Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
.Y DEHEUDIR.
Y DEHEUDIR. (ODDIWRTH EIN GOHEBYDD). Y mae Llaneurwg baradwysaidd-- Sweet Auburn, loveliest village of the plaiD) Where peace and plenty cheer the labouring swain," yn dyfod yn hynod am ei throseddau. Dydd Mercher aeth amaethwr o'r enw David Richards yn byw yn y Pwllcoch, allan o'i dy a phan awd i chwilio am dano cafwyd ef yn nghrog mewn coed gerllaw. Yr oedd y dyn anffodus wedi bod yn di- oddef oddiwrth iselder yspryd am amser. Yr oedd ef yn ddiacon yn nghapel y Trochwyr, Casbach, am flynyddoedd; ac yr oedd yn ddyn parchus. Cyhuddwyd ef o droi ei gaseg i gae cymmydog, a gorfu iddo dalu /s. roc., am i'r gaseg fyned i'r cae. Trowyd ef allan o'i swydd fel diacon, ac effeithiodd hyn yn fawr arno, canys nid oedd dim sicrwydd am y peth. Cym- merodd rhaithchwiliad ar y corph le dydd Iau o flaen Mr Brewer, a dygodd y rheith- wyr eu dyfarniad o wallgofrwydd am- serol." Ar y pymthegfed o'r mis trywanodd un Joseph Trott, o Gaerdydd, fab i ffermwr o'r enw Phylip Morgan, yn Llaneurwg, a chyllell. Yr oedd Trott yn casglu mush- rooms ar y fferm, a gorchymynodd Morgan iddo fyned allan o'r cae. Tyn- nodd Trott ei gyllell, a thrywanodd Morgan yn ei goes. Dygwyd ef o flaen ynadon Casnewydd dydd Sadwrn a thra- ddodwyd ef i sefyll ei brawf. Yr un diwrnod, cyhuddwyd Dafydd Jones, tin- man, Rhiwderin, am drywanu John Jones, yn Tydu, a. chyllell. Gohiriwyd yr achos hwn.—Yn sicr ddigon yr ydym yn myned yn waeth, waeth, er cymmaint o fanteision sydd genym. Y mae mwy o ddrygau anfad yn cael eu cyflawni yn awr nag a fu erioed. Un hwyrnos yr wythnos ddiweddaf, fel yr oedd boneddigesieuangc (Miss Rowlands, o Faesycymmre, sir Fynwy), yn myned adref o'r bazaar oedd yn cael ei chynnal er budd ty cwrdd y Bedyddwyr yn y lie uchod, gyda merch fechan, ymosododd dau ddyn, neu ddau anghenfil mewn crwyn dynion, arni a gwnaethant gynnyg i'w threisio. Ymladd- odd am fywyd a hwy, a thorwyd ei dillad yn gareiau am dani. Tynnodd ei hysgrechfeydd ac ysgrechfeydd y plentyn sylw personau oedd yn myned heibio; a diangodd y ddau filain, ond y maent yn awr mewn dalfa, ac hyderwn y bydd iddynt gael y gosp ag y maent yn deil- yngu. Y Parch. Dafydd Williams, Llanwrtyd. —Y mae un arall o bregethwyr ymneill- duedig yr hen ffasiwn wedi myned i ffordd pob cnawd, yn ei 96 mlwydd oed. Yr wyf yn cofio am dano yn eithaf da, pan oeddwn yn blentyn. Yr oedd yn arfer gwisgo botasau a chlos penglin, a het wen, yr hyn oedd yn beth hynod mewn pre- gethwr. Y mae yn ddiamheu y cewch y manylion am y dyn rhyfedd hwn gan Datydd Eppynt. Y mae Gibbs y lloirudd wedi myned i fyd arall a chelwydd ar ei wefusau. Nid yn .ami y bu cymmaint o gyffro trwy'r wlaa mewn cyssylliad a dienyddiad un dyn ag oedd foreu Llun, pan gafodd James Gibbs, llofrudd ei wraig, ei ddienyddio yn Brynbyga. Gibbs oedd ar flaentafod pawb. Treuliodd nos Sul yn afionydd iawn, cododdyn weddol foreu a bwytta- odd ei frecwast, ac yn fuan ar ol iddo ei orphen, daeth y swyddogion a'r dienydd- wr i fewn. Cymmerodd ymdrech galed le rhyngddo a'r dienyddwr. Gorfu i'r warders ei lusgo o'r cell. Ysgrechai yn arswydus, ac appeliai yn dosturiol am iddynt