Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

DYI ;D GWENER, MEDI 4, 1874.

CRYNNODEB WYTHNOSOL.

CYMDEITHASFA Y METHODISTIAID…

News
Cite
Share

CYMDEITHASFA Y METHODISTIAID YN MANGOR. Cynnaliodd y Methodistiaid Calfinaidd eu Cymdeithasfa Ohwarterol yn Mangor ddydd JLlun, dydd Mawrth, dydd Mercher, a dydd lau diweddaf. Dydd Llun, dydd y Mawrth, a boreu Mercher, cyfarfu y gwa- hanol is-bwyllgorau, a nos Eawrtii, pre- gethodd y Parch. Oweu Thomas yn y Tabernaci, a'r Parch. John Hughes yn y Twr GWYll, am saith o'r gloch, i gynnuli- eidfaoedd lliosog. Cynnaliwyd Cyfeisteddfod cyffredinol y Gymdeithasfa, yu cynuwys yr holl bre- gethwyr a blaeuoriaid, yn Horeb, capel y Wesley aid, Mount-street, am ddau o'r gloch prydnawn Mercher, dan lywyddiaetb y Parch. Rees Jones, Pdinheii, y uymmed- rolwr am y fiwyddyn. Yr oedd liawr yr addoldy yn orlawn d gynnrychiolwyr, Y Gymdeithasfa Ohwarterol nesaf.—- Trefnwyd fod i'r Gymdeithasfa nesaf gael ei ehynnal yn Nghroesoswallt yr 2il, y 3ydd, a'r 4ydd o Ragfyr.—Hysbyswyd mai hono fyddai y Gymdeitbasfa olaf y flwydd- yn hon, ae oblegid hyny y byddid yn ethol Llywydd acYsgrifenydd am y flwyddyn nesaf.-Taflodd y Parch. Owen Thomas awgrym y byddai yn ddymunol o hyn allan wneud rheol i'r perwyl na byddai i'r un person barhau yn y swydd o ysgrifen- ydd am fwy na dwy flynedd yn olynol, gan fod y Parch. Roger Edwards wedi hys- bysu yn bendant na lanwai efe y swydd yn hwy.—Cymmeradwyid yr awgrym hwn gan y Parch. John Hughes, ond barnai y Parch. John Owen y byddai i'r cyfyngiad effeitbio ar iawn weinyddiad y swydd, gan nad oedd pum' mlynedd yn ormod i gyr- haedd perffeithrwydd ynddi.—Penderfyn- wyd fod i'r Arholiad Cymdeithasol gym- meryd lie ar y 13eg o Hydref, a bod i Ys- grifenyddion y gwahanol gyfarfodydd mis- ol anfon i mewn enwau yr ymgeiswyr cymmeradwy.—Pennodwyd y 12fedoHyd- ref yn ddydd o ddiolchgarwch am y eynhauaf. Cynnorthwyo IAeoedd Giveiniaid.—Dar- llenwyd eenadwri oddiwrth gyfeisteddfod y blaenoriaid yn gofyn i'r gymdeithasfa gymmell yr eglwysi i fwy haelioni, yn en- 0 wedig tl wy gyfranu at y fugeiliaeth a chynnorthwyo lleoeddgweiniaid.—Siarad- y blaenoriaid yn gofyn i'r gymdeithasfa gymmell yr eglwysi i fwy haelioni, yn en- wedig tiwy gyfranu at y fugeiliaeth a chynnorthwyo lleoeddgweiniaid.—Siarad- wyd o blaid y genadwri gan Mr David Davies, A.S., Llandinam, Y Brifysgol Gymreig.—lilwdd arall gan Mr David Davies, A ,S.—Mr Hugh Owen, Llundain, yr hwn a gafodd dderbyniad cynnes, a ddaeth yn mlaen i osod gerbron y cyfarfod gais oddiwrth bwyllgor y brif- ysgol Gymreig, sef ar fod i'r gymdeithasfa roddi caniattad neu gymmelliad i'r eglwysi perthynol i bob cyfarfod misol wneud casgliad er budd y brifysgol un Sabboth bob blwyddyn, sef y Sabboth olaf yn Hydref, am dair blynedd. Dywedodd fod yr un cais yn cael ei osod o flaen yr Eglwys Sefydledig a'r holl enwadau yn Nghymru, canys yr oedd Coleg Aberyst- wyth yn perthyn, nid i un enwad mwy na'i gilydd, eithr i'r genedl oil. Yr oedd gan. y pwyllgor yr hyfrydwch o hysbysu eu bod erbyn hyn wedi talu am yr adeilad. Yr oedd y colegdy, yn nghyda llog arian a thraul gorpheniad y coleg, wedi costio iddynt 15000p., ac yr oedd y swm hwnw wedi ei dalu bob ceiniog. Cyn agor y brifysgol yn Hydref, 1872,' yr oedd y pwyllgor wedi cymmeryd gofal i sicrhau trysorfa ddigonol i gynal y sefydliad am dair blynedd. Cawsant addewidion am 6000p. cyn agor y coleg, i'w talu mewn tair blynedd. Yr oedd dwy flynedd o'r tair wedi myned heibio; yr oedd yr arian wedi ei dderbyn a'i wario, ond yr oedd dogn un flwyddyn etto i ddyfod i law. Ond yr oedd y pwyllgor yn bresen- nol yn gwneud ymdrech egniol i godi endownumt fund o So,ooop. i waddoli y coleg. Nid oeddynt yn bwriadu byw trwy y blynyddoedd ar gardotta, ond yr oedd- ynt yn gorfod ymostwng i hyny am y tair blynedd cyntaf. Ar ddiwedd y tair blynedd, yr oeddynt yn gobeithio gallu sefyll yn gadarn a phenderfynol ar eu tir eu hunain, gan gredu y byddai y sefydliad yn un cadarn ac oesol, ac o fendith mawr i'r genedl. Ond y mae afon rhwng terfyn- iad y tair blynedd guarantee fund, ymhen blwyddyn el to, ac amser cwblhad yr en- dowment fUnd, a'r amcan oedd gan y pwyllgor mewn golwg yn bresennol oedd adeiladu pont i groesi yr afon hon. (Cym- meradwyaeth.) Cael help i wneud hyny oedd yr amcan oedd ganddynt mewn golwg wrth ofyn i'r gymdeithasfa ganiat- tau un Sabboth bob blwyddyn am dair blynedd tuag at gasglu ar ran y Brifysgol, a gellid ei alw "Sabbath y Brifysgol." (Cymmeradwyacth.) Os byddent mor fwyn a chaniattau hyny, bwriedid i'r casgliad cyntaf gael ei wneud yn Sabbath olaf yn Hydref, 1875. Yr oedd yn dda ganddo ef weled Mr David Davies, A.S., yn bresennol. (Cymmeradwyaeth.) Nid ydoedd efyn disgwyl ei weled yn y gym- deithasfa. Yr oedd Mr Davies wedi bod yn ffyddlon iawn ac yn haelionus iawn yn y matter hwn. Yr oedfd talent neillduol wedi ei hymddiried iddo, ac er nas galiai bregethu fel y Parch. Owen Thomas, efe a allai eyfranu fel tvwysoer. (Cymmeradwy- aeth.) Ac yr oedd efe wedi gwneud hyny. Yn y dechreuad efe a addawodd danysgrifr iad o gan punt, canys nid ydoedd ei ffydd y pryd hwnw mor gref ag ydoedd yn bresennol. Wedyn efe a addàwodd gan punt y flwyddyn am dair blynedd tuag at y guarantee fund. Yn nesaf cyfranodd 2,ooop..tuag at yr ysgolor iaethau (cymmeradwyaeth) ond aeth ymhellach wedyn, a rhoddodd 2000p, yn ychwaneg tuag at yf endowment fund. (Cymmeradwyaeth). Ac nid yd- oedd wedi blino etto. Ddoe dangosodd Mr Davies iddo ef ei fod yn barod i wneud rbywbeth tuag at adeiiadu y "bout" y soniwyd am dani trwy addaw iddo gyfran- iad arall 0 fil o bunau. (Uchel gymmer- adwyaeth). Nid oedd ganddytit yn awr, ya,n gan nyny, ddim ond 5000p. i'w gasglu yn lie 6000p. Yr ydoedd efe yn teimlo yn dra diolchgar i'r boneddwr anrhydeddus, ac befyd i'r Hollalluog, canys yr oedd