Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

LLOFFION O'R DEHEUDIR.

BRASNODION 0 LANDUDNO.

LLANIDAN.

TRYWANU YN NORTH SHIELDS.

YMLADDFA MEWN ADDOLDY.

[No title]

LLITH DAFYDD EPPYNT.

News
Cite
Share

Trefgaron, a'u golwg ar werthu gwlan a phrynu defaid, a thrwy Pont-y-gwr-drwg. Pan uwchben safn y rhaiadr aruthrol, dy- chrynadwy, y berw-lif hwn, darfu i Ddafydd Eppynt, yn ei ddull dihefolydd ef, osod allan hanes y bont, sef ddarfod i'r gwr drwg wneud y bont ar yr ammod iddo gael y peth cyntaf a elai drosti, gan feddwl cael yn filain dan y dant rhyw fynach tew, blonegog, neu wr o lefarwr yn myned, druan, ar ol ei gyhoeddiad, (a'r degwm cilddwrn, ebe'r Byr, dan ei ddannedd o,) ac fel y gwnawd ffwl o Satan gan hen wraig o berfedd gwlad, Ar hyny gwelid y Bardd Crwydredig mewn cyffro, ac yn ys- gwyd fel Ilosg-fynydd mewn gwewyr. Mae yr awen wedi disgyn arno. Efe a safodd i fyny yn wyllt orph wyllog, a chan estyn ei law yn nghyfeiriad y bont, ebe fe yn chwimwtb, Pont-y-gwr-drwg, Huppynt byr gadwynog,—impromptu:— "Un dydd anffodus crwydrodd bllwch rhyw wraig, Ac wedi chwilio'r ardal trwyddi'n gron, Fe'i canfu er ei braw ar gopa'r graig Tuhwnt i'r agen fawr, yn pori'r fron. Pan mewn pen bleth a syn feddyliau gant, Boneddwr mawr a safai ger y Hi, Gan gynnyg tafia pont ar draws y nant Oa cai y cyntaf un ai drosti hi. Cyttuno wnaed a'r adeiladydd gwych 0 graig i graig estynai'r bout mewn dim Draw drosti taflodd Sian ei chrystyn sych A'i chorgi bach aeth ar ei ol yn chwim. Fel hyu hen wreigan drop o berfedd gwlad Yn esmwyth iawn aeth dros gynllwyniad diafl A pban ganfyddodd Nic y twyll a'r brad, Troi ymaith waaeth a'i gynffon yn ei aft," Dodwn fan yma heddyw y ffidil yn y tô, gan ddodi ar Ddafydd Pantyclochydd fyned ar 61 yr hen fedyddfan, gan ym- gynghori a'r cloehydd mwyn, ufydd o hyd, nid amgen Thomas William Daniel, ar y mater; canys gyda golwg ar bobl Rhydd- lan, deallir mai sectyddion chwilboeth feddw ydynt hwy, ac fel y cyfryw yn hollol amddifad o chwaeth at greiriau Eglwysig ac hynafiaethol, a thuag at pob celfyddyd arall namynymswyddoca a thynu gwyneb hir. DAFYDD EPPYNT.