achub ei fywyd. Yr oedd braidd yn anmhossibl clywed y capian yn darllen y gwasanaeth: wylai Gibbs fel plentyn. Aeth Mr Crawshay Bailey, y sirydd ymlaen, ac ar eiolyr is-sirydd Dr Boulton, Milwriad Millman, a Cadben Herbert-yn bennoetb, a'r caplan yn ei wenwisg, a'r Llyfr Gweddi yn ei law. Rhwng dau warder yr oedd Gibbs yn gruddfan yn ar- swydus a'i ben i lawr. O'r tu ol yr oedd y dienyddwr yn ei wthio yn araf ymlaen. Pan gyrhaeddodd yr adyn y crogbren, neidiodd yn ei ol mewn dychryn ac ys- grechodd yn dorcalonus. Oni buasai fed y ddau warder yn ei ddal, diangasai yn ol. Yr oedd yn hollol analluog i symud pan oedd y caplan yn darllen y geiriau Mi wn fod fy Mhrynwr yn fyw." Gwaeddai Gibbs yn wanaidd, Arglwydd, trugarha wrthyf." Gorfu i'r warders a'r dienyddwr ei godi i fyny, gwrthwynebai hyny hyd y gallai, bob modfedd o'r ffordd. Yr oedd bron yn ei ddauddwbl. Lleftii "'dim ond hanner munyd." Deisyfai ar y dienyddwr am achub ei fywyd pan oedd yn gosod y y rhaff am ei wddf. Rhedai y dagrau i lawr ei wyneb fel pys, ysgrechai a chi iii fel plentyn, ac ymdrechai, er yn wanaidd, ddiangc o afael yzual ders, ond yn oter. Gwaeddai, Duw a wyr," Duw a Meddai y llywodraethwr wrtho, "Aoes genych chwi rywbeth i'w rl c,Iyd?" "Duw a faddeuo am hyn a'r j1 bechod- au sydd wedi myned heibio—.Duw a wyr. j Y mae yn beth dedwydd i mi (LI W yn ddl- euog." Rhoddodd y dienyddwr y rhaff am ei wddf a'r cap dros ei wyneb. Dy- wedold, Yr wyf yn hapus wrth feddwi fy mod yn ddieuog, yr wyf yn marw yn ddieuog. Ffarwel i chwi oll-Duw a'ch bendithio. O'r anwyl! o'ranwyl!" Gosod- odd y dienyddwr y straps am ei goesau, a phan oedd pob peth yn barod gwaeddodd Ffarwel i chwi oil; ffarwel, ffarwel, fy anwyl rieni. Yr oedd y warders yn ei ddal i fyny yn ei breichiau yr holl amser, ac yr oedd yn crynu fel dail yr aethnen. n Gobeithio y cwrddwn oil yn y nefoedd-ffarwel oil, yr wyf yn ddieuog 0 0 Dyna ei eriau olaf, a chyn pen ychydig funydau yr oedd yn hongian yn gelain. Bll farw yn union, heb deimlo dim poen, oblegid torodd ei wddf. d-adaw- odd y swyddogion y lie, a chodwyd y faner ddu i fyny a'r gair CYFIAWNDER arni. Cynnaliwyd rhaithchwiliad ar y corph o flaen Mr Bath, a chladdwyd ef o fewn muriau y carchar. Dywedodd un ag oedd yn wyddfodol, ac wedi sefyll lawer gwaith o'r blaen i weled dynion yn cael eu crogi, na welol ddim gyffelyb i'r olygfa yn Brynbyga. Y dienyddwr oedd William Marwood, crydd o Hardcastle, Lincoln, tua 50 oed. Y mae y dyn hwn yn hoffi ac yn ymfalchio yn ei waith. Yr oedd dynion yn edrych yn ddrwgdybus ar bob dyn oedd yn teithio tua Brynbyga. Mary Jo)tes.-Pryduawn dydd Sul ys- grifenodd Gibbs lythyr at Mary Jones, yr hon oedd ef ar bwynt ei phriodi, a deisyf- odd ar y warder ei gofio atti. Yr oedd yn ddrwg ganddo iddo ddwyn cymmaint o an- fri arni. Pan oedd ef yn y carchar ys- grifenodd lawer o lythyrau a hanes ei fywyd, cant ymddangos oil yr wythnos nesaf. Tafla yr holl fai ar ei wraig, ac iddi ei briodi o'i anfodd. Pa fodd y gallai briodi o'ianfodd? Awgrymoddmairhywun arall ddarfu ei lladd. Appeliodd chwaer Mrs Gibbs atto i addef ei euogrwydd, ond yn ofer. Cewch yr holl ohebiaeth ryfedd yma yr wythnos nesaf. CRAIG Y FOELALLT.
LLITH DAFYDD EPPYNT.
LLITH DAFYDD EPPYNT. Coleg Dewi Sant.—Mae glenydd y Teifi wedi bod yn enwog am ysgolion a choleg- au trwy oesoedd cred. Yn y flwyddyn 1187 sefydlwyd coleg yn Llanddewibrefi, gan hsgob Tyddewi, yr hwn sefydliad a fu mewn bri hyd amser Harri VIII. Yn y flwyddyn 1774 sefydlodd Mr Edward Richards ysgol ramadegol yn Ystradmeu- rig, ac a roddodd yn ei ewyllys dai a thir- oedd tuag at gynnal y gyfryw ysgol dros fyth, set y tyddynod a elwid Brynperfedd, yn mhlwyf Ystradmeurig; Mynachty- ffynnon-oer, Twynmawr," Twyngwn- dwn, yn mhlwyf Lledrcd; Brwyn-nant, yn mhlwyf Llanfihangel-y-Creuddyn, &c. Gadawodd hefyd ei lyfrfa werthfawr at wasanaeth yr ysgol. Dyma wladgarwr enwog; ac iddo ef y mae cannoedd yn ddyledus am eu dysg a'u henwogrwydd, a'r Eglwys am eu gwasanaeth offeiriadol. Yn ngwaelod ei ewyllys mae y cyfarchiad ymadawol hwn at y cymmunweinyddwyr, "My will is to do good to the present age and no less to posterity. Let charity prevail over self-interest, and my effects be disposed of to the best advantage, and the money laid out in books tor the Library, my wearing apparel you give to the poor. "TO THE SCHOOLMASTERS. This school is not to be a sinecure, you must attend and get your bread by labour and industry. Feb. 28, 1777." Yr ysgolfeistr cyntaf ar ol Mr Richards ydoedd y Parchedig J. Williams, tad y diweddar Archddeon Ceredigion. Bu ef yn athraw yma am 40 mlynedd, a bu farw yn y flwyddyn 1818, yn 73 oed. Canlyn- iedydd Mr Williams ydoedd y Parchedig Mr Morris, a fu farw yn 1859. Yn y flwyddyn 1806 sefydlodd y Parchedig Elvelyn Williams, ysgol ramadegol yn Llanbedr, a pherthyna i hon enwogrwydd mawr, a rhagdddaparodd amryw i'r offeiriadaeth, nifer o ba rai fuont enwog yn eu dydd ar gaer yr Eglwys a'u gwiad. I'r Esgob Burgess yr ydys yn ddyledus yn benaf am sefydliad y coleg rliagddy- wededig; dyma freuddwyd ei fywyd esgob- 01, a phan yn gosod y sylfaen (which was a b.'ock o'r marble), teimlai fel Simeon, Yn awr, goliwng dy was," &c. Y bwr- iad gwreiddiol ydoedd adeiladu y coleg yn Llanddewibrefi, ac yn y flwyddyn 1809 dechreuwyd cloddio meini yn y gymmyd- ogaeth hono i'r perwyl hwn. Yn Report y Committee of Commissioners am y flwyddyn hono ymddangosodd y datganiad canlynol:—" TIH) college to be called the St. David's college. The college to be founded fur the sole purpose of educating for the ministry of the Church of England young men natives of the Principality, whose cicumstances preclude them from the advantages of an University educa- tion. The college to consist ef a Princi- 0 pal, two Lectures, two Preceptors, a Teacher of Psalmody, &c. The Principal and Lecturers to be natives of the Prin- cipality." Yna rheddir y rhesymau yu '¡ mhlaid adeiladu y coleg yn Llanddewi- I brefi, megys, Its exclusion from popu- lous society; its vicinity to some of the Bishop's best patronage; its spacious oliurch, &c. Ond daeth rhyw rwysfrau ar y ffordd, fel yn y flwyddyn 1820 yr ydym yn cael y boneddwr J. S. Horsford, Ysw., mewn cynadledd a'r esgob yn cynnyg ca€ at wasanaeth ei arglwyddiaeth ymha un y safai hen gastell Llanbedr, yr hwn gynnyg y darfu iddo ei dderbyn. Yr ydoedd erbyn hyn y swm o 13,000p.wedi eucasglutuagat dreulion yr adeiladaeth. Danfonodd yr Esgob am C. R. Cockrell, Ysw., y prif- adeiladydd, er mwyn cydymgynghori o Iny 11 berthynas i'r cynlluniau. Yn y flwyddyn 1822 tanysgrifiodd ei Fawrhydi Sior IV. lOOOp. tuag at yr adeiladaeth; ac hefyd J. Jones, Deri Ormond, 500p. O'r diwedd gwawriodd dydd Llun, y 12fed oAwst, 1822, pryd y gosodwyd careg sylfaen y coleg gyda rhwysg cyfaddas, gan yr Ar- glwydd Esgob Burgess ynngwydd miloedd o bresennolion, lien a lleyg. Cadwyd ZD gwasanaeth yn Eglwys y plwyf, a phre- gethodd y Parchedig D. Williams, perig- lor y plwyf, oddiar Mai. ii. 7; Canys yr offeiriaid a ddysgant wybodaetb." Yna ffurfiwyd gorymdaith i orsaf y coleg, yn cael eu harwa.in gan beriglorion Milwyr Breiniol Ceredigion, yna ysgolheigion ysgol ramadegol Llanbedr, yna yr offeir- iaid yn eu gwisgoedd swyddol. Gwedi cyrliaedd safle y coleg, darllenodd J. S. Harfod y weithred ag ydoedd yn tros- glwyddo y tir a thair erw at wasanaeth y sefydliad, a thraddododd araeth hyawdl. Gwedi hyny cyfododd yr Esgob i ddad- gan ei hyfrydwch fod ei bryder a'i ym- drechion am y deunaw mlynedd diwedd- af o'r diwedd yn cael eLi coroni, belidith,te mor ddrylliog ydoedd ei deimladau fel na allai fyned rbagddo. Canodd y dorf y ganfed Psalm gyda brwdaniwch Cymreig, ac yna dodwyd y y sylfaen i lawr gyda llawenydd a dagrau o lawenydd, a dychwelwyd diolchgan i Dduw gan y Parch. M. Philips, Caplan yr Esgob. Haul addysg ei hoyw Iwyddiant—a gadodd Gyda mawr ogoniant; Cymylau 'n vigeioiau gant O'r golwg draw a giliant." -D. lJàu. Erbyn hyn mae y coleg gwedi ym- wreiddio, a phob blwyddyn yn ei wneud yn fwy classic ground. Mae yr ysbryd pererindodol yn reddf yn y natur ddynol, yn neillduol felly i leoedd o nodweddiad Eglwysig. Ni byddai allan 0 le pe cyfar- fyddai yr hen golegwyr, sef gynnifer ag a fyddai gwedi cael ein gadael ar ol gan raib angeu, rhyw unwaith yn y flwyddyn, dy- weder ar ddydd gwyl Dewi Sant, neu rhyw Wyl Mabsant arall, gan dreulio y dydd yn ddedwydd, difyr, a da, gan edrych yn ol ar frwydr bywyd, &c. PENCEKRIG.—^Yr ydys yn darllen hedd- yw fod boneddwr o Llanstephan, (Syr J. Hamilton,) gwedi tanysgrifio 50p. at ad- newyddu yr hen eglwys sitrachog lion, sydd yn sefyll ar fryncyn y mwyaf tlws. Nid oes eglwys na phlwyf yn sefyll mewn angen am fwy o adnewyddiad, nid oes yma anadl einioes eglwysig, neu ddysg- edigol. Nid oes yno o gor i gangell un erddygan ond y gwynt, ac y máe yr offeiriad presennol gwedi bod yma dros 50 mlyn- edd Ar gofadail rhieni Daniel Ddu yn y fynwent yma mae y beddargraff hwn o waith y bardd uchod :— it hoi tad a mam fad i fedd,r)ioi wyneb Rhai allwyl i'r ceufedd, Trwy fon y galon gulwedd A dery glwyf fel dur gledd." CLADDEDIGAETH Y PARCH. DAFYDD WILLIAMS.—Claddwyd y gwr hynod hwn, Awst 26, yn Troedrhiwdalar. Yr oedd yr angladd yn un mawr, yn cael ei wneud i fynu gan lawer o offeiriaid yn nghyd a gweinidogion o bob enwad, De a Gogledd, canys y trangcedig ydoedd wr tangnefedd- us yn dwyn parchjgan bawb a adwaenai. Pregethodd Dr. Bees, Abertawe, a thra- ddodwyd areitlnau gan bedwar neu bump o brif ddynion yr enwad, a darlienwyd cylran o bennod y gladdedigaeth uwch ben y bedd gyda difrifoldeb gweddus. Yr ydoedd y bregeth a'r areithiau yn fyr ac i'r pwrpas. Efallai mai claddedigaeth syml, didrwst, dirodres, sydd yn taro y cliwaeth goethedig oreu ond pan fyddo marw cadfridog yn Israel, nid yw ys-' gatfydd yn anmhriodol troi angladd yn gwrdd pregethu ac areithio. Fel rheol, tawelwch didrwst, dirodres, sydd yn gweddu i angeu a'r bedd. Gyda llaw, nid oes dim yn fwy disynwyr na'r gwastraff sydd yn nglyn a cliladdu yn mhlith y Cymry. Cymmer le yn nhroion amser efallai ddau neu dri angladd mewn un teulu yn ystod blwyddyn, a bydd rhaid cadw fyny y pomp angladdol er sigo y fywoliaeth am ilynyddau! Hen bererin, boed iti heddweh; nid amgauodd dyblygion bedd am ddnhweidiach, duwiolach, gloywach, ffyddlonach gwr na'r anwyl was hwn i Iesu Grist. •i "I ni mae'r golled, elw yw i ti. Fa arat ac athist y-dodwyd ef lavvf, I noswylio o faes ei foiiant; Nj raid cerfio gair, na rhoi bedfaeu tuawj-, Gidawer ef gyda'i ogoniaut. V\ e left him alone with bis glory." Y i,, EGLWYS YN NGHAERFYRDDIN.—Yr wythnos ddiweddaf bu gwyl de a rhialtwch f yn y dref lion mewn cysylltiad a holl ysg<jiion tlyddiol a S^bbothol eglwysig y lie. Yr oeddynt yn cynnwys yn ol y Western Mail, rhyw 2,500 mewn l'hif. Blaenivi eiddo St. David's gan yr Arch- ddion Williams, gyda chor o berorwyr; ac eiddo St. Peter's gyda y Parchedig M; r L. Jones, efo cor arall o beroiwyr. Gwedi gorymdaith trwy brif heolydd y dref, bu byr-wasanaeth yn Eglwys Crist." Yna ymranodd eiddo y ddau blwyf, pob un i'w faes ei hun. Nid oes un dref yn Nghymru ag y mâ3 yr Eglwys yn fwy blodeuog nag 0 1) yn Nghaeryfrddin.- i -<l. j,
GOHEBYDD GWIBIOL Y DE.
GOHEBYDD GWIBIOL Y DE. ROATH.-Nid oedd dim ond cwpl o dai yma ddeng mlynedd ar hugain yn ol, ac hen Eglwys friglwyd y plwyf; ond gwarchod ni, y mae y caeau, lie yr oedd da a defaid yn pori ac yn ymbrangcio gynt, yn awr yn orchuddiedig gan dai, palasau, a gerddi heirddion; yma y cyfannedda masnachwyr a chyfreithwyr cyfoethog y dref allan o drwst a chyffro masnachol, yr hwn sydd yn ddigon i bendroni dyn. Y mae yma glafdy a adeiliadwyd trwy haelioni Mr Daniel Jones, Bewper, ac y mae gan y Pabyddion Eglwys hardd yma, hefyd. Adeiliadodd Ardalydd Bute Eglwys y Plwyf ar ei draul ei hun, cyn iddo droi yn Babydd. Ar ochr yr heol fawr, y saif lluesty y milwyr. Siarad am filwyr, cawsom olygfa bur anarferol sef gweled pebyll y milwyr ar y maes agored. Yr oedd yr olygfa yn un bert; rhywbeth yn debyg i ddarlun o'r Israeliaid yn yr anialwch. Yh amser Boni," cyfansoddodd boneddwr o sir Gaerfyrddin gan ar fywyd milwr mewn gwersyll— "Mi r> fed dais pan y gwelais D i o gynfas gynta' 'rioed Mi feddjliaia y pryd Lwuw Nad oedd fnth beth mewn byd yn bod." Nid wyf yn gwybod pa un a ydyw y pen- nill hwn wedi cael ei ysgrifenu yn gywir ai peidio, ond tyna fe fel ei clywais. Yn ddiweddar sylfaenwyd tref hewydd o'r enw Splotlands yn y plwyf hwn ac y mae yn awr yn blwyf ar ben ei hun; ac ar y gwastadedd rhwng Roath a'r mor adeiiadodd Ardalydd Brute dai i'w weith- wyr. Talwyd sylw neillduol wrth eu hadeiladu i'w gwneud yn gyfleus ac yn gysurus i'r aeiliaid, ac ardrethir hwy yn deg, fel y gall gweithwyr dalu am danynt. Nid yw yrhan iwyaf o ddynion sydd yn adeiladu tai yn gofalu dim am gysuron y deiliaid ond iddynt gael eu rhent bob boreu dydd Llun. Landioyii ddyogel yn Nghaerdydd,galw yn arwydd y Llew Du, a bargeinio am letty dros nos. Yt oedd y ty yn llawn o Saeson o Swindon, y rhai oeddynt yn myned i'r Cwrt Bach," Pontypridd, i roddi eu tystiolaeth ar ryw achos neu gilydd. Codi yn foreu, methu myned allan i roddi tro o gwmpas; y gwlåw yn disgyn yn ddi-baid,-goi-focl disgwyl dwy awr am frecwast. Cael tippyn o ddifyr- wch wrth glywed g\vr y ty yn siarad ar addysg. Yr oedd ef yn medd\vl fod pobl yn rhoddi gormod o ddysg i'w plant y dyddiau yma, ac y buasai yn well iddynt gael llai er eu lies. Hynod/ion y I)ref.Niid oedd Caer- dydd ar y cyntaf ond tref fechan, ac yn cael ei hamgylchynu gan furiau, ac mae olion o honynt yn sefyll heddyw yn agos i swyddfa y Western Mail. Adeiladwyd y muriau hyn gan Robert, larll Caerloyw, er dyogelu ei hun rhag ymosodiadau y Cymry. Enw y Dref.—Yr hen enw oedd Caer- Daf, amddiffynfa ar yr afon Taf; neu yn ol barn ereill, Caer Didi, ar ol Aulus Didius, y cadlywydd Rhufeinaidd, yr hwn a gododd amddiffynfa yma cyn i Julius Frontinius ddyfod i Loegr. Y gwr hwn wnaeth yr heol fawr o Gaer Baddon i Dyddewi, Julia Martuiia. Gellir olrhain heddyw rai o'r hen wersyiloedd yr un mwyat nodedig yw y caerau ar ben bryn i'r gorllewin i'r dref. Yr oedd hwn yn wersyll anferth o fawr. Adeiladwyd Eglwys y plwyf yn ei ganol. Yn y plwyf hwn ceir cofnodion am hir hoedl-