni os na chyfarfyddid hwy ar y telerau rhesymol hyn. Yna gohiriwyd y cyfarfod, ac archwyd ar-fod i'r ysgrifenydd alw cyfarfod mor fuan ag y byddai yn bossibl wedi derbyniacl attebiad pwyllgor Pwllheli, modd yr elid yn mlaen yn ddioed gyda'r trefniadau os digwyddai yr atteb fod yn anffafriol. GOHEBYDD.

Advertising

AT AELOD 0 BWYLLGOR CONWY.

PROPHWYDOLIAETH Y RADI.CALIAID.

GWAITH OLEW WEDI EI DANIO…

CYNHWRF ARALL MEWN ADDOLDY…

FFRWYDRIAD ANGEUOL YN LERPWL